Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ABERTEIFI.

SIR GAERFYRDDIN,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SIR GAERFYRDDIN, Achwyna Mr. Williams, a deisyfa arnaf ymdrechu detfroi eglwysi a gweinidogion y cyfenwad i gydweithredu yn gyffredinol gyda mudiad rhagorol y Drysoi-ft ar unwaith, oblegid mai rhyledd o fusgrell a difater yw llaweroedd o'n gweinidogion a'o heglwysi, fel mewn gwirionedd y maent yn lhvyr gysgu. Rhai o'r eglwysi wedi gwneuthur rhyw ychydig, ereill wedi dechreu y gwaith a'i adael ar ei hanner, a Hawer heb ddechren gwneuthur dim, ac wrth ddrws y gweinidogion y gorphwys yr antfawd hon. Nid yw yr hanner o eglwysi Cwrdd Chwarter Isaf y sir hon wedi gwneuthur eu dyled- swydd. Yr eglwysi carilynol heb amcanu gwneuthur dim:- Bwlchygwynt, Bwlcnnewydd, Plashed, Ainon, Talog, Ffynn>n- henry, Hebron, Rehoboth. Y rhai canlynol heb wneuthur dim i bwrpas:—Caerfyrddin, y ddwy eglwys Ebenezer, Llangunog Nazareth, Hendygwyn; Login it Cwmfelin; Rhydwilym, a Sittim, Felingwm." Nid wyf yn gwybod y gall dim a allaf fi ei ddweyd fod yn fwy effoithiol na'r hyn y mae Mr. Williams ei hun yn ei lefaru, yr hyn a allat brofi i fod yn wirionedd safadwy mewn degau o amgylch- iadau ereill. Y gwir yw, mai diffyg bywyd y gwaith yn y gwein- idogion yw y ditfyg mawr, yr hyn sydd yn wir syndod, pan y mae y dyben mor werttifawr iddynt hwy yn mhob ystyr, yr hyn allant weled yn eglur pe byddai eu llygnid yn hanneragored. Nid oes un eglwys yn Nghymru na wna gasglu, a chasglu mewn modd na chasglodd erioed o'r blaen eithr y mae peth anferthol o drafbrth yn cael ei achosi gan weinidogion difywyd, a blaenoriaid gwrthry w- iol. Ar yr un pryd y mae y gweithrediodau yn ardderchocach na dim a wehvyd erioed o'r blaen, a byddant yn fywyd i'r oesau dy. fodol. Y mae y Pwyllgor yn wir ddyledus i Mr. Williams, a phersonau selog o'r fath y gwn yn dda am danynt, a byddant ar goffa mewn cyssylltiad a'r gweithrediadau hyn, a'u henwau ar gael i'r oesau a ddel.

SOAR, WITTON PARK.

TYWYSOG YNYSLWYD.

EISTEDDFOD CALFARICOLWYN.

í!byf¡ttfø4y44 í!bttfg4401.