Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BUGAIL ABERCWMEIGIAU A'R MWNWR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BUGAIL ABERCWMEIGIAU A'R MWNWR YR oedd bugail Abercwmeigiau a bugail Clogwyn y Barcud yn son am ryw banner gwr boned dig heb fod yn gall oedd wedi myned drwy yr ardal y dydd o'r blaen. Yr oedd ganddo," meddai Bugail Abercwm- eigiau, ryw sacli ar ei gefn, a mortliwyl yn ei law, a gwnaeth i mi gario'r sach dros y bryn i'w gyfarfod yn y Garnedd Lwyd, a dyna drom oedd hi, fachgen. Yr oeddwn yn methu deall beth oedd yn y sach i'w gwneyd hi mor drom, ac wedi myn'd o'i olwg, agorais y sach, a beth oedd ynddi ond swp o gerig." "Cerig!" meddai ei gyfaill, gan agor ei lygaid, "Yr wyt ti yn fy synu i! Ddaru ti gario'r swp cerig iddo fo 2" 1 11 Na, Die, tydw i ddim wedi byw i'r oed yma i fod mor ffol. Na, mi tywelltais nhw allan wrth gwrs. Ond cyn i mi gyrhaedd y Garnedd Lwyd, yr oeddwn wedi ei llenwi at yr ymyl o gerig llyfnion Blaenynant, ac mi rois ddigon o fargen iddo fo hefyd. Mr Ffosyl ap Metal, neu rywbeth, oedd gwr y Garnedd yn ei alw fo, ac wedi rhyw ddyrysu fel yna hefo'i forthwyl a'i sach."

"--"'-GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

DWCH CHI FYNOCH CHI, ASYN…

SIMON TYCLAI, A BETSAN El…

-=-' HOLWYDDOREG EISTEDDFODOL