Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
YN GLAF AC YN IACH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN GLAF AC YN IACH "MARI," meddai John Jones, y dydd o'r blaen, yr hwn oedd ar fwy nag un achlysur wedi dangos arwyddion ei fod wedi cael digon ar ei gymhar bywyd, Pa beth ydyw y mater arnat ti heddyw-wyt ti ynglaf?" Nag ydwyf fi." Wyt ti yn iach ynte ? Nag ydwyf fi." Ar hyn aeth y gwr allan, ac ar ei union i dy y person. Pan ddaeth y gwr parchedig ato, dywedodd wrtho, Mr Jenkins, y mae arnaf eisieu i chwi ddyfod acw ar unwaith i'm dadbriodi fi a Mari acw." Beth sydd arnoch, John Jones ? Wei," meddai yntau, pan ddarfu i chwi ein priodi, dywedasoch fod yn rhaid i mi ei chadw yn glaf ac yn iach-ydi Mari acw yr un o'r ddau ac felly, yr wyf yn ystyried fy hun yn rhydd oddi wrthi, ac heb fod o dan orfod i'w chadw."
SUT I GAEL "LIFT"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SUT I GAEL "LIFT" DYMA engraipht o arabedd yn talu yn dda i'w pherchenog yn yr Ynys Werdd. Tra yn aros ger Wrexford, un diwrnod,gallesid gweled tyddynwr bychan yn pasio ar hyd y ffordd mewn trol yn llawn o nwyddau marchnad. Yn sydyn, o gaban ar ymyl y ffordd, elywyd llais yn dywedyd- Dennis, fy machgen Beth sydd arnat eisieu ? meddai gwr y drol. Wyt ti yn myned i'r dref ? Wel, dyna fy mwriad." Daeth y dyn oedd wedi ei alw allan o'i gaban ar hyn, a nesaodd at y trol, ac meddai, Y mae genyf got i'w hanfon i'r dref. A wneyd di ei chymeryd droswyf ? Gwnaf yn siwr," meddai y certiwr, os cai y drecsiwn lie i'w rhoi." "Hidia mo'r drecsiwn," meddai'r Ilall, gan roi ei law ar yr olwyn, "obelwydd yr wyf fi yn myn'd y tu mewn i'r got." Neidiodd i'r drol, ac aeth y ddau yn ddyddan i Wexford.
SIARAD YN *NGHLU3T Y MUL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIARAD YN *NGHLU3T Y MUL FEL yr oedd John Clopwag, Ysw., yn cymeryd ei dro tuallan i Caerbolgi dan smocio cigar, cyfarfu il photiwr-hyny yw, dyn yn gwerthu llestri pridd-yn nghyda'i drol a'i ful. Archodd Mp Clopwag i'r mul sefyll, ac a aeth yn mlaen at y potiwr, a gofynodd iddo faint fyddai ganddo eisieu am iddo ef (y boneddwr) gael siarad yn nghlust y mul. O dim byd," meddai y potiwr. "Na," meddai'r ysbrigyn, "rhaid i mi wneyd bargen a chwi, os ydych yn foddlon i mi ddyweyd gair wrtho." 'Rwyf yn eitbaf boddlon, ond Dyma i chwi hanner coron, dyna fargen, onide ?" Ie, Syr, diolch i cbi." Aeth Clopwag yn mlaen at y mul, a gollyngodd y pen ar tan arno oddiar y cigar i lawr i'w glust, tra yr oedd y potiwr yn syllu ar yr hanner ooron. Ar unwaith, dyma dwrw dychrynllyd. Gwelid llestri yr hen botiwr druan yn ehedeg yn yr awyr. Gwaeddai'r potiwr am drugaredd a thai am y potiau bob yn ail. Yna dechreuodd neidio a phrancio mewn cynddaredd, a rhoddodd ei ddwrn ar ddannedd Mr Clopwag, a dywedodd, Mae'n rbaid i chwi dalu am bob dim sydd wedi ei niweidio, ac os na wnewch byddwch yn llaw y cwnstabl." ..I", ..I.I .1. "I'" "1'- Yr oedd maer y dref yn un ar y fainc pan ddaeth y potiwr a'i gwyn am niwed maleisus yn erbyn Clopwag. Wedi hir droi a throsi ar y mater, cyfododd ef i fyny, a gofynodd i'r cyhuddedig beth oedd wedi ei ddyweyd wrth y mul. Na," meddai Clopwag, pe cynnygiech y byd i gyd yn grwn am ddyweyd, byddai'n well genyf wrthod." Ni fu y maer yn foddlon ar hyny, ond bq yn erfyn am tua hanner awr. Pan welodd nad oedd dim yn tycio, cynnygiodd dalu ei holl gostau, a thalu llawn werth y llestri i'r potiwr os y gwnai ddyweyd beth a ddywed- odd wrth y mul. Ar hyn cododd Clopwag, a dywedodd: Mr Maer, a'r holl ustusiaid ereill,-Am eich bod yn erfyn mor daer arnaf ddyweyd yr hyn a ddywedais wrth y mul, yr wyf am geisio gwneyd yn fyr. Cyfarfum a'r brawd sydd ar fy nghyfer (y potiwr) tuallan i'r dref gyda'i drol a'i ful. Waeth i mi heb ddyweyd beth basiodd rhyngom cyn i mi siarad â'r mul. Felly awn yn uniongyrchol at yr hyn a ddywedwyd wrth y mul. Gostyngais fy mhen, a gofynais mewn sibrwd: 'Wyddost ti dy fod ti yn frawd i'r maer ? Na wn i,' meddai y mul, 'wyt ti yn sicr fy mod?' iw Ydlwyrl 'rwyf yn berffaith sicr,' meddwn innau. Wel nid wyf yn bwriadu llusgo trol yr hen botiwr yna. ddim pellach na post y gas lamp acw, ynte-mae genyf hast am gychwyn.' Rhybuddiais ef i fod yn bwyllog, a dyna'r cwbl. 'Nawr, gyfeillion, chwi welwch fy mod yn hollol glir oddiwrth y peth. 'Rwyf yn gobeithio na chaf ym- ddangos yn y lie melldigedig yma eto, na neb ohonoch chwithau. 'Nawr yr wyf yn terfynu, gan ddiolch o waelodion eithaf fy nghalon am i chwi ymddwyn mor weddus." [Ymadawodd ein gohebydd cyn gorphen yr achos. ]
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAEG (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1869, 1865 1878, 1887, 1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GOREU o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. 64 0 GOXOFNAU HIRION. BOB DYDD MAWR1H CEINIOG. Yn Eisiau Dosparthwyr a Goh ebwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES, Carnarvon. CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales.Liverpool Evening Express. Publisher—DANIEL REES, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Plaeards. Programmes, Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Cata ogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Accuracy, Neatness, Despatch Note the Address:— 'HERALD STEAM P.RINTING WORKS, HIGH STREET, CARNARVON,