Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

Sparks, Cherry Co., Neb.

LLENYDDOL A CHERDDOROL.

[No title]

PIGION 0 PITTSBURG, PA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PIGION 0 PITTSBURG, PA. Llifogydd Dinystriol-Galwad i Cynonfardd -Etholiad Diaconiaid-Manion. PITTSBUEG, Chwef. 20.—Bu y gwlawogydd trymion a gafwyd yr wythnos hon yn gyf- rwng i chwyddo yr afonydd dros eu ceulan- au, gan wneyd dinystr mawr. Llanwyd sel- eri canoedd o anedd-dai a maelfeydd y ddinas hon ac Allegheny gan y dwfr. Nid oedd ys- trydoedd rhan isaf y ddinas yn ddim amgen na chamlesau dyfrilyd, a'r trigolion yn tram- wyo o'r naill heol i'r liall mewn cychod. Gor- fodwyd agos yr holl felinau ar hyd glanau y ddwy afon i gau i lawr am ddyddiau. Y mae y golled yn filoedd o ddoleri, ac ofnir y bydd i lawer o salwch ddylyn y llifogydd dinystr- iol. Sabboth, wythnos i'r diwedd af, bu eglwys Annibynol Fifth Avenue wrth y gorchwyl am yr ail waith, o geisio dewis gweinidog. Y Parch. T. Cynonfardd Edwards, Kingston, Pa., ydoedd dewis-ddyn y mwyafrif y tro yma, ond hyd yn hyn nid oes un sicrwydd y bydd iddo gydsynio a'r cais. Byddai efe yr "iawn ddyn yn yr iawn le." Ni wyddom am neb fyddai yn foddion mor effeithiol i "was- garu'r tew gymylau" ac i "dywys y praidd ger- llaw y dyfroedd tawel." Sabboth diweddaf, bu eglwys y T. C. wrth y gorchwyl o ethol tri o ddiaconiaid ychwan- egol, ac arolygid y gweithrediadau gan y Parch. I. Newton Roberts a Mr. D. Williams, Youngstown, O. Disgynodd y coelbren ar Mri. Wm. Hughes, David Jones a John Thomas. Dywedir fod y dewisiadvn dra un- frydol. Bydded i'r yohwanegind at ttholod- igion y set fawr fod yn foduicn i enyn j ch- ydig fywyd adaewyddul yn yr eghvys hon, gan fod digon eto o le i laturwyr yn mysg ein cenedl wasgaredig yn y ddinas. Mynegir fod ymgais ar droed i ffuriio cym- doithas lenyddoi yn mysg y to ieuauc Cym- reig yn eglwys Fifth Avenue, a hyderwn y llwydda tn hwnt i bob dysgwyliad. in gerddorol a llenyddol nid oes y bywyd lleiaf yn cael ei arddangos yn y ddinas hon, a braidd na chredwn weithiau nad yw y ddinas yn gartrefle llenorion a cherddorion mwyach. Mewn llawer tretlan nad oes y ddegfed ian o Gymry ag sydd yn y ddinas hon, cynelir cyf- arfodydd llenyddol a cherddorol llewyrchus a llwyddianus. ac y mae yn warth i Gymry y Ddinas Fyglyd nad arddangosir rhagor o yni a brwdfrydadd dros bethau ag sydd mor han- fodol dros lwyddiant yr iaith. Beth yw y rheswm o hyn ? Mae rhagolygon ftafriol am gynulliad lIe.. wyrchus i'r tancwed Santyddol ar yr 211 o Fawrth yn y Seventh Avenue Hotel. Yn mhlith y dyeithriaid ag sydd wedi amlygu eu bwriad o fod yn bresenol y mae y Parch. Dr. William Roberts, Chicago, a'r cyfreithwr llwyddianus, yr Anrh. Samuel Griffith, Mer- cer, Pa., yr hwn sydd yn sicr o wneyd cyf- iawnder a'i lwncdestyn, "The Future of the Welsh Race!" Y mae yr hen Ddemocrat pybyr o Mercer yn un o haneswyr goreu y Cymry yn.y Talaethau Unedig, acniphetrus- wn dciweyd y bydd ei anerchiad yn werth y mynediad i mewn. Cafodd William Hughes, Suho, ei orebfygu am y penodiad o fod yn un o ymddiriedol- wyr ysgoldy y Bedwaread-ddinasran-ar-ddeg. Nid dyma yr unig Werinwr a siomwyd vn ddirfawr yn yr etholiad ddydd Mawjth. Yrn- ddengys fod y Gwerinwyr a bleidleisiasant dros Delamater yn talu y pwyth yn ol i'r rhai a roddasant y glewtan lawchwith i'r tocyn Gwennol yr hydref diweddaf. Prcgethodd y Parch. I. Newton Roberts, Yonn^sto<vn, yn Homestead prydnawn Mab- both diweddaf, ac yn eglwys y T C. yn y ddinas hon yn yr hwyr. Deallwn iddo roddi boddlonrwydd cyffredinol. Pregethodd y Parcij. T. C. Davies o'r ddin- as hon, yn Alliance, 0., y Sabboth diweddaf. — Cymro. e.

HMK STRING, HOWARD CO., IOWA.

ARYONIA, OSAGE CO., KANSAS.j

! DENVER GYMREIG.

TAYLORVILLE,PA.

SHERMAN, SIR SUMMIT, OHIO.I

[No title]

[No title]

Gomer, Montgomery Co., Iowa.

IAdfywiad Crefyddol yn Mill…

Hyde Park, Lack. Co., l'a.

[No title]

! PRYOAIN FAWR.

MAMOS PELLEXIG.

Marwolaeth Edward R. Edwards,…

Nac .tHsrhofiwdt y I faith

Advertising

JSEFYOUAOAU NEW YORK A VERMONT.

GWEIXHFAOL A MASNACHOL.

[No title]