Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWRTH.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCIIER.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.

TY Y CYFFREDIN.

CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN. YMADAWIAD MINTAI 0 GENADON I CHINA. Mae y gymdeithas uchod yn anfon allan bedwar cenadwr y mis nesaf i China, sef y Parchn Dr Mackenzie, J. Gilmour, M.A., G. H. Bonfield, a'n cydwladwr y Parch W. Hopkin Rees, o Gwmafon, Morganwg. Mae Dr Mackenzie yn myned i Sientsin, Mr Bonfield i Amoy, a Mri Gilmour a Rees i brifddinas yr ymherodraeth Chineaidd—Peking. Y mae Mri Gilmour a Mackenzie wedi bod allan o'r blaen, ac yn awr yn dychwelyd i'w hen feusydd; ond recruits yw y ddau frawd arall. Dydd Llun, Gorphenaf 23ain, yr oedd eu eyfarfod ymadawol yn y Ty Cenadol, yn Llundain. Yr oedd yr adeilad eang yn orlawn o bobl a gymerent ddyddordeb mawr yn yr achos godidog hwn. Dengys enwau y rbai oedd yn bresenol fod dynion o safleoedd anrhydeddus iawn yn bleidiol i'r achos hwn. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol oeddynt yr Arglwyddes Reed a'i merch; Mrs Bloomfield; Mrs G. John, China; Parchn Doctoriaid Bevan, Hitchen, Kennedy, a Mawbey, Hankow, China W. Justin Evans, J. Gilfillan, S. Hebditch, W. Roberts, B.A J. Guinness Rogers, B.A., W. Tyler; Mri J. Viney, Y.H., J. White- house a E. H. Jones (Ysgrifenyddion), Henry Wright, Y.H., S. R. Scott, Y.H., F. White, Y.H., A. Hubbard, Y.H., H. Mason, A.S., H. Lee, A.S., A. Spicer, Y.H., Syr Risdon Bennett, M.D., Mri O. White, Y.H., C. G. Mundie, F.R.G.S., W. Lockhart, L.R.C.S., A. Marshall, G. H. Wren, &c. Dynsi ychydig o'r cwmni anrhydeddus. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd trwy ganu emyn Cenadol, a'r Parch T. Brockway, o Madagascar, yn chwareu ar yr organ. Cymerwyd y gadair gan Mr A. Hubbard, Y.H., Cadeirydd y Bwrdd am y flwyddyn; a gwedd'iwyd yn doddedig a dylanwadol gan ein cydwladwr, y Parch W. Justin Evans (brawd Herber), Dalston, Llundain. Yna cafwyd araeth for a chall gan y Cadeirydd, ac areithiau byrion gan y pedwar Cenadwr oedd yn ymadael. Yna traddodwyd yr anerchiad ymadawol iddynt gan y Parch J. G. Rogers, B.A. Yr oedd yr anerchiad hwn yn odidog iawn. Nid oes dim gwael yn dyfod oddiwrtho ef un amser, ond yn yr anerchiad hwn yr oedd braidd wedi rhagori arno ei hunan. Ar ol hyn, cyflwynwyd y brodyr i ofal ac amddiffyn y Nef mewn gweddi efleithiol gan y Parch W. Spensley. Ar ol i'r Parch E. H. Jones wedd'io yn mhellach,terfynwyd y cyfarfod, a phawb yn dymuno yn dda ac yn ysgwyd llaw ar brodyr. Bydded i Dduw eu hamddiffyn a' a llwyddo yn eu meusydd, fel y byddont yn offerynol i ddwyn llawer o eaeidiau i ofal y Ceidwad. Yr ydym yn deall fod Dr Mackenzie wedi cychwyn eisoes. Bydd y tri ereill yn cychwyn ar yr 20fed o Awst yn yr un agerlong. B. R.

Advertising

----------_.I' Cyfarfodydd,…

Advertising