Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

TY'R CAPEL FRON OLEU.

(SolvcMactfau. :-,1(-

STOCKTON.

ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

mae yn rymus, ac hynod o ddedwydd yn netholiad ei eiriau, a thrinia ei bwnc gyda deheurwydd. Oddiwrth "Daflen y Swyddogion," fe welir fod y Dr. Thomas wedi bod yn unig Athraw am y pedair mlynedd gyntaf o'r sefydliad vn Mhontypwl. Tua diwedd y flwyddyn 1840, teimlai'r pwyllgor a'r Llywydd, yn nghyd a rhai cyfeillion da i'r sefydliad, awydd am gael Athraw ych- wanegol, er ysgafnhau y gwaith ar y Llywydd, ac er gwell mantais i'r myfyrwyr. gan fod eu rhif yn cyn- nyddu, a'r gwaith yn mvned yn bwysicach. Yn y cyfamser, deallwyd fod Mr. George Thomas, gweinidog y Drefnewydd, ar ymadael a'i eglwys. Meddyliwyd y peth hwn yn Rhagluniaethol; a gwelai y pwyllgor yn Mr. Thomas y gwr a'r doethawr ag oeddent hwy ar y pryd yn chwilio am dano—un yn meddu y evmhwysderau i fod yn Classical Tutor." Gyda boddlonrwydd llwyr a chalonog y Llywydd, ys- grifenwyd at Mr. Thomas gyda phob brys, a chafwyd atebiad tra ffafriol oddiwrtho. Gwnawd hyn gan y pwyllgor cyn dvfodiad cwrdd blynvddol 1841, ac felly ar eu cyfrifoldeb eu hunain, am nad oedd amser i golli, a bod ganddynt hyder cryf y buasai i'w dewisiad o Mr T. gyfarfod a boddlonrwydd eyffredinol y pwyllgor. blynyddol. Ac er mwyn symud ymaith bob rhwystr, addawodd rhai o aelodau y pwyllgor, os na ddarfu idd- ynt fyned gam yn mhellach ag i ymrwymo eu hunain i gymmeryd arnynt yr oil o'r gyfrifoldeb o hyn, a dwyn rhan, os nid yr oil, o'rdraul yn nygiad Mr. Thomas yno hyd y ewrdd blynyddol, a chaniatau na fuasai'r symud- iad yn cwrdd a boddlonrwydd y cyfarfod blynyddol. Ond ni chawsant achos i edifarhau-mawr gymmer- adwywyd eu gweithred, a phrofodd Mr. Thomas ei hun yn gyrnhwys i'r swydd o fod yn Athraw Ieithyddol. Gwell swydd a gwaith i'n eyfaill trylwyr a'n hathraw parchus-gwaith i ateb ei chwaeth ei hun-nis gallesid byth gael. Mae yn gwbl yn ei elfen-wrth ei fodd i'r dim-pan yn ymdroi yn nghanol yr ieithoedd, ac yn cyfeillachu a'r hen awdnron clasurol. Ganwyd Mr. G. Thomas mewn ty o'r enw Blaen- lliwau," yn Sir Gaerfyrddin, lie y preswylia rhai o'i berthynasau agosaf yn awr. Derhyniwyd ef yn aelod yn eglwys y Bedyddwyr yn Bwlchygwynt, gerllaw i le ei enedigaeth. Treuliodd bedair mlynedd yn Athrofa Brystau, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth yn Rbydfelen yn y flwyddyn 1833. Yn canlyn mae hanes ei urddiad, gwel Greal y Bedyddwyr" am 1833 "URDDIAD MR. GEORGE THOMAS.—Awst 19eg, yn Rhydfelen, Swydd Drefaldwyn, neillduwyd y brawd George Thomas, o Bwlchygwynt. i waith cyflawn y weinidogaeth. Gweddiodd y hrawd T. Jenkins, myfyr- iwr, yn Saesneg a'r brawd J. Davies, Pantycelyn, yn Gymraeg. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan y brawd B. Price, Drefnewydd yna dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y brawd E. Carey, Serampore; a phre- gethodd y brawd J. G. Penny, Calcutta, i'r gweinidog; a'r brawd E. parey i'r eglwys, oddiar Col. 1. 28, aRhuf. 13. 1 L-B. PRICE." Price (Cymro Bach) a ysgrifenodd yr hanes uchod, a chafodd ef a Mr. Thomas yr hyfryd- wch o gyd-weinidogaethu ar ol hyny, am rai blynyddau, yn y Drefnewydd. Mae yn debyg i Mr. Thomas fod yn llafurus iawn mewn lleoedd ereill heblaw y ddau uchod, fel y dengys Hanes y Bedyddwyr," gan D. Joaes, tud. 504. Llyma'r geiriau Treuliodd Mr. Thomas agos holl ddyddiau ei ieuenctyd mewn ysgolion, ac yn Athrofa Caerodor; ac mae yn ysgolhaig rhagorol, :1 yn bregethwr da iawn, ac yn dduwinydd treiddgar. Treuliodd amryw o flynyddoedd wedi dyfod allan o'r Athrofa mewn gwahanol leoedd yn Nghymru, Lloegr, a'r Iwerddon ond y mae wedi bod er ys blynyddau (o.c. 1839) yn gyd-weinidog a Mr. B. Price yn y Dref- newydd, un o'r eglwysi mwyaf blodeuog, lluosog, a grymus yn Nghymru." Fe welir ein bod yn dr' byr mewn enwau a dates yn ein darn hyn o'n hanes; ond nid oes help, gan fod rheswm dros hyny. Tua dechreu y flwyddyn 1841, daeth Mr. Thomas yn Athraw leithyddol yn Mhonty- pwl. Derbyniodd y diploma o M.A. o William Jewell College, Missouri, North America." Ma'3 Mr. George Thomas yn wr tua chanol size, ac yn gwargamu ychydig, ac yn cerdded fel pe wrtbo ei hun yn y byd. Mae o edrychiad syml, serchus, a boneddigaidd. Dyn trwyddo yw-ysgolhaig aeddfed, meddyliwr dwfn, pre.. gethwr meddylgar, a Christion trwyadl. Ni chlywsom ef erioed yn pregethu heb ei fod yn bared wedi rhag- feddwl, a llonaid col o feddwl ganddo. Mae yn un o'r dynion mwyaf diniwed a fu byw erioed—ni wna-ni ewyllysia wneyd-drwg i neb, na dim mewn modd yn y byd. Mae yn un o'r dynion mwyaf gwylaidd—mae yn ormodol felly i ateb mawredd ei feddwl, dyfnder ei ddysg, ac eangder ei wybodaeth. Saif llawer un yn ddigon pen-uchel, a meddylia lawer am ei ddysg a'i ddawn ei hun, pan, mewn gwirionedd, heb ddefnyddio gormodedd, nad yw deilwng i ddattod esgidiau George Thomas. Nid yw y ddau Athraw parchus wedi cael treulio eu blynyddau yn Mhontypwl heb gael arwydd o barch neillduol e.u hen fyfyrwyr tuag atynt. Cymmerodd y presentation i Dr. Thomas le yn y fl. 1857, a'r pre- sentation i Mr. G. Thomas yn y fl. 1861. Gwel y cy- hoeddiadau am y blynyddau hyny. Ysgrifenyddion. Bu i Athrofa y Fenni bump Ysgrifenydd, a'r pummed oedd y Parch. D. Phillips, Caerlleon-ar-Wysg am 9 mlynedd, a gwasanaethodd y sefydliad yn Mhontypwl am 4 mlynedd arall, y cwbl am 13 mlynedd. Rhoddodd ef ei swydd i fyny yn y flwyddyn 1840, pryd y pasiwyd y penderfyniad a ganlyn Fod y cwrdd hwn, tra yn gofidioyn ddidwyll am benderfyniad yr Ysgrifenydd i ymneillduo o'i swydd, yn fr hon y gwasanaethodd y sefydliad eyhyd ac mor ffyddlawn a thra yn derbyn ei ymroddiad, yn cyflwyno iddo y diolchgarwch gwresocaf am y caredigrwydd, y ddoethineb, a'r sel a ddangosodd yn wastadol yn ei ymdrechiadau i hyrwyddo amcanion y sefydliad, a'i godi i'w safle presenol." O'r flwyddyn 1840 hyd 1856, sef un ar bumtheg o flynyddau, bu i'r sefydliad ddau Ysgrifenydd, sef 1. Hiley, Ysw., a'r Parch. S. Price, Abersychan, yr hwn yw ei Ysgrifenydd presenol. Mae ef wedi gwasanaethu y sefydliad yn y swvdil hon am 23 mlynedd gyda ffyddlondeb neillduol. Beth berodd i Mr. Hiley ymneillduo, nis gwyddom ond hyn a wydd- om, ei fod yn ddyn A llygad vc ei ben, er ei fod yn ddall yn awr er vs rhai blynyddau-yn ddyn o synwyr cryf, ac yn gyfaill ffyddlawn. Meddwn baich a serch neill- duol tuag ato. Dymunwn iddo lawer o wenau Duw yn "Lletty'r Pererin." Trysoryddion. Bn i Athrofa y Fenni chwech Trysorydd, a'r chweched oedd W. W. Phillips, Maesydderwen, Pontymoil, am 7 mlynedd. Gwasanaethodd y sefydliad yn Mhontypwl, fel Trysorydd, am yr yspaid o 25 mlynedd, ac i gyd am 32 mlynedd. Am y 10 mlynedd olaf, bu iddo gyd-dry- sorydd, sef Wm. Conway James, Ysw., Pontrhydyryn. Yn yr un flwyddyn ag y bu farw Mr. Phillips, rhoddodd Mr. James ei swydd i fyny, pan y pasiwyd y penderfyn- iad canlynol:—" Fod y cwrdd hwn, wrth dderbyn ym- roddiad Mr. Win. C. James, yn cyflwyno iddo ei ddiolch- garweh gwresocaf am y modd caredig ac effeithiol y darfu iddo gyflawnu dyledswyddau ei swydd. Am Mr. Phillips, gallwn ddweyd fod ei enw yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Un o rai rhagorol y ddaear oedd efe. Boneddwr yn mysg y mawrion a'r bychain-dyn gartref, gyda'r cyfoethog, a'r tlawd. Gellir dweyd am dano yn ngeiriau "Ymofidiwr," yn ei Awdl i Carnhuanawe- Un uchel i uchel oedd, Ac isel i'r isel radd Mwyn i fwyn mewn hoewaf wedi, I anfwyn mwyn fu un modd." Yr oedd Mr. Phillips yn un o'r diaconiaid mwyaf hedd- ychlawn, ac yn un o'r gweddiwyr mwyaf gafaelgar a adwaenasom erioed. Cyfaill i'w weinidog. brawd i'w frodyr, a thad i'r myfyrwyr oedd efe. Pawb a'i had- waenai, a wyddant nad ydym yn dweyd un gair ond y gwirionedd am dano. Yr oedd ei galon a'i enaid yn y gwaith ac yn y sefydJiad. Gwasanaethodd yr Athrofa yn mhob peth gyda ffyddlonlleb digyffelyb; nesaodd at Dduw ar ei rhan gyda gweddiau taerion a ffydd gref. Cof am ei weddiau yn y cyrddau wythnosol yn Crane-street ar ran yr Athrofa, yr Athrawon, a'r Myfyrwyr! Ni byddai ef un amser yn eu hannghofio. Gyda'r fath daerineb ac ymddiried yr arllwysai gynnwysiad ei galon gerbron Duw O frawd heddweh i'th Iwch. Dyn oeddet, a dyn cyflawn. Cynlluniaist a chynghofaist, gweddiaist a chyfrenaist—nid er mwyn dy weled, ond er mwyn gwasanaethu Duw a'tli genedlaeth. A ganlyn yw y penderfyniad a basiwyd gan y pwyllgor wedi ei farw: —" Fod y pwyllgor hwn yn galaru yn herwydd colli y diweddar W. W. Phillips, Ysw., Maesydderwen, yr hwn oedd wedi llanw y swvdd o Drysorydd am dros 30 mlyn- edd ac yn cofnodi ei barch o'i gymmeriad Cristionogol a'i deimlad dwys o rwymedigaeth am ei wasanaeth hir a ffyddlawn, ac yn cynnyg i'r aelodau sydd yn aros o'i deulu ei gydymdeimlad parchus o dan eu hamddifadrwydd gofidus, pa un y maent wedi ei deimlo." Gobeithiwn fod deuparth o'i ysbryd wedi syrthio ar ei fab, trysorydd presenol y sefydhad, yr hwn sydd yn ymddangos i ni fod yn un ag sydd yn teimlo dyddordeb neillduol yn y sefyd- liad, ac yn mawr ddymuno ei lwyddiaut.