Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y BARNwn GWILYM WILLIAMS.

HENRY MORTON STANLEY,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HENRY MORTON STANLEY, Richmond Ter- race, Whitehall, Llundain. Gan- wyd ef ger Din- bych, yn 1841. Yn 1856, aeth i New Orleans, yn Neheubarth yr Unol Dal- aethau, ac yno cafodd ei fab- wysiadu gan farsiandwr o'r en w Stanley, enw yr hwn a gymerodd iddo ei li Lin. Ar far- wolaeth einodd- wr, ymunodd a byddin y talaethau deheuol, a, chymerwyd ef yn garcliaror rhyfel gan filwyr y Gogledd. Yna bu yn gweitliredu fel swyddog ar fwrdd y Ticonderoga. Ar derfyn y rhyfel, aeth i wasanaeth y Neiv York Herald fel gohebydd, a bu yn teithio fel gohebydd i'r papyr. hwnw drwy Twrci, Abyssinia, Yspaen, a gwledydd ereill. Yn 1870, hwyliodd ar ei daith fythgofiadwy i chwilio am Livingstone yn Affrica, a daeth o hyd iddo gerllaw llyn Taganyilca, ac wedi treulio rhai misoedd yn ei gwmni, dychwel- odd i Loegr yn 1872. Cychwynodd ar ei ail daith yn 1874, ac yn 1879-82 yr oedd yn Affrica drachefn wedi ei anfon yno gan y Belgiaid. Yn 1887, cychwynodd ar ei bedwaredcl daith, y waith lion i chwilio am Emin Pasha, a daeth yn ol yn 1889. Y mae yn awdwr i'r llyfrau, '< Y modd y daethum o hyd i Livingstone," Drwy y Cyfandir Tywyll," "Yn Affrica Dywyllaf," &c., &c Y mae wedi cael medal Cymdeithas Freiniol y Daearegwyr, yc. perthyn i'r urdd Ffrengig, Legion of Honour, yn aelod o lawer o gym- deithasau dysgedig, ac y mae wedi derbyn dinasfraint Llunda] ii, Acertawe, a tlireli ereill. Priododd yn 1890 gyda Miss Dorothy Tennant, yr arlunyddes enwog. Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, bu yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Undebol dros ranbarth o Lundain. Dyledus ydym i Mr J-. L. Bray, Aberdar, am arlun o Mr James James, Pontypridd i Mri Forrest a'i Feibion, Pontypridd, am un o Ieuan ap lago, yn gystal ag am un o'r Barnwr Gwilym Williams,

AP CALEDFRYN.

Advertising