Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

RHOS A'R CYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHOS A'R CYLCHOEDD. Y Gymraes o Ganaan-Yr ydym wedi derbyn lluaws o lythyrau yn nghorff y flwyddyn ddi- weddaf yn holi pa le mae y foneddiges dalentog uchod yn trigianu, ac os mai yn y Rhos, beth yw ei chyfeiriad. Bydded hysbys i'r cyfeillion fydd yn meddwl am ei gwasanaeth mai yn y Rhos y triga hi ar hyn o bryd, ac y bydd llythyr wedi ei gyfeirio—Y Gymraes o Ganaan, Rhos, Rhiwabon, ya sicr o'i chyrhaedd yn ddyogel. Ymddiswyddiad Gweinidog.-Hysbys yw fod yr hen frawd ffyddlon a pharchus y Parch J. Roberts, Brymbo, wedi rhoddi eglwysi Brymbo a Brynteg i fyny ar ol pymtheg mlynedd o lafur diwyd a llwyddianlls. Teimlai fel Samuel ei fod wedi hen- eiddio a pheawynu, ac nad allai efe mwyacb sefyll o flaen arch Duw fel cynt. Diau mai teiinlad dyeithr iawn i hen weinidog didwyll a liafurus yw ymddiosg o'i gysylltiadau gweinidogaethol; ond mae yr Hwn a alwodd Aaron ae a'i cynaliodd yn nhrallodau y weinidogaeth yn rhoddi gras hefyd i ddiosg y gwisgoedd swyddogol. Da genyf weled fod yr eglwysi ar fedr ei anrhegu mewn modd teilwng ar ei ymadawiad. Caffed ein hen frawd brydnawnddydd tawel, byd nes delo yr awr iddo ddilyn ei anwyliaid i wlad y goleuni. Rechabiaid.-Tua blwyddyn sydd er y sefydlwyd y gymdeithas uchod yn y Rhos. Erbyn eleni rhifa yn agos i 150 o aelodau. Sulgwyn bu yn gorymdeithio, ac yr oedd yr olwg arni yn hardd dros ben. Yn yr hwyr cynaliwyd cylarfod cy- hoeddus yn yr Hall, dan lywyddiaeth Mr E. Bryon, Maelor View. Yn ystod y cyfarfod can- wyd amryw ddarnau pwrpasol a chwaethus, a rhoddwyd anerchiadau yn cyawys anogaethau i uno a'r gymdeithas gan Mri R. Jones a H. Jones, a'r Parch R. lvobeits. Llwyddiant i'r Rechab- iaid.

CAPEL Y GRAIG, RHYMNI.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

TALYBONT.