Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

EISTEDDFODAETH CYMRU.

HELYNTION DYPFBYN MADOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELYNTION DYPFBYN MADOG. [GAN ALLTUD EIFION.J LLYTHYR III. Dywedasomy rhoddid enwauy Cynghor Tretol a appwyntiwyd gan Mr Madocks ar ddiwrnod cyntaf agoriad marehnad Tremadog, sef Dydd Gwener, yr 8fed o Dachwedd, 1805. Wrth gwrs, nid oedd dim charter iddi, dim ond ffug. Cafwyd yr enwau canlynol yn mhlith papurau y diweddar Afr Williams, Tyhwnt-i'r-bwlch. Order of first market at Tremadog. God save the Queen. The following officers were sworn in :—William Wil- liams, merchant, mayor; Robert Morris, Esq., M.D., chamberlain Chas. Weschel, Esq., John Edward Madocks, Esq., Wil- liam Amos, Esq., W. Alexander Madocks, -sq., aldermeia Horace Wych Billington, Esq, recorder; John Ellis, gent., deputy- recorder and prime sergeant." Yr oedd y William Williams uchod yn cadw siop ar y gongl dde-orllewinol i'r Market- square John Edward Madocks oedd frawd i r sylfaenydd John Ellis ydoedd mkeeper; William Alexander Mad- ocks ydoedd sylfaenydd ac adeiladydd y dref a'r morgl^wdd, a'r hwn a ffurfiodd y traeth yn ddyffryn teg gan ei alw Glan- dwr. Gt fod y dyffryn yn chwe' throed- fedd islaw y gorllanw, y mae offerynol- iaeth y morglawdd (cob) yn cadw'r weilgi I draw- A Madog er"y myd y gro I A gau ddwrn ei agwedd arno." Y mae ynys fechan (oblegid ynysoedd y I gelwir yr holl fryniau sydd yn y dyffryn) a elwir Ynys Fadog, yr hon a orwedd gyf- I erbyn a chapel y Methodistiaid Calfinaidd. Gelwid hon yn Ynys Fadog oesoedd cyn i Madocks y sylfaenydd gael ei, eni. Yr oedd ty anedd arni yn nechreu y ganrif bresennol, lie trigai cryddion nodedig ag oeddynt dra chyfarwydd yn ansawdd y rhydau a'r tide. Hen dy tô gwellt ydoedd, ac un arall wrth ei dalcen. Yn y ty hwn y magwyd, rhan foreu oes, y bardd byd- enwog loan Madog a'i frawd Beuno; a thua deugain mlynedd yn ol y chwalwyd ei furiau a'i sylfeini, ac y cafodd un Griffith Ellis,, o'r Union lavem, flwch a'i lond o guineas penrhaw," a bathodau William a Mari arnynt. Gwelodd yr ys- grifenydd rai 0 honynt, ond pa ie y maent yn awr nis gwyddis. Pan yn crybwyll am yr hen wr hwn, gan yr hwn y cafodd yr ysgrifenydd lawer o'r cofnodion blaen- orol, dylwn ddywedyd un stori bach. Pan fyddai plant yn myned heb ddigon 0 barotoad i'r ddefod sanctaidd o gadarn- had (confirmation), aeth Griffith Ellis i Griccieth i dderbyn Bedydd Esgob," fel y galwai yr hen bobl ef. Gofynai ei fam iddo ar ol iddo ddod adref, Beth a wel- aist ti ?" 11 Diin byd, mam, ond yr Esgob yn rhoi ei ddwylo ar y mhen i, ac yn dweud Maer.mor, mae'r mor yn mhont Aberglaslyn.' Nid oedd y bach- gen yn deall Saesoneg, ac nid allai debygu yr ymadrodd "For ever more, everlasting," i ddim arall. Ond drwy drugaredd, y mae pethau wedi newid erbyn hyn. Y mae genym esgobion yn Gymry ac yn gallu gwasanaethu yn ein hiaith. Yn nechreu y ganrif hon yr oedd hen wladwr cyfeillgar o'r enw Mr Evans yn berson Criccieth ac Ynys Cynhaiarn, (sef y plwyf y saif Tremadog ynddo). Yr oedd yn dippyn 0 fardd, ac yn hynod o hoff o amaethyddiaeth. Dull boneddwyr yr oes hono oedd marchogaeth ar geifyl, a gwas ar eu hoi ar gefityl, yr hwn a elwid foot- man. Yr oedd y Parch. Mr Evans yn credu mewn ymddangosiad bwganod mor arwyadl a'r Hen batriarch o'r Waenfawr. Yr oedd ei ffrindiau yn deall ei wendid ac un noswaith dywyll, pan oedd yr hen beriglor yn yr Union yn aros am ei geffyl, dechreuodd y cwmni son am fwganod, bob yn ail a son am y farchnad, a thra yn gwneud hyny, anfonasant y stable boy i goed y Stumllyn, i ben coeden uwch. law y ffordd. Wedi codi digon o ofn ar yr hen wr boneddig, gadawsant iddo gychwyn; a chyn myn'd i'r coed dywed- odd wrih ei ffwtman, dos di o mlaen i drwy'r coed, Owen." A gyru yr oeddynt drwy'r coed pan ddeuai llais ddolefus yn gwaeddi, Gwae, gwae!" a'r hen wr ya gwaeddi, Gyr, Owen, gyr I" Morddi- niwaid a difalais drwg ydoedd trigolion yr ardaloedd y pryd hwnw rhagor y dyddiau hyn Dylem gofnodi stori bch ddigrif a ddigwyddodd yn Cilyllidiard;tý bychan a safai ar lan y llanw (cyn cau'r cob), yn y lie y saif y Madocks Arms Hotel vn bresenn l. Enwau y ddau hen bererin a'i preswyliai ydoedd Sion Jones a Mar- giad Chifan. Galwedigaeth bion oedd morio a hel broo gyda glana ulr mor- oedd. Hen luesty hir oedd hwn (medd- ynt),.dim ond siambar a llawr. lJn boreu yn mis Mawrth, dyma Sion yn deffro, ac yn gwaeddi fod y gwely'n wlyb. "Nid oes yma neb wedi ei wneud o'n wlyb oni ddaru ti, Sion." Ar hyn neidiai Sion i'r llawr ac at benau ei liniau yn y dwfr (gan fod y tide wedi dyfod i fewn i'r ty). Dy- ma Sion yn chwilio am ei ddillad, ac ar hyny, gwelai gosyn, a dywedai, Wei, wel, os daeth y marl mewn i'r ty, gofalodd rhagluniaeth am iddo ddyfod ac anrheg i ni at ein brecwast." Ond y dwr a olchasai y cosyn odditan y gwely, 0 guddfa Sian Felly'r oedd Sian yn smugglio gystal a Sion. Da i'r ddau gael y graig tu ol i'r ty yn noddfa. Dyna ddull dirodres yr hen bobl dda yr oes hono, ac er mor fras eu dull, credu yr ydym eu bod yn llawer nes i natur na'r oes fursenaidd hon. Cewch ragor, os derbyniol, pan gaf fy ngwynt attaf.

[No title]

Family Notices

Y PRIF FAKCHNADOEDD CYMREIG.