Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

LLOFFrON CYMKEIG.

CYMDEITHASFA Y METHODISTIAID…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ganddo y ffydd gryfaf yn Rhagluniaeth Duw. Nid oedd ganddo ef yr amheuaeth leiaf nad oedd Mr Davies wedi ei gyfodi i gyfarfod amgylchiadau yr oes bresen- not Yr oedd ganddo y cydymdeimlad .wwrtrof n <ir*waSod gan I I h- "0, 4'4 h' ,¡ .+ jay oedd wedi dalu. (Chwprthjn mawr.) Fan -addawodd efe y canpunt naw mlynedd yn ol, yr oedd canpunt yn gyæo- maint iddo ef ei roi ag yr oedd miloedd yn bre-getinol,-(Clywch, clywch,)-—ac yn wir, nid oedd ei ffydd cyn gryfed ychwaith. Yr oedd ganddo ef 4,ooop. o'i addewid i'w talu etto, ac yr oedd yn oedi eu talu, nid am ei fod yn rhy dlawd, ond rhag i bobl fyned i ddyweyd, wrth ei weled ef yn rhoddi yn barhaus, mai Coleg Methodist- aidd ydoedd. (Chwerthin.) Yr oedd yn oedi talu hefyd er mwyn i'r Cymry gael cyfleusdra i ddyfod ymlaen yn gyffredinol i wneud i fyny yr endowment fund o 50,000pv yr hyn a sicrhai waddol blyn- yddol o 2,ooop. ac a fyddai yn ddigon i gynnal y Coleg. Yna siaradodd yn ddon- iol yn nghanol cymmeradwyaeth mawr ar hawliau y Coleg i gefnogaeth y genedl yn gyffredinol.—Cynnygiwyd gan y Parch. David Davies (Abermawr,) eilwyd gan y Parch. Owen Thomas, a phasiwyd yn un- frydol, fod caniattad i eglwysi wneud casgliad at yr amcan a enwyd.- Wrth lefaru ar ol hyn ar fatter arall, dywedodd Mr Richard Davies, A.S. dros Fon, ei fod ef wedi cael y fraint o gefnogi amryw symmudiadau daionus, megis y fugeiliaeth, ysgolion dyddiol, a Choleg Norni, alaidd. Pe buasai ei gyfaill Mr Hugh Owen yn digwydd bod i mewn, buasai yn gofyn iddo paham na buasai yn gofyn i'w enwad ei hun, yr Annibynwyr, ysgogi yn gyntaf ymhlaid y Brifysgol. Yr oedd y Method- istiaid wedi cymmeryd rhan flaenllaw izydag amryw achosion cenledlaethol, ac fel gyda Choleg Normalaidd Bangor, wedi eu gadael bron eu hunain. Dymunai ef i enwadau ereill wneud eu rhan. Llyfrau Cyfundebol.—Penderfynwyd ar- graffn dyddiadur swyddol i'r corph yn Gymraeg a Saesneg, yn nghyda llyfrau elfenol yr Ysgol Sabbothol, ac imrhyw lyfrau a farno y gymdeithasfa yn ddy- munol, dan olygiaeth Pwyllgor Llyfrau o bennodiad y gymanfa gyffredinol. Undeb Presbyteraidd.—Mr R. Davies, A.S., a gyflwynodd genadwri ynghylch eynllun o eiddo Dr M'Cosh i ffurfio undeb o holl Bresbyteriaid y byd tebyg i'r Cyng- rair Efengylaidd.—Siaradwyd o'i blaid gan y Parch. W. Roberts, D.D., New York, ac ereill, a chymmeradwywyd y bwriad. Y Genadaeth Gartrefol ac Achcsion Seis- r\ig.—Daidlenwyd a chymmeradwywyd adroddiad Cyfcisteddfod y Genhadaeth Gartrefol.—Darllenwyd adroddiad pwyll- gor yr Acbosion Seisnig, yr hwn a rodd- odd foddhad mawr ac a gymmeradwywyd. Penderfynwyd sefydlu achos Seisnig rheolaidd yn Mhenmaenmawr ac annogid yr eglwysi yn Mangor, Rhyl, Aberdyfi, a Dinbych, i wneud yr un peth. Cyflwynwyd dau wr ieaangc o Fon fel ymgeiswyr am y maes Cenhadol tramor. Gohiriwyd y cyfarfod hyd foreu Iau, i ym- drin a'r pethau canlynol :-Annhrefn ac ammhrydlondeb yn moddion gras, an- sawdd crefydd yn Arfon, a chyflwyniad y brodyr Americanaidd. Am bump o'r gloch cynnaliwyd oedfaon eyhoeddus ar y maes. Yr oedd esgynlor- iau cyfleus wedi eu hadeiladu gan eglwys Hirael, a'r elw yn myned i leihau y ddyled drom ar yr addoldy. Dechreuwyd gan y Parch. David Roberts (Mon), a phregeth- wyd gan y Parch. John Ogwen Jones oddiar Rhuf. i. 17, 18, 19, a'r Parch. David Charles Davies oddiar — Dylasem ddyweyd fod y Parch. Ebenezer Davies, Llanerchymedd, wedi pregethu yn y Tabernacl am ddau o'r gloch ar Actau iii. 19. Cynnaliwyd cyfarfod dirwestol hynod frwdfrydig am saith o'r gloch yn y Taber- nacl, yr hwn oedd yn orlawn. Cymmer- wyd y gadair gan Mr David Davies, A.S., a siaradwyd gan y Cadeirydd, Parch. T. Grey, Parch. Dr Roberts a'r Parch. Morris .V-o--an. Terfynwyd trwy weddi gan Mr John Elias, Tre'rgof.