Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

or YR YSGOL SABBOTHOL. j

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

or YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS KHYNGWLADWIIIAETHOL. [International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 12fed.— Dyddiau olaf Josua.—Jos. xxiv. 14-29. Y TESTYN EURAIDD. Yn awr, gan hyny, ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeith- rwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wisanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd."— Adi.od 14. EHAGAKWBINIOL. Y MAE yn ymddaugos i Josua dreulio ei ddyddiau olaf mewn tawelwch yn Timnath-serah, o ba le y deuai ar adegau neillduol i gyfarfod y bobl, ac i roddi iddynt gyfarwyddiadau pa fodd yr oeddynt i ymddwyn. Pan y mae yn teimlo fod ei einioes ar ddarfod, nid ydyw yn rhyfedd ei fod am gadarnhau y bobl yn eu ffyddlondeb i'w Duw. Geilw hwynt yn nghyd i Sichem, or mwyn rhoddi iddynt ei gynghor olaf. Yr oedd y man yn gysegredi?. Yma y ba Abraham yn trigo ar ei ddy- fodiadi Ganaan, yno yr ymddangosodd,Duw iddo, acyno y sefydlodd Jacob wedi ei ymadawiad a Laban. Yn nyffryn Sichem hefyd yr adnewyddodd y bobl eu cy- famod a Daw ar eu dyfodiad cyntaf i Ganaan. Ym- gasglant yn awr i wrando geiriau olaf ei harweinydd. Efe a Caleb oeddynt yr unig rai oedd yn fyw o'r holl rai a ddaethent o'r Aipht. Dygwyd yr Arch yno, ac amgylchynid hi gan Eleazer a Phinees ei fab, yn nghyd a'r Lefiaid. Yr oedd petiaothiaid a henuriaid y bob!, en barnwyr a'u swyddogion yno, yn barod i hysbysu geiriau Josua i holl Israel. Yr oedd yr holl amgylch- iad yn ddifrifol a chyffrous. Dechreua ei anerchiad trwy gyfeirio eu meddyliau at y pethau mawrion yr oedd Duw wedi eu gwneyd dros ei bobl, a thros eu tadau o'u blaen hwynt. Yna apelia atynt mown modd difrifol i fod yn ftyddlon i'r Duw hwnw oedd wedi profi ei hun mor tfyddlon iddynt hwy ac i'w tadau. Yn y Wers cawn hanes yr argraffiadau a gafodd ei eiriau ar feddyliau y gynulleidfa, a'r modd y mae Josua yn eu t/nghedu trwy arwydd i gadw eu haddewidion. Y mae cymeriad Josua yn nodedig o brydferth. Yr oedd yn ddyn deallus a phwylJog-, penderfynol a dewr, gwlad- garol ac anhnnangar, cywir a tbra chrefyddol, ac ni cheir dim yn fwy nodweddiadol o'i gymeriad na'r anerchiad olaf hwn o'i eiddo i holl Israel pan yn hen wr 110 mlwydd oed. ESBONIADOL. Adnod 14.—"Yn awr, gan hyny, ofnwch yr Ar- glwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd." Dechreua Josua ar y rhan apeliadol o'i anerchiad. Ofnwch, Talwch warogaeth barchedig i'r Arglwydd. Cymharer Job xxviii. 28, "Wele, ofn yr Arglwydd, hyny yw doethineb," a Diar. i. 7, "Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodacth," neu y rhau benaf o wybodaeth Y mae gwir grefydd yn yr Hen Destameut yn myn'd dan yr enw o ofn yr Arglwydd. Gwasanaethwch efmewnperffeithrwydda gwirionedd. Nid yn unig mewn ffurfiau allanol, ond yn y galon a'r bywyd; yu rbydd oddiwrth bob cymysgedd-yn bur, heb ddim ffug, ft 1 peth wedi ei ddal yn wyneb pelyd- rau yr haul a'i gael heb ddim anmhnredd ynddo. Yr oedd am i'w bywyd yn y dirgel gyfateb i'w proffes gy- hoeddns. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn purdeb, a chyda sefydlogrwydd meddwl. A bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadan, o'r tuhwnt i'r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Ar- glwydd." Awgrymir fod rhai yn eu plith yn addoli delwau yn gyfrinachol yn eu teiau, er addoli yr Ar- glwydd yn gyhoeddus. Tybia rhai fod y geiriau yn awgrymu fod rhai o hen eilnnod eu hynafiaid yn cael eu cadw ganddynt o barch i gofladwriaeth eu teidiau, ac er nad oeddent hwy yn eu haddoli yn bersonol, fod Josua yn eu hanog i'w bwrw ymaith, rhag y bvddent yn fagl iddynt i'w tynu i eilunaddoliaetli ar ol ei farw- olacth ef. Y mae yn rhyfedd mor ducddol oedd y bobl hyn i ddelw addo iaeth. Adnod 15.—"Ac od yw ddrwtr yn cich gohvg wasau- aethu yr Arglwydd, dewisvvch i chwi hen'dyw pa un a wasanaethwch, ai y duwiau a wasanatthodd cich tadau y rhai oedd o'r tuhwnt i'r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Apelia Josua at eu rheswm fel Elias, ar ben Carmel, i wneuthur dewisiad pwy yr oeddynt am ei wasanaethu ai duwiau eu tadau o'r tuhwnt i'r afon sef y duwiau teuluaidd a addolid gan eu tadau, ynto duwiau yr Amoriaid. Yr Amoriaid oeddynt un o'r llwythan mwyaf lluosog yn Nghanaan, ac addolent Baa). Ai ynte Jebofah yr hwn oedd wedi eu dwyn hwynt allan o'r Aipht ac wedi gwaeuthur y fath bethau go^oneddus iddynt. Yr oedd eu gwasanaeth i fod yn ffrwyth eu dewisiad. Rhesymol wasanaeth y mae yr Arglwydd yn ei dderbyn. Yr oedd ef wedi gwneyd ei ddewisiad i wasanaethu yr Arglwydd, ac y mae ei ddylanwad ef ar ei deulu. Hysbysa ei ddewisiad. Ond myfi. Pa beth bynag a wnewch chwi, yr wyf fi a'm tylwyth wedi pen- derfynu gwasanaethu yr Arglwydd. Y mae pob dyn yn sicr o wasanaethu rhyw dduw, ac y mae o'r pwys mwyaf iddo ddewis gwasanaethu y gwir Dduw. Adnod 16.—" Yna yr atebodd y bobl, ac y dywed- odd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd i wasanaethu duwiau dyeithr." Y mae yr holl bobl yn ateb yn ben- derfynol eu dewisiad o'r Arglwydd fel eu Dnw. Y maent yn brawychu wrth feddwl am y syniad o gilio oddiwrth yr Arglwydd. Na ato Dww. Y mae y gair yn arwyddo yr a.tgaprwydd mwyaf a eliir ei feddwl- Adnod 17.—" Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a'n dug ni i fyny a'n tadau o wlad yr Aipht, o dy y caethiwed, a'r hwn a wnaeth y l'byfeddodau mawrion hyny yn ein g," ydd ni. ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac yn mysg yr holl boblocdd y tramwyasom yn eu plitb." Yr Arglwydd ein Duw, &c. Yr Arglwydd oodd wedi eu gwneyd hwy yn genedl, a chanddynt hwy yn unig yr oedd gwybodaeth am y gwir Dduw. Yr oedd yr Arglwydd wedi dangos ei allu iddynt yn y rhyfe-ldodau a wnaethai yn eu gwydd, sef pliiau yr Aipht, croesi y Mor Coch, a'r gwyrthiau yn yr anialwch. Ac ct.\t cadwodd, &c. Dymfi eu trydydd rheswm dros lynn wrth yr Arglwydd. Wedi eu cadw yn yr anialwch rhag newyn a syched, a rhag gelynion cryfion. Adnod IS. A'r Arglwydd a yrodd allan yr holl bobloedd, a'r Amoriaid, pieswylwyr y wlad, o'n blaen ni am hyny ninau a wasanaethwn yr Arglwydd canys efe yw ein Duw n' Ceir yma, y pcdwerydd rheswm. Yr oedd yr Arglwydd wedi rhoddi noeddiant iddynt o wlad yr addewid. "Canys ef yw ein Dim ni," yr hwn a ymgyfamododd yn rhadlawn trwy addewid i ni, ac i'r hwn y darfu i ni trwy adduned ddifrifol ym- gyfamodi. Adnod 19—" A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd, canys Duw sancteidd- iolaf yw ef'e Duw eiddigus yw ni ddyoddef efe eich anwiredd, I>a'ch pechodau." Nid yr anmhosiblrwydd, ond yr anhawsdra, o wasanaethu yr Arglwydd a osodir allan yn y geiriau hyn. Yr oeddent hwy wedigwaeddi mewn brwdfrydedd, Ni a wasanaethwn yr Arglwydd. Y mae Josua am eu dwyn i ystyried yn ddifrifol a phwyllog beth sydd yn gynwysedig mewn g-wasanaethu yr Arglwydd. Gesid ger eu bron y ddwy ffaith fod Duw yn sanctaidd, ac yn eiddigus yn erbyn pechod. Os oeddent hwythau am wasanaethu yr Arglwydd rhaid oedd iddynt gadw oddiwrth eilunaddoliaeth a pbob pechod. Adnod 20.—" 0 gwrthodwch yr Arglwydd, a gwas- anaethu duwiau dyeithr; yna efe a dry, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaionö." Os byddai iddynt withod yr Arglwydd buasai ei we'nyddiadau yntau yn wahanol atynt hwythau, er yr ystyriaeth ei fod unwaith wedi bod yn amddiffyn iddynt, ac wedi rhoddi iddynt ei fendithion fel ei bobl ddewisedig. Adnod 21. — A'r bobl a ddywedodd wrth Josna, Nage eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd." Y mae yn amIwg fod y bobl wedi deall ystjr rhybudd Josua, ac y maent mewn dull pwyllog yn ail adrodd eu pen- derfyniad i wasanaethu yr Arglwydd. Adnod 22.—" A dywedodd Josua wrth y bob), Tyst- ion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym." Yr oedd y bobl wedi tyst- iolaethu yn gyhoeddus eu bod am wasanaethu yr Ar- glwydd. Pe byddai iddynt eto gilio yn ol, condem- nient eu hunain trwy y dystiolacth a wnaethent. Adnod 23.—" Am byny, yn awr (ebe efe) bwriwch yinaith y duwiau dyeithr sydd yn eich mysg, a gos- tyiigwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel." Y mae yn amlwg fod y bobl wedi dechreu Ilithro i addoli delwau fel Laban. Nid yn gyhoeddus, ond yn ddir- gelaidd yn eu tai. Ceir engraiftt tebyg yn Barnwyr xvii. 5. Adnod 24. A'r bobl a ddywedisant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn." Y mae y bobl yn ateb am y trydydd tro eu parodrwydd i wasanaethu yr Argiwydd, ac i wrando yn trnig ar ei lais ef. Adnod 25. — Felly Josua a wnaeth gyfamod a'r bobl y dwthwn hwnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, yn Sichem." Hyny yw, efe a roddes y coflyfr o'r cyfamod blaenorol i'w gadw gyda deddf Moses, ac felly ete a ddaeth mor awdurdo^'ol ar Israel a deddf neu farnedigaeth. Adnod 26.—" A Josua a ysgrifenodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Duw, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd ynagos i gysogr yr Arglwydd." Ysgrifenodd Josua y cyfamod hwn a wnacthid rhwng cenedl Israel a Duw. Cododd hefyd faen mawr ar ddull colofn i adgofio y bobl o'u cyfamod. Dan dderwen, non dan y ddi rwcu- Y ddct wen y mae yn debygol y cyfeirir ati yn Gen. xii. 6, lie y bu Abra- ham a Jacob yn aberthu aeyn addoli. Agosi gysogr yr Arglwydd Yr oedd y fan wedi dyfod yn gyscgredjg yn ei berthynas ag addoliad Abraham a Jacob. Adnod 27.—" A Josua a ddywedodd wrth yr holl bob', Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni canys efe'a glywodd holljeiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efewrthym; am hyny y bydd efe yn dystiol- aeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw." Yr ocdd y maen yn arwydd o'r hyn oeddent wedi wneyd. Bob tro yr edrychent arno byddai yn ad^of o'r hyn a addaw- sant. Adnod 28.—" Felly Josua a ollyngodd y bob!, bob un i'w etifeddiaeth." Wedi i'r achos gael ei bender- fynu fel hyn gyda'r difrifwch mwyaf, y mae Josna yn gollwng y bobl. Teitnlai yn ddiau ei foi ef wedi gwneyd ei ran. Adnod 29. — Ac wedi y pelhau hyn, y bu farw Josua, mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab deng mlwydd a chant." Yr oedd wedi enill iddo ei hun fel Moses y teitl anrhydcddns gwas yr Arglwydd. Ni ddywedir pa hyd y bu byw wedi dyfodiad Israel i Ganaan. Bu farw yr un oed a Joseph wedi cyflawni ei waith yn dda. G WE RSI. Y mae gwasanaethn yr Arglwydd i godi oddiar bareb dwfn at Dduw fel yr unig wir a byniol Dduw. Y mae i fod yn wasanaeth cyfan, pur, a chalonog. Y mae i fod yn wasanaeth gwirfoddol yn codi oddiar ddc- wisiad yr ewylJys. Y mae i fod yn wasanaeth diolchgar yn yr adgof am drugareddau yr Arglwydd. Y mae yn gofyn ffyddlondeb a dyfalbarhad. Y mae gorchymyn yr Arglwydd yn gofyn hyn. Dylai yr ysiyriaeth o'u cyfamod a Duw, ac esiampl pobl ddnw- iol ein gwneyd yn ffyddlon ac yn ddi-ildio yn ngwasan- idlo (lio ya r)gwasazl- aeth yr Arglwydd. Y mae y wobr yn ogoneddus, ac yn sicr yn y diwedd. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Beth oedd amcan Josua wrth alw y bobl yn nghyd i Sichem y tro hwn P 2. Iihoddwch grynodeb o'i anerchiad. 3. Pa fodd y mae yn tynghedu Israel i ffyddlondeb i wasanaethu yr Arglwydd. 4. Pahain y mae yn cyfeirio at ei ymddygiad ei hun a'i dylwyth. 5. Esbaniwch yr ymadrodd yn adnod 19, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd." G. Pa fodd y mao y bobl yn ateb Josua, a nodweh y rhesymau a ddygant dros wasanaethu yr Arglwydd. 7. Nodweh p:i fodd y rhoddodd Josua ffurf cyfamod i addewid y bobl. 8. Nodweh rai o neillduolion cymeriad Josua.

Advertising