Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

... CLEYELAND, OHIO.

EMPOIilA, LYON CO., KANSAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EMPOIilA, LYON CO., KANSAS. GAN Y PARCH. J MICHAEL HUGHES. Emporia, Kas., Awst 18.—Yr ydym wedi cael haf anarferol o boeth a sych yn y cylchoedd hyn eleni; ac y mae y corn, sef y prif gynyrch amaethyddol, yn fethiant hollol. Prin hefyd yw y gwair.ac nid oes ail i ddim ffrwythau yma. Gorfodir llawer i werthu eu gwartheg (feeders) am nad oes ymborth iddynt. Aeth yr Hybarch Henry Rees a'i briod —y ddau weithian yn hen a gwan eu hiechyd—ar ymweliad a'u mab William i St. Paul, Minn. Eiddunwn iddynt ad- gyfnerthiad iechyd a dychweliad diogel i'w hen gynefin. Hefyd y mae L. W. Lewis a dwy o'i merched a'i nith fach yn Colorado er's tro, yn osgoi y gwres ac yn adgyfnerthu. Yn Canon City, Col., y mae T. D. Lewis a'i deulu yn hafu. Mae T. B. Jones a'i deulu yntau yn Eu- reka Springs, Arkansas. Hyderwn eu bod oil yn cael amser da. Dychwelodd T. H. Lewis, y cofrestrydd a'r cerddor adnabyddus, wedi cael llawer o adgyfnerthiad yn Missouri, &c. Da gan hen gyfeillion ac ewyllyswyr da Hugh H. Williams, Washington, ddeall ei fod wedi graddio yn anrhydeddus fel cyfreithwr o Goleg Georgetown, a da neillduol genym oil ddeall fod hyny wedi ateb dyben iddo eisoes, a bod y tri Cymrawd hoff o Emporia, Mri. D. L. Roberts, H. H. Williams a'ch gohebydd ffyddlon Edwin C. Jones, wedi cael taf- ell dda bob un gan Fewythr Sam. Yr ydym yn teimlo colled fawr ar ol y brawd ffyddlon Edwin C. Jones mewn llawer cylch. Ymadael am Gymru yn hen lane wnaeth Henry Griffiths, er holl swynion Kansas. Mae y Parch. Luther Rees o Texas yma ar ymweliad hefyd. Cawsom ymweliadau dymunol a phregethau da iawn gan y Parchn. D. Davies, Oshkosh, Wis.; R. E. Williams, (B.,) Llundain, Daniel Williams, Waukesha, Wis.; a'r Hybarch John Jones, cyn-weinidog y Tabernacl. Awst 5ed daearwyd yr hyn oedd farwol o'r hen gymeriad adnabydd- us Robert Thomas, Dry Creek. Gened- igol ydoedd o Bethesda, Arfon. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Salem, Dry Creek, a bydd colled fawr ar ei ol.

[No title]

0 LANAl YR OHIO.

.I. MARW YN SSBSTY SEATTLE.

-060 DIBWESX AC AELODAETH…

♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN.

-*-->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA.I

♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL.

N0D10IS 0 SIR LUZERNE.I

—•» »» EISTEDDFOD LANCASTER,…

—<» » » SHAWNEE, PERRf CO.,…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.