Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COF

DONALD A FLORA

rlL YR IESU YN WYLO UWCH BEN…

EIN HAMGUEDDFA LENYDDOLT"

YR YMRYSONGBRDD RHWNd BDMWNT…

-~ABERDYFI.I

Advertising

"!.«!!! BANGOR.

CONWY.'

RHOSTRYFAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHOSTRYFAN. Dydd Nadolig cynnaliwyd gwyl len- yddol Undeb Ysgolion Sabbothol Method- istiaid Oalfinaidd Rhostryfan, Rhosgaclfan, a Charmel, yn nghapel Horeb, Rhostryfan. Cafwyd dau gyfarfod. Ar ol bwytta hyd ddigonedd, eyfeiriasom ein camrau tuag yno. Llywyddwyd y ddau gyfarfod gan y Parch. T. G. Roberts, gweinidog y lie. Ennillwyd y gwahanol wobrwyon mewn dictation, gan Mr G. G. Parry, Carmel, ri Miss Dorothy Jones, Bryngro darllen- iadau, Mri G. G. Owen, Carmel; G. R. Jones, Brynygro J. Thomas, Vron oleu; a Miss Catherine Thomas. Ysgrifenu Ilythyr, Mri G. R. Jones a J. Thomas. Celfyddyd, Mr J. J. Roberts (Ap Cadfan); Mrs Catherine Williams, Rhosgadfan; a Miss Catherine Thomas, Vron olea. Cyfieithu i'r Gymraeg, Mri 0. 0. Jones, Penbryn Hafotty, a J. J. Roberts. Cyf- ieithn i'r Saesneg, Mri W. L. Williams, a J. J. Roberts. Grammadegu, Mri H. Hughes, J. J. Roberts, ac 0. 0. Jones. Gwobrwywyd Mr Edward Williams, Cae 'mryson, am ennill tyst-ysgrif cynnydd (intermediate certificate), yn nodiant y tonic sol-ffa. Am ddatganu unawd Tor- iad y Dydd," gwobrwywyd Miss M. Wil- ? liams, Vach goch; ac am ddatganu, Moab" (LI.T.C.), y buddugol oedd parti o Rhosgadfan, dan arweiniad Mr J. J. Ror berts (Ap Cadfan). Am gyfansoddi alaw a chydgan, y goren oedd Mr J. J. Roberts Am englyn, Y Felin," y goreu oedd Mr G. G. Owen, Carmel; ac am y pennillion i'r "Nadolig," gwobrwywyd Mri G. G. f Owen a J. J. Roberts. Y goreu ar y bryddest i'r Hwyr" oedd G. G. Owen. Methasom a chael enwau dim ond un o'r rhai oeddynt fuddugol ar yr attebion i'r gofyniadau ar Eliseus, na chwaith ar "Hanes Iesu Grist," a hwnw yw Mr R. R. R. Jones, Brynygro. Amatteb gofyn- iadau oddiar hanes Esther, gwobrwywyd Misses Jane Roberts, Glanrafon hen; a Jane Owen, Carmel. Am yr attebion i'r gofyniadau oddiar y bennod gyntaf o Genesis, y goreu oedd Mr 0. 0. Jones. Ar y cynllunwersi, gwobrwywyd Mri 0. 0. Jones, J. Owen, a W. Hughes, Penbryn bach. Am y traethawd ar y Pummed Gorchymyn," Mri G. G. Owen, a R. W. Hughes, Shop, Coed Brain, a wobrwywyd; Yr oreu ar y traethawd Gostyngeiad.- rwydd" oedd Miss Jane Roberts, Glan- rafon hen ac am y traethawd, Rhagor- iaethau a diffygion yr oes," Mr Daniel Thomas, Hafod Boeth. Caed gwasanaeth cor Engedi, Caernarfon, yn yr hwyr, gan y rhai y cawsom amryw ddarnau yn wir glasurol. Yr oedd yn ddigon o treat pe na buasai dim ond elywed y cor enwog uchod. Hefyd caed y deuawd, "Flow gentlyDeva" gan Mri J. J. Roberts a W. Parry. Y beirniaid oeddynt y Parchn. J. Roberts (Ieuan Gwyllt), G. Parry (Tecwyn), a T. G. Roberts, yn nghyda Mrs T. G. Roberts. Caed beirniadaethau da fawn ac addysg- iadol. Drwg genym oedd gweled gwedd ddirywiol ar yr achos, yn enwedig y rhan gerddorol o h no. Bu adeg ag y mae ys- gril'enydd y llinellau hyn yn cofio Rhos- tryfan yn enwog iawn am ei chaniadaeth gorawl a chynnulleidfaol. Pa le mae J. Thomas, W. Thomas, Eos Cadfan, ac am. ryw o ddynion ieuaingc gobeithiol ereill yr ardal ? Deuwch allan ar unwaith, ac ym. ysgydwch; y mae eich canu hyd yn nod yn gynnulleidfaol wedi colli llawer iawn 6 dir. Dywedodd cyfaill i mi am un rheswm bychan a allasai fod, a hyny yw, rhyw fath o genfigen gwirion-blentynaidd rhwng y cerddorion, ac yn wir gallaswn feddwl ei fod yn rhywle tua bod yn ei le hefyd, oblegid pan aeth parti Rhosgadfan ar y llwyfan i ddatganu, dyma rhyw f6d gorfanwl yn gwaeddi, Mae yna ormod o un." Dyna fanyldra Y mae hwnyna yn werth i holl bwyllgorau eisteddfodol y wlad i gym- meryd sylw o hono. Rhag eich blino a meithder, fel y mae arnaf ofn fy mod wedi gwneud, ymattaliaf hyd dro etto. Y mae genyf amryw bethau dyddorol i sylwi arnynt ar ol y daith Wyliau y Nadolig.— O.

[No title]