Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU…
Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU Y BIRFW*. PENNOD XV. ■ W Yn mha un y mae y Barfwr yn gweledpetk cyffredin, ac yn cael araeth ar y cyfryw. Symmudwn yn mlaen ebe'r Dyn a'r Lantar, "ac mi a agoraf fy Lantar." Ufuddhaodd y Barfwr i'r archiad ac ymhen ychydig eiliadau agorwyd y Lantar dra- ehefn. I mewn yn y drych y tro hwn gwelai gegin eang a glanwaifch. Ar y mur gyferbyn ag ef yr oedd yr awrlais yn sefyil &'i fysedd yn pwyntio at bedwar. Wrth ochr yr awrlaia safai y dresel yn llawn o ■ ddysglau, llestri a gwydrau, ac yn y gongi ger y tan yr oedd hen gwppwrdd gwydr llawn o'r priddlestri goreu, y rhai a ym- ddisgleirient gan mor laned oeddynt. Mewn cadair freichiau o dderw ger y tan eisteddai hen wr gyda phibell anferth ei hyd yn ei safn yn mygu yri araf a diseib- iant, nes yr oedd y rowg yn cylchu o'i am- gylch, ac yn ymffurfio yn gaenen gymylog uwch ei ben. Yn agos i'r tan safai bwrdd erwn gyda Uian gwyn yn ei orchuddio, ar ba un yr oedd y llestri te wedi eu gosod, ac wrth yr hwn yr eisteddai hen wraig yn llymeitian y ddiod bron mor ddiseibiant ag yr oedd yr hen wr yn distrywio y ddeilen dybacco. Nid oedd y darlun amgen nag a welir mewn cannoedd o dai ar fayd a lied y wlad yn yr oes bresennol. Cyffredin iawn ydoedd yr olygfa, mor gyffredin, yn wir, nes y gofynodd y Barfwr i'w gydym- aitb o'r diwedd I ba beth y dangosaist hyn i mi ?" Er addysg i ti," ebe'r Dyn a'r Lantar gan gau y Lantar. Oni wydd- ost ti, 0! Farfwr, mai yn y cyffredin, yn y pethau sydd agos atat, y gorwedd yr athroniaeth ddyinaf. Un o feiau mwyaf dyn wrth natur ydyw ei fod o falchder yn chwilio am yr anghyffredin, ac am y rhy- fedd, gan annghofio yr hyn sydd o'i am- gylch ac yn wastad ger ei fron. Sarhau y cyffredin am ei fod yn -gyffredin, a dyr- chafu yr annghyffredin am nas gall ei ddeall; dyna elfen dyn bod amser, gan adael dros got mai trwy efrydu y cyffredin yn barhaus ac yn ddifrifol y gellir cael dirnadaeth am yr anghyffredin. Onid trwy ystyried marwoiaeth yr hedyn gwenith yn y ddaear a'i ddadebriad drachefn y mae'n bossibi i ddyn wybod am ei adgyfodiad ef eihun? Na ddirmyga y cyuredin, 0! Farfwr, canys ynddo y mae pob gwybod- aeth. Hen wr yn ysmocio ac hen wraig yn yfed te,—cyffredm iawn ydyw'r,olygfa, ac eto yn hyn hefyd mae dirgelwch. Fel ag y gwelaist hwynt, maent ynengreifftiau byw o rym arferiad, ac yn y ddau air hyn, sef grym arferiad, y mae dyfnder o athroniaeth. nas gellir ei dreiddio. Edrych yn ol ganrifoedd o oesau a chenfydd yn anialwch yr America y gwylltddyn noeth a ddargaofyddodd: gyntaf y llysieuyn tybacco. Dirwyn yr hanes yn mlaen hyd nes y deui o hyd i'r dyn a'i llosgodd am y tro cyntaf erioed ac a sugnodd ei fwg i'w enau i'w chwythu allan drachefn. Ystyria ttiu fuuu.d, oo golli pa faint n nmafii- y bu y byd anwaraidd cyndilyn esiampLyr arwr cyntaf a ddioddefodd dan y selni a gynnyrchid gan y ddeilen wenwynig. Meddwl wedi hyny am yr oesau dirifedi a aethant heibio cyn i'r arferiad ddyfod mor gyffredinol ag y mae yn y byd yn awr, ac yna gofyn i. tidy hun, paham y bu byn, a pha ddyben sydd iddo ?" Gyda'r ddeilen de y mae yr ungofyniadyncyfodi. Pa fodd y daeth y ddynolryw i ddeall am dani ac i'w harfer, a phaham y mae'r ar- feriad o yfed ei ffrwyth wedi dod mor ami a chyffredin ? Wrth geisio attebiad i'r gofyniadau hyn, fe dreiddi i mewn i natur fewnol y dyn. Cyn eu hatteb, rhaid efrydu eu chwantau a holl reolau eu natur, ac wedi'r cwbl nis gellir ond braidd dybied y gwir achos. Rhyfedd! rhyfedd! fel y mae dyn yn ymgymmeryd a phethau ac yn eu harfer, yn enwedig pan nad yw y pethau byny ond yn rhwyBtrau ac yn fag- fau iddo. Dyn yn ysmocio, yn tynu rhyw- faint o wAg bleser iddo ei hun oddiwdh, bibell o glai a deilen wywedig, yn dibrisio ei amser, yn dioddef arteithiau yatumogol, ac yn haner lladd ei hun er mwyn dysgu tynu mwg gwenwynig i'w geg a'i chwythu allan drachefn; onid gwagedd dychrynllyd yw hyn, hefyd ? Ac unwaith wedi i'r ar. feriad ymuno i'i gyfansoddiad, dyna lie bydd y dyn yn gwario ei arian, ei iechyd, a'i nerth er mwyn mygtt, a mygu yn ddi- baid, nes o'r diwedd i'w ddannedd fyned yn dduon, ei, foob au yn grebychlyd a lliw eu groen ymdebygu i'r mwg ei hunan. Magys ag y m" gyda'r dyn oherwydd ei bibell, y mae gyda'r merched oherwydd y nanaid o de. Te yn y boreu, te ganoi lr a the yny prydnawn; dyna hanes lluniaethol cannoedd os nad miloeldd o ferched yr oes. Llymeitian y byddant o'r boreu hyd yrhwyr, nes i'w croen felynu, a'u haelodau fyned yn grynedig,- a'u giau golli eu nerth yn hollol. ErchyR ac ofn- adwy ydyw'r canlyniadau sydd yn dilyn yr arferiad hwn. Ac eto waeth heb na phregethu yn ei erbyn, mae'r arferiad wedi myned mor gryf yn awr nes yr ymddatodai Bylfeini cymdeithas, pe digwyddai i'r td gael ei ddinystrio. Ffaith alarus i'w chyhoeddi ydyw, ond ffaith ydyw wedi'r cwbl, sef fod cymdeithas yr oes hon wed ei sylfaenu ar fwg tybacco a thrwyth te. Pe deuai rhyw un cryf i afael yn y ddwj golofn yma, ac i'w tynu i lawr fe gwympai cymdeithas, fel y cwympodd teml Dagon ar ben Samson gynt. Drwg, ie drwg iawn ydyw'r arferiad o losgi y myglys, ond gwaeth byth ydyw yfed te, canys nid yw'r naill arferiad yn drygu neb ond y dyn ei hunan, er iddo beri anesmwythder i'w gymmydog dieuog. Ond uwch ben y gwpanaid te, ac o dan ei heffaith y dar- perir ac y cyfansoddir y chwedleuon dych- rynllyd sydd yn ehedeg trwy bob ardal, gan dduo cymmeriadau pawb yn mhell ac yn agos. I'r te, ac i'r te yn unig, y mae'r byd i ddiolch am y fraint yma. Pan yr oedd y ddynolryw yn foddlawn ar yfed dwr neu laeth, ni chlywid eon am yr ys- traeon melldigedig ag sydd yn awr yn ehedeg o dy i dy, ac o ardal i ardal, gan ennill nerth a chynnyddu mewn maintioli, gan effaith rhyfeddol y trwyth te. Os, 0! Farfwr, os oes arnat eisieu, yn y byd hwn, gyflawni dy ddyledswydd tuag atat dy hunan, ymwrthod yn hollol a'r bibell a'r tybacco; ac os oes arnat eisieu gwneud dy ddyledswydd tuag at dy gymmydog, a hyn mewn cymmod heddychlawn ag ef, tro oddiwrth y gwpan de. Yn y gwpan ac yn y bibell nid oes ond gwagedd a gorthrymder ysprydol. Twyll a magi i ddyn ydyw'r ddau. (I barhau.)
/1 ,Y DEHEUDIR.
1 Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHBBYDD.) Berwodd Radicaliaid Llechryd grochan- aid da o bysgod yn ddiweddar, gyferbyn ag etholiad y Bwrdd Ysgol. Nid oedd en- wa.u managerf yr ysgol Frytanaidd arlyfr- au y plwyf, ac nid oedd ganddynt ddim un bleidiais. Ar ol i'r ynadon arwyddo llyfr y dreth, yn.ddengys i enwau 19 gael eu gosod ar y llyfrau, yr hyn oedd yn anghyfreithlon. Y mae y mater yn awr yn nwylaw y Board yn Llundain. Nid oes dim pen draw ar y chwedlau a daenir am lofruddiaeth Lianeurwg, ")'n enwedig yn mhapurau Llundain, sef fod a fyno y dyn antrodus James Richards, yr hwn a ymgrogodd pan yn dyoddef dan efieithiau pruddgiwyl, a liofruddiaeth Mrs Gibbs. Nid oecid dim mwy a fynai hun- aniaddiad Richards a'r matter nag sycAi a fyno twrch daiar a'r iiaul. Yr <§dd Richards yn ddiacon cyfrifol gyda'r Bedyddwyr yn y Caebach. Cyhudawyd efo droi ceftJl igae cymmydog, a-throwyd ef allan o'r ddiaconiaeth, yr hyn a eifeith- lodd yn drwm ar ei feddwl. Yr oeddwn yn meddwi fod Phariseaeth wedi diflanu ers hir amser bellach, ond y mae pobl gristionogol i'w cael yn awr yn gymmaint 0 Phariseaid ag oeddynt yn amser ein Hiachawdwr. Hidlo gwybedyn a llyngcu camel yw hi yn awr fel cynt. Clywais gwpl o wragedd syfrdanlJyd ar eu iiordd i'r capel yn beio dyn am ddarllen cyhoeddiad misol ar ddydd Sul ac ar yr un prvd yr oeddynt yn adrodd holl glees yr ardal rhyngddynt a'u gilydd. Y mae un o bregethwyr sir Fynwy wedi darganfod pechod newydd, pechod por- phoraidd, sef chwareu Cricket. Pregeth- odd bregeth mewn capel yn Maesycym- mer yn ei erbyn dychrynodd y gwr parchedig y menywod yn neullduol, canys ni welwyd ond ychydig o'r rhyw deg yn y Cricket Match y diwrnod canlynol, a gwrthododd y seindorf chwareu hefyd ar ol clywed y bregeth. Nid oes dim un dyn, ond ffyliaid anwybodua sydd yn arfer pinio eu pwttyn credo wrth lawes y pregethwr a gred fod chwareu Cricket yn bechod. Gall dyn fod yr un mor dduwiol wrth chwareu cricket ag y gall wrth gan- lyn ei or'uchwylion ereill. Y mae campau diniwaid o'r natur yma yn lies i'r corph a/r meddwi. Y mae yn gwneud dynion yn fwy heinyf a gwisgi; ond yr ydym ni yn Nghymru yn gwaethygu fel cenedl ac yn myned yn fwy pendrwm a llippa; ac os bydd i bawb goleddu syniadau y gwr 0 Faesycymmer, byddwn oil yn brudd- glwyfedigion, a'r diwedd fydd i hunan- laddiadau amlhau. Nid yw dyn wedi ei greu To Bit like his grandfather, cub in alabaster." Y mae y natur ddynol yn rhwym o gael adloniant, ac yr wyf yn barnu y dylai chwareuon diniwaid o'r natur yma gael eu cefnogi yn lie eu condemnio. Yr wyf gyda phob dyledus barch yn barnu fod Ilawer mwy 0 bechod yn nglyn a'r cyrddau tê a'r gwyliauysgolion yn y dyddiau yma, na chwareu cricket. Beth yw yr boll chwareu kiss in the ring sydd yn cael ei ddwyn yn mlaen dan drwynau gweinidog- ion ? Qnid yw hyn yn tueddu at ddrwg ? Gallasai yr un gwr nodi pechodau ereill; ie, pechodau porphoraidd, yn ardal Maes- ycymmer. Y noswaith o'r blaen ceisiodd dau ddyn dreisio boneddiges ieuangc yr hon oedd ar ei ffordd adref 0 bazaar capel y Bedyddwyr, ond nid oes dim son am hyn. Y mae y frech wen wedi tori allan mewn.lie a elwir Nine Miles Point, yn Nyffryn Sirhowy, gerllaw Risca, yn yr huts, y rhai sydd yn cael eu cyfaneddu gan navvies a chwn. Nid oedd dim llai na naw yn gorwedd yn yr un hut, He yr oedd un-ar-bymtheg o ddynion. Dygwyd yr achos o flaen gwarcheidwaid bwrdd yr undeb yn Nghasnewydd, a gorchymynodd y bwrdd i'r swyddogion wneud ymchwil- iad i'r mater. Dylai y tai hyn, sydd yn nythle i glefydau, gael eu llosgi i'r llawr. CRAIG Y FOELALLT.
LLITH DAFYDD EPPYNT.
LLITH DAFYDD EPPYNT. YSTRAD TEIFI.—Franci&iaid Pantyllaeth- dy, 1650—1750.—SYLW IlL-Yny flwydd. yn 1690 ganwyd yn y lie hwn Enoch Francis, mab Dafydd Francis; a thua'r un man ei gefnder Abel Francis, yn Cefn- bryn. Yn 1718, priododd Enoch Francis a boneddiges 0 Blaenrhymiiima bu fyw am ei oes mewn tyddyn cyfrifol a elwid Capel Iago, sef ty gwedi ei adeiladu ar adfeilion hen gapel o'r enw hwnw yn Llanybydder. Yr ydoedd ef yn awdwr amryw lyfrau, oil o nodwedd ddadleugar, ac yn eu plith, Gair yn ei bryd," 1733 canys y ty- mhor hwnw ydoedd oes aur y cyndadau crefyddol yn Nghymru; if Ypum, pwnge; ty "Arminiaeth, Ariaeth, Sociniaeth; Cal- finiaeth uchel ac isel, Bedydd, Gosodiad Dwylaw," &c., a phyngciau mawrion an- ferth ereill, gan beri i grochan sectydd- iaeth ferwi drosto. Ymdaenodd y dwym- yn ddadleuol dros bob cnawd, a chapel, a thy, cynadledd, a chwrdd gweddi, gan, yn anad unman yn sir Aberteifi, wneud y werin bobl anysgedig yn haid 0 ddadleu- wyr opiniwngar, pengam, sycbion, iach eu cyflwr. Pwngc, pwngc yn lie mawl a gweddi, cred a phader. Gwedi dryllio yr hen undeb Eglwysig, a cbodi angor oddi- ar air Duw a symlrwydd yr efengyl, yn ngrym yr ymgiprys cymmerodd y gwein- idogion wahanol ocbrau, rhanwyd teulu- oedd, ymranodd cynnuileidfaoedd, collwyd ac ennillwyd capelydd, ac aeth yn draed moch. Safodd Enoch Francis gyda phlaid Calfiniaetb, ond enciliodd Abel Francis at y blaid Arminaidd. Hefyd Jenkin Jones, yr hwn oedd yntau hefyd yn fardd a gwr 0 nod. Mab ydoedd ef i Jenkin Jones, yr hwn ydoedd weinidog Presbyteraidd yn Abercreiddyn a Chil- gwyn. Derbyniodd y Jenkin Jones dan sylw ei ddysgeidiaeth athrofaolyn Ngholeg Caerfyrddin, a lywyddid ar y pryd gan un Mr Perrot, 1704. Yn 1725 priododd foneddiges gyfoetbog yn tyw ac yn ber- chen ar Pantdefaid, lie gwedi hyuy yr adeiladodd gapel ar ei dir ei hun a elwid Llwynrhydowen; ac yno yr ymsefydlodd y gwr hwn ar giwdawd oedd yn ei dilyn. Efe ydoedd y cyntaf a ddechreuodd gy- hoeddi golygiadau Arminaidd yn y sir hon. Aelod gwreiddiol ydoedd o Aber- creiddyn, a rhwyg o'r lie hwn a ymwth- iodd gyntaf yn Llwynrhydowen. Adeilad- wyd gwedi hyny Alltbaca, 1740, Bwlch-y- fadfa, a'r Cribyn. Y gweinidog yn Aber- creiddyn pan gymmerodd yr, ymraniad hwn Ie ydoedd un Mr Lewis, a chyfeirir at y cyffro hwn yn fynych yn Uythyrau Anna Beynon at ei chwaer yn Pensylfania, yr hon a grybwylla yn fynych am bryder a daroganiad ei gweinidog, Mr Lewis, sef y byddai i'r cyffro ddiweddu mewn Ariaeth a Sociniaetb, Deistiaeth, ac Anffyddiaefch, (fel lloug ar y cefnfor heb rwyf nae angor.) Ac. hanesyddiaeth grefyddol ycylch hwn a ddengys ei fod yn wr 0 dreiddgarwch pro- phwydoliaethol, canys yn piWødd y ganrif hono cawn Arminiaeth yn ymlithro i bocmiaeth, a gwedi ymranu erbyn hyny yn ddwy blaid, a than arweiniad un Charles Lloyd, mab i'r hen Llwyd Bryn- llefrith. Adeiladwyd Capel y Groes, 1802, y ty cwrdd cyntaf Sosinaidd, tebvgol yn Nghymru. Enciliodd myfyriwr arall yn Ngholeg Caerfyrddin ar y pryd, o'r enw Charles Winter at y blaid Arminaidd, yr hwn gwedi hyny a fu yn weinidog yn Hengoed, sir Forganwg, a bu helynt mawr yn Hengoed ar ei ddyfodiad. Yr ydoedd y Mr Jones hwn yn wr 0 athrylith, yn fardd rhagorol, ac emynwr nodedig. Ceir ei hymnau yn tryfritho Casgliad Josiah Rees, 1797. Yr ydoedd gan yr Enoch Francis rhagddywededig ddau 0 feibion, ac yn wyr o nod, nid amgen Benjamin Francis, yr hwn, fel y crybwyllwyd, ydoedd fardd ac emynwr cyfrifol, yn ysgolor da, JJ .5 ynaws ac „addfwyn, yn rhydd o bleidgarwch sectarol, yn medru hedfan uwchlaw mwg simneu ei sect. Ym- sefydlodd yn Lloegr, a mab arall iddo yd- oedd Jonathan Francis, y ddau gwedi eu gem yn Capel Iago. Ymsefydlodd fel gweinidog yn Penyfar, Morganwg, a bu iddo yntau dn 0 feibion yn bregethwyr, fel y gwelir erbyn hyn fod y Francis Da- 7 0 _~antyttaethdy, 1640, yn ben-gyff llwyth 0 .b rancisiaid 0 enwogrwydd nodedig yn ei ddydd, ac gwedi marw yn llefaru etto trwy ei bymnatt a gweitlliau awdurol ereill. Buasai yn dda gnel gwybod a oes rhai yn del percbynas acliyddol a Fran- cisiaid P'mf.yliaethdy ar gael yn bresennol, yn Ystrad Teifi; hefyd eiddo y Morgauiaid o'r Allfcgoch. Tebygol hefyd mai yn yr Alitgocb rhagddywededig y ganwyd Sion Rhydderch, awdwr enwog y grammadeg a'r gdiiadur sydd yn dwyll ei enw, 1725, yn cael ei gynisorthwyo gan Erasmus Lewis, periglor Llanbedr. YSTRAD IRFON.—BU farw yn ddiweddar yn 60 mlwydd oed, y Parch. John Rogers, yr hwn fu am beth amser yn offeiriad Llanlleonfel a Tirabad. Nid ydoedd dim yn hynod ynddo rhagor na diniweidrwydd tymher a glendid buchedd. Yr ydoedd yn ddarllenwr rhwydd ac yn ysgolor da, gwedi derbyn ei ddysg yn ngholeg Ty" Ddewi. LLANWRTYD.—Cynnelir eisteddfod yma yr wythnos hon, a rhoddir i chwi adrodd- iad y manylicn gan ohebydd doniolgamp y lie. Mae y swn allan fod dau 0 feirdd Eppynt, os nad rhagor, yn ymgystadlu am y gadair, nid amgen Dafydd Brydydd Byr a WilBrydydd Main. Mae yn gweddu i ni sylwi fod talaeth Llanwrtyd yn perthyn i gadair Eppynt; canys bu cadair Eppynt er oesoedd cyn cred a chof, a'r gair cys- swyn oedd, "Nid da lie gellir yn well." Bu yma eisteddfodau 0 bwys yn y cynoes- oedd, sef dan Rhys ab Tewdwr, Bleddyn ab Cynfyn; ac ar y Tri Chrug ar Eppynt yr ymgynnullid, ac yno y cyrchai gwyr Buallt a Phowis am urddau ofyddol, bardd- onol, a derwyddol. Mae y gadair hon gwedi bod yn ngwsg am oesoedd, canys yn ol rhol cof a chyfrif, ymddengys mai Einion, offeiriad, a Dafydd y Bilwg a radd- iwyd yma yn ddiweddaf yn feirdd braini a defod. Bwriedir dihuno y gadair yr wythnos hon, sef pan bydd yr haul yn ar- wydd yr Hwrdd, pryd, yn unol a'r hen sfcatutau, y rhai a ddarganfyddwyd yn ddi- weddar, y bydd i Dafydd y Cnwch, udganu yn nghorn gwlad, gan floeddio, "Deffro, mae'n ddydd Bydd raid i'r floedd fod yn ddychrynadwy uchel gan gyrhaedd i ddi- huno holl Gantref Buallt. Dywedir hyn yn rhybudd i'r rhai y perthyn iddynt i grynhoi eu defaid i ddistawrwydd y cym- ydd canys paham y bydd colled nag ar ddafad nag ar asyn neb ? BEIRDD A GWYR LLEN EpPYNT YN EIS- TEDDFOD BANGOR.—Gwnaeth y gatrawd hon ei hymddangosiad yn yr eisteddfod rhagddywededig, sef ar yr ail ddydd y bu hyn, sef oeddynt nid amgen Dafydd Ep- pynt, Dafydd y Cnwch, Wil Brydydd Main, Dafydd Cadwaladr, yr hwn hefyd sydd wr o lefarwr; Dafydd Brydydd Byr, yr hwn sydd wr yn dwyn swydd, sef ydyw y swydd gofalu am dybacco yr achos a dal pen ceffyl pob gwr 0 lefarwr; hefyd chwip. per-in y capel, gan fwrw i gythraul, neu yn mhellach, bob un o'r saint aiff i'r Eglwys, a sylwid fod ganddo fwttwm plwm crogedig wrth ysnoden goch, yn arwydd mai swyddog oedd ac ar y ffordd i fod yn. flaenor. Etto Dafydd y Crydd, yr hwn yntau hefyd sydd yn dwyn. í swydd, sef cadw dysgyblaeth gan gynnal cymmydogaeth dda. Etto Aba* Eppynt, arch-dderwydd ydyw 0, canys nid ydyw Myfyr ond impostor, wedi ymwthio yn an- warantedig i'r swydd. Etto Yspryd y Clochdy, Macwy Buallt; Offeiriad y Bwcwl, Y Bardd Crwydredig, &c., &c. Nid oes raid crybwyll ddarfod i ymddangosiad y fintai hon beri cyffro a thrybestawd trwy yr holl ddinas. Yr ydoedd ym- ddangosiad yr angel i Ddafydd Brydydd Byr yn Mhwllyffwiberth, a'r ffaith y dar- llenir Uithoedd anghydradd Pafydd Eppynt gan y teulti brenhinol, yn bethau ag oeddynt yli adnabyddus drwy yr boll fyd, fel cyn gynted ag yr aeth y fintai i mewn i'r babell, cododd pawb ar eu pedrion (pedibus). "They shot up," ydyw geiriau y Western Mail. Gwahodd- wyd hwynt i'r esgynlawr, a gwnaeth y cadeirydd, Byr Watkin W. Wynn, ym- grymu, gan dalu y moesgarwch hyny ag oedd yn gweddu yn mhresennoldeb cym- maint athrylith; gofynoddhefydyn ddirgel- aidd i'r Byr parth ymddangosiad yr angel, a sylwid y codai. ei olygon tua'r nef yn profi symylrwydd a difrifoldeb calon ond gwingciai yn lladradaidd ar Ddafydd y Crydd, canys Dafydd ydoedd yn para yn annghredadyn ar fater ymddangosiad yr angel. Rhoddodd y cadeirydd ei enw am ddau gopi o'r Meillion." Hefyd yr Esgob, yr hwn a awgrymodd bod yn ei fryd i dalu ymweliad pererindodol a'r ys- motyn lIe gwnaeth yr angel ei ymddang- osiad. Dymunai ei arglwyddiaeth hefyd rwyddineb i'r Byr yn ei hynt bererindodol round y byd "orbicularis," chwahegai yr. Esgob ddywedyd yn Lladip, gau roddi prociad nailiochrog yn jstlya Dafydd y Crydd, yr hwn oedd yn eistedd nesaf atto. Rhoddodd Esgob St. Asaph gwedi hyny ei enw am y Meillion," ac wele disgynodd yr awen ar Ddafydd, ac mewn wingciad —impromptu—yn y Lladin, tasgodd yr englyn hwn 0 enau y Byr mewn ffordd 0 foesgarweh i'r Esgob gwir boblogaidd hwn. "Hen Eglwys y plwyf," ebe Dafydd, mesur caeth, cadwynog. I ddechreu:— Ei chlai, ei chrib, a'i cUloch-ratf,—a'i hallor, Mae'r oil yn gyg,egr-graff; Pe Ctisid ei d6r brid braff, A¡'ll iiw tios ar Lan Asaph." Mae yr englyn hwn wedi peri cyffro yn nghapel Dafydd, am yr awgryma fod yn mryd y bardd droi ei hugan, ac fod yn bossibl gwneud Eglwyswr a christion o bono, chwedl Dafydd y Crydd. Bygythia Gwr o Waddolwr, yrhwn sydd wr o synwyr, fwrw dysgyblaeth ar Ddafydd gan ei fwrw i— Gan fod yn mryd y fintai i wneud tippyn 0 fasnach ar y ffordd, gan ladd dau dderyn a'r un garreg (canys bywioliaeth yn gyntaf, ebe Dafydd y Crydd, wedi hyny difyrweh), ymlwybrodd y fintai adref trwy