Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CAERNARFON.

DOLYDDELEN.

• ^ ,LLYSFAEN.

BRYNSIENCYN.

CYFARFOD CYSTADLEUOL A CHERDDOROL

Advertising

] Y DEHEUDIR. ; '^

LLANGEINWEN. :

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANGEINWEN. Nos Lun, y 27ain cynfisol, cynnaliodd cantorion eglwys y lie uchod eu cyfarfod blynyddol o ganu carolau yn ysgoldy y plwyf. Me yn arferiad ganddynt gynnai cyfarfod fel hyn bob blwyddyn i'r dyben o adgoffa dyfodiad Mab Duw yn y onawdlpl, Yr oedd y canu, ar y cyfan, yn wir gan- moladwy, ac y mae clod yndeilwng i'r arweinydd am ei ymdrechion diflino am y fath yspaid maith, yn ngwyneb llu o an- i hawsderau. Anfynych y ceir eystal canu.Jb mewn ardal mor wledig. Cafwyd an- nerchiadau buddiol a tharawiadol gan y Parch. J, D. Jones (eadeirydd), a'r Parch.:f Thomas Harries, yn nghydag amryw ereill. Yr oedd yr ystfell yn llawn o wrandawyr, a theg ydyw dyweud iddynt ymddwyn yn wir deilwng o Gristionogion. Wedi talu y diolchiadau arferol ym- wahanodd pawb yn siriol. Dylasem fod, wedi crybwyll fod y c6r uohod yn cael ei vi gynnorthwyo gan rai o gor Llangaffo. Dydd Sadwrn dilynol, sef Dydd 'Calan, mwynharwyd gwledd ardderchog gan ddeiliaid yr Ysgol Sul, o oddeutu 15eg oed; i fyny, yn mhreswylfod ein parehus J. rector. Mae y dull croesawgar bwn (yr -r- hyn sydd arferiad ganddo ers tua deugain mlynedd) yn nghyd a'i roddion haelionua ef a i ferch garedig bob Nadolig i dylodion eu plwyf yn ddieithriad, yn sicr o fod yn rhoddi lie cynhes iddynt yn mynwes pob plwyfol. Wedi gwneuthur cyifawnder a'r cyflawnder danteithfwyd a osodwyd ger ein bron, ymwahanasom i fwynbau ein hunais yma a thraw hyd y rhodfeydd &'f ardd, yr hon a daflwyd yn agored gan y garddwr caredig. Tra yr oeddym fel hyn yn Ayllu ar brydferthion natur,, daeth 77 aralwad arnom i ymgynnull at ein gilydd i 0 ganu hymnau, &c., o dan arweiniad Mr J. '-q Owen, arweinydd y cor, yr hyn a wnaed i J. foddlonrwydd, a chlywsom rai yn sylwi rift r bu y fath ganu da yn Menaifron ers blyn- yddau. Daeth amsert gyda hyn, ae wedi cyfranogi ohorlo, hyd ddigonedd, dychwelwyd i'r ystafell i ganu ac areithio, yr hyn a wnaed ynfywiog dros ben, am oddeutu awr o amser. Diolchwyd ynT gynhes i'r rector caredig am y wledd i ardderchog. Heddyw (ddydd Llun) ai mwynheir y gyfryw wledd gan ddisgybl.. ion ieuaingc y Tonic Solja, o dan ofal yr 1" un gwr, a diamheu genyf, serch fod y, tywydd yn anffafriol, y bydd iddynt fwyn- hau eu hunain i'r eithaf. Gobeithio y bydd iddynt hwythan fod yn fwy ffyddlon, nag erioed. J, Ddoe (dydd Sul), cyrhaeddodd y newyd# (l galarus am farwolaeth Mrs, Edwards, I anwyl briod y Parch. H. T. Edwards, ficer, Caernarfon, a merch Mrs. Jones, Treans, o'r plwyf hwn, a derbyniwyd ef gvda theimlad dwys.— • -S

• LLAngristiolu S.

Advertising