Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR (Parhad o'r rhifyn diweddaj.) I DYDD IAu. Ymddangosodd adroddiad cyflawn o weithrediadau dydd lau yn yr ail-argraff- iad o'n rhifyn diweddaf; ond er mwyn jnilqedd derbynwyr yr argraffiad cyntaf rhoddir ef yma. Parhai y tywydd yn dra ffafriol ac yr oedd y ddinas yn boenus o lawn o bobl-miloedd ar iiioedd yn dylifo o bob cyfeiriad. Yr oedd y babell yn orlawn yn mhob cwr, a channoedd yn gorfod sefyll. Wedi gor- ymdeithio i'r babeli, pennodwyd y Cadben Verney, yn absenoldeb Arglwydd Penrhyn, i lywyddu. Cafwyd ganddo araeth faith, wedi yr hyn y traddododd Gethin annerch- iad barddonol fel y canlyn Yn mha le mae teml éI.wen-a'i mwyn gerdd ? Yn Mangor fawr drylen Credwcb, anadl Ceridwen, Yn wynt brwd ddaw i'r dent bren. Y mae'r eisteddfod fel raam,-mawrygweb, Gymreigwyr, ei phrogram O'i gael ni cheir gweithred gam Na Bangor byth yn bengam. Yn enw dyn, beth sy'n bod ? —0 ein cenedl Sy'n cynnal eisteddfod, A thras y deyrnas sy'n dod, lihad arnom am dri diwrnod. 1'n gwlad, enwog le ydyw-i godi Dysgeidiaeth digyfryw, Yn ei moddion mae heddyw Fyrdd o'i phlact yn balmant byw. Cariadua rhydd Ceridwen-hwylusdod Yn mhalasdy'r awen A chawn trwy faeth ei llaeth 116a Yma nofio mewn hufen. Can gan Mr James Sauvage. Rhanwyd y wobr o bum' gini a thlws arian am gywydd ar Ninefeh rhwng Gwilym Eryri, Porthmadog, ac ymgeisydd arall yr hwn ni attebodd i'w enw. Dyfarnwyd y wobr o bum' gini a thlws am y Water Colour Drawing goreu i Mr Bankes, Bodlondeb, Conwy. Ilysbys- wyd mai Mr W. Herdman, PorthaeJihwy, oedd yr ail oreu am y wobr o ddwy gini. Dyfarnwyd y wobr o bum' gini a thlws am y traethawd goreu ar Arfonwyson i Glan Menai. Rhanwyd y wobr o dri gini a thlws am y 12 englyn i Gastell y Penrhyn" rhwng Caeronwy ac un a ymgyfenwai Arfonydd. Cystadleuaeth i leisiau tenor, gwobr o dri gini. Daeth tri-ar-ddeg ymlaen i gystadlu am y wobr, yr hon a ddyfarnwyd i Mr Thomas Williams, Pontypridd. Can, Tell me, my heart," gan Miss Marian Williams, nes gwefreiddio y gyn- nulleidfa. Dyfarnwyd y wobr o 15 gini am y bas reliel mewn plaster o Buddug. Goreu, Mr J. H. Thomas, sculptor, Bristol. Ennillwyd y wobr o bum' gini a thlws am y rhiangerdd Owain Tudur a Chatherine o Ffraingc," gan y bardd pobl- ogaidd Ceiriog. Dyfarnwyd y wobr am y traethawd ar Hanes Bangor," i Glan Menai. Rhanwyd y wobr am y farwnad oreu ar ol y diweddar Deon Cotton rhwng Robin Wyn a Heilyn. Ar y traethawd ar ganu gyda'r tanau, dywedodd Tudur ei fod ef a'i gydfeirniad yn hollol gydweled ar wahan nad oedd yr unig draethawd a dderbyniwyd yn deilwng' o'r wobr, ond annogent roddi rhyw gydna- bycldiaeth iddo am ei lafur. Am y chwe' englyn goreu i Cadben John Jones am roddi Museum i Fangor. Beirniad, Mr 0. Gethin Jones. Goreu, Mr Richard Jones, stonemason, Bangor, yr hwn a dderbyniodd wobr o 2p. 2s. Am y patchwork quilt goreu, dyfarnwyd y wobr o 30s. i Mrs Jane Jones, Sarn Fraint, lHón, a'r cyfielyb wobr am quilt cartref i Mr John Roberts, Caernarfon, a dwy bunt am y quilt gweuedig i ysgol- feistres y Garth, Bangor. Araeth hyawdl gan Mr Watkin Wil- liams.

AWDL Y GAD AIR.

I.BEIRNIADAETH AR Y CYFANSODDIADAU…