Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

35 erthygl ar y dudalen hon

Ynadlys y Bala.

ABERDYFI. I

BALA.

CAERNARFON.

COLWYN BAY.

CONWY.I

CORRIS.

CORWEN.

CRICCIETH i

DOLWYDDELEN.j

FFESTINIOG A'R CYLCH.

LLANDDERFEL

'LLANFAIRFECH AN.

LLANRUG.

IP!<:aR?ln..1

LLANDWROG.

LLANRWST.

NANTLLE AR CYLCH

NEFYN

PENRHYNDEUDRAETH.

PORTHAETHWY.

PORTDINORWIC.

PWLLHELI.

RHCS A'R CYLCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHCS A'R CYLCH. AR Y FAINC.—Da y gwnaeth Arglwydd- raglaw swydd Ddinbych (y Milwriad West., o Gastell RhuthynK benodi y-Meddyg J. C. Da- vies. Rhos. a'r Mri W. C. Hughes. Feuant, a Sampson Mitchell, Mwnglawdd, i eistedd ar fainc ynadol v str. YR "WYTH AWR.—Yn nghyfarfod misol Undeb Glowyr y Rhos a'r cylch, nos Iau. yn y Neuadd Gyhoeddus (Rhos), darllenodd Mr Richard Jones. Heol yr Eglwys, bapyr ar "Yr Wyth Awr." Yn y sylwadau a wnaeth y Cad- eirydd (Mr Smith, Bryn Awelon), ac ereill. rhoddwyd y ganmoliaeth uchaf i gvnnwrs y papyr; a phasiwyd i'w argraphu gyda. man- tolen yr Undteb, I [ LLWYDDIANNUS.—Gwelir yr enwau em., h-nol u'r Rhos a'r cvlch yn rhestr y llwyddian- nusion yn arholiad Hvdrefol diweddaf Coleg y Tonic-Sol-fta :—Matriculation certificate, Mri Samuel Evans, Rhos, a Edward Davies. Plas Isaf; musical composition, second stage. Mr Daniel Ro )?rt>. Rhos musical and verbal ex- pression. first stage. Mr Thomas Lloyd, Ponciau; harmony analysis, second stage. Mr Watkin W. Williams. Ponciau; harmony analysis, third stage, Mr Daniel Roberts. Rhos; staii notation (theoryi. second stage, Mr D. Humphreys. A.C., Plasbennion. CYFARFOD DA.—Nos Lun, yn y Mvnvdd Hyfryd, Fonciau. dan lywyddiaeth y Parch W. B. Jones. Penycae, caed cyfarfod da. Beirn- iaid Cerddoriaeth, Mr John Evans, A.C. Penycae; traethawd. Parch M. 0. Evans, Gwrecsam; areithio, adrodd, &c., y Cadeirydd, a'r Parch J W. Humphreys; unawdyddion, Miss Evans, Tainant: a'r Mri Esau Edwards, Tom Banks, a Isaac Jones. Ponciau cyfeilvdd, Master Emlyn Davies.- Rhos. Gwobrwyedigion Mr D. W. Jones. Tref loan (am y traethawd a'r araeth); Mr D. Davies. Ponciau (am adrodd); Isaac Jones, E. Edwards, a Thomas Hughes a'i barti. Rhos (am ganu). &c. CiNGHOR PLWYF RHOS.—-Nos Iau. Mr Hooson, U.H., yn y gadair. Darllenodd y Clerc (Mr Trefor Jones), lythyr oddiwrth Fwrdd v Llvwodraeth Leol parthed Deddf Gladdu 1900. Eglurodd y Cadeirydd adranau tywyllaf y ddeddf.—Yn adroddiad y pwyllgor goleuo, hysbysid sou llvthyr wedi ei d<Jerbyn oddiwrth un o oleuwyr y lampau yn gofyn am gydnabydd- iaetli ychwanegol am ei waith. Gwrthodwyd ei gais. — Pasiwyd i ofyn i'r cwmni nwy am y cyfrif am y nwy a'r taclau nwy hyd ddiwedd y flwyddyn. Dewiswyd y clerc i weithredu dros y pwyllgor drwy fined gyda swyddog y cwmni i gymeryd cyfrif y mesuryddion. Rhoddodd Mr W. M. Jones adroddiad o'i ymweliad a'i ymddyddan a Air Woodford yn nghylch codi pris y nwy. Penderfynwyd anfon llvtbyr at y cwmni parthed pris y nwy mewn cylchoedd cyf- agos.—Darllenwyd adroddiad Mr A. X. Palmer, Gwrecsam, parthed sefyilfa y dwfr a gyflenwir i'r Rhos. Gwedi gwneyd arbrawf gofalus ar y sampl a dderbyniasai, tystiai ei fod yn "un o'r sainplau goreu o ddwfr y darfu ei ddadansoddi erioed." Yr unig fai a gawsai arno oedd ei fod wedi ei liwio ychydig. yn herwydd presennoldeb ychydig fawn neu dvwarch.—Hysbysodd Mr Trefor Jones y rhanwyd elusenau Rhiwabon ya drefnus y Gwener blaenorol. Mewn amser bvr rhanwyd gwlaneni a phlancedi i 327 o dlodion" y Rhos yn y Neuadd Gyhoeddus. NADOLIG YX Y CYLCH.—Diwrnod mawr v Cynnulleidfaolwyr oedd hwn vn Nhref loan. Yn y boreu. pregethodd y Parch D. Tafwys Jones yn ei hwvliau tioreu i gynnulliad rhagorol. Yn y prydnawn. caed te a baratodd Mr a Mrs S. A. Jones. yn eu hysgolfa gyfleus. Gweinydd- wyd wrth y bvrddau gan 12 o foneddigesau y gynnulleidfa. Prof odd Mr Sam. Nickollas ei hun yn de-ddarllawydd ardderchog. Yn yr hwyr. Ilanwyd yraddolfa o wrandawvr ar gerdd-wasanaeth. yn cael ei ddarlunio trwv y goleuni llusernol. yn ngofal y Mri S. Pierce ac Alfred Jones. Y darllenydd oedd y Parch Tafwys Jones. Canodd y cor plant (yn cael eu cynnorthwyo gan rai mewn oed) yn wir dda, a dan arweiniad Mr J. Williams, a chyfeiliwyd yn ddymunol gan Mr Charles Evans. Air it. S. Duce. Rhos. lvwyddai.—Yn Alhenycae. eistedd- odd cannoedd 'wrth fyrddau Ilawnion yn Ysgolfa Salem, i yfed te. Yn yr hWTr. cynnaliwyd cyfarfod adloniadol. o dan lywvdciaeth y Parch W. B. Jones. Arbenigrwydd y cyfarfod ydoedd y "Ffug etholiad" a gymerodd le. Cvnnrvchiolid y blaid Ryddfrydig gan Air Ben bavies. a'r blaid Doriaidd gan Lr John Griffiths. Canlyn- iad y pleidebu oedd 18 o fwyafrif dros yr ym- geisydd Toriaidd.—Y nos flaenorol. yn Neuadd Gyhoeddus. Penycae. cynnaliwyd cyngherdd o dan nawdd, ac er budd Clwb yr Odvddion, yn G westy yr Angor. Pentre. Canodd Cor Plant y Stryt Isaf yn odidog. o dan arweiniad Mr Gough (Pencerdd y Stryt). Llywydd. Air Evans (Alaw Alabon).—Yn y Cefn Mawr, bu gwyl bregethu y Wesleyaid ac Eisteddfod Bed- yddwyr Seioa. Yn y blaenaf. pregethai y Parchn. Owen Davies. Wyddgrug. a R. W. Jones, Brymbo.—Yn y Rhos. trodd gwyl len- yddol y "Corph." yn y Neuadd Gyhoeddus. yn neillduol o lwyddiannus. Cynnaliwyd dau gyfar- fod. y naill o dan lywyddiaeth Air D. Roberts, Sgwar; a'r Hall gyda Mr H. Jones. Ty Lerpwl, yn y gadair. Arweinydd. Parch R. "Williams, Heol y Bryn ysgrifenyddion. Alri J. Davies a J. Griffiths; trysorydd". Mr J. Rogers; cerdd- ynad. Air D. Lloyd Evans. Alachynlleth cyfeil- ydd. Air Joseph Dodd. ieu. Yn yr adran gerdd- orol. enillwvd y gwobrwyon gan y rhai can- lynol :—Am ganu unawdau. AI asses Y. A. Parry, a 1. E. Jones. Mri W. A. Hughes. Emrys Jones, D. Hughes. Erwgerig; E. W. Bellis. Jacob Ed- wards; pedwarawd. Mr H. Mills a'i gyf.. parti meibion J. Wright a'i gyf.. parti o blant, W. A. Hughes a'i gyf.. cor 0 blant Bethlehem, o dan arweiniad Air Jacob Edwards. Un parti ddaeth yn mlaen i ganu y garol "Awn hyd Bethlehem" (R. Mills), sef mab yr awdwr a'i gyf.. a dyfarn- wyd hwy yn wir deilwng o'r wobr. Cor Jeru- salem yn unig ddaeth yn mlaen ar y brif wobr, dyfarnwyd hwythau yn deilwng ohoni. Enill- wyd yn yr adran fardd,onol gan Celfydd (Cefn Mawr) ac Eilir Aled (Rhos). Yn adran llenydd- iaeth. y buddugwyr oedd Mri J. Roberts, W. Edwards. J. Davies. a J. H. Richards. Yn adran yr adrodd. gwobrwywyd Miss L. Jenkins a Miss Jane Edwards. Adran yr arboliadau- pob oed. dyfarnwyd Air J. Davies yn oreu; & Mr W. Edwards yn ail oreu; dan 21 oed, J. B. Richards dan 16 oed, Susanah Pritchard; dan 12 oed, J. T. Pritchard dan 8 oed. S. E. Edwards. Yn adran celfyddyd. enillodd Mrf W. Green, J. O. Hughes. D. Thomas, a J„ Davies.

RHOSTRYFAN.

TOWYK

TREFFYNNON.

ABERSOCH.

AMLWCH!

BANGOR.

BETHESDA A'R CYLCH.

GWRECSAM.

PORTHMADOG.

[No title]

! Cynghor Dinesig Criccieth,