Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn Mexico y Llywodraeth sydd yn rhcoli yr etholiadau. Un boreu gwelod dyn lythyr ar ei ddesc yn dyweyd ci fod ef wedi cael ci etliol yn swyddog o'r Llywodraeth. Dyna'r tro cyntaf iddo ef wybod ei fod wedi ei gynnyg yn ymgeisydd. Yn Affrica amrywia bwyd y trigolion yn fawr. Bwyteir y pryfaid copyn, y lindys, morgrug wedi ei rhoddi mown ymenyn, wyau estrys, trwnc a thraed elephant, bras- der cynffoiiau defaid, llygod, cwn bach wedi eu stiwio, &c.
DIRGELWGH DOLGYNFI
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
a fwriadai yn erbyn Pyrs heb yn gyntaf oil fod yn berffaith sicr o'i nod ac o'i brawfion. Tybed mai y dyn hwn, ac nid Pyrs wedi'r cyfan, oedd banner brawd Ond na I Doedd dim posibl i hyny fod. Nid oedd Pyrs yn perthyn dim iddo ef, ac nid oedd ganddo hawl i fod yn Dolgynfi o gwbl. Y boreu dilynol, am naw o'r gloch i'r fynyd, cychwynodd Harri yn y gig am Gaernarfon, Morris yn dreifio. Ar y ffordd galwodd yn nrws Mr Hopcyn, y gweinidog, a daeth yr ben Dwm Shoned, hen frawd rliyfedd a gedwid gan Mr Hopcyn, i edrych ar ol y tipyn gwartheg a'r tipyn tir oedd ganddo, i'r drws. A ydyw Mr Hopcyn i fewn," gofynai Harri yn awdurdodol. 'Dydw i ddim yn meddwl," atebai Twm. p, le n-iae o '? Dydw i ddim yn gwbod." Dywed wrtbo y galwa i yma wrtli ddod yn ol yn y prydnawn." 'Dydw l ddim yn meddwl y gwela i fo." Dos i chwilio am dano, ynte," atebai Harri yn ffyrnig, gan roddi dec gyda'i chwip a myned yn mlaen. 'Dydw i ddim yn meddwl yr âf," oedd crgyd olaf yr ben Dwm. Ni fu Hnrri erioed yn uchel yn llyfrau Twm. Yn mhen rhyw a hanner neu lai, cyr- liaeddodd y dref, a gyrodd ar ei union at yr Hawk and Buckle. Safai y tafarnwr yn y drws, a thynodd ei het yn barchus pan welodd Harri yn stopio'r cerbyd gyferbyn a'i ddrws ac yn disgyn. Heb golli amser i rag- b ymadroddi, decbreuodd Harri ei holi. Bu fy mrawd Pyrs yn cysgu yma ycbydig nosweitbiau yn ol, onid do2" Do, syr," Pa noson oedd hi ?" Wel, rhoswcli chi fynyd—nos Fawrth, wythnos i neithiwr, greda i." A welsoch chwi ef ?" "Naddo, 'roeddwn i wedi myn'd i'r gwely er's meityn cyn iddo ddwad yma. Daeth yma ar fin amser cau, ac mi fydda i, fel rlieol, yn myn'd i ngwely awr ne fwy cyn hyny bob nos. 'Hyc1w i yn declire myn'd yn hen, welwch chi 11 le, ie, yr wyf yn deall hynyna. Ond dowch at y pwnc—pwy gwelodd o os na welsoch chwi ?" "Yrhenwraig yma-Nansi (gan floeddio fewn i'r ty), tyr'd yma mewn mynyd. Mi fedar hi ddeud y cwbl, syr." Daeth hen wreigan fywiog, sionc, i'r drws, a chyn iddi gael cyfarch "boreu da" na dim, dyma Harri yn dechrou holi. "Welsoch chwi fy mrawd, Pyrs, pan fu of yma yn cysgu nos Fawrth wythnos i ,ueithiwr ? Do siwr, syr." Beth ddywedodd of Dim neillduol, am a ydw i yn gofio. Yr oedd yn bur hwyr arno yn dod yma, bron iawn yn amser cau. Dywedodd fod arno icisio gwely yma, ond roeddwn i'n meddwl i fod o dipyn yn benisal, ac felly deis i ddim i holi dim arno fo, ond mi cymris o rhag blaen i'r rwm wrth ben y bar, ac mi ddwedis nos dMlIch wrtho," Ond beth am foreu cfranooth-welsocli chwi ef yr adeg hono "Wel, do, am banner mynyd, syr. Mi dalodd am ei wely ac allan a fo. Chymra jo ddim bwyd na dim i'w yfad." 4 "A oedd ef yn edrych yn wahanol i fel y bydd ef bob amser ?" "Na, dim i ngolwg i, heblaw i fod o yn In edrach dipyn yn benisal fel tasa fo yn sal. Hwyrach i fod o dipyn yn wahanol o ran i wisg rhagor fel y bydd Mr Pyrs yn arfar a gwisgo." Sut yn walianol ? Sut cidillad oedd am dano ?" Dillad llwydion, coler fawr a thci fflam- goch—rydw i yn cofio sylwi ar ei dei o." Gwyddai Harri nad oedd gan Pyrs ddillad felly, ac erbyn clywed hyn, yr oedd ei gynhwrf meddyliol yn fwy nag erioed. Gwelai hyd sicrwydd, debygai ef, fod rhywun newydd ddod i'r cylchoadd hyny oedd mor debyg i Pyrs o ran pryd a gwedd fel ag i beri i gydnabyddion Pyrs ei gam- gymeryd. Yr oedd rhyw anesmwythder rhyfedd yn dechreu meddiannu Harri, a phenderfynodd wneyd brys i weled Mr Wynn, ac ar ol rhoddi swllt yn nghil dwrn yr hen wraig, aeth ymaith ar frys gan gyfeirio at swyddfa Mr Wynn, yr hon oedd erbyn hyn yn agored er's awr neu fwy. Digwyddai y twrnai ei hun fod i fewn, ac yr oedd yn edrych braidd yn synedig pan welodd Harri yn dod i fewn mor brysur. Wedi cau drws ystafell breifat y twrnai, dechreuodd y dyn ieuanc ar ei neges rhag blaen. Glywsoch chi am y tan yn nghadlas Bryncoch, i fyny acw, nos Woner wythuo,, i'r diweddaf ?" Do, clywais rywun yn s6n am y peth pan fu'm i acw efo chwi ddecbreu yr wythnos ddilynol. Ond chymerais i fawr o sylw o'r hanes, ychwaith." A glywsoch chwi rywbeth am Pyrs ?" Atebodd Mr Wynn drwy ysgwyd ci ben, ac edrych yn ymofyngar i wyneb Harri. Yna adroddodd Harri wrtho yr boll hanes am y tan ac am Pyrs vno, a'r cwbl o ystori Morris. Llefarai mown llais oedd yn crynu gan gyffro, ond nid oedd yr ofnad mawr oedd wedi ei feddiannu ef yn cael dim gafael ar y twrnai, yr hwn a wrandawai gyda gwen o amheuaeth. Beth ydycli yn feddwl o hyn ?" gofyn- odd Harri, ar ol gorphen dyweyd yr hanes. Meddwl fod Morris yn dyweyd celwydd," atebai'r twrnai yn syclilyd. "A chaniatau fod Morris yn dyweyd mwy na'r gwir, nid yw pawb oedd yn y gadlas ddim yn dyweyd celwydd ?" "0 na yr oedd yn ddigon hawdd lddynt hwy gamgymeryd yn nghanol cylfro a ffwdan wrth geisio diffodd y tan. Rhaid i chwi gofio ei bod yn nos yr adeg hono; hawdd iawn fuasai iddynt gamgymeryd." Wei, Wynn, mae arnaf ofn mai chwi sydd yn camgymeryd y tro yma. Mae genyf rywbeth mwy i'w adrodd. Dywed pobl yr Hawk and Buckle, yn y dref yma, fod Pyrs yn cysgu yno nos Fawrth wythnos i neitliiwr, ond yr wyf fi yn gwybod mai yn Dolgynfi y cysgai y noson hono." Gwenodd Mr Wynn eto. Camgymeriad yn nghylch y noson," meddai, beth sydd blaenach na hyny?" Peidiwch siarad fel yna-edrychwch y ffeithiau yn eu hwyneb." Ffeithian ? Does yma ddim ffeithiau- camgymeriad yw'r cwbl." Gobeithio mai felly y mae, ond nis gallaf gredu," Cerddodd Harri o amgylch a,'i ben lawr, mewn dwfn fyfyrfod, ac o'r diwedd, gofynodd, "Beth yw onw'r Ile y mae'r hogeh yna, Ellen Pugh, yn aros, ya sir Fflint?" Ty tafarn mewn pentref bychan ar lan y Ddyfrdwy." Ond beth yw enw'r dafarn ?" Y Colliers' Arms. Hen wraig o'r enw Nansi Morgan sydd yn ei chadw." Dyna hi eto!" ebai Harri, mewn mwy o gyffro fyth. Adroddai Morris wrfchyf, tra yn gyru i lawr y bore yma, am yr hen Ddaniel y Goes Bren, yr hwn fydd yn cerdded Gogledd Cymru gyda'i siop wen,— iddo ddigwydd pasio y Collier's Arms un diwrnod dair wythnos yn ol, a gweled Pyrs fy mrawd yn nrws y dafarn." Dechreuai Mr Wynn gymeryd mwy o sylw o Harri a'i hanesion yn awr—yr oedd yn dechreu dod dan ryw fath o argyhoedd- iad. Syllodd ar Harri heb ddyweyd dim am enyd, ac yna gofynodd, "Beth y mae'r bobl yn ddyweyd am hyn ?" Beth ? Dyweyd mai arwydd, drychiol- aeth, nsu yspryd, neu rywbeth tebyg ydyw -y ffyliaicl," ebai Harri. Ond beth ydycli chwi yn ddyweyd am dano, Mr Llwyd ?" Mai dyn arall ydyw." Eisteddodd y twrnai i lawr, gan lygad- rythu allan drwy'r ffenestr. Wei," meddai o'r diwedd, "beth os mai dyn arall ydyw—beth wed'yn ? Mae digon o ddynion yn debyg iawn i'w gilydd. Rhaid fod llaweroedd o ddynion tebyg i mi yn y byd yma, fel engraipht. A bebh os oes yna ddyn mor debyg i Pyrs fel ag y mae pobl yn camgymeryd y naill am y llall ? Beth os oes, meddaf—pa ods ydyw?" Pa ods—dyna sydd arnaf eisieu ei wybod. Pwy yw y dyn yma ? Beth ydyw ? 0 p'le y mae yn dod ? A beth yw ei fusnes yn y cymydogaethau hyn ? Daliwch sylw, Wynn, y mae mwy yn hyn nag yr ydycli chwi a minnau yn dybio fod." Syllodd Mr Wynn ar Harri mewn distaw- rwydd am enyd, yna meddai, Gwelaf eich bod yn tynu rhyw gasgliad poenus o hyn oil—beth ydyw, Mr Llwyd ?" I I Wynn," ebai Harri yn sydyn, yr oeddych chwi a minnau yn meddwl ein bod wedi dod o hyd i'r dirgelwch sydd yn nglyn a fy nheulu fi, ond mae arnaf ofn mai deillion oeddym ein dau." Both ydych yn feddwl—siaradwch yn blaen ?" Ond yr oedd Harri wedi myned allan. Neidiodd i'r cerbyd a gyrodd ymaith. (I'w barhau.)