Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL MON. Cynaliwyd y Cyfarfod uchod yn Salem, Bryngwran, Awst 6ed a'r 7fed. Llywydd, Parch E. C. Davies. Wedi darllen cofnodion y cyfarfod diweddaf a'u cadarnhau, penderfynwyd— 1. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i'w gynal yn Cana, Llanddaniel, Tachwedd 12fed a'r 13eg. 2. Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch J. Alun Roberts, B.D., o Gyfundeb Arfon, i'r cyfar- fod, yr hwn a gynwysai arwyddion amlwg o deimlad dwys Cyfundeb Arfon oherwydd colli un a garent mor fawr, a'r hwn ydoedd mor wir ddefnyddiol a gweithgar gyda phob rhan o waith yr Arglwydd yn ei eglwys barchus gartref yn Pendref, Caernarfon, a thrwy yr holl wlad. Yna cynygiwyd gan y Parch W. Lloyd, Caer- gybi, ac eiliwyd gan Mr H. Lewis, Llewelyn Lodge, a chefnogwyd gan amryw o frodyr yn gynes iawn-Ein bod fel Cyfarfod Chwarterol yn Mon yn dymuno datgan ein mawr lawenydd ar ddyfodiad y Parch J. Alun Roberts, B.D., Caer- narfon, i Gaergybi ac i Undeb Mon, ac yn mawr ddymuno ei gysur a'i lwyddiant yn y dyfodol fel yn y gorphenol. 3. Cynygiwyd gan Mr H. Lewis, ac eiliwyd gan y Parch D. S. Jones ac ereill-Ein bod fel Cyfun- deb yn dymuno datgan ein cydymdeimlad a'r cen- adon a'r eglwysi yn Madagascar, ac yn hyderu y bydd i Gyfarwyddwyr Cymdeithas Gonadol Llun- dain anfon atynt y teimlir yn ddirfawr drostynt, ac y gweddir ar eu rhan gan eu brodyr a'i chwi- orydd yn eglwysi Cynulleidfaol Cymru yn nydd eu profedigaeth. Yr oedd teimlad dwys a phryderus gan yr holl gyfarfod mewn perthynas i'r amgylch- iadau annedwydd presenol yn yr ynys, ac amlwg ydoedd fod gweddi yn esgyn o bob mynwes at yr f' Arglwydd yr hwn sydd yn teyrnasu ar ei rhan. 4. Cynygiwyd gan y Parch T. Evans, Amlwcb, ac eiliwyd gan Mr H. Lewis, fod y Cadeirydd, y Trysorydd, ac Ysgrifenydd y Cyfundeb i aros yn eu swydd am y flwyddyn ddyfodol, yr byn a bas- iwyd yn unfrydol. 5. Cynygiwyd gan Mr II. Lewis, ac eiliwyd gan yr Ysgrifenydd—Ein bod fel bfawdoliaeth yn teimlo yn chwith iawn wrth feddwl colli o'n plith y brawd cywir a ffyddlawn y Parch D. S. Jones, Cana, a chyflwynir of i Undeb gweithgar Lleyn ac Eifionydd gyda'r teimladau goreu am ei ddaioni, ei lwyddiant, a'i gysur yn Abererch a Chwilog, fel y bu yn Cana a thrwy ein gwlad. 6. Cynygiodd eglwys newydd Rbosybol ar fod iddi gael derbyniad i'r Cyfundeb trwy y Parch W. Davies, ei gweinidog, ac eiliwyd ef gan y Parch T. Evans, Amlwch, a cbefnogwyd gan Mr H. Lewis. Derbyniwyd hi gyda llawenydd cyffredin- ol, a rhoddwyd oymeradwyaeth wresog i'r Parch W. Davies i fyned drwy'r sir i gasglu er cynorth- wyo yr eglwys newydd a gweithgar hon i gael y capel newydd sydd yn cael ei adeiladu yn ddi- ddyled ddydd yr agoriad, os gellir. 7. Fod Pwyllgor Trysorfa y Jubili i gyfarfod yn fuan yn Llangefni, i gymeryd sylw o'r gwabanol apeiiadau am gymhorth o'r Drysorfa, a'i rhanu fel yr ymddengys y teilyngdod. Fe gaiff pob aelod rybudd prydlon gan yr Ysgrifenydd am am- ser y cyfarfod. 8. Gwnaed sylw manwl mown porthynas i Brif- ysgol Gogledd Cymru yn y Gynadledd, oherwydd fod genym deimlad o ofn i'r sefydliad gael ei fedd- ianu gan ysbryd enwadol. 9. Darllenwyd llythyr Mr D. Jones, o Lundain, yn dymuno am ein cyrnhorth tuag at Gapel Coff- adwriaethol y Gohebydd. Y MODDION CYHOEDDUS. Am 6, nos Lun, pregethwyd gan y Parchn VV. Davies, Seion, a J. Alun Roberts, B.D., Caer- gybi. Boreu Mawrth, am 10, pregethodd y Parch W. V. Davies, Moelfro, a T. Evans, Am- lwch. Am 2, y Parchn J. S. Evans, Bodedcyrn, a D. S. Jones, Cana. Am 6, y Parchn O. L, Roberts, Penarth, Maldwyn, a J. A. Roberts, B.D., Caergybi. Yr oedd nifer pur luosog yn y Gynadledd, n. phawb o'r brodyr yn un a chytun. Cafwyd j62 9s Gc o gasgliadau yr cglwysi, a jEl 3s 2c o gasgliad yn oedfa olaf y cyfarfod tuag at Drysorfa y Lleoedd Gweiniaid. Yr oedd yr Efengyl yn cael ei phregethu mewn nerth. Arosed eto wlith bendith ar yr holl wasanaeth, a'r gogoniant fyddo yn cael ei amddiffyn yn hen eglwys barchus Salem ddyddiau y ddaear. O. THOMAS, Ysg.

TALYBONT.

NODIADAU 0 GAERLLEON A'R CYFFINIAU.

CIFAEFOFT CHWARTEROL CYFUNDEB…