Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AMERICA. Pwyllgor Gweithrediadau y Rhyfel. Y mae y pwyllgor wedi derbyn hysbysiadau helaeth oddiwrtb y Cadfridogion Burnside, Sumner, Hooker, Franklin, Woodbmy, Haupt, Halleck, a Meigs, ac y mae llawer iawn o oleuni wedi ei daflu ar weithred- iadau yr ymosodiad ar Fredericksburg. Y mae y Cadfridog Burnside, tra yn cymmeryd arno yr holl gyfrifoldeb am symudiadau y fyddin dan ei ofal, yn beio yn fawr o herwydd yr oediad a gymmerodd le yn nanfoniad y pontoons i Fredericksburg. Nifeddyliodd ef ei fod yn rhwym i gymmeryd gofal am fanyiion a ddylent gael eu cario allan yn Washington. Derbyn- iodd y llywyddiaeth gyda chryn bryder pan symud- wyd y Cadfridog M'Clellan, gan nad ys- tyriai ei hun yn gymhwys i lywyddu y fath fyddin luosog. Cymmer arno y cyfrifoldeb o'r ymosodiad ond yr oedd cynghor rhyfel, yn gynnwysedig o'i Gad- fridogion, a gynnaliwyd ar nos Sadwrn, yn anfoddlon i barhau yr erlyniad, ac nid oedd ganddo yntau ddim i'w wnevd ond encilio i'r ochr ogleddol. Ei gynllun ef oedd W croesi yr afon yn Acquia yn lie Warrenton ac ymddengys mai yr achos penaf o'r aflwyddiant oedd, am na anfonwyd pontoons yno i'w gyfarfod mewn pryd. Pan yr oedd y Cadfridogion Halleck a Meigs mewn cydymddyddan ag ef, penderfynwyd ar y cyn- Iluniau a'r ail ddydd cymmeradwywyd hwynt gan y Llywydd, a gorchymynwyd iddo fyned yn mlaen. Yr oedd pontoons i gael eu haftfon, a darfu iddo yntau yn ganlynol roddi gorchymyn i'r Cadfridog Sumner i fyned lawr a chroesi; ond ni ddaeth y badau am ddeg diwrnod wedi iddo gyrhaedd yno. Beio y Weinyddiaeth. Y mae yr aelodau Gwerinol yn y Senedd wedi hys- bysu ei diffyg ymddiried yn y llywodraeth, a beient Mr. Seward yn fwyaf neillduol. Ar hyn darfu i Mr. Seward yn uniongyrcbol roddi ei swydd i fyny, yr hyn a ddilynwyd drwy i Mr. Chase, Ysgrifenydd y Drys- orfa, roddi ei swydd i fyny. Gwrthododd Mr. Lin- coln dderbyn eu swyddi, a gorchymynodd iddynt eu cario yn mlaen. Yn ganlynol adgymmerodd Mr. Seward a Mr. Chase eu swyddi fel Ysgrifenyddion y Wladwriaeth a'r Drysorfa. Yn ystod yr ymdrafod- aeth yma, gwrandawai Mr. Lincoln gyda difrifoldeb ar yr oil a ddywedid. Yna hysbysodd ei fod yn teimlo yn ddwys gyda golwg ar sefyllfa y wlad, a llwyddiant y rhyfel. Yr hyn oedd yn eisieu oedd, llwyddiant milwrol. Heb hyny, ni allai dim fyned yn mlaen yn iawn a chyda hyny, nis gellid bod yn aflwyddiannus. Nid oedd efe ) n gallu canfod pa fodd y gallai y mesur a gynnygidgan y pwyligorau wellhau pethau. Pe byddai ganddo angvlion yn weinidogion, ni allent roddi llwyddiant milwraidd i'r wlad a dyna yr hyn oedd yn eisieu, a'r hyn oedd yn rhaid iddynt gael. Buddugoliaethau yn Carolina Ogleddol. Ar yr 20fed o Ragtyr, ysgrifena y Cadfridog Foster Z5 fel y canlyn at y Llywydd Cyffredin Halleck:— "Yr oedd fy hynt filwraidd yn hollol lwyddiannus. Llosgais bont y rheilffordd yn Gouldsborough a ZD Mount Olive, gan ddinystrio atnryw filltiroedd o'r rheilffordd rhwng Wilmington a Weldon. Ymladd- asom bedair brwydr, sef yn Southwest Creek, Kins- ton, Whitehall, a Gouldsborough, a chwipiasom y gelyn yn dda bob tro." Mewn mynegiad arall, dywed :_H Yr ydym wedi cymmeryd Kinston, gan gymmeryd 11 o gyflegrau, ac o 400 i 500 o garcharorion a chawsom hefyd lawer oystorfeydd rhyfel. Ni fydd ein colled dros 200 mewn lladd a chlwyfo." Er dealt pwysigrwydd y mudiad hwn, gallwn nodi nad yw Kinston ond tref fechan ar yr afon Neuse, rhyw ddeugain milldir uwchlaw Newbern. Cymmer- wyd meddiant o honi gan Foster, nid am ei bod o werth ynddi ei hun, ond am ei bod ar y ffordd i Gouldsborough. Y mae Gouldsborough yn orsaf y rheilffordd a gyssyllta Richmond a Wilmington, Caro- lina Ogleddol; a thrwy gymmeryd Goaldsborough, mae y drafodaeth rhwng Richmond a'r Taleithiau De- beuol wedi ei hattal i raddau helaeth. Mae yn wir y gellir adgyweirio y rheilffordd mewn ychydig wyth- nosau, ond gall yr oediad fod yn dra niweidiol i'r fyddin Ddeheuol yn Virginia. Y mae y Cadfridog Foster wedi myned yn ol i Newbern, lie y mae yn ddiogel dan gysgod y gwn-fadau. Y mae y Gwrthryfelwyr wedi adgymmeryd Holly Spring, ac wedi dinystrio dau cant o wageni, cotwm, ystorfeydd, &c., gwerth pum can mil o ddoleri. Y maent hefyd wedi ilosgi Onion City. Dywed y G-ogleddwyr mai eu colled hwy yn Holy Spring oedd 200 wedi eu lladd, a 150 o garcharorion. Mewn ymgyrchfa ar Memphis, cariodd y Gwrth- ryfelwyr 400 o anifeiliaid, a 180 o ferlynod, ffwrdd gyda hwynt. Dywedir fod gallu o 7,000 o Wrthryf- elwyr, yfttfyehwyn tua Colbus, eu cadarnle blaenorol ar y MiBsiss'ip^ii. Amrywion. Yr oedd hynt y Cadfridog Banks wedi cyrhaedd y Gulf, ond ni wyddis yn sicr pa un ai yn Mobile ai yn Texas y buriadent ymsefydlu. Yr oedd pump o'i longau wedi gorfod troi i fewn i Philadelphia a Port Royal, o herwydd eu bod yn gollwng dwfr, ac yr oedd y chwechfed wedi myned yn ddrylliau ar lanau Florida. Y mae y Cadfridog Gwrthryfelgar Morgan wedi cymmeryd meddianto Glasgow, Kentucky. Y mae Ty y Cynnrychiolaeth wedi pleidleisio 731,000,000 o ddoleri at gynnal y fyddin am y flwyddyn yn diweddu Mehefin, 1864. Y mae Ysgrifenydd y Drysorfa wedi anfon ysgrif i mewn yn cymmeradwvo cael benthyg 900,000,000 o ddoleri, yn dwyn llog yn ol y radd a ganiateir gan y llywodraeth. Dywedir fod Mrs. Beauregard yn gorwedd yn glaf iawn yn New Orleans, a bod y Cadfridog Bntler wedi anfon gwahoddiad at y Cadfridog Beauregard i ddyfod i dalu ymweliad a'i wraig, gan ei sicrhau yr ymddygir mewn modd caredig tuag ato, ac y bydd mewn llwyr ddiogelwch. y Mae caniatad wedi ei roddi yn y Senedd, i roddi ugain miliwn o ddoleri, i gynnorthwyo Missouri i ryddhau ei chaethion. Yn y Senedd ar y 23ain o Ragfyr, rhoddodd Mr. Lane, o Kansas, rybydd o ddygiad mesur i mewn, yn awdurdodi y Llywydd i godi 200 fyddinoedd, yn gyf- ansoddedig o Negroaid. Ofnid y codai y Negroaid mewn gwrthryfel yn Sir Franklin, yn Missouri.

AWSTRIA.')

FFRAINC. :

-,.....->",ITALI.

RWSIA.

CHWYLDROAD YN JAPAN.

CHINA.

SiiawcsiDn iyfttditwl