Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

AL&%r% als Jl1 IDrrcT)t

'---YN NGHANOL Y WLAD

. I . Y PARCH. FRED EVANS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Y PARCH. FRED EVANS, D. D. GAN Y PARCH R. T JONES, D D Philadelphia, Awst 18.—Yn barod mae dwy ysgrifell dyddorol wedi ymddangos yn y "Drych" am yr anfarwol Ednyfed, a diameu yr ymddangosa amryw eto. Wel, pa beth bynag a wnaed ac a wneir er coffa yn dda am dano, teilwng ydoedd o'r oil. Mewn llawer o ystyron yr oedd yn ddyn pur anghyffredin. Heblaw ei fod yn ymgnawdoliad o ffraethineb, yr oedd yu ddyn mawr am ei ddynoliaeth dda a'i alluoedd ysblenydd. Mae Ilawer dyn yn fawr pan yr edrychir arno o bell, ond po agosaf yr adnabyddir ef mae yn myned yn llai, ond Dr. Evans yr oedd yn fawr o bell ac agos, ac yr oedd adnabyddiaeth bersonol p hono yn dwyn ei fawredd yn fwy amlwg. Amean yr ysgrif hon ydyw sylwi arno fel cymydog am yr wyth mlynedd y bu yn Philadelphia. Am lawer gellir dweyd mai yr argraff gyntaf ydyw yr oreu, ond nid gwir. hyn am Ednyfed. Yr oedd rhywbeth yn ei ymddangosiad tyw- ysogaidd a'i wynebpryd deniadol, a thrwy hyn yn gwneyd argraffiad gogon- eddus y tro cyntaf, ac fel yr ymgydna- byddid ag ef ymddysgleiria ei gymeriad a'i alluoedd yn fyw fwy fel yr oedd yr argraff olaf yn fwy na'r gyntaf. Cofus gan yr ysgrifenydd am y tro cyntaf yr edrychodd ei lygaid ar berson Ednyfed. Y lIe ydoedd Spring Brook, Pa., ac 1869 oedd y flwyddyn, Mae llawer o flynydd- oedd er hyny, ac nid oedd yr ysgrifen- ydd ond bachgenyn ieuanc. Yr am- gylchiad oedd eyfarfofl pregethu yn y lie. Gan fod y ty gerllaw yr addoldy daeth ef a John ei frawd i'r ty i gael cwpaned o de. Nid yw yr argraff wnaeth yr amser hwnw wedi ei ddileu eto. Ar ol blynyddau lawer, y cvfarfyddiad nes- af oedd ar un o heolydd Philadelphia, pan y daeth yma i ofalu am y Tenth Baptist Church. Er nad adwaenai ef yr ysgrifenydd, eto pan y dygwyd ar gof iddo y cyfarfod pregethu yn Spring Brook ar' cwpanaid te mewn ty gerllaw i'r capel, coflai am yr amgylchiad, ac er fod cryn dipyn o wahaniaeth oedran, eto dechreuodd cyfeillgarwch a chynyddodd trwy y blynyddoedd. Er yn Pedyddiwr selog eto yr oedd ei galon yn ddigon mawr i gymeryd i mewn Bresbyteriaeth fel rhan o eglwys Dduw; o herwydd hyn amryw weithiau y cyfnewidiwyd pwlpudau. Fel cymyd- og yr oedd yn hynod ddymunol, a'i ym- weliadau bob amser yn fendithiol. Di- ameu y gwna pawb gydnabod mai nid pregethu pregeth dda yn awr ac ym y man ar hyd y wlad ydyw y prawf goreu o fawredd pregethwr. Nid gorchest- waith ydyw parotoi pregeth fawr ar gyfer Cyfarfod Dosbarth neu y Gyman-, fa; dylai pob pregethwr, hyd yn nod o allu cyffredin, fod yn alluog i hyn. Yr hyn sydd yn profl gallu pregethwr ydyw ei bregethu yn ei eglwys ei hun. Y pregethwr sydd yn fawr yn ei gartref sydd yn wirioneddol fawr. Dywed yr anfarwol Spurgeon os gall un bregethu yn gymeradwy ac yn foddhaol i'r un eg- lwys am bum mlynedd fod ynddo allu i wneyd llwyddiant o unrhyw beth yr ym, aflai ei law ynddo. Am wyth mlynedd y pregethodd Ednyfed i'r un gynulleid- fa, a hono yn gyfansoddedig o ddynion cyhoeddus dylanwadol a gwybodus; ac yr oedd yn llawer mwy pregethwr vn ngolwg yr eglwys pan ymddiswyddodd na phan y dechreuodd ei ofal gweinid- ogaethal yma. Peth dymunol iawn yd- yw gallu dweyd hyn am dano. Heblaw ei fod yn fawr yn ei eglwys, yr oedd yn fawr yn ngolwg ei frodyr yn y weinidogaeth trwy ein dinas. Mewn dinas lie mae dros filiwn o eneidiau a chanoedd lawer o weinidogion nid gorchwyl hawdd ydyw enill sylw, ond llwyddodd Dr. Evans i fod yn y blaen mewn poblogrwydd a dylanwad. Ie, cyfaill mynwesol, dyn ffraeth, gwreiddiol a galluog oedd Ednyfed, a bob amser ar ei oreu yn ceisio gwneyd daioni. Yn ei fywyd adeiladodd iddo ei hun gofadail ardderchog o furiau def- nydidoldeb a rhinwedadu cymeriad, yn sylfaenedig ar egwyddorion daguddiedig Duw yn ei air. Anhawdd ydyw credu nad yw mwyach ar y ddaear hon, ond er wedi ymadael a'r fuchedd hon, mae en- aid Ednyfed yn bodoli mewn sefyllfa ogoneddus.

HErO GrWEINIBOGrlON.

■» » » LLYFR NeWEDD IAWN.

[No title]

U WCJI FEI (LMA DA ETII.í…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.