Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

♦ A THRO PA FFEWDTAL A'T II…

IY GYMANFA DDE-ORLLE WlNOL.

CYMANFA EHYDYCEISIAID YN 1823v

MAGWBAETH GREFYDDOL IEUENCTYD…

YMYLON Y FFOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, no y mae pawb ag y mae gronyn o ddynoliaeth yn eu natur yn Uawenhau am hyny. Mae teiinlad cryf iawn dros gael CYFARFOD HYDKEFOL 1885, os yw yn bosibl, yn rhyw le yn Nghymru. Mae Pwyllgor yr Undeb yn awyddus am hyny, os gellir, ac yn barod, yn ddiau, i estyn help sylweddol. Mae yr Undob wedi bod yn y De dair gwaith-Yl1 Aberdar, yn Abertawy, ac yn Nghaerdydd. Teimlir mai i'r Gogledd y dylai ddyfod nesaf. Bu y peth dan sylw ddoe yn Mbwyllgor Cym- deithas yr Achosion Seisonig yn Nghaer, ac yr oedd y teimlad yn unfrydol dros ei gael, ac mai i Fangor, mewn cysylltiad a Chaer- narfon, a Bethesd-i, a'r amgylchoedd, y dylai fyned. Credid fod yno gyflawnder o leoedd i'w groesawu, ac y byddai parodrwydd yn mhawb o bob enwad i gvnorthwyo. Ym- ddiriedwyd i Mr Hooke, Mr Herber Evans, a Mr W. J. Parry i ymgynghori ag eglwysi tn y cylch ar y mater, fel y gellir cael ganddynt roddi gwahoddiad iddo. Diau y gwnai les dirfawr, ac y rhoddai i Ogledd Cymru olwg ar Annibyniaeth na chafodd erioed. Yr wyf yn mawr obeithio y cymerir y peth i fyny, a chyda chydweithrediad nid oes dadl na ddygid ef oddiamgylch yn llwyddianus. LLADMERYDD.