Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
29 erthygl ar y dudalen hon
Englyn—"Lliw."
Englyn—"Lliw." Caboledigwisg blodau—ac enfys, Gwynfyd addurniadau Uiw, sy'n hau Ei dwf iechyd i fochau. Reinsert, N. y. EFROG.
Yr Eryr.
Yr Eryr. Un drecha bawb draw uwch ben—yw"r eryr, a Hyd ororau'r wybren; A theyrn yw ar drothwy'r nen Ar yr adar er Eden. Scranton, Pa. DEWI OGLE.
Yr Urdd Iforaidd.
Yr Urdd Iforaidd. Dylanwad da haelioni,-Ifor Hael Yn fawr elw ini; Yw'n hurdd hon, ami eurodd hi Ddryghinoedd oriau cyni. Ifor Hael anfarwolir,-ei enw Yn anwyl a gedwir Tra'r urdd hon, y gwron gwir Am ei haeledd ganmolir. Bellevue, Pa. ROWLAND ROBERTS.
Y Gwanwyn.
Y Gwanwyn. Croesaw iti. wanwyn anwyl, Rho adfywiad yn ein bro; Mae rhyw fywyd ac aiddgarwch • Yn dy ganlyn di bob tro; Anian red i newid dillad Pan y cenfydd di yn dod, Rhydd am dani harddwisg grewyd Gan law gelfydd Dwyfol fod. Pan agori di dy ddwylaw, Cawn y blodau heirdd eu lliw; Pan agorïth enau i siarad, Cawn awelon balmaidd byw; Pan ymdeithi tros y dolydd, Anian dan dy droed a chwardd, Mae holl fywyd creadigol. Yn dy garu, wanwyn hardd. Cambria, I Vis. T. E- WILLIAMS.
Yr Estron.
Yr Estron. Unig wyf mewn estron wlad Yn mhell o'm cartref clyd, 0 gvraedd gofal mam a thad A gWenau siriol ffryndiau mad, 0 ryfedd-unig wyf! • Pwy all ddychmygu'r teimlad sydd Yn gwneyd fy enaid oil yn brudd, Wrth wel'd o'm deutu bawb yn. lion, Teuluoedd heb un glwyfus fron, A minau-unig wyf! Yn eu llawenydd pur Anghoflant bob rhyw gur, A phawb o'u hamgylch sydd Pel na baent unrhy w fudd, O hynod—hynod fyd. Yr estron digartref ni cha Ond 'chydig o gysur a da, Er hynv fe welir rhyw lu O'r cyfryw heb gar ac heb dy, 0 ryfedd—ryfedd fyd: GARSENYDD.
Lena Price, Merch IVir. a…
Lena Price, Merch IVir. a Mrs. Price, Wa- terville, N. Y. [Dyfyniad.] Esgynai Lena Price i'r cerbyd cu, A chwim olwynai i'r uchelder fry; Ja piioeu a'i goiid dallai'n ol i'r ddaear, A'i cherbyd wynai fel yr orsedd lachar; Ei leni oil, ei lawr, a'i aur olwynion, Ei gyflym feirch a'i ddedwydd Ion farchogion, Yn ffiamwedd ddringent, mewn rhyw nefol ar- ddull, Nes aros draw wrth y tragwyddol bebyll. Y cerbyd hardd orphwysa. Dyma fyd! O! dvma roesaw—dyma f yrdd ynghyd, Mor bur, mor hardd, mor llawen, mor garedig, Heb un a'i gwyn drwy'r ardal wynfyaedig. Ac ami i wyneb anwyl iawn o'r ddaear, A welwyd yn ffarwelio yn ddiweddar, Sy'n dod yn mlaen i weled a chroesawu Y ferch oedd gyneu gyda ni'n cartrefu. Mae marwol ran Lena yn eigion y tywod, Yn gorwedd yn dawel yn nghol y cyfamod; Ond cyfyd y boreu mewn diwyg ysbrydol, A'i hwyneb ar fwyniant yr hafddydd trag- wyddol. \r ei hoi awn ninau'n fuan, I'r dragwyddol ddedwydd drigfan; Dedwvdd foreu, dedwydd fyd, Cyfarfyddwn eto'n nghyd! Waterville, N. Y. HANOVER.
Yr Unig.
Yr Unig. Ar fin v ffordd yn nghysgod lIwyn, Hen wr parchedig, llariaidd, mwyn; A safai yno wrtho'i hun, Yn nghanol storm yn eithat bun, Ei farf a'i wallt oedd berffaith wyn, Ei lygaid mawrion safai'n syn, Ac fel pe'n edrych y tu draw O'r bywyd hwn i'r byd a ddaw; Ni welai neb yr adeg hon, Cyflyma'i anadl, chwydda 1 fron; A chodai 'i law fel heb yn wybod, A'i wedd ddynodai ddwfwn drallod; Dvrchafai'i olwg tua'r nef, Ac ocheneidiodd bruddaidd let: "Rwyn ddyn heb gartref ar y ddaear, Yn tvnu'n gvflym at y talar; Pob peth feddwn er fy hedd. Syrthiodd gyda'm gwraig i'w bedd; Fy ngobeithion ffwrdd hedasant, Ar eu hedyn i ddifodiant; Pob cysuron ar y ddaear, Drodd yn chwerwon ddyddiau galar; Unig wyf, annyddan, tlawd, 0: fy Iesu bydd di'n Frawd I henafgwr eiddil, gwan, Bydd yn bobpeth ar fy rhan; Clywaf swn y ddedwydd alwad, Derbyn f' ysbryd, 0: fy Ngheidwad." Gwelwyd ef ar hyn yn syrthio, Rhedwyd ato i'w gynorthwyo; Ei gorff yn unig yma gawd, Trodd ei weddi iddo'n ixawd. Willcesbarre, Pa. D. L. RICHARDS.
Deigryn ar Fedd Gwalch Ebrill.
Deigryn ar Fedd Gwalch Ebrill. [Dyfyniadau.] Greddf enaid yw gruddfanu—yn nos ing, A-i zaws oer oddeutu Glyn v gwyll;—i'r galon gu Egwyl hir y galaru. Mae drain ynnhrymder einioes;—mor erwin Mae'r hiraeth a'r drom-loes; Heb y gan, gruddfan dan groes Wna'r dyn ar hyd y wan-oes. Hawdd wylo'n wir yn y ddwl nos,-i lu 0 dan'lwyth, mae achos, Eneidiol wr. cfir awen dlos, Cywir, anwyl, nid car un-nos. Y Gwalch alwyd o gylch-wyliau—y byd, Ei boen a'i bleserau, I dawelwcli gwlad olau—rhos a mill, A gwawl Ebrill ar ei gwridog lwybrau. Bu'n gwyro uwchben y gweryd—yn hir O dan wall afiechyd: Ni chai oes ddinych o hyd, Heb waeau chwerwon bywyd, Anwyl wr, ei enw lyn—yn ei gfin T- Gypes, a'i dlws englyn Diwallau. coeth, dillyn -'roedd rhywnwyfus Swyn hudolus yn mhur seiniau'i delyn. a-^e? yn eon,—a nwyfus JNonai mewn dychmygion Yn ngwyl llu o engyl, l'lon rsaradwys yr ysbrydion, ft'arwol Daniel; cyd-unwn—v bvw 6 barch dy fedd wlychwn 7 Dan deiznladogariad, gwn; A l flodau a gofleidiwn Scranton, Pa. HEDYDD CYXON.
[No title]
-Pa beth bynag fydd dra y gwallt gellir ei adferu i'wluv TTTV o'r meddyglyn Sewer Vegetable Sicilian HL
DINAS Y CARIAD BRAWDOL.
DINAS Y CARIAD BRAWDOL. Cyflwr Isel Masnach-Mesurau McKinley a Wilson-Symudiadau-Bazaar. GAX E. PUNTAN DAVIES. PHILADELPHIA, Ebrill 16.—Grwaeliawn mewn ystyr fasnachol ydyw pob cangen o honi. Y mae miloedd ar filoedd allan o waith, ac wrth reswm, cynifer a hyny yn dyoddef yn enbyd o'r herwydd. Nid oes fawr argoel gwella ar bethau chwaith, a myn rhai haeru fod pethau yn gwaeth- ygu yn lie gwella. Gobeithio er hyny y daw masnach yn well bob yn dipyn. Sonir y bydd miloedd yn myned or ddinas hon i Washington un o'r dyddiau nesaf er ceisio dylanwadu ar y Senedd- wyr yno i beidio pasio y Wilson Bill, ond dyna sydd yn fy nharo i a syndod paham y gostyngwyd y cyfiogau yn lie eu codi, fel yr addawyd, wedi pasio y McKinley Bill. Y mae genyf fi berthyn- asaau a chyfeillion yn gweithio mewn ffactries, ac oil yn Werinwyr solid, ac yn lie cael eu cyflogau wedi eu mwyhau, gostyngwyd hwynt 35 per cent mewn ychydig fisoedd! Ac felly y bu bron yn mhob math o ddiwydianau trwy y ddin- as-gostyngiad gafodd pawb yn lie cod- iad, ac os I, ad wyf yn camsynied, hon yw y dref mwyaf llaw weithfaol yn America, os nad yn yr holl fyd, ac fel y bu yma y bu yn mhob man arall trwy y wlad; fe siomwyd pawb ond y meistriaid twyllodrus, haiarnaidd a chalongaled. Oni buasai yr achos yna o dwyll ac anon- estrwydd, ni fuasai y Democratiaid meVjn swyddi heddyw; a gwnaeth yr Arlywydd Harrison help mawr i'r un cyfeiriad wrth osod gelynion y dosbarthgweithioI mewn swyddi aruchel, sef perchenog y New York Tribune, agolygydd a rhan berchj enog y Philadelphia Press, a John Wana- maker, ac eraill o'r un stoc. Yr wyf wedi clywed gan laweroedd fod y gwa- hanol manufacturers Gwerinol yn nacau cymeryd archebion am nwyddau, er mwyn lladd y Democratiaid am amser maith i ddyfod, er gosod yr holl fai ar- nvnt hwy am y tlodi mawr presenol. Buasai hynyna o'r goreu pe buasai y dos- barth gweithiol yn gallu anghofio y gos- tyngiad a gawsant ar ol pasio y McKin- ley Bill, sef y manufacturers yn cael yr holl dorth, a'r gweithwyr druain yn cael dim ond gostyngiad! Nid oes genyf deimlad da tuag at y Democratiaid, o herwydd fod gormod o Babyddiaeth yn perthyn iddynt. Nis gellir cael fawr o well- iantau o'r cyfeiriad hwnw, gan hyny nid oes a fynwyf a hi. Credwyf fod defnydd- ioldeb v ddau barti i'r werin bobl wedi darfod, gan mai Wall Street i raddau helaeth sydd yn llywodraethu y ddau, am hyny cyngorwn y werin i gefnu ar- nynt ac ymuno a rhyw barti newydd. Blin genyf fod amryw o Gymry cyfeill gar wedi ymadael a'n dinas, sef Ifor Gabe a Wm. Tudor i'r Hen Wlad; John Evans, John M. Davies, Evan Thomas a Wm. Beard i Brooklyn; Robert Owens gerllaw Pittsburg; Robert Thomas i Butte, Mon- tana; a Joseph W. Hughes i Mount Car- mel, Pa. Y maent bron oil yn dderbyn- wyr or DRYCH. Pob lwc a'u dylyno oil yw gwir ddymuniad fy nghalon. Cynaliwyd bazaar yn basement eglwys y Parch. R. T. Jones yn ddiweddar, ac er fod yr amser mor wael, bu mor llwyddianus a gwneyd mil o ddoleri yn rhydd i'r eglwys. Bydded hysbys i'r brawd Ifor Cynidr Parry y buasai wedi cael atebiad i'w ofyniadau er's tro, oni bai fod David T. Davies wedi bod yn lied wael ei iechyd. Yr ydwyf wedi gadael y peth yn llaw y Colonel i cliwilio allan.
ASHLEY, LUZERNE CO., PA.
ASHLEY, LUZERNE CO., PA. ASHLEY, PA., Ebrill IS.—Nos Sabboth diweddaf yn nghapel y T. C., darllenwyd papyr oddiwrth y Parch. H. Hughes, yn dweyd fod ei gysylltiad ef a'r eglwys fel bugail i ddarfod ddiwedd Mehefin. Pas- iwyd penderfyniad unfrydol yn taer er- fyn arno ail ystyried y mater. Deallir y bwriada fyned i'r Hen Wlad i aros. Mae pethau yn weithfaol yn druenus i'r eithaf, ac mae yn rhaid o angenrheid- rwydd ei bod yn galed ar lawer. Gobeith io y daw amser gwell yn fuan. Mae yma amryw yn wael, ac yn eu plith Edward Williams (Ned y Mynydd), ac Ellis Williams, yr hen ochr. Maent yn sal er's misoedd. Mae Mrs. John H. Evans, Mrs. John W. Jones a Mrs. John H. Jones yn gwella yn dda. Torodd Rhys Jones ei goes rai wythnosau yn ol; mae yntau yn gwella yn rhagorol. Tra yn glanhau yr eira oddiar boreh y ty lie y byrddiai, syrthiodd Owen O. Hughes dros y canllaw, a thorodd ei glun yn ddrwg iawn. Cymerwyd ef i'r ysbyty yn Wilkesbarre. Mae ganddo wraig a phlant yn Nghaernarfon. Diangfa gyfyng gafodd Owen Evans rhag myned yn aberth i gynddaredd y White Caps. Mae yr hanes am dano yn y papyrau Seisnig yn rhy ffiaidd i'w ail adrodd. Mae ei wraig a phump o blant yma yn byw ar drugaredd; gobeithio na flinir mo honom a sothach o'r fath byth mwy.-Paroo.
Cyhoeddiadau Brodyr Dyeithr…
Cyhoeddiadau Brodyr Dyeithr Trwy Gylch Cymanfa Ohio. Ar gais Cymanfa y T. C., Ohio, dy- munaf alw sylw y darllenydd, ac yn en- wedig y eyfryw bersonau o fewn cylch ein Cymanfa, yn enwedig y rhai tu allan i gylch ein Cymanfa, ag sydd wedi bod yn trefnu cyhoeddiadau i frodyr o'r Hen Wlad at y penderfyniad a ganlyn o eiddo ein Cymanfa: "0 hyn allan un trefnwr cyffredinol cyhoeddiadau pregethwyr, a fyddo yn talu ymweliad trwy gylch ein Cymanfa, y sydd; nid oes neb i ddod ar daith trwy gylch ein Cymanfa, na rhan o honi, ond trwy drefniad y trefnwr cyffredinol. Hefyd, ein bod yn anghym- eradwyo gwaith unrhyw un, neu rhai, y tu allan i'n Cymanfa yn ymgymeryd a'r gwaith hwn." Y trefnwr cyhoeddiadau trwy gylch ein Cymanfa yw Owen Jones, Pittsburg, Pa.-D. Jewitt Da- vies, Ysg.
YN GWNEYD YR OLL A HAWLIR…
YN GWNEYD YR OLL A HAWLIR IDDO. Un or amgylchiadau rhyfeddaf a ddyg- wyd i sylw y cyhoedd yw hanes Mr. J. S. Beach o Stone Ridge, N. Y., yr hwn am flynyddau a ddyoddefai oddiwrth geryg yn yr elwlen. Yn gynar yn Awst dar- bwyllwyd ef i roddi prawf ar Dr. David Kennedy's Favorite Remedy. Erbyn y 15fed o Fedi cafodd ymwared o gareg o gryn faintioli, ac mae wedi bod yn iach byth wed'yn. Nid esmwythbair yn unig yw Dr. David Kennedy's Favorite Rem- edy, ond effeithia yn uniongyrchol ar y gwaed, gan ei buro o sylweddau llygrol, a dadansodda geryg yn yr yswigen a'r elwlod. Mae canoedd yn dwyn tystiol- aeth i'w effeithiolrwydd. Adeilada y cyfansoddiad lluddedig. Ar werth gan yr holl gyfferwyr.
IACHAU CUR PEN.
IACHAU CUR PEN. Fel meddyglyn at bob math o Gur Pen, mae yr Electric Bitters wedi profi o'r fath oreu. Effeithia wellhad parhaol, ac mae y cur pen mwyaf blinderus yn diflanu o'i flaen. Anogwn bob dyoddefydd i brynu potel a rhoddi prawf teg arno. Rhydd vr Electric Bitters nerth i'r coluddion; a gorchryga rwymedd arosol. Cym- erwch ychydig boteleidiau. Poteli mawr fifty cents, gan J. H. Sheehan & Co., Utica, N. Y., a chyfferwyr yn mhob man.
Gweision a Morwynion Cymru.
Gweision a Morwynion Cymru. MRI. GOL. Nid wyf yn adwaen y ddau foneddwr ysgrifenodd i'r DRYCH dan y penawd uchod, eto credwyf yn gadarn mai y Parch. R. H. Evans, Cambria, sydd agosaf i'w le yn nglyn a sefyllfa 11awer o weision a morwynion amaethyddol Cym- ru, a gallwn brofi hyny, gan ein bod wedi gwasanaethu blynyddau i amaethwyr yn, Nghymru. Gadawsom Gymru yn 1883. Ymddangosai arwyddion gwelliant mewn manau, ond yn fwy araf o lawer nag y dymunai amryw fel fy hunan. Ein hys- tafelloedd cysgu, gan amlaf, fyddai uwch- ben y ceffylau, y gwartheg, neu uwchben yr hofal lie cedwid y troliau. Cysgais lawer tymor yn y fath ystafelloedd; felly yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru. Gwelais y morwynion yn gweithio allan gyda y dynion ar lawer If arm, yr hyn na ddylasai gael ei oddef. Meddylier am ferch ieuane yn gyru gwedd o geffylau ar hyd y dydd i lyfnu y tir yn y gwanwyn, yr hyn sydd yn waith caled i ddyn i'w gyflawni! Gwir a ddywed Mr. Evans am y ddau fwrdd. Ie, llwydaidd iawn yw yr hyn a osodir o flaen y dynion ar lawer bwrdd. Mae yn wir fod eithriad- au yn hyn fel pobpeth. Gallem enwi llawer o ffermydd yn Eifionydd, y gwyddom yn brofiadol am danynt pe bae angen yn galw. Yr eiddoch, Jellico, Tenn• E. W. PRITCHARD.
Aelod Peryglus.
Aelod Peryglus. MRI. GOL.: Y mae rhai gohebwyr Cym- reig yn dangos ysbryd tra dialgar ac an foneddigaidd, eto dywedir wrthyni fod ein cenedl y fwyaf oleuedig, efengylaidd a moesol o bawb. Os ydyw gohebwyr yn crynrychioli y genedl gall y dyn mwyaf arwynebol weled nad ydyw yr honiad o uchraddiad yn ddim ond honiad. Er ein holl freintiau crefyddol a'n manteision moesol, gwelir prawfion amlwg fod llu- aws o ohebwyr yn ymhyfrydu mewn ym ostwng i wneyd defnydd o foddion pwdr er cyraedd amcanion pwdr, a rhai o hon- ynt yn aelodau eglwysig, ac efallai yn meddwl fod ganddynt ran yn addewidion Dw. Nid peth i'w gredu a'r pen vn gymaint ag a'r galon yw crefydd, nid system i'r meddwl ond egwvddor i'r fuch- edd ydyw. Os nad ydyw yn ymddangos yn v fuchedd, nid yw yn werth ei har- ddel. Y peth a dynodd fy sylw at y pethau hyn yn awr yw gwaith rhyw "Aelod" yn y DRYCH am Ebrill y 5ed, yn cyfeirio gofyniad at y Parch. R. S. Jones, D. D., Providence. Yr wyf yn byw mewn Tal- aeth arall, ac nid ydwyf yn gwybod dim am y ffeithiau, ac nid a hwy y mae a fyn- of, ond a'r egwyddor sydd tu ol iddynt Pa ryddid sydd gan ohebydd i gyfeirio ei ofyniadau at neb ond at y golygydd'^ Digywileidd-dra yn unig yw dwyn enw dyn o flaen y cyhoedd heb ei ganiatad. Nid boneddigaidd cymeryd mantais fel hyn ar Dr. Jones. Pe anrhydedd yr en- wad, lies y Cyfarfod Chwarterol, ac awydd am oleuni ar y pwnc oedd yr am- can ganddo, cymerasai ffordd mwy hyn- aws, caredig, at gyraedd yr am can hwnw. Y peth ddylasai wneyd oeddysgrifenu yn gyfrinachol at Dr. Jones, gan amgau stamp am atebiad, ond ni wnai wrth hyn frathu ei saeth i galon brawd. Dyna oedd ei amcan. I'r amcan hwn v mae am ddefnyddio Dr. Jones. Gan taw beth oedd amryfusedd y brawd diarddeledig nid oedd yn fwy na phechod yr aelod peryglus hwn, a dylai hwn hefyd gael ei osod ar y maes nes. gwy bod a gwnevd pethau gwell. Aelodau fel hwn sydd yn damnio ein heglwysi. Ni fydd heddwch na llwyddiant nes cael gwared ar bob un o honynt. Yr eiddoch, LLAIS 0 OHIO.
Clwb Gwerinol Dinas New York.,
Clwb Gwerinol Dinas New York., MRI. GOL.: Da genym weled fod Clwb Gwerinol Cymreig y Ddinas Ymerodrol yn dal ei dir, ac yn ychwanegu 'cryfder yn barhaus. Cynaliwyd cyfarfod nos Sadwrn, Ebrill 7fed, ac yn absenoldeb pedwar o lywyddion llanwyd y gadair gan y brawd D. D. Hughes, a chymer wyd lie yr ysgrifenydd (yr hwn oedd yn absenol o-herwydd afiechyd) gan y brawd Hugh Evans. I Buddiol i swyddogion y Gymdeithas hon, fel pob cymdeithas ar- all, fyddai cofio mai gwaith eu swydd sydd dderbyniol, ac nid bod yn swyddog- ion mewn enw yn unig. Nid oes dim yn fwy o niwed i lwyddiant unrhyw gym- deithas na bod ei swyddogion yn anffydd- Ion a llusgedig. Mae pwyllgor wedi ei nodi yn bresenol i drefnu ar gyfer pob cyfarfod, a chredwn y bydd i'r brodyr hyn ofalu am eu gwaith yn ffyddlon, ac y ceir cyfarfodydd gwerth i fod ynddynt yn y dyfodol. Da genym ddeall fod am ryw o r Americanwyr yn cynyg eu gwas- anaeth mewn cyfarfodydd dyfodol. Ceir ambell Gymro yn ddigon cul ei farn i feddwl fod yr Americaniaid yn edrych i lawr arnom pan yn ffurfio cymdeithas wleidyddol genedlgarol, yr hyn sydd gamgymeriad. Nid ydym yn llai dinas- wyr am ein bod yn caru ein cenedl; yn hytrach edrychir yn isel ac amens ar y dyn nad yw felly. Bydded i Gymry New York a'r cylchoedd ymfyddino gyda eu gilydd fel y gallont ddod allan ddydd y frwydr ac ymuno a byddinoedd eraill i ddarostwng anghyfiawnder bosyddiaeth sydd yn ffynu yn ein mysg. J. T. J. New York.
Parson Price a'i Symphony.
Parson Price a'i Symphony. MRI. GOL.: Dyddorol iawn ydyw gwaith y cerddor gwir alluog J. W. Par son Price o New York yn ymdrechu cael allan rai cerddorion Cymreig sydd wedi cyfansoddi symphony i'r offerynau. Y mae Mr. Price i'w esgusodi yn ei berth ynas a mi, gan na wyddai fy mod wedi cyfansoddi un. Yr achos i mi gyfan soddi symphony oedd hyn: Pan oedd Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd) yn gyfrifydd yn Chwarel Bryn Eglwys, byddem ein dau ar ol noswylio yn myned i ochrau y bryniau i ddiwvllio ein hunain yn y gelfyddyd gerddorol. Treuliasom lawer o oriau yn hynod hapus yn y modd hwnw. Yr oedd ef yn chwareuwr med- rus ar yr harmonium, a chan fod genyf un byddai yn dra mynych yn dod i'r Beu- dy Bach, lie yr oeddwn yn byw, i chware rhai o Symphonies Handel, Mozart a Haydn. Dyna y meddylddrych cyntaf i mi o berthynas i Symphony. Wedi rhai blynyddoadd o astudio caled ar hanfod gwir gerddoriaeth, yn neillduol ar han- fod Symphony, yn y radd uchaf ami, penderfynais gyfansoddi un. Y testyn i'w weithio allan ynddi oedd, Caethiwed a Rhyddid (Slavery and Liberty). Wedi ei gorphen, y peth nesaf a wnaethym oedd myned a'r Symphony at Rowland Davies (Orlando), organist Machynlleth, ond er ei fod ef yn un o brif chwareuwyr Cymru ar y pryd, profodd y Symphony yn rhy galed iddo, felly gadewais hi iddo i'w hastudio a'i harfer ar y pipe organ am ychydig wythnosau. Pan wedi ei meis troli yn drwyadl, cefais air oddiwrtho vn gorchymyn i mi fyned i Machynlletb, ei fod yn barod iddi. Aeth amryw o honom i'r eglwys, ac aethym i a John Davies, tad Orlando, at y Bwrdd Crist, mewn trefn i glvwed yr organ fawr yn well. Cymerodd i Mr. Davies ugain mynyd i'w pherfformio. Aeth trwyddi fel y cyfansoddais hi, a phrofodd fod yn- ddi fwy o greadigaethau nag a feddyliodd y cyfansoddwr. Yr oedd y Symphony yn profi gallu yr organ fawr a'r chwareuwr hyd yr eithaf. Y mae y Symphony genyf, a chyfan- soddais ddwy eraill yn ddiweddar. Bu- asai yn dra dymunol genyf argraffu y tair Symphony, yn nghyda Requiem a gyfansoddais ar ol Gwilym Gwent, yr hon oedd yn un o'r tair oreu allan o saith yn nghystadleuaeth Scranton beth amser yn ol; hefyd amryw o Anthemau, a'r Gantawd a anfonais i Eisteddfod fawr Chicago. Ond o ddiffyg arian i ddwyn y draul nis gallaf ar hyn o bryd. Pe bai cerddorion America yn rhoi gwahoddiad i mi i ddarlithio ar gerddoriaeth gwnai lawer o help i mi. Pa fodd bynag, teim- laf yn ddiolchgar i'r cerddor galluog o New York am ei waith yn nodi allan Gymry fel rhai galluog i fyned i gysegr santeiddiolaf cerddoriaeth, a chynyrchu rhywbeth sydd yn werth ei wrando. Yr eiddoch, J. WHITTINGTON (loan Cadfarch). Horeb, Venedocia, 0.
Ysgrifau Cymro Gwyllt.,
Ysgrifau Cymro Gwyllt. MRI. GOL.: Hoff iawn genyf ddarllen erthyglau y gohebydd pybyr, Cymro Gwyllt, Lerpwl. Gwladwr diofn, ydyw ef, heb redeg i eithafion dros un blaid wleidyddol. Cawn yn gyffredin y ddau du dalen ganddo; ac heblaw hyny, medd lygad eryr i weled drwg o bell. Y mae hefyd yn gyfoethog o iaith eglur i osod ei feddwl allan yn ddealladwy. Ystyriwyf y Cymro Gwyllt y gwarchodydd (couser- vative) rhagoraf yn mhlith gohebwyr yr Hen Wlad. Efe ydyw Morien y Gogledd; ond fod ei ewinedd yn fwy blaenllym nag eiddo Morien, ac ar adegau yn myned yn ddyfnach i'r cnawd, nes peri i'r dyoddef- ydd achwyn a grwgnach yn ofnadwy. Bydd yn dda genyf ddarllen ei gyngor- ion gwerthfawr i'r cyngreirwyr i beidio rhoi gormod o ryddid a rhaff i'r Gwydd- elod. Twyllodrus yw Pat. Gobeithio y parha y Cymro i anfon newyddion polit icaidd yn ami; mae yn fyr, blasus, ac i'r pwynt: Y Cymro Gwyllt dan goron wellt, Sy'n gollwng mellt o'i gawell; Gwell yw i'r bardd i arfer pwyll, Modd didwyll i'r ddiadell. Gwr call yw'r Gwyllt a'i gyngor doeth, Sef lienor coeth Llynlleinad; Peryglus edliw gwaeledd heb Sirioldeb y Siluriad. Os. gwylio mae wrth oleu dydd Y cyfryw sydd yn crwydro. Traws goblyn yw i'r cybydd gwael Sy'n ofni cael ei gneifio. Ac nid oes rhagrith yn ei lith, I'r Brython brith gymeriad; Caiff Pat a Shon ei ddiren ddwrn Am ffrwydro ffwrn offeiriad. Dysgleirdeb hardd ei glorian wych Geir yn y DRYCH mor fynych; Mae'n dangos rhagrith corach certh, Fel sog diwerth ei gynyrch, RICHARD JONES (Bardd Gwyn). Watertovm, TFi-s.
Iforiaeth yn America.
Iforiaeth yn America. MRi. GOL.: Yn y dyddiau presenol y mae yr hen Urdd Iforaidd yn ein gwlad fabwysiedig yn cael llawer iawn o Gym- ry a'u plant i ymuno a hi yn adnewyddol. Yn Nyffrynoedd y Wyoming a'r Lacka- wanna, Pa., y mae ugeiniau os nad can- oedd, wedi ymuno a hi yn ystod y mis- oedd diweddaf. Dylai bob Cymro drwy ein gwlad fod yn Ifor, ac felly yn bleid- iol i ddwyn nodweddion da yr hen genedl Gymreig i sylw y gwahanol genedloedd sydd o'n cwmpas. Symuded ein cenedl yn mhob man i sefydlu cyfrinfaoedd new- yddion ac i gasglu v Cymry at eu gilydd i'r amcan uchod. Nid oes yr un cyfrwng yn fwy effeithiol i gael Cymry y Talaeth- au at eu gilydd na'r Urdd Iforaidd. Gall noddi ein hiaith, puro ac eangu llenydd- iaeth Gymreig, a dwyn defodau ac hen arferion teilwng ein cyn-dadau i fri a defnyddioldeb mawr yn ein mysg yn y wlad hon. Ymddengys i ni nad yw yn unol a rhagluniaeth fawr y nef i'r iaith Gymraeg farw yn fuan. Y mae iddi waith i'w gyflawni cyn myned i'w bedd, ac amlwg yw fod yr ysbryd Cymreig i'w gadw yn y byd am oesoedd eto yn y dy- fodol. Y mae rhyw ysbrydoliaeth fel pe yn cynyrfu y genedl yma ac yn Hen Wlad ein tadau i gredu fod yn rhaid i ni fyw fel cenedl i amcanion neillduol am oes- oedd lawer yn hanes dyfodol y byd. Da gan bob Ifor fod y DRYCH yn rhoddi col- ofn i Iforiaeth pan fydd ei hangen, ac yn wir y mae bywyd hir a llwyddianus y DRYCH yn myned yn mhell i brofi i bob Cymro fod yn rhaid i Iforiaeth, llenydd- iaeth a iaith y Cymro fyw yn hir cyn y gwel y nef yn ddoeth iddi anadlu ei han- adliadau olaf. Nid gwiw edrych na gwrando ar Die Shon Dafydd a'i blant. Gall Iforiaeth, ac arferion da y Cymry ac iaith y DRYCH fyw yn eithaf da heb- ddynt. Uned pawb Cymry teilwng i bleidio y cyfryngau sydd genym i gadw y genedl yn fyw. IFORWYN. Scranton, Pa.
CERDDORFA MEWN ADDOLDY.
CERDDORFA MEWN ADDOLDY. Symudiad yn yr lawn Gyfeiriad yn Eglwys Gynulleidfaol Coaldale, Pa. COALDALE, PA., Ebrill 10.—Bydd ynos Sabboth cyntaf yn Ebrill yn un a hir gofir yma fel yr amser y dygwyd i fewn i'r gwasanaeth cyhoeddus yn eglwys y Parch. D. J. Jones, berorfa (orchestra), yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr i ganiad- aeth y cysegr. 0 hyn allan bydd chwech o offerynau yn chware gyda'r organ yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Trueni fod cynifer o ddynion da mor ddall a chym- eryd eu camarwain, fel ag i amcanu ni- weidio hen eglwys mor barchus ac nior llwyddianus ag eglwys Gynulleidfaol gyntaf Coaldale. Maddened yr Arglwydd iddynt am eu gweithredoedd angharedig. Y mae yr eglwys hon yn fwy llewyrchus heddyw nag y mae wedi bod erioed; ac mae y mudiad newydd yma yn myned i orlenwi yr adeilad. Aed i$700 o ddyled i wneyd gwelliantau ar y capel, ac y mae symudiad ar droed i dalu y cwbl mis Me- hefin nesaf; yna y mae y bobl ieuanc yn bwriadu cael basement hardd o dan yr holl adeilad, er cael lie i gynal eu gwa- hanol gyfarfodydd. Nid yw yr eglwys hon yn byw ar gardod, eithr yn cynal ei gweinidog ei hun. Seisneg ydyw y gwas- anaeth yn hollol. Mae y bobi mewn oed yn aberthu, os aberth hefyd, iaith er mwyn y dorf o bobl ieuane sydd yma. Dichon nad oes yr un gynulleidfa o'i rhif yn meddu ar gynifer o bobl ieuainc, tua 175 neu 200, yr hyn sydd i'w briodoli i'r ffaith fod i'w hangenion wrandawiad; a chan fod Coaldale yn lie mor obeithiol am y dyfofiol, digon o lo am gant a han er o flynyddau, er fod yr eglwys tua 25 mlwydd oed, nid yw eto ond yn ei bab- andod. A'r hyn sydd yn coroni y cwbl ydyw fod y bobl mewn oed sydd wedi dal pwys a gwres y dydd yn meddu ar ysbryd llawn mor anturiaethus a'r bobl ieuanc, fel y mae yma berffaith undeb a chydweithrediad. Llwyddiant iddynt yn eu holl ymdrechiadau.-Bryniog.
Advertising
$100 GWOBR. 11100 ( Bydd yn dda gan ddarllenwyr y DRYCH gael c. gwybod fod gwyddor wedi darganfod ffordd i c c iachau o leiaf un anhwyldeb peryglus, sef Ca- g tarrh, yn ei wahanol raddau. Hall's Catarrh j Cure yw yr unig foddion hollol effeithiol i wneyd hyny. Afiechyd cyfansoddiadol ydyw, a rhaid 3 cymwyso triniaetn gyfansoddiadol ato. Cym- erir Hall's Catarrh Cure yn fewnol, effeithia yn uniongyrchol ar y gwaed ac arwynebedd llys- nafeddol y corff, nes caffo y dyoddefydd nerth i i gynorthwyo natur i weithio y drwg allan. Mae ( gan y perchenogion y fath ffydd yn ei rinwedd- an meddyginiaethol fel y cynygiant Gan' Dolar am unrhyw achos a fethodd iachau. Anfonwch ] am restr o dystiolaethau. Cyfeirier— i E. J. CHENEY & CO., Toledo, O. r KS^Ar werth gan gyfferwyr, 75c. c
- RilWIVG IflFKIF A CHWARE.
RilWIVG IflFKIF A CHWARE. ADNODAU CADWALAD. NID yw y dyn fuasai yn gwneyd fel ar fel, pe buasai ef yno, byth yn cyraedd yno. -Y mae pobl na roddant eu hymddir- ied yn yr Arglwydd hyd nes y collant bawb a phobpeth arall: -Gall y gwr wneyd cryn lawer o breg- ethu ar gynildeb, ond y wraig sydd yn ei ymarfer. -Cofier fod genym amrantau yn ogys- tal a llygaid. -Gwell yw priodi pechadur gweddigar na sant pregethwrol. -Os bu i chwi bigo ffon gam a cheinc- iog peidiweh dweyd hyny wrth bawb. -Pan mae dyn yn benthyca gofid bydd yn garedigrwydd ynddoi beidio ei ddych- welyd. -Os oes dyn ar y ddaear y tyna y diaf- ol ei het iddo, y rhagrithiwr ydyw hwnw. Er ei holl ymarferiad nid yw y diafol wedi rhagori ar ei ymgais gyntaf o wneyd rhagrithiwr. -Dywedir fod gan gyfoeth adenydd- nid ydym wrth hyny i dybio mai angel ydyw, a'i addoli. —Llawer dyn glywir yn gweddio am arweiniad yr Arglwydd wrth fyn'd i'r cwrdd gweddi, ond sydd yn goddef i'r diafol ei arwain wrth iddo fyn'd i fotio. -Nid yr hyn y mae dyn yn ei wybod, ond y modd y dywed yr hyn y mae yn wybod sydd yn penderfynu ei alluoedd. -Pe bwrid yr holl gythreuliaid o am- bell ddyn ni byddai yn aros ond croen ac esgyrn. POEL A PHETHAU YN WEST PULLMAN, ILL. R. O. sy 'n fyr ar ei hyd-ar ei draws 'Does fawr o drwch hefyd; v Ond yn ei ben dyna y byd Yn y ddalfa gan feddylfryd.—IF. W. Jones. I'r Tudno House- Gwelwch, dyma Dy Gwalia-i edrych Am Deudraeth pawb droa, Am de ffyrf, ham, uwd a ffa, A phwdin byth ni pheidia.- W. W. J. Atebiad- Trwy ein goror hwn yw'r gore-i gymrawd Da ] gamrau mae 'n gartre: Odiaeth yw lluniaeth y lie, Fe etyb i bawb fwyte.—Deudraeth. ER's talm byd yn ol vmffrostiai y fam hagraf yn ardal y Cefnmawr, "fod gan- ddi y genet hod prydferthaf yn yr holl wlad;" a phan y gofynai rhywnn iddi sut yr oedd cyfrif am hyny. yr ateb parod fyddai, "0, tydio'ii rbyfeddod yn y byd—plant y gauaf ydyw blodau propa'r flwyddyn-y snowdrops." —Mae yn Llanbedr dafarn sydd wedi cynyrchu pedwar parson, meddir. 'Does ryfedd, medd y Cymro, fod y frawdol- iaeth yn Llanbedr gymaint en haiddgar- wch! —Y Brycheuyn a'r Trawst: Lamp ydyw dyn i'w gamp ei hun, A dall i gamp ei gyfaill: Ond dall yw dyn i'w fai ei hun, A haul I feiau eraill; Mae gan y dyn drefn i gadw ar ei gefn Ei feiau ei hun o'r golwg: Ond gesyd yn fwyn ar gamedd ei drwyn, Fai arall yn eithaf amlwg. -O'r Ffrancaeg. CLWY'R BREKIX.—Yn bresenol dyodd- efa pobl arfordir Gogledd Cymru oddi- wrth yr anhwyldeb hwn. Mae Cyngor Trefol Caernarfon wedi penderfynu cael gynau duon i'w gwisgo er rhoddi croes- awiad i'w "Royal Highness." Budadi lied ddoniol ar y pwnc. Yr oedd Gwyn- eddon, Dr. Parry, W. J. Williams a J. R. Hughes y 11 gryf yn erbyn y "gynau." Yr oedd Mr. Davies am adael igorffor- aethau ieuainc fel Bangor fwynhau y fath frivolities. Yroedd Mr. garter yn erbyn i Fangor ddangos allan yn well na Chaernarfon. Teimlai J. R. Hughes yn foddlawn iawn i'r gorfforaeth gael gowns os gwnai y maer dalu am danynt fel ag y talodd y Milwriad Platt am robes cor- fforaeth Bangor. "Ie," atebai Mr. Car- ter, "a chael ei gicio allan wedi hyny." Wel, beth bynag, ar ol tipyn o hwyl, pasiodd y cyngor fod gown i gael ei wisgo, a phawb i dalu am ei own ei hun- an. LLYFFETHEIRIO Y BARDD.—Barnai G. Cowlyd fod Awdl Gurnos yn Eisteddfod Pontypridd ar "Pwlpud Cymru,"#yn rhagori ar eiddo y buddugwr "lawer o raddau." Ymddengys fod Gurnos wedi boddio yr hen Gowlyd yn fawr trwy ganu ar y "Pedwar Mesur ar Hugain;" ond "crogi neb wyr," chwedl y Celt, "pa feddylddrych barddonol nac arall sydd yn y dernyn hwn: Pan'n dwyn poen du! Och! gwyn ach gu Bro fwyn! Briwfu, berw far, Gwlad mel, glod maith, Trwy'i sel tros iaith, Loew wel haelwaith, Walia war. Mae yn hen bryd i alltudio mesur fel hwn i ddiddymdra bythol. Nid bai Gur- nos yw tlodi y penill. eithr bai y mesur gormesol sydd ynddo." CYNGOR W. W. ROWLANDS I'R DIOTWR. Atal, atal ddiotwr-rhyw wastraff, Ymrestra "n ddirwestwr; A gwel lob, mai gwell gwlybwr Yw dros dy safn, ddafn o ddwr.
BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. Oriel y Beirdd. Yn wir y mae cywrain Oriel—y Beirdd Yn waith byw aruchel; Tyn ei maint awen a"i mel O'r urdd i'w chywir arddel. Oshkosh, 1Vis. EDNO
Y Gobeithlu.
Y Gobeithlu. Dan faner y Gobeithlu Ymrestrwn oil yn awr, Er vmlid meddwdod erchyll Ar ffo mewn dychryn mawr; Y gelyn fu'n anrheithio Ein gwlad a'r byd yn hir, Gan luoedd y Gobeithlu A gwympir trwy ein tir. Cydgan-Pryd hyny crechwena y ddaear. A llenwir y nefoedd uwchben A swynol anthemau gorfoledd, 0 gwawried y boreu. Amen. Hardd flodau'r oes sy'n codi, O. planer hwy yn awr, Yn nghardd bersawrus dirwest Fel bo en swyn yn fawr; Na foed i lygredd pechod, Na meddwdod hyll ei gwedd, Anrheithio eu prydferthwch, Na'u mynwes, chwaith, o hedd. Neivburg, 0. REES D. LEWIS (Drysiog)-
Ymddygiadau Gwrthun.
Ymddygiadau Gwrthun. MRI. GOL.: Dywenydd genyf fod cof- nodion da gan amryw o ohebwyr o New Rockland, Canada, wedi ymddangos o dro i dro yn eich newyddiadur, a diau fod yn hyfrydwch gan laweroedd fod pethau mor dda yn cael eu dweyd am Gymry yr ardal hon; ond mae rhai pethau yn cael eu gwneyd gan Gymry yma, fel mewn lleoedd eraill, nad yw yn hyfrydwch eu hadrodd, eto, fel pethau ag y dylid eu gochelyd, ac er dangos atgaswydd tuag atynt, mae yn rhaid eu cyhoeddi ar yr uchelfanau. 1. Mae yr arferiad o redeg i ddyled a chymeryd "y goes" er peidio talu yn bethrhy gyffredin er's bfynyddau. Mewn cydmariaeth i rif y Cymry mae y dos- barth yma ynamlach nag mewn unrhyw ardal ag yr wyf yn wybyddus am dani. Mae amryw o fasnachwyr wedi cael llosgieu bysedd yn gy wily ddus ganddynt, Collodd un gymaint a$500 mewn un flwyddyn. Ymddengys oddiwrth ym- ddygiad rhai o honynt eu bod wedi arfer a gwneyd y troion isel hyn yn mhob ar- dal ag y buont yn trigo, ac mae'n debyg eu bod yn bwriadu cario yr arferiad yn mlaen mewn ardaloedd eraill os gallant. Maent wedi myned i edrych arnynt eu hunain fel rhai smart wrth. eu cyflawni. Mae yn ofidus meddwl fod cynifer o ddynion ieuainc yn mabwysiadu yr arfer- iad isel ag sydd yn un o'r pethau gwaeth- af er tynu uniad cymdeithas i lawr, a dwyn gwarth ar ein cenedl. Gobeithio y bydd i fasnachwyr mewn ardaloedd er- aill fod a'u llygaid ar y cyfryw rai. 2. Meddwdod.-Mae Sir Richmond, yn yr hon y mae New Rockland, wedi mab- wysiadu y ddeddf waharddol er's blyn- yddau, ond fel yn mhob Sir a Thalaeth wa- harddol arall mae y ddeddf yn cael ei thori yn llechwraidd gan lawer o Gymry. Gofidus yw meddwl nad oes ond nifer fechan o gladdedigaethau yn cymeryd lie heb fod rhywrai yn taflu anmharch ar gyfraith y wlad a gweddillion y meirw. Da genyf ddeall nad oedd neb yn euog o ymddwyn felly yn yr angladd diweddaf. Mae yn wir fod yr amgylchiad galarus wedi cymeryd lie mewn teulu sydd yn meddu y dylanwad mwyaf yn yr ardal; ond dylid cofio nad yw natur nac angeu yn talu mwy o barch i neb na'u gilydd, ae fod cyfreithiau y wlad, yn nghyd a rheswm cyffredin, yn gofyn i bob un gael yr un rhyddid a'u gilydd. Yr oedd un angladd diweddar yn fwy torcalonus na'r cyffreclin-mam ieuanc yn cael ei galw ar enedigaeth un bychan, gan adael plentyn arall gwanaidd tua dwy flwydd oed. Eto yr oedd rhai Cymry cyn dychwelyd ad- ref wedi ymddwyn mor isel a thori deddf y wlad a dangos mwy o barch i Bacchus nag i'r ymadawedig! Mae ymddygiadau o'r fath yn arddangos ysbryd trahaus, a phe caffai y cyfryw rai y cyfleusdra bydd ent yn fath o deyrn mewn cymdeithas. Yr eiddoch, UN O'R ARDALWYR. New Rockland, Canada.
Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr.
Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr. MRI. GOL.: Cofied y brawd Dafydd Morganwg mai am gondemnio y llinell "Cyrhaeddfawrallugreddfol" yr achos- wyd y nodiadau yn y DRYCH. Amcanodd dau frawd o Wilkesbarre brofi drwy gymorth yr rsgol Farddol ei bod yn gywir, a chyfeiriasant fi at yr "Ysgol," gan nodi y tudalen, &c. Wedi ufuddhau i'r gorchymyn pendant hwn troais i ed- rych, a dyma ddywedir: "Y goddefir i gydsain galed gynorthwyo un feddal i fod yn gyfartal o ran sain i'w pherthynas galed," ac un engraifft a roddir yw, "Rhua crefydd rhag rhyfel-rh yn helpu g i ateb c," a dyna'r unig esboniad a rodd- ir ar y llinell. Yn awr gofynaf a ydyw yr uchod yn esboniad digonol? Na, prawf y camsyniad a wnaeth y ddau frawd o Wilkesbarre nad yw. Gwelwch nad yw y llinellau a ddyfynir yn y DRYCH yn cy- ffwrdd ar y gynganedd yn yr agwedd sydd arni yn y llinell a gondemniais. "Rhua crefydd rhag rhyfel" yw yr unig linell to the point, a chyfaddefaf nas gall- aswn i byth ddeall y gynganedd oddiwrth yr esboniad a roddir arni, gan na ddy- wedir dim am allu yr h yn caledu yr g. A chaniatewch i mi nodi allan yr hyn a ystyriaf yn wall pwysig yn y fan hon. Yn ol "Cyfrinach y Beirdd" gosodir y gynganedd hon i lawr fel rlieol, ond yn yr Ysgol Farddol dywedir mai goddefiad yw, ac nid oes eisieu i mi eich hadgofio fod gwahaniaeth dirfawr rhwng goddef- iad a deddf; a gwn y caniatewch hefyd i mi ddweyd eto mai Cyfrinach y Beirdd ydyw yr awdurdod uchaf ar y pwnc. Drwg genyf am yr awgrym ar ddiwedd llythyr D. Morganwg fy mod yn canmol un llyfr "ar draul sarhau a chamgyhuddo llyfr arall." Os mai felly y deallasoch fy nodiad, gallaf eich sicrhau nad oedd dim yn mhellach oddiwrth fy meddwl ar y pryd. Teimlaf yn bersonol rwymedig a diolchgar am yr help a gefais wrth draed yr athraw hwn, ac nid oes unrhyw lyfr wedi bod o gymaint gwasanaeth i feirdd ieuainc a'r Ysgol Farddol. Nid oes eis- ieu ei chanmol, ac y mae uwchlaw gallu neb i'w drygu. Yr eiddoch yn frawdol, Hem sen, N. I": EFROG.
BYR EBION 0 RACINE, WIS.
BYR EBION 0 RACINE, WIS. RACINE, Ebrill 16.-Ymwelodd Miss Rosina Davies a ni eilwaith ar ei dych- weliad o eithaf y Gorllewin. Pregethodd nos Fercher yr lleg cyfisol, yn addoldy yr A., a nos Iau, y 12fed, yn eiddo y T. C., i gynulleidfaoedd mawrion. Y nos Wener dylynol cafwydcyfeillach un- debol o'r ddwy eglwys Gymreig. Cym- erai Miss Davies yr arweinyddiaeth; ac yr oedd mor fedrus a chartrefol gyda'r gorchwyl a phe buasai yn weinidoges brofedig. Cafodd ei hymweliad ddylan- wad daionus arnom; a dymuniad cyff- redinol iddi yw—"Dring rhagotyr efeng- yles; dyrchafa dy lef trwy nerth;" nerth corff ac iechyd-nerth meddwl a dylan- wad. Dychwelodd y Mri. James R. Morris a W. M. Williams, o dwym-ffrydiau Mon- tana, wedi derbyn gwellad ac adnewydd- iad calonogol. Bydded yn barhaol felly iddynt. Dydd Sadwrn diweddaf ymadawodd Edward Parry am Gymru, gan fwriadu treulio gweddill ei oes yno. Erys gyda pherthynasau iddo yn nghymydogaeth Colwyn, G. C. Treuliodd yr hen gym- rawd dros ddeugain mlynedd yn y wlad hon. Er iddo gyfarfod ag anffodion, ] lhvyddodd i gasglu digon o'r hyn a ddy- ( nodir yn 'gysgod" tymorol. Ni chred- i odd yr hen gyfaill yn ymarferol mai "gwell yw dau nag un."—Syllog.
Anerch Priodasol.
Anerch Priodasol. [Cyflwynedig i Mr. David R. Roberts a Miss Alice A. Hughes, Utica. N. Y.] Hir oes o ddedwydd hyfryd haf A gaffoch yn y byd, A heulwen glir Rhagluniaeth fawr Fo'n twynu'n braf o hyd; Ac os y daw rhyw awel groes I'ch rhwystro ar y daith, Cyd-dynu wneloch yn gytun, Cewch lwyddiant yn eich gwaith. O. R. WILLIAMS. Dy anerch di, fy nghyfaill hoff, A'th Alice hawddgar Ion, Ar ddydd eich oesol rwymiad Yn yr ystafell hon; Mi wela'th fod, fy ughyfaill hoff, Yn berchen geneth gun, Fe'i cest yn ngwyddfod Duw a dyn Yn eiddo i ti dy hun. Wel, cyd-dynwch dan iau bywyd Yn ffyddlon drwy eich oes, A rhyngoch chwi na fydded Dim geiriau cas na chroes: Eich llwyddiant a ddymunaf fl, Yn llawen ar bob pryd, A bydded yn eich meddiant chwi Drysorau y ddau fyd. Detroit, Mich. R. W. DAVIES (Tatafor). "Ar ol blynyddoedd o drueni o her- wydd diffyg treuliad, gallaf o'r diwedd fwyta pryd da heb i'r ymborth achosi unrhyw boen i mi," ydyw geiriau un gafodd wellhad trwy gymeryd Sarsa- parilla Ayer, am yr hyn y teimlir yn ddi- olchgar iawn. Mae y meddyglyn hwn rn cryfhau y chwant at ymborth ac yn hyrwyddo y treuliant. -Mae penofyddwyr Texas (pobl sydd m efrydu troseddau) yn honi fod cynydd lefnyddiad diodydd brag yn lie diod) 1 listylledig, wedi lleihau nifer y lladu? • tu, gan nad yw cwrw yn cynyrfù y iwydau fel whisci. Gwell peidio ymyr- rd a'r naill na'r Hall. MYNWCH YMWARED 0 UN ANWYD cyn chwi gael un arall, onide gallhadau Af- echyd Ysgyfeiniol ymlochesu yn eich ;yfansoddiad a pheryglu eich bywyd Jwell i chwi gymeryd Dr. D. Jayne's expectorant, meddyglyn effeithiol at 3eswch ac Anwyd, a mawr ei ddylanwad ir yr Ysgyfaint, a'r Pibellau Gyddfol