Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
... CLEYELAND, OHIO.
CLEYELAND, OHIO. Rhyfeddodau Natur—Dwsin o Éistyllau Dwfr-Golygfa Hynod a Mawreddog. GAN D. F. LEWIS Cleveland, 0., Awst 18.—Bore dydd Iau, y 12fed, rhwng saith ac wyth o'r gloch, ymddangosodd cwmwl du, hirfain uwchben Llyn Erie a chyferbyn a'r ddinas—y cwmwl o bosibl yn ddeng milldir o hyd, ac efallai yn filldir o led. 0 dan ei ymyl pellaf yr oedd llain o ffurfafen ddysglaer, ysblenydd, a'r cwm- wl yn hwylio yn gymedrol gyfiym o'r Gorllewin tua'r Dwyrain Ddeheuol, gan ddynesu at y tir yn ei symudiad. Pan oedd y cwmwl yn ei lawn hyd o flaen y ddinas, weled linyn hirfain yn ymestyn allan o'i ymyl gan gynyddu yn ei hyd a'i braffder hyd. o fewn ychydig i wyneb y llyn. Edrychai fel simnai ddu, arswydol yr olwg, tua thair neu bedair milldir oddiwrth y tir; ac fel peiriant aruthrol sugnai y dwfr i fyny wrth y tunelli, nes cynyrfu gwyneb y llyn cwmpas erw o fesuredd i'r gwyllt- ineb mwyaf brochus. Yn syth o dan y sugniad yr oedd pant enfawr, ac hawdd ydoedd gweled y dwfr yn cael ei ruthr- gludo drwy y bibell i'r cwmwl. Yn ys- tod haner awr o amser ymddangosodd deuddeg o bistylloedd, pump o'r rhai oeddynt o faintoli dirfawr, ac yn gwneyd i fyny yr arddangosfa fwyaf synfawr a welodd pobl Cleveland efallai erioed. Yn mhlith y miloedd cafodd yr ysgrifenydd olwg gyflawn a dyddorol arbenig ar chwech neu saith o'r pistylloedd a'u gweithrediadau. Daeth dwy neu dair o honynt i dir, a daeth un o'r tair i fewn rhwng stryd- -oedd Kirtland a Coe avenue, yn erbyn a thros yr Avery Stamping Works, ac o fewn tri chant o latheni i'r fan y safai yr ysgrifenydd a'i gydweithwyr, gan ys- gubo a hyrddio pob peth oeddent wedd- ol rydd fel pla neu wellt drwy yr awyr. Cafodd afael mewn dau neu dri o ddyn- ion a rholiwyd hwy fel marbles ar hyd y tir; gyda'r eithriad o hyn ni wnaed ond ychydig o niwed, a thorodd ymdaith y spout yn fuan, gan nad oedd dim mwy ganddo i'w yfed. Cyfleodd yr amgylch- iad olygfa odidog o newydd-deb aruchel -ac er o nodwedd ddifrifol, eto yr oedd yn gynwysedig o ddigrifwch, mewn gwisg o fawredd annesgrifiadwy.
EMPOIilA, LYON CO., KANSAS.
EMPOIilA, LYON CO., KANSAS. GAN Y PARCH. J MICHAEL HUGHES. Emporia, Kas., Awst 18.—Yr ydym wedi cael haf anarferol o boeth a sych yn y cylchoedd hyn eleni; ac y mae y corn, sef y prif gynyrch amaethyddol, yn fethiant hollol. Prin hefyd yw y gwair.ac nid oes ail i ddim ffrwythau yma. Gorfodir llawer i werthu eu gwartheg (feeders) am nad oes ymborth iddynt. Aeth yr Hybarch Henry Rees a'i briod —y ddau weithian yn hen a gwan eu hiechyd—ar ymweliad a'u mab William i St. Paul, Minn. Eiddunwn iddynt ad- gyfnerthiad iechyd a dychweliad diogel i'w hen gynefin. Hefyd y mae L. W. Lewis a dwy o'i merched a'i nith fach yn Colorado er's tro, yn osgoi y gwres ac yn adgyfnerthu. Yn Canon City, Col., y mae T. D. Lewis a'i deulu yn hafu. Mae T. B. Jones a'i deulu yntau yn Eu- reka Springs, Arkansas. Hyderwn eu bod oil yn cael amser da. Dychwelodd T. H. Lewis, y cofrestrydd a'r cerddor adnabyddus, wedi cael llawer o adgyfnerthiad yn Missouri, &c. Da gan hen gyfeillion ac ewyllyswyr da Hugh H. Williams, Washington, ddeall ei fod wedi graddio yn anrhydeddus fel cyfreithwr o Goleg Georgetown, a da neillduol genym oil ddeall fod hyny wedi ateb dyben iddo eisoes, a bod y tri Cymrawd hoff o Emporia, Mri. D. L. Roberts, H. H. Williams a'ch gohebydd ffyddlon Edwin C. Jones, wedi cael taf- ell dda bob un gan Fewythr Sam. Yr ydym yn teimlo colled fawr ar ol y brawd ffyddlon Edwin C. Jones mewn llawer cylch. Ymadael am Gymru yn hen lane wnaeth Henry Griffiths, er holl swynion Kansas. Mae y Parch. Luther Rees o Texas yma ar ymweliad hefyd. Cawsom ymweliadau dymunol a phregethau da iawn gan y Parchn. D. Davies, Oshkosh, Wis.; R. E. Williams, (B.,) Llundain, Daniel Williams, Waukesha, Wis.; a'r Hybarch John Jones, cyn-weinidog y Tabernacl. Awst 5ed daearwyd yr hyn oedd farwol o'r hen gymeriad adnabydd- us Robert Thomas, Dry Creek. Gened- igol ydoedd o Bethesda, Arfon. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Salem, Dry Creek, a bydd colled fawr ar ei ol.
[No title]
■+—+ Y DIWEDDAR CANOVAS.—Ym- ddengys oddiwrth y darlun canlynol a gyhoeddwyd yn y "New York Tribune," mai dyn digon anheilwng ac anhygar oedd y diweddar Canovas: "Adwaenid ef yn Ysbaen wrth y llys-enw 'Anghen- fil.' Ymddengys fod yr enw annymunol hwn yn gymwys hefyd, oblegid o ran y corff oddiallan dywedir ei fod yn un o'r dynion hyllaf y gellid ei gwrdd. Byr, tew, oei, gyda mystash fel llwyn drain, danedd afreolaidd a duon, garw o wyneb- pryd, llygad-gam, tymer greulon a bar- baraidd, a dirmygus o'i gyd-ddynion yn gyffredinol. Y syndod yw fod dyn o'r fath wedi gallu cyraedd safle ucheled. Cydnabyddir fod ganddo dalent a phen- derfyniad.
0 LANAl YR OHIO.
0 LANAl YR OHIO. Addurno y Capel-DIelinau Alcan Newydd- ion-Y Glowyr ar Streic Myn'd a Dod. GAN RHYS T WILLIAMS Martin's Ferry, 0., Awst lS.-Yn ddi- weddar paentiwyd capel yr eglwys Gym- reig yn Aetnaville, ac ymddengys yn rhagorol oddiallan yn ei gwisg newydd; cystal, fel mae yr eglwys wedi pender- fynu ei drwsio a'i addurno eto y tu fewn, ac er talu am y cyfryw waith maent wedi penderfynu cynal cyngerdd a chyfarfod llenyddol ar nos Sadwrn, Medi 18. Mae y pwyllgor yn agos parod gyda'r program, a disgwylir cystadleu- aeth frwd rhwng y cantorion ac hefyd yr adroddwyr. Ymadawodd Mrs. D. Tamplin a Mrs. Dan Harries er sefydlu yn Locust Point, Baltimore, lie mae eu priod yn swydd- ogion yn y felin alcan. Teimlwn golled yn ein eyfarfodydd llenyddol ar ol Mrs. Karris é"r plant, gan eu bod oil yn ad- rod'Lvyr da a pharod i gynorthwyo. Mae David Llewelyn wedi ei ddyrchafu yn brif oruchwyliwr nos dros felinau yr Aetna-Standard. Gobeithio na fydd iddo anjrhofio ipwnderau y gweithwyr tra yn y swydd hon, pa rai y bu yn y ml add (.ro^tynt pan yn is-lywydd yr undeb. Llw/dét iddo yn ei ddyrchafiad. Dydd Gwener, cafwyd o hyd i ddyn yn farw ger Glofa y Gaylord. Bernir mai tramp ydoedd, ac iddo roddi ei hun i gysgu dros nos ger y Tipple, ar dome a o ysbwriel sydd a than o'i mewn.ac iddo fygu oddiwrth yr ufelai neu'r tawch sydd yn codi o'r domen. Mae Cwmni y Labelle, Wheeling, wedi dechreu tori lie pedair o felinau alcan newydd, ac wedi cytuno a Messrs. Tot- ten a Hogg, Pittsburg, am y peirianau newyddion angenrheidiol. Dysgwylir i'r pedair melin newydd fod yn barod i waith yn mhen pedwar mis, gan fod yr archebion yn llawer mwy na allant gyf- lenwi yn bresenol. Nid cystal fu llwyddiant y deintydd yn y Laughlin. Er fod y dant o'r dur gor- eu, daeth yn rhydd yn mhen pythefnos, a bu y felin bedwar niwrnod arall yn segur yn aros am olwyn newydd. Mae'r peirianau yn troi yn awr eto gyda chys- ondeb, a phob peth yn myned yn mlaen yn-dda o ran hyny. Mae cv/mni y Bellaire Steel Works ar eu hegni yn adgyweirio ac ychwanegu at eu gweithfeydd, gan ddysgwyl cael y cwbl yn barod i gychwyn yn gynar yn mis Medi. Mae gweithfeydd dur Ben- wood J 11 myned yn dda y dyddiau hyn, a dywedir fod rhagolygon am iddynt bar- hau felly. Nos Iau diweddaf torwyd ar ddystaw- rwydd y nos gan swn seindorf (tuag I o'r gloch y boreu) yn chwareu "March- ing through Georgia," a mimai o tua thri chant o fwnwyr Wheeling Creek, Barton, &c., yn ymdeithio i fyny drwy Bridgeport ac Aetnaville hyd ran uchaf Martin's Ferry, ger y Laughlin Mills, er ceisio perswadio mwnwyr y Laughlin i ddyfod allan, ac ymuno a hwynt yn y streic. Tranoeth daeth amryw ganoedd yn ychwanegol i lawr o Dillonvale, Portland a'r Gaylord, ac ofnid ar bryd- iau y buasai yno derfysg; ond yn lie hyny bu pob peth yn heddychlawn yn y wersyllfa. Mae llawer iawn o ddadleu yn nghylch y symudiad hwn o eiddo y glowyr yn ceisio cael allan lowyr fel yma sydd yn gweithio er cyflenwi y melinau yn unig. Dealler nad oes llwyth o lo o'r lofa hon yn myned i unlle ond at wasanaeth y melinau hyn yn unig; ac wrth eu hatal, buasent yn taflu dros 400 o weithwyr yn segur. Dadleuwyd gan y swyddogion dros adael iddynt barhau i weithio, ac addawsant gasglu swm oddiwrth eu holl weithwyr bob dydd tal, a chyfranu eu hunain yn gyf- artal er cynorthwyo y mwnwyr sydd all- an yn ymladd dros eu hiawnderau. Casglwyd yno dros $40 Sadwrn diwedd- af, heblaw cyflenwad helaeth o ym- borth; ond er holl ymdrech y swyddog- ion, dal yn gyndyn, a. gwersyllu yno wnaeth y fintai hyd ddydd Llun, pryd y cafwyd yr oil o'r mwnwyr allan, nes taflu yr holl felinau yn segur. Ar ol sicrhau hyn tua 10 o'r gloch dydd Llun, ymadawodd y fintai yn cael ei blaenori gan seindorf bres, am Bellaire, lie y cynelid mass meeting y prydnawn, ac er cael allan y glowyr sydd yno yn gweith- io. Y mae yma gydymdeimlad cyffred- inol a'r mwnwyr, ac estynir llawer o gynorthwy iddynt, gyda dymuno iddynt barhau yn heddychlawn ac unol hyd nes llwyr enill y frwydr a gwella eu hamgylchiadau drwy gael tal priodol am eu llafur. Yn union ar ol i'r mwnwyr ymadael a'r Laughlin erchodd y cwmni lo o West Virgina, ac erbyn boreu tranoeth yr oedd yno tua haner dwsin o gars llawnion o hono, a gwnaethant gychwyn fel arfer. Erbyn hyn y mae pob peth yn symud yn mlaen' fel o'r blaen, ond eu bod yn defnyddio glo Fairmont yn lie eu glo eu hunain. Yn y cyfarfod a gynaliwyd yn Bellaire penderfynwyd atal yr oil o'r Peddling Banks sydd yn diwallu y fasnacholeol, fel erbyn hyn mae y cwbl yma o'r man lofeydd- yn sefyll, ond y rhai sydd yn gwerthu glo i'r water works a'r gas works. Er fod llawer o lo yn dyfod i fewn gyda'r rheilffyrdd o West Virginia, y maej Wheeling erbyn hyn yn dechreu teimlo prinder, a llawer yn gofyn am dano yn methu ei gael. Tra yn ymgom- io ag un o'r coal dealers yno heddyw, dywedai ei fod wedi gwrthod dros ddeu- gain o archebion am lwythi y ddoe. Gwerthir glo yno heddyw am o 12 i 15c. y bwsiel, a'r slack o'r fath waelaf am 6 cent. Gyrodd un glo werthwr 1 Fairmont am brisoedd er mwyn rhoddi archeb am ychydig gars, a'r ateb oedd y gallasai gael run of mine coal am $3 y dunell, yr hyn arferai fod yn 75 cents. Nid rhyfedd fod perchenogion glofeydd yno am gadw eu glowyr i weithio, pan yn talu ond 50c. y dunell am ei dori ac yn ei werthu am$3 y dunell. Mae prinder pob peth yn rhoddi pris arno, a phrinder glowyr fyddai y moddion gor- eu i'w dyrchafu. hwythau sydd eglur wrth hyn. Nid yn fynych mae y bobl gyffredin yn cael un fantais oddiwrth frwydr; ond yma yn bresenol, mae rheilffyrdd mawr- ion y B. & 0., a'r Ohio River Railroad, yn ceisio curo eu gilydd mewn cludo teithwyr o Wheeling i Cincinnati, agos 50 o filldiroedd. Dydd Sadwrn diweddaf aeth agos i 4,000 gyda'r gwibdeithiau hyn am y swm bychan o Un Ddolar yn 01 a blaen, ac aros amryw ddiwrnodau i lawr yn Cincinnati. Rhedai y C. & P. RR. hefyd excursion i Cleveland am $2,50 yr un dydd—ychydig dros chwar- ter y pris areferol. Blin iawn genym ddeall fod y cyfaill siriol Morris Williams yn ymadael a ni am Washington, Pa. Mae Mr. Williams yn un o'r dynion ieuainc mwyaf rhin- weddol, yn ganwr da, a ffyddlawn gyda'r achos Cymreig. Chwi bdbl Washington, gwnewch yn fawr o hono pan ddaw i'ch plith, a gall fod o wasanaeth mawr i chwi mewn cymdeithas. Rhyw fyn'd a dod ydyw yn barhaus yma. Os ydym yn colli rhai da o'n plith yr ydym yn derbyn rhai o'r newydd. Yn ddiweddar daeth William Samuel a'i deulu c Pittsburg yma, a Samuel George o Landwr, D. C. Gobeithio y eawn wel- ed rhagor o bobl dda yn dyfod i lanw lie y rhai sydd yn ymadael. Cyn cyhoeddir y Ilinellau hyn yr yd- ym yn dysgwyl y bydd Miss Maggie Mor- gan wedi dychwelyd o'i theithiau yn Ewrop, a Mri. David Powell a David Harris a'u teuluoedd ar ol ymweliad a Deheudir Cymru.
.I. MARW YN SSBSTY SEATTLE.
I. MARW YN SSBSTY SEATTLE. Dyna fll Tynged Thomas Roberts o Carbon- ado, Wash., ar ol Misoedd o Gystndd. Carbonado, Wash., Awst 15.-Mae genyf y gorchwyl galarus o hysbysu am farwolaeth Thomas Roberts o'r lie hwn —Cyrnro a anwyd yn Merthyr Tydfil, Tachwedd 25, 1849; mab David ac Ann Roberts. 0 Merthyr symudodd ef a'i rieni i Cwmbach, Aberdar, a dyma y lie y daeth i adnabyddiaeth a chyfeillgar- wch a Telynog a Cynonfardd-y blaenaf wedi ei roesawu cyn hyn i wlad y gan dragwyddol; ac y mae yn debyg y bydd yr olaf yn teimlo yn alarus fod un arall o'i hen gyfeillion bore oes wedi ymadael a'r fuchedd hon. Un mlynedd ar ddeg yn ol ymfudodd ef a'i deulu allan i Bevier, Mo.; yna yn mhen blwyddyn i Carbonado. Dechreu y gwanwyn diweddaf teimlodd Robert ryw anhwyldeb yn gafael ynddo. Bu gydag amryw feddygon, ond methent wneyd lies iddo. Aeth i'r ysbyty i Seat- tle ycliydig wythnosau yn ol, lie y bu farw ar yr 28ain o Gorphenaf, Deuwyd a'i weddillion gartref yma, a chladdwyd ef y dydd canlynol yn myn- went y lie. Awd a'r corff i'r capel, yr hwn oedd wedi ei addurno ar gyfer yr amgylchiad. Ar ol y gwasanaeth cych- wynwyd tua'r gladdfa, ac anfynych y gwelir y fath deimladau dwys yn cael eu hamlygu gan dyrfa mor lluosog. Yr oedd y geiriau hyny yn dyfod i fy medd- wl, "Wele fel yr oeddynt yn ei garu ef." Yr oedd wedi bod yn aelod crefyddol trwy ei oes. Ni welais neb erioed yn medru byw yn grefyddol mor ddidra- fferth, ac yr oedd yn gwneyd cyfeillion fel mae yr haul yn tynu allan y blod- au yn y gwamvyn. Er mai Bedyddiwr cedd o ran credo, yr oedd yn aelod gyd- a'r Presbyteriaid, yn ddiacon ac yn athraw yn yr Ysgol Sul. Pan yn yr ys- byty yr oedd un o'r Sisters of Charity yn gweini arno; ac meddai hi wrtho, "Repeat this after me, '0 Jesus have mercy on my soul. "Dear sister," oedd ei atebiad, "I have asked that years ago, and it is well with my Soul." Y noson cyn iddo farw galwodd ar Da- vid ei fab, gan ddweyd wrtho fod gan- ddo benillion wedi eu cyfansoddi, ond yr oedd wedi myned yn isel iawn, a'r oil ddeallodd David oedd y Ilinellau canlynol: "Claf wyf dan glwyf yr afu, A phoenau dirdynol yn fy nhynu, Ond diolch wnaf i'm Ceidwad cu, Fod gwawr gobaith arna'i 'n gwenu." Nid i ddangos ei allu barddonol yr wyf yn ysgrifenu y llinellau hyn, ond i ddangos pa mor dawel yr oedd yn gwynebu glyn cysgod angeu. Priod y weddw a thad yr amddifad fyddo yn amlwg yn y teulu.-H. D. Lewis.
-060 DIBWESX AC AELODAETH…
-060 DIBWESX AC AELODAETH EGLWYSIG. Penderfyniad Gynadledd Wesleyaidd ac Undeb y Bedyddwyr. Yn nghynadledd ddiweddar y Wesley- aid yn Leeds, Lloegr, cynygiodd un gweinidog benderfyniad o blaid diarddel pob aelod eglwysig oedd a wnelo ac a dderbyniai unrhyw fuddiant arianol oddiwrth y fasnach feddwol; ond fel gwrthwynebwyd yn gryf, a hyny gan rai o arweinwyr dirwestol yr enwad, ar y tir fod yr eglwysi yn anaddfed i'r cynygiad, ac y gwnaethai lawer mwy o niwed nag o les. Ac felly barnodd y Gynadledd gyda mwyafrif mawr. Ond y mae cryn lythyru yn y wasg ar y dyfarniad, a Wesleyaid da a duwiol o bobtu yn mesur cledd. Os yw y dyfyn- iadau a gofnodir o sylwadau John Wes- ley, a gosodiadau cyntefig yr enwad ar y pwnc yn gywir, yr oedd sylfaenydd Wesleyaeth yn fwy croew ac eithafol dirwestwr na'i ganlynwyr gan mlynedd a haner gwedi ei farw. Drachefn, yn un o gyrddau Undeb Bedyddwyr Cymru gynaliwyd yn y De, darllenodd brawd bapyr yn condemnio yn ddiarbed yr aelodau eglwysig hyny sydd yn dal cysylltiad masnachol a'r diodydd, ond yn gwrthwynebu yn gryf ddiarddel neb o honynt. Nid teg yn ei dyb ef oedd i'r eglwys ddiarddel y gwerthwr, tra yn croesawu y prynwr. Fel mai yr unig gwrs eysan, ar y tir hwn, fyddai diarddel y ddau. Cododd amryw, yn weinidogion a blaenoriaid, yn erbyn gosodiad y papyr, ac yn pleid- io diarddeliad. Canlyniad y drafodaeth fu pasio penderfyniad yn anog yr eg- lwysi i bwyso y mater yn drymach a mwy pendant nag erioed at gydwybod yr aelodau.
♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN.
♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN. Stamford, Conn., Awst 20.—Yr ydym fel Cymry yn y ddinas hon yn cadw i fyny a'r oes yn weddol yn mhob peth. Bu i ni mewn modd teilwng ddathlu Dydd Gwyl ein nawau Sant, er na ddar- fu neb anfon yr hanes i golofnau y "Drych," ac yr oedd yn dda genym glywed gweinidog y Presbyteriaid yma yn cyhoeddi ar goedd mai Cymro ydyw yntau, ac yn falch o hyny. Gwna ei oreu i ni. Yr ydym yn cael pregethu Cymraeg yn achlysurol. Yn mhlith y rhai fu yma yn ddiweddar yr oedd y Parch. Thomas Lloyd o Ffestiniog, a W. Henry Wil- liams, New York. Cawsom ddwy breg- eth gan yr olaf, sef un Gymraeg ac un Saesneg, a mwynhaodd pawb y pregethu yn hynod. Ein dymuniad ydyw ar iddo frysio yma eto. Mae Robert J. Williams wedi cychwyn am Gymru, lie bwriada dreulio ei amser o hyn allan i gymeryd tipyn o ofal o'i fam sydd yn heneiddio. Ymgynullodd y Cymry un noswaith yn hollol annysgwyliadwy i dy yr ysgrifen- ydd, a chyflwynasant iddo rodd werth- fawr o mantej time piece. Treuliwyd amser difyr mewn, canu, areithio, ad- rodd a bwyta ice cream a theiseni; dar- paredig gan y boneddigesau. Diolch yn fawr i chwi oil. Y noson o'r blaen aethom fel Cymry ar ymweliad a thy Mr. a Mrs. H. R. Jones, Darien, (Utica gynt). Cymerwyd meddiant o'u preswylfod yn hollol ddi- seremoni, nes bron dychryn Henry allan o hono ei hun, ac ni wyddai Mrs. Jones beth i'w wneyd, ond daeth pethau i drefn cyn hir. Cyflwynwyd iddynt lamp brydferth, fel arwydd o'n parch a'n di- olchgarwch iddynt am eu parodrwydd yn ein cynorthwyo gyda phob achos Cymreig. Ar ol i Mrs. Jones feddianu ei hun am ychydig, chwareuodd hi a'i merch, Jetty Jones, "Gwyr Harlech;" yna cafwyd anerchiad ar Ddynoliaeth dda mewn dynes gan y Parch. John Hammond, yr hwn hefyd a gyflwynodd ar ran y teulu, set taid a nain Jones, Mr. a Mrs. Owen a Mr. a Mrs. Hammond, haner dwsin o gyllyll arian, yr hyn a daflodd Mrs. Jones i benbleth ofnadwy. Wedi ychydig o amser gyda'n gilydd a bwyta ice cream, ymwahanwyd. Yr yd- ym yn teimlo fod y chwaer hon yn ogon- iant i ni fel Cymry, ac yr ydym yn falch o honi. Wythnos yn ol yr oedd yn arwain y drama, "Cadet's Picnic," a gwnaeth ei rhan yn ardderchog; nid oedd terfyn ar ganmoliaeth y papyrau lleol yma o honi; ac fel arwydd o'u parch iddi cyflwynodd y cadets chwech o silver forks iddi. Ewch rhagoch, chwaer, er dyrchafu yr hen genedl yn yr ardaloedd hyn, a thrwy hyny addurno athrawiaeth crefydd yr Arglwydd Iesu. —Bowydd.
-*-->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA.I
->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA. I GAN P. PHILLIPS, Linn Grove, Awst 10.—Y Sul diweddaf cafodd yr eglwys hon y pleser a'r mwyn- had hyfryd o.wrandaw ar y Parch. Vyr- nwy Morgan yn traddodi tair o bregeth- au galluog a dylanwadol, dwy yn Gym- raeg ac un yn Saesneg. Yr oedd y Methodistiaid yn Peniel wedi rhoi i fyny eu gwasanaeth am y dydd, felly cafwyd cynulliadau cryf a lluosog y boreu a'r prydnawn; ac yr oedd y brawd yn traddodi y genadwri nefol gyda hwyl a bias, nes cario dylanwad neillduol. Fel hyn y cawn deimladau un brawd da— ij Gweinidog enwog agwedd—sy' yn llawn j O gallineb a mawredd; I A'i rodiad er anrhydedd, Dan nawdd ei Dduw cyhoedda hedd. Rhowd synwyr at wasanaeth-eglwysig I'r glew sanct yn helaeth; Mor o ddawn mewn iawn a ddaeth, > I'r byd trwy ei wybodaeth. Llwythog bregethwr llithrig—gwr ydyw: O nodwedd garedig; jl Yma dro ei enw drig, | A'i glodydd yn ansigledig. Cawsom hefyd ddarlith Seisnig nos Lun ar Garu, Priodi a Byw—cynulltad da, a darlith wir sylweddol. Gwerthwyd cryn nifer o Gofiant Kilsby yn y sefyd- liad. Teimla yr ymwelydd yn ddiolch- gar i'r Parch. T. M. Evans a brodyr er- aill am ei arwain trwy y sefydliad. Bu yr Hybarch dad y Parch. J. W. Jones, yn ffyddlawn y Sabboth yn gwrando ac yn colli ami ddeigryn; a daeth hefyd i'r dadrlith nos Lun. Gwnaeth y parchus frawd Morgans godi calonau gwragedd ffyddlawn oedd wedi bod yn rhoddi gwisg newydd i'r capel trwy gyfranu $4 o gynyrch y ddarlith er cynorthwy i or- phen talu y treuliau.
♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL.
♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL. Philadelphia, Awst 17.-Dydd Mawrth wythnos i ddoe aeth oddeutu haner cant o'n eydgenedl ar eu trydydd wib- daith hafol gyda'r agerfad "Thomas Clyde" i Woodland Beach; a diameu y buasai rhagor wedi myned oni buasai i'r peth ddod mor sydyn, a'n pobl ieu- aine i gyd o'r bron yn y wlad. Yr oedd yr hin yn hafaidd, a bu y mosquitos yn weddol drugarog wrthym, er y dywedir fod llawer o honynt yn New Jersey bron yn bwys.—Mae yma ddwy o ferch- ed ieuaine Slatington ar ymweliad byr a'n dinas-Miss Maggie Morris, merch y Parch. J. W. Morris, a'i chyfnither, Miss Nellie Roberts.-Y mae William R. Griffiths, 1513 Walnut St., yn wael yn ei wely er's dros bythefnos bellach, ond y mae argoelion ei fod ar hyn o bryd yn dechreu cryfhau.—J. R. E.
N0D10IS 0 SIR LUZERNE.I
N0D10IS 0 SIR LUZERNE. Newyddion Galarus o Gylclioedd Plains-Y Gweithfeydd—¥ Diweddar D. R. Lloyd, Freeland. Plains, Pa., Awst 20.-Mae y cyfaill Isaac Bonsell a'i briod wedi eu trallodi eto unwaith trwy farwolaeth eu Gwen- doline fach, yr hon a gladdwyd ddydd Mercher, yr lleg cyfisol. Yr oeddynt o'r blaen wedi colli pedair merch ac un bachgen. Na fydded iddynt dristau fel rhai heb obaith, oblegid perlau ydynt wedi eu casglu i'r Jerusalem fry. Un arall o'r perlau hyn a gasglwyd at y dyrfa lan ydoedd Thomas, baban Da- vid James a Lizzie Davies. Claddwyd ef ddydd Sadwrn. Yr oedd hwn yn un o wyrion y Parch. Theo. Davies. Tra yr oedd Edward Parry wrth ei waith fel mwnwr yn nglofa Kingston aeth yr ergyd allan yn ddiarwybod iddo. Maluriwyd ef yn druenus, a bu farw yn uniongyrchol. Mab ydoedd i Thomas J. a Sarah Parry. Yr oedd yn 27 mlwydd oed, yn briod gyda phedwar o blant; a blin genym grybwyll fod y weddw a'i hamddifaid bach wedi eu gadael yn ddiymgeledd iawn. Claddwyd ef ddydd Gwener, y Parch. Theo Davies yn gwein- yddu. Y mae Thomas G. Parry wedi cael y penodiad o postmaster yn Hudson, neu Mill Creek, plwyf Plains. Diau y bydd pob Cymro sydd yn adwaen T. G. Parry, y canwr, yn falch o'i benodiad. Y mae cystuddiau y cylch yn lleihau- William Hughes yn araf wella; hefyd Richard John Vaughan, yr hwn yr ofn- wyd am ei adferiad o'r typhoid fever. Y mae y glofeydd fel pe am gyflymu; ond araf iawn ydynt hyd yn hyn. Y mae rhai yn darogan y bydd yn well bell- ach wedi cael mesur y tariff drwodd; gobeithio mai felly y bydd. Blin yn ddiau oedd gan lawer ddarllen am farwolaeth David R. Lloyd, Free- land. Ni chafodd ef ond y peth nesaf i ddim o fwyniant iechyd er's saith mlyn- edd; ac ni fu nemawr o'r ty yn ystod y pum mis cyn ei farwolaeth; ond parha- odd o ran ei feddwl a'i ysbryd yn gryf hyd y diwedd. Ysgrifenodd lythyrau at gyfeillion pan ar ei wely, a bu yn dar- llen ychydig oriau cyn ei farw. Bu farw yn gryf—ei lygaid heb hylu, a'i reswm heb waethygu dim, na'i barch wedi llei- hau dim yn marn ei gyfeillion lluosog yn Luzerne, Carbon a Schuylkill. Yr oedd ynddo gyfuniad o elfenau wedi ym- blethu mor hapus fel yr oedd yn rhaid ei hoffi. Gallai yr annysgedig deimlo wrth ei fodd yn nghwmni D. R. Lloyd; ac i'r diwylliedig yr oedd awr yn ei gwmni yn ameuthyn. Gwelai anghyson- deb mewn dadl, neu mewn pregeth yn union, ac ni chai yr anghysondeb ddianc ychwaith heb i'r dadleuwr neu y preg- ethwr gael gwybod am dano; ond os yn nglyn a'r bregeth y byddai, fe driniai y mater yn yr ysbryd mwyaf caredlg. Yr oedd yn grefyddol o'i febyd, ac yn gref- yddwr da, pur ei foes. Bu yn ddiacon am flynyddau lawer yn eglwys Gynull- eidfaol Drifton; ac y mae degau yn fyw heddyw mewn gwahanol barthau o'r wlad a ddug dystiolaeth werthfawr i'w hyfforddiant.. Os daw y llinellau hyn o flaen l'lygaid y cyfaill John M. Jones, Mineral Ridge, Ohio, diau genyf y gwna golli deigryn. Pah'am? Wel, nis gall John M. ac eraill o'i gyfoedion gofio am David R. Lloyd, heb gofio hefyd am yr "Anglo Saxon," a'r canoedd gawsant ddyfrllyd fedd yn Cape Race, ger Newfoundland. Yn mhlith y teithwyr hyny yr oedd 30 o Gymry, a boddodd 20 o honynt. John M. Jones a David R. Lloyd oedd y ddau olaf o'r deg Cymro a achubwyd. Os oes eraill o'r Cymry fu yn deithwyr ar y llong anffodus uchod sicr genyf y teim- lant pan welant y nodiadau hyn. Gen- edigol o Penydaren, ger Merthyr Tyd- vil, oedd ein brawd, ac oddiyno yr ym- fudodd i America, yn Ebrill, 1863. Bu am ychydig yn Mineral Ridge; ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd Amer- icanaidd yn Audenreid a Drifton. Nodd- ed y Goruchaf fo dros ei deulu trallodus.
—•» »» EISTEDDFOD LANCASTER,…
— •» »» EISTEDDFOD LANCASTER, OHIO. j Dr. O. H. Evans, Marysville, 0., a'i Gor J n f Cipio y Prif Wobrwyon-Cynull- j iadau Lluosog. f Dydd Mawrth, Awst lOfed, cynaliwyd I Eisteddfod yn neuadd odidog y Camping j Ground Association, Lancaster, 0., a I daeth tua 4,000 o Americaniaid a Chym- I ry yn nghyd i fwynhau gwledd gerdd- 1 orol o'r fath oreu. Nodwedd ddymunol I yr Eisteddfod oedd cael yr holl gorau 5 a'r cystadleuwyr ar y llwyfan yn barod. Cafwyd cyfarfodydd hwylog a dyddorol a chystadleuaeth ardderchog ar yr un- awdau a'r corawdau; ac nid oedd yno yr un cystadleuydd aflwyddianus yn aflon- yddu ar heddwch y beirniad na'r gynull- eidfa. j Enillwyd y gwobrwyon gan y perscn- au canlynol: Darllen cerddoriaeth ar y pryd, Dan Morgan a'i gyfaill o Colum- bus, 0.; araeth fyrfyfyr, R. H. Calla- han, Charles D. Loach; adroddiad, "Gin- erva," Miss Ethel M. Cross; adroddiad Pope's "Essay on Man," Charles D. Loach; piano solo, Miss Edith L. Cream- er; baritone solo, C. N. Miles; alto solo, Miss Ethel M. Cross; soprano solo, Mrs. J. B. Davies; triawd benywaidd, parti o Marysville; deuawd, sop. a alto, Mrs. B. W. Herman a Mrs. L. S. Stewart; trio, Will Knox a'i gyf.; quartett, Am- phians, Columbus; cor gwrywaidd, un o Marysville, 0.; wythawd, dau barti o Marysville yn gydfuddugol; anthem, rhanwyd y wobr rhwng cor Will Knox a chor Dr. O. H. Evans, Marysville, 0.; y prif gorawd, "He watcheth over Is- rael"-goreu o dri cor, eiddo Dr. Evans, Marysville, yr hwn a wobrwywyd yn nghanol brwdfrydedd byddaroI. Rhodd- odd y beirniad, Proff. Leighton, fodd- lonrwydd cyffredinol. Nid oedd'yr un Cymro ar bwyllgor yr Eisteddfod oddigerth y Cymry mabwys- iedig, Mri. A. L. Frey, ysgrifenydd; a J. J. Genn, y llvwydd, y rhai sydd ael- odau o gor Cymreig Columbus, Ohio. Deallwyf hefyd mai Mr. Frey yw ysgrif- enydd yr Eisteddfod fawreddog a gyn- elir yn Columbus ddydd yflwydd-yn ne- wydd. Arweinydd y dydd oedd J. B. Lodwick, Youngstown, O. Cyfeiles, Miss Anna Hughes, Columbus, O. Beirn- iad yr adr., Parch. J. H. Rogers, Rush- ville, 0., a Mrs. H. Nesmitt Cameron, A. M., Somerset, Pa. Beirniad y gerddor- iaeth, Proff. E. T. Leighton, Ceveland, O. Cafodd y bob! eu boddloni gymaint fel y bwriadant gynal Eisteddfod y flwydd- yn nesaf eto. Cyraeddodd William Knox, Columbus, nod uchel yn yr Eis- teddfod hon. Er mai dyma y tro cyn- taf iddo arwain yn gyhoeddus, cafodd ganmoliaeth y beirniad, a haner y brif wobr; llwyddiant iddo. Ar gais y Parch. Mr. Dick, Llywydd y Camp Meet- ing Association, Lancaster, 0., chwif- # iodd 4000 o bobl eu cadachau gwynion o barch i J. J. Glenn, J. H. Frey, Colum- bus, 0., J. B. Lodwick, Youngstown, 0., a E. J. Leighton, Cleveland ,0., am eu gwasanaeth yn yr Eisteddfod.—M- wal.
—<» » » SHAWNEE, PERRf CO.,…
— <» » » SHAWNEE, PERRf CO., OHIO. Shawnee, 0., Awst 11.-Marwaidd iawn yw pob math o fasnach yn her- wydd y streic fawr bresenol yn mhlith y mwnwyr. Mae rhai yn dweyd fod Ilawer o deuluoedd yn dyoddef eisiau bara beunyddiol. Mae peth ymborth wedi ei ddanfon yma eisoes, ond nid yw ddim mewn cymhariaeth a'r angen sydd yma. Cynelir cyfarfodydd mewn gwa- hanol fanau yfory er cynorthwyo y rhat sydd mewn angen; a bydd cyfarfod cyff- redinol. Pa beth ddaw o'r trueiniafd druan, nis gwyddom. Mae llawer o salwch wedi ein goddi- wedyd yma yr haf hwn a llawer wedi meirw yma, y rhan fwyaf yn wragedd Cymry. Da genym fod Mrs Thomas M. Williams a Mrs. John D. Jenkins yn graddol wella eto. Parha y Parch. T. Dyfi Rhys, (A.,) i draddodi y genadwri am y groes ar y bryn, y Parch. William H. Beynon gyd- a'r Bedyddwyr, a'r Parch. Rowland Jones gyda'r T. C., a John E. Williams, mab Ellis D. Williams, sydd yma ar va- cation, yn pregethu yn Saesneg gyda'r T. C. bob nos Sabboth. Mae y bachgen ieuanc hwn yn gwneyd ei oreu, debyg- em. Yr Arglwydd a'i bendithio a gras i ddal ati. Mae eglwys fach y T. C. wedi paentio eu capel yn hardd erbyn y, Cyfarfod Dosbarth, fydd yn dechreu nos Wener, y 27ain cyfisol. Bydded hysbys i bawb fwriadant ddyfod i'r cyfar- fod, nad oes ond dau dren yn dyfod yma yn dyddiol-y B. & O. am 8:30 a. m., a'r C. S. & H. am 7:30 p. m. Bydd- ed i'r gweinidogion a phawb fod ar eu gwyliadwriaeth.—M. L. H.
t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.
gogledd, yr hyn a ddangosai fod yr ym- siglad (vibration) yn un gogleddol a deheuol. Rhoddir y pelenau plwm mewn tyllau yn mhedair cornel postyn, a gwel- ir nerth yr ysgydwad oddiwrth y pellder oddiwrth y postyn y disgyna y peleni. Wrth ochr yr afon mae amryw hollt- iadau mawr yn y tir, ac mewn dau neu dri o leoedd y mae arwynebedd y ddaear wedi gostwng pump neu chwe niodfedd am gryn bellder. Ond yma ni chawsom ond cwr dwyreinol yr ysgydwad. Yn Sylhet a Kassia a Jainta y bu yr ysgyd- wad fwyaf fel y sylwais. Gan fod y rhan o'r wlad yn dwyn pSvthynas neillduol tCr Cyrnry, a chanoedd yn eu mysg yn cymeryd dyddordeb yn y lie, credaf y bydd tipyn o fanylion am y ddaeargryn yn y lie yn dderbyniol, ac o bosibl trwy hyn y dygir eraill i gymeryd dyddordeb yn ac i gydymdeimlo a'r bobl yn eu cyf- yngdra mawr. Felly rhoddaf yma gyf- ieithiad tra rhydd o bellebriadau prif ddirprwywr (chief commissioner) As- sam at Lywodraethwr Cyffredinol India (Viceroy.) Credaf eu bod yn gywir yn eu hadroddiad am y galanastra ac hefyd wedi eu hysgrifenu mewn cydymdeim- iad a'r dyoddefwyr: "Shillong, Meh. 13.—Cymerodd daear- gryn ofnadwy le yn Shillong prydnawn ddoe, Meli. 12fed, am 5 o'r gloch. Mae holl adeiladau ceryg y lie, yn cynwys ty y Llywodraethwr, swyddfeydd y llyw- odraeth, yr eglwys, y jail, a'r holl dai oeddynt eiddo personol wedi eu dym- chwelyd i'r llawr. Credir nad achoswyd llawer o farwolaethau, ond lladdwyd Mr. McCabe yn ei- dy. Gofidiwn yn fawr o herwydd ei farwolaeth, ac y mae yn golled fawr i'r weinyddiaeth. Cafodd amryw ddiangfa gyfyng ac yn eu plith fy ngwraig a minau, ond ni laddwyd Ewropead arall am a wn i. Collodd am- ryw eu bywydau yn y swyddfa argraffu perthynol i'r llywodraeth. Lladdwyd un neu ddau o'r milwyr, a rhyw nifer yn y farchnadle (bazaar); hyd yn hyn nis gwyddom y manylion. Mae y olledion personol ac eiddo y Hywodraetli yn fawr iawn, canys ni achubwyd ond ychydig yn unlle. Mae holl bapyrau swyddogol a'r swyddfa argraffu dan yr adfail. Gwlawiodd yn drwm a dibaid drwy y dydd a'r nos, ac yn ami teimlwyd ysgyd- wadau. Y mae sefyllfa y merched a'r plant, y rhai sydd yn dyoddef o herwydd diffyg cysgod oddiwrth yr elfenau, yn dra blinderus. Ceisiwn ddarparu nodd- ed am dymor clan yr amgylchiadau poenus hyn. Nis gwn pa mor eang fu y ddaeargryn, ond a barnu oddiwrth ei lymder, ofnwn ei fod yn cyraedd yn mhell. Pellebriad 2, Meh. 16.—Ni chaed ne- wyddion o Sylhet a Cachar. Mae y gal- anastra ar Fryniau Cherrapunji yn fawr iawn, ac y mae rheilffordd Cherra wedi ei dinystrio. Ofnwn fod rhif y marwol- aethau yn fawr yn y gweithfeydd glo a'r chwarelau calch yn Cherra. Lladdwyd Mr. Rosenrode trwy i'w dy syrthio ar- no. Mae Gowhatty a Goalpara wedi eu llwyr ddinystrio. Ychydig o fywydau a gollwyd. Pellebriad 3. (yr un dydd).—Yn awr dychwelodd Mr.. Sprachey, swyddog y rheilffordd, yr hwn aeth i Cherra. Dwg newyddion torcalonus am y He. Mae amryw bentrefi wedi eu hollol ddinystrio, a chwympo i lawr i ochr y bryn. Mae Chattuk, lie wrth droed y bryniau weu. suddo i'r afon, ond achubodd am- ryw eu bywyd trwy fyned ar y cychod ddefnyddid i gludo calch. Dywed y peir- ianydd gweinyddol (executive engineer) swyddog ag sydd yn gofalu am adeilad- au a ffyrdd y llywodraeth, fod tref Syl- het wedi ei llwyr ddinystrio ac amryw bentrefi wedi soddi (subside). Trwy hyn collwyd llawer o ymborth, ac ofnwn y bydd dyoddef mawr yn Sylhet o her- wydd prinder bwyd. Os yw bosibl, an- fonweh i mi beirianydd a swyddogion eraill i gynorthwyo dirprwywr Cynorth- wyol Sylhet yn vr argyfwng ofnadwy hwn. Nis gwn a oes rhanau o Bengal mor druenus, ond y mae Sylhet yn gofyn cymorth, ac nis gallaf fl ei roddi yn awr. Peiiebriad 4.-Meh. 20.—Yr ydym oil yn gwneyd ein goreu. Mae y tywydd yn wlawog ac yn barhaus. Teimlir ysgyd- wadau. Ymddengys mai Bryniau Cherra- poonji gafodd nerth yr ysgydwad. Yno syrthiodd ochr y bryn, gan gario gydag ef amryw bentrefi. Mae haner y ffordd o Shillong i Cherra wedi ei dinystrio. Ofnir i lawer yno golli eu bywyd, ond nis gwyddom y nifer yn awr. Ni choll- odd unrhyw Ewropead ei fywyd. Gan nad oes tramwyfa i Sylhet yn awr yr ydym yn pryderu yn nghylch pa fodd y gellir rhoddi bwyd i'r rhai adawyd yn fyw. Pellebriad 5.-Yr oedd y ddaeargryn. yn Gowhati, Goalpara, isowgong a Man- galserai yn ddinystriol iawn, teimlwyd ei dylanwad yn Tezpur a Dhubri; diang- odd Dibrugar a Sibsagar heb fawr niwed Ni achoswyd fawr golled yn nyffryn y Brahmoputra. Agorir y ffordd o Shill- ong i Gowhati ar fyrder, ond cymer gryn amser cyn y bydd y ffordd i Sylhet yn glir. Ofnir fod o 4,000 i 6,000 wedi colli eu bywydau ar fryniau Cherra. Pelebriad 6.—Mae ochr y bryn yn par- hau i lithro, ac y mae y bobl adawyd yn fyw wedi chwalu yn mhell o'u hen gar- trefi. Dinystriwyd Tura, yn Mryniau Garo. Ni laddwyd unrhyw Ewropead. Cawsom ddau ysgydwad' cryf neithiwr (Meh. 22,) ond ni wnaed fawr niwed. Pellebriad 7.—Da genyf hysbysu fod y newyddion diweddaf yn rhoddi lie i ni gredu nad ydyw rhif y lladdedigion mor fawr ag yr ofnwyd. Ymddengys fod holl bentref Shella-poblogaeth yr hwn oedd 3,658-wedi treiglo i'r afon, ond yr oedd y bryn yn myned yn ddigon araf fel y gallodd y rhan fwyaf ddianc am eu byw- yd. Collodd oddeutu 250 eu bywyd yno. Mae pentrefi cyfagos eraill oedd yn sef- yll ar fryniau wedi eu dinystrio a chred- ir fod oddeutu 400 wedi eu lladd. Yn nosbarth Sylhet credir i 300 o bobl gael eu Iladd." Gwelwch oddiwrth hyn fod y ddaear- gryn yn un ofnadwy a'r difrod achoswyd yn dorcalonus—miloedd yn nghyd a'u heiddo wedi eu. dinystrio. Holl dai yr Ewropeaid trwy y Bryniau wedi eu dymchwelyd i'r llawr. Yn wir mae y safle yn ddifrifol. Mae y golled i'r Gen adaeth yn anadferadwy, yr wyf yn ofni. Mae y maes yn man gwaethaf yr ysgyd- wadau. Yn Shangpoong cwympodd ty y cenadwr a'r capel; yn Jowai syrthiodd dau dy cenadol, capel ardderchog, ys- goldy ac ysbyty helaeth; yn Shillong 1; dinystriwyd tri o dai eenadol, capel mawr a chostus, a, dau ysgoldy; yn Mairang a Mawphlang dinystriwyd y tai cenadol; yn Cherra dinystriwyd dau dy cenadol, ysbyty mawr a chostus, ys- goldy gwerthfawr, ysgo: Dduwinyddol a chapel eang. Mae y iai yn Lietkynsen a Shella hefyd wedi eu dinystrio. Yn Sylhet dinystriwyd y capel a dymchwel- wyd murian y ty cenadol oedd wedi ei losgi yn y gwanwyn. Pa faint mwy gymerodd le yn nghanol y wlad yr nis gwyddom, ond y mae meddwl am hyn yn ein parlysu. Nid oes un ty cen- adol ar Fryniau Kassia heddyw! Mae holl eiddo y Genadaeth wedi eu dinys- trio! Trwy drugaredd Duw achubwyd bywydau y cenadon a'u teuluoedd. Mae y ffeithiau hyn yn siarad ac apeliant at y byd, ac yn enwedig at y Cymry, y rhai sydd wedi cymeryd y fath ddydd- ordeb yn y rhan hon o'r byd a gwneyd llawer i'w dwyn i'r peth ydyw yn gref- yddol a moesol.