Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

29 erthygl ar y dudalen hon

Englyn—"Lliw."

Yr Eryr.

Yr Urdd Iforaidd.

Y Gwanwyn.

Yr Estron.

Lena Price, Merch IVir. a…

Yr Unig.

Deigryn ar Fedd Gwalch Ebrill.

[No title]

DINAS Y CARIAD BRAWDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DINAS Y CARIAD BRAWDOL. Cyflwr Isel Masnach-Mesurau McKinley a Wilson-Symudiadau-Bazaar. GAX E. PUNTAN DAVIES. PHILADELPHIA, Ebrill 16.—Grwaeliawn mewn ystyr fasnachol ydyw pob cangen o honi. Y mae miloedd ar filoedd allan o waith, ac wrth reswm, cynifer a hyny yn dyoddef yn enbyd o'r herwydd. Nid oes fawr argoel gwella ar bethau chwaith, a myn rhai haeru fod pethau yn gwaeth- ygu yn lie gwella. Gobeithio er hyny y daw masnach yn well bob yn dipyn. Sonir y bydd miloedd yn myned or ddinas hon i Washington un o'r dyddiau nesaf er ceisio dylanwadu ar y Senedd- wyr yno i beidio pasio y Wilson Bill, ond dyna sydd yn fy nharo i a syndod paham y gostyngwyd y cyfiogau yn lie eu codi, fel yr addawyd, wedi pasio y McKinley Bill. Y mae genyf fi berthyn- asaau a chyfeillion yn gweithio mewn ffactries, ac oil yn Werinwyr solid, ac yn lie cael eu cyflogau wedi eu mwyhau, gostyngwyd hwynt 35 per cent mewn ychydig fisoedd! Ac felly y bu bron yn mhob math o ddiwydianau trwy y ddin- as-gostyngiad gafodd pawb yn lie cod- iad, ac os I, ad wyf yn camsynied, hon yw y dref mwyaf llaw weithfaol yn America, os nad yn yr holl fyd, ac fel y bu yma y bu yn mhob man arall trwy y wlad; fe siomwyd pawb ond y meistriaid twyllodrus, haiarnaidd a chalongaled. Oni buasai yr achos yna o dwyll ac anon- estrwydd, ni fuasai y Democratiaid meVjn swyddi heddyw; a gwnaeth yr Arlywydd Harrison help mawr i'r un cyfeiriad wrth osod gelynion y dosbarthgweithioI mewn swyddi aruchel, sef perchenog y New York Tribune, agolygydd a rhan berchj enog y Philadelphia Press, a John Wana- maker, ac eraill o'r un stoc. Yr wyf wedi clywed gan laweroedd fod y gwa- hanol manufacturers Gwerinol yn nacau cymeryd archebion am nwyddau, er mwyn lladd y Democratiaid am amser maith i ddyfod, er gosod yr holl fai ar- nvnt hwy am y tlodi mawr presenol. Buasai hynyna o'r goreu pe buasai y dos- barth gweithiol yn gallu anghofio y gos- tyngiad a gawsant ar ol pasio y McKin- ley Bill, sef y manufacturers yn cael yr holl dorth, a'r gweithwyr druain yn cael dim ond gostyngiad! Nid oes genyf deimlad da tuag at y Democratiaid, o herwydd fod gormod o Babyddiaeth yn perthyn iddynt. Nis gellir cael fawr o well- iantau o'r cyfeiriad hwnw, gan hyny nid oes a fynwyf a hi. Credwyf fod defnydd- ioldeb v ddau barti i'r werin bobl wedi darfod, gan mai Wall Street i raddau helaeth sydd yn llywodraethu y ddau, am hyny cyngorwn y werin i gefnu ar- nynt ac ymuno a rhyw barti newydd. Blin genyf fod amryw o Gymry cyfeill gar wedi ymadael a'n dinas, sef Ifor Gabe a Wm. Tudor i'r Hen Wlad; John Evans, John M. Davies, Evan Thomas a Wm. Beard i Brooklyn; Robert Owens gerllaw Pittsburg; Robert Thomas i Butte, Mon- tana; a Joseph W. Hughes i Mount Car- mel, Pa. Y maent bron oil yn dderbyn- wyr or DRYCH. Pob lwc a'u dylyno oil yw gwir ddymuniad fy nghalon. Cynaliwyd bazaar yn basement eglwys y Parch. R. T. Jones yn ddiweddar, ac er fod yr amser mor wael, bu mor llwyddianus a gwneyd mil o ddoleri yn rhydd i'r eglwys. Bydded hysbys i'r brawd Ifor Cynidr Parry y buasai wedi cael atebiad i'w ofyniadau er's tro, oni bai fod David T. Davies wedi bod yn lied wael ei iechyd. Yr ydwyf wedi gadael y peth yn llaw y Colonel i cliwilio allan.

ASHLEY, LUZERNE CO., PA.

Cyhoeddiadau Brodyr Dyeithr…

YN GWNEYD YR OLL A HAWLIR…

IACHAU CUR PEN.

Gweision a Morwynion Cymru.

Aelod Peryglus.

Clwb Gwerinol Dinas New York.,

Parson Price a'i Symphony.

Ysgrifau Cymro Gwyllt.,

Iforiaeth yn America.

CERDDORFA MEWN ADDOLDY.

Advertising

- RilWIVG IflFKIF A CHWARE.

BARDDONIAETH.

Y Gobeithlu.

Ymddygiadau Gwrthun.

Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr.

BYR EBION 0 RACINE, WIS.

Anerch Priodasol.