Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AMERICA; Mae y newyddion a ddygwyd o America gan y Great Eastern a'r Europa, pa rai a gyrhaeddasant Lynlleifiad dydd Sadwrn diweddaf, o gryn bwys. Bryslythyr oddiwrth y Cadfridog Undebol Sherman oddiar faes y rhyfel ger Vicksburg, a ddywed iddo ef lanio ei fvddin ar lan aswy y Varso, deng milldir o cnau yr afon hono, ac wedi ffurfio ei rengau yn barod i ryfel, iddo gyrchu ar Vicksburg. Ar ol llwyddo i fyned heibio i wnfadau y Gwrthryfelwyr, cyfarfuwyd ^'r gelyn mewn grym, ac ymladdwyd yn ffyrnig am bum awr. Gyrwyd y Gwrthryfelwyr y tu cefn i'r ddwy gilfach sydd yn amddiffyn tu 01 y ddinas, ac ar nos Sadwrn gorphwysai y ddwy fyddin ar eu harfau. Yn ystod y nos adeiladwyd pontydd dros y cilfachau gan yr Undebwyr, er fod y Gwrthryfelwyr yn tanio yn enbyd arnynt o gynllwyn. Ar doriad y dydd symudodd holl fyddin Sherman ar y Gwrthryfelwyr, y Cadfridog Steele yn arwain yr oehr aswy, y Cad- fridogion Blair a Morgan y canol, a'r Cadfridogion A. L. Smith a M. L. Smith yr ochr ddeheu. Trodd Steele rengau y G-wrthryfelwyr fel agi agortramwyfa 1 ddosran Morgan, yr hwn oedd wedi ei wahatiu gan y corsydd, ac erbyn codiad haul yr oedd yr holl fyddin ar waith. Yr oedd y Gwrthryfelwyr gyferbyn a dosranau Morgan a Smith wedi ffosgloddio am danynt ar dir uebel. ond cymmerwyd meddiant o'r sefyllfa gan yr Undebwyr a min y bidog. Ni allasai gwnfadau y Gwrthryfelwyr gydweithredu ond darfu i'r gwnfad tJndebol Benton ymosod ar amddiffynfa y Gwrth- ryfelwyr yn Haynes Bluff. Yr oedd y Cadfridog Banks a'r Llyngesydd Farragut i gymmeryd rhan yn V symudiad, ond nid oeddynt wedi cyrhaedd yno pan ddaeth y newydd diweddaf oddiyno. Yr oedd y brwydro wedi parhau am bum niwrnod, ac yr oedd yr Undebwyr wedi ennill tri allan o bedwar o'r prif ffos-gloddiau. Nifer byddin Sherman oedd deugain mil o wyr. Dywed y Grenada Appeal fod Vicksburg wedi syrthio yn gwbl i ddwylaw yr Undebwyr, ond nld yw hyn wedi ei g&.darnhau. Trechwyd y Gwrthryfelwyr ger Lexington, a y 0 chollasant 1,400 o wyr rhwng lladdedigion a chlwyf- edigion, 1,000 o arfau bychain, a C magnel. Darfu i bum mil o wyr meirch yr Undebwyr ddi- nystrio naw milltir o reilffordd Tennessee a Virginia, gan los.i y prif bontydd dros yr afonydd Holton o Wattamao, a chymmerwyd dau cant o wj r meirch y Gwrthryfelwyr yn garcharion. Yr oedd gwibdaith gwyr meirch yr Undebwyr yn gan milltir o am- gylchedd. Y mae dinystriad y rheilffyrdd yn cael ei ystyried yn beth pwysig, gan ei fod yn tori ymaith symudiad y catrodau Gwrthryfelgar o Richmond i'r gorllewin. Derbyniwyd teyrngri rhyddhad y caethion gyda Ilawenydd mawr yn yr holl daleithian teyrngarol. Yr oedd cynhwrf mawr yn Boston, Albany, Pitts- burg, a Buffalo amryw ddinasoedd ereill, o her- "vydd fod gwyr meirch yr Undebwyr wedi llwyddo 1 ddinystrio rhan fawr o reilffordd Mobile ac Ohio, a thrwy hyny wedi tori cyssylltiad y Cadfridog Gwrth- ryfelgar Bragg a'i fyddin a Mobile. Mae y Cadfridog Undebel Sullivan wedi trechu y Z5 ^adfridog Gwrthryfelgar Forrest, yn Springhill, ger ^oily-springs. Twriwyd Forrest, a chollodd ei boll *agnelau, a 300 o arfau bychain. T Gyrodd y rhengau Undebol yn y tiriogaethau Andiaidd y Gwrthryfelwyr o dan Coffee a Stuart yn groes i'r Arkansas ger Amddiffynfa Gibson. Nid oes un cyfnewidiad yn sefyllfa y byddinoedd at y Rappahannock. Y mae'r Democratiaid wedi lleddfu tipyn ar eu cyoddaredd yn erbyn y Llywvdd Lincoln. Ffadd y Gwrthryfelwyr o Murfreesbro' yn vstod °s y 3ydd. Aetti yr Undebwyr i mewn iddi yr ail j0l*u, ac yn ddiweddarach yn y dydd dechreuwyd er- y'lfa ar ot y gelyn. Dywed y New York Herald fod enciliad y Gwrth- y fel wyr o bwys mawr i'r Undebwyr, gan tod y Cad- 1(jQg Gwrthryfelgar Bragg wedi ei attal rhag ymosod Nashville. Dywed yn mhellach pe buasai rhengau Udfridog Rosencranz yn effeithiol, y gallesid fod dinystrio byddin Bragg, yr hwn wedi peru colled n {O,GG0 O wyr, a 30 o fagnelau i'r Undebwyr, a en- u>dd mwy fel gorchfygwr nag fel un wedi ei drechu. n ywed y New York Tribune ei fod etto i'w brofi Oe^Q enciliad gwirioneddol ai ynte ystranc filwrol d eiddo Bragg. Y mae yn canmol gwrhydri mil- YýYf Undeb yn fawr. e Cadfridog Rosencranz, mewn bryslythyr o i>rUQreesb°r°', dyd diedig y 5ed, a ddywed ddarfod o'r tWri :ry^wJr> drwy symudiad annysgwyliadwy ,}r ,u°'iddynt, ei attal rhag ennill buddugoliaeth ar nlW^r ?myat> on^ er hyny e* we^ eu maeddu bvrh am dri diwrnod, ac iddyot ffoi yn dra wyll ar foreu dydd Sadwrn, gyda cholled fawr. Y Cadfridog Gwrthryfelgar Ewell mewn brys- lythyr dyddiedig Chattanoga, y 5ed o lonawr, a ddywed: Enciliasom o Murfreesboro' yn eithaf rheolaidd. Arbedasom ein holl ystorfeydd. Mae oddeutu pedair mil o garcharorion, pum mil o arfau bychain, a phedwar ar hugain o gyflegrau, wedi newydd gyrhaedd y lie hwn. Mae yr Undebwyr yn cyfrif eu colled yn 7,000, ac eiddo y Gwrthryfelwyr yn 12,000. Mae gwnfad yr Undebwyr, y Monitor, wedi suddo ar y m6r, a dau swyddwr a 38 o forwyr wedi boddi. Mae yr agerlong Virginia, berthynol i'r Gwrth- ryfelwyr, wedi cael ei chyrnmeryd gan yr Undebwyr yn y Llynclyn.

FFRAINC.

ITALI. '

[No title]

ADOLYGIAD AFU^SNACH YR YD.

MARCHNADOEDD CYMREIli.

Advertising

PRISOEDD Y METELOEDD, &c.