Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

... CLEYELAND, OHIO.

EMPOIilA, LYON CO., KANSAS.

[No title]

0 LANAl YR OHIO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 LANAl YR OHIO. Addurno y Capel-DIelinau Alcan Newydd- ion-Y Glowyr ar Streic Myn'd a Dod. GAN RHYS T WILLIAMS Martin's Ferry, 0., Awst lS.-Yn ddi- weddar paentiwyd capel yr eglwys Gym- reig yn Aetnaville, ac ymddengys yn rhagorol oddiallan yn ei gwisg newydd; cystal, fel mae yr eglwys wedi pender- fynu ei drwsio a'i addurno eto y tu fewn, ac er talu am y cyfryw waith maent wedi penderfynu cynal cyngerdd a chyfarfod llenyddol ar nos Sadwrn, Medi 18. Mae y pwyllgor yn agos parod gyda'r program, a disgwylir cystadleu- aeth frwd rhwng y cantorion ac hefyd yr adroddwyr. Ymadawodd Mrs. D. Tamplin a Mrs. Dan Harries er sefydlu yn Locust Point, Baltimore, lie mae eu priod yn swydd- ogion yn y felin alcan. Teimlwn golled yn ein eyfarfodydd llenyddol ar ol Mrs. Karris é"r plant, gan eu bod oil yn ad- rod'Lvyr da a pharod i gynorthwyo. Mae David Llewelyn wedi ei ddyrchafu yn brif oruchwyliwr nos dros felinau yr Aetna-Standard. Gobeithio na fydd iddo anjrhofio ipwnderau y gweithwyr tra yn y swydd hon, pa rai y bu yn y ml add (.ro^tynt pan yn is-lywydd yr undeb. Llw/dét iddo yn ei ddyrchafiad. Dydd Gwener, cafwyd o hyd i ddyn yn farw ger Glofa y Gaylord. Bernir mai tramp ydoedd, ac iddo roddi ei hun i gysgu dros nos ger y Tipple, ar dome a o ysbwriel sydd a than o'i mewn.ac iddo fygu oddiwrth yr ufelai neu'r tawch sydd yn codi o'r domen. Mae Cwmni y Labelle, Wheeling, wedi dechreu tori lie pedair o felinau alcan newydd, ac wedi cytuno a Messrs. Tot- ten a Hogg, Pittsburg, am y peirianau newyddion angenrheidiol. Dysgwylir i'r pedair melin newydd fod yn barod i waith yn mhen pedwar mis, gan fod yr archebion yn llawer mwy na allant gyf- lenwi yn bresenol. Nid cystal fu llwyddiant y deintydd yn y Laughlin. Er fod y dant o'r dur gor- eu, daeth yn rhydd yn mhen pythefnos, a bu y felin bedwar niwrnod arall yn segur yn aros am olwyn newydd. Mae'r peirianau yn troi yn awr eto gyda chys- ondeb, a phob peth yn myned yn mlaen yn-dda o ran hyny. Mae cv/mni y Bellaire Steel Works ar eu hegni yn adgyweirio ac ychwanegu at eu gweithfeydd, gan ddysgwyl cael y cwbl yn barod i gychwyn yn gynar yn mis Medi. Mae gweithfeydd dur Ben- wood J 11 myned yn dda y dyddiau hyn, a dywedir fod rhagolygon am iddynt bar- hau felly. Nos Iau diweddaf torwyd ar ddystaw- rwydd y nos gan swn seindorf (tuag I o'r gloch y boreu) yn chwareu "March- ing through Georgia," a mimai o tua thri chant o fwnwyr Wheeling Creek, Barton, &c., yn ymdeithio i fyny drwy Bridgeport ac Aetnaville hyd ran uchaf Martin's Ferry, ger y Laughlin Mills, er ceisio perswadio mwnwyr y Laughlin i ddyfod allan, ac ymuno a hwynt yn y streic. Tranoeth daeth amryw ganoedd yn ychwanegol i lawr o Dillonvale, Portland a'r Gaylord, ac ofnid ar bryd- iau y buasai yno derfysg; ond yn lie hyny bu pob peth yn heddychlawn yn y wersyllfa. Mae llawer iawn o ddadleu yn nghylch y symudiad hwn o eiddo y glowyr yn ceisio cael allan lowyr fel yma sydd yn gweithio er cyflenwi y melinau yn unig. Dealler nad oes llwyth o lo o'r lofa hon yn myned i unlle ond at wasanaeth y melinau hyn yn unig; ac wrth eu hatal, buasent yn taflu dros 400 o weithwyr yn segur. Dadleuwyd gan y swyddogion dros adael iddynt barhau i weithio, ac addawsant gasglu swm oddiwrth eu holl weithwyr bob dydd tal, a chyfranu eu hunain yn gyf- artal er cynorthwyo y mwnwyr sydd all- an yn ymladd dros eu hiawnderau. Casglwyd yno dros $40 Sadwrn diwedd- af, heblaw cyflenwad helaeth o ym- borth; ond er holl ymdrech y swyddog- ion, dal yn gyndyn, a. gwersyllu yno wnaeth y fintai hyd ddydd Llun, pryd y cafwyd yr oil o'r mwnwyr allan, nes taflu yr holl felinau yn segur. Ar ol sicrhau hyn tua 10 o'r gloch dydd Llun, ymadawodd y fintai yn cael ei blaenori gan seindorf bres, am Bellaire, lie y cynelid mass meeting y prydnawn, ac er cael allan y glowyr sydd yno yn gweith- io. Y mae yma gydymdeimlad cyffred- inol a'r mwnwyr, ac estynir llawer o gynorthwy iddynt, gyda dymuno iddynt barhau yn heddychlawn ac unol hyd nes llwyr enill y frwydr a gwella eu hamgylchiadau drwy gael tal priodol am eu llafur. Yn union ar ol i'r mwnwyr ymadael a'r Laughlin erchodd y cwmni lo o West Virgina, ac erbyn boreu tranoeth yr oedd yno tua haner dwsin o gars llawnion o hono, a gwnaethant gychwyn fel arfer. Erbyn hyn y mae pob peth yn symud yn mlaen' fel o'r blaen, ond eu bod yn defnyddio glo Fairmont yn lie eu glo eu hunain. Yn y cyfarfod a gynaliwyd yn Bellaire penderfynwyd atal yr oil o'r Peddling Banks sydd yn diwallu y fasnacholeol, fel erbyn hyn mae y cwbl yma o'r man lofeydd- yn sefyll, ond y rhai sydd yn gwerthu glo i'r water works a'r gas works. Er fod llawer o lo yn dyfod i fewn gyda'r rheilffyrdd o West Virginia, y maej Wheeling erbyn hyn yn dechreu teimlo prinder, a llawer yn gofyn am dano yn methu ei gael. Tra yn ymgom- io ag un o'r coal dealers yno heddyw, dywedai ei fod wedi gwrthod dros ddeu- gain o archebion am lwythi y ddoe. Gwerthir glo yno heddyw am o 12 i 15c. y bwsiel, a'r slack o'r fath waelaf am 6 cent. Gyrodd un glo werthwr 1 Fairmont am brisoedd er mwyn rhoddi archeb am ychydig gars, a'r ateb oedd y gallasai gael run of mine coal am $3 y dunell, yr hyn arferai fod yn 75 cents. Nid rhyfedd fod perchenogion glofeydd yno am gadw eu glowyr i weithio, pan yn talu ond 50c. y dunell am ei dori ac yn ei werthu am$3 y dunell. Mae prinder pob peth yn rhoddi pris arno, a phrinder glowyr fyddai y moddion gor- eu i'w dyrchafu. hwythau sydd eglur wrth hyn. Nid yn fynych mae y bobl gyffredin yn cael un fantais oddiwrth frwydr; ond yma yn bresenol, mae rheilffyrdd mawr- ion y B. & 0., a'r Ohio River Railroad, yn ceisio curo eu gilydd mewn cludo teithwyr o Wheeling i Cincinnati, agos 50 o filldiroedd. Dydd Sadwrn diweddaf aeth agos i 4,000 gyda'r gwibdeithiau hyn am y swm bychan o Un Ddolar yn 01 a blaen, ac aros amryw ddiwrnodau i lawr yn Cincinnati. Rhedai y C. & P. RR. hefyd excursion i Cleveland am $2,50 yr un dydd—ychydig dros chwar- ter y pris areferol. Blin iawn genym ddeall fod y cyfaill siriol Morris Williams yn ymadael a ni am Washington, Pa. Mae Mr. Williams yn un o'r dynion ieuainc mwyaf rhin- weddol, yn ganwr da, a ffyddlawn gyda'r achos Cymreig. Chwi bdbl Washington, gwnewch yn fawr o hono pan ddaw i'ch plith, a gall fod o wasanaeth mawr i chwi mewn cymdeithas. Rhyw fyn'd a dod ydyw yn barhaus yma. Os ydym yn colli rhai da o'n plith yr ydym yn derbyn rhai o'r newydd. Yn ddiweddar daeth William Samuel a'i deulu c Pittsburg yma, a Samuel George o Landwr, D. C. Gobeithio y eawn wel- ed rhagor o bobl dda yn dyfod i lanw lie y rhai sydd yn ymadael. Cyn cyhoeddir y Ilinellau hyn yr yd- ym yn dysgwyl y bydd Miss Maggie Mor- gan wedi dychwelyd o'i theithiau yn Ewrop, a Mri. David Powell a David Harris a'u teuluoedd ar ol ymweliad a Deheudir Cymru.

.I. MARW YN SSBSTY SEATTLE.

-060 DIBWESX AC AELODAETH…

♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN.

-*-->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA.I

♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL.

N0D10IS 0 SIR LUZERNE.I

—•» »» EISTEDDFOD LANCASTER,…

—<» » » SHAWNEE, PERRf CO.,…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.