Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CIPIWYD O'R " FASQED"

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CIPIWYD O'R FASQED" HEN GANWR CERDDI. Mr Gol. ,-Rydw ina'n un o'r bedrdd yma. 7\130 mwy o alw am fy mhetha i na gwaith yr eisteddfod wis yma. Mi fydda i'n canu ao yn dadganu, ac mi roedd gen i ddau gefnder a'u nain nhw'n gyfnither o waed coch cyfan i Twm o'r Nant. Mi rydw i wedi derbyn eich papur chi o'r dechreu, bymtheng mlynedd a deugain, mwy neu lai, a. welsoch chi rioed un o ngherddi i. Ond mi fydda i'n cael llawer ceiniog onest am danyn nhw pan fydd na ryw fwrdwr ne rwbatli ofnatsan las wedi cymeryd lie. Mi fydd y ngherddi gora. i'l. myn'd fel bara ceinioga yn ffair Llanrwst, a'r ile gora wed'yn ydi Llanerchymedd a Ffair y Borth. Mi fvdda i'n 'u canu nhw mewn He na fasa'r un o'r canwrs ffasiwn newydd yna'n cael ei big i mewn, oherwydd inae nhw'n nabod fy llais i; ond fydda ina byth yn mynd ynagosiHeol y Glem i ganu, os na fydda i wedi colli'r ffordd. Mi fydda i'n canu ngwaith fy hun, ond mae na rai yn ceisio car.u petha, yn y con- sarts yma na waeth gynyn nhw yn y byd pwy fydd wedi cael y drafferth o neydy canod os can nhw dal am eu brefu nhw. Yr unig walianiaeth ydi, mae nhw n edrach ar y copi fel tae nhw'n dallb notes, a mina'n wincio ar y bobol fydd yn myn'd i brynu'r gerdd, a barnwch (hi nad ydi hyny'n fwy naturiol wrth ganu. Pan fu Tennyson farw, mi nes i gerdd ar 'i ol ynta fel un ohono ni,ond hwyrach na wel- odd o rioed moni hi. Mi fydda i'n canu pan fydd yna rw drychineb wedi digwydd' ar y rel we, ne ar y nior, ne yn y gwaith mein, ne *rwle; ond ma nhw'n canu heb i'r un simne fyn'd ar dan, dyna'r achos fod cyn lleiad o wrando arnyn nhw. Dyma gerdd ganas i yn fy nhy lodging yn strut y pobty y noson o'r blaen heb dynu'r biball o mhen — HWIANGERDD NEWYDD Y WYDDOR CYMREIG. Cyflwynedig i bobol mewn :Jed, a'r rhai sy'n meddwl dwad felly rw dro. A ydyw'r Afal o'r brigyn a chwardd. B ydyw'r Bwthyn bach melyn a hardd. C ydyw'r Canwr fydd mewn consart rhad, Ch yw'l' Chwibanogl annedwvdd ei nad. D yw'r Dyn dwl, y dyn doeth, a'r dyn da, Dd ydyw'r Ddynes annoeth ei thraha. E yw'r Elidir a'i chrib yn y nen, F yw y Fawnog sy'n agos i'w phen. Ff ydyw'r Ffeiriau a'u ffwndwr mor ffol. G ddiw i Godi'r hen wlad yn ei hoi. Ng yw fy Nghymru, fy nghenedl, fy nghan, Fy nghalon a nghartre, lie mae ngeneth Ian. H does dim Hwyl na dim helynt heb hon, Heddwch, na Ha-ha, na dim byd o'r bron. I oedd yn Ionawr fu'n rhuo'n y llwyn, L yw y Lodes a phant yn ei thrwyn. Ll yw Llyw ola' ein hen Walia wen, A Llanfair yn Muallt lie torwyd ei ben. M ydyw Melldith ar liniwr v brad, Mellu a Malurion gelynion ein gwlad. N yw y Newydd gan glywir yn glir, 0 fawr Orfoledd i Gymri cyn hir. P, ydyw Pawp fydd yn canu'n y cor, Ph ydyw Pharo' sy'n ngwaelod y mor, R yn y Daran a. dery'n drwm draw, Sigla'r holl Senedd, cryn brenhin y braw. T sydd yn Tynu Tanau Tynion Telyn y Teulu tyner tirion. Th yw ei Tlionau hyfryd a pher, U ydyw U c'hder haul, lleuad a ser. W yw y Wybren, y wyddor, a'r wasg, Y yw yr Yw hon yw diwedd y dasg. [A glywodd! neb erioed ffasiwn gybolfa ? Tatws a thriagl! Uwd a chabaite lwmp o blwrn pwdin ar blatiad o biff darn o jelly ar blat poeth esgob mewn fcrowsus rhip cwta a het silc heb ddim cantal yn eistedd ar glawdd i fwyta pil tatws tegell heb un spowt.! barnwr y cwrt bach yn canu sturmant i ddifyru, bechgyn sir Fon yn ffair Llangefni! y wraig ar frig y ty yn trwsio'r corn simneu, a'r gWT yn y gegin yn trwsio ei sanau hi! Tawn i fy hun yn myn'd ati hi o ddifrif, mi boniwn garai fy esgid os na nawn i gan well na hona. A ydyw Awen, a B ydyw Bardd, C yw'r Cwt mochyn ar gongol yr ardd. Ch yw Cliwecheiniog a D ydyw dau, Dd yw y Ddafad, ac E fel pe tau- Fynai fynd adref, ond Ff aeth i'r Ffair G yw'r hon gwelodd hi dklwywaith neu dair. Ng yw fy nghariad a ngyrodd o ngho', H na i moi Henwi, "peth siwr ydi o." Os cipiaf fi hwn o'r fasged, waeth i mi fynd a'r fasged a'r cwbwl. Mae'n rhaid bod hi wedi bod yn niwl ofnatsan yn rhyw- le heblaw ar y gareg filldir hono, onite fasa raid i'r awen ddim colli'r ffordd gy- maint a hyn.—Y PRENTIS.]

"-HYNODION MALI MODLAN

FFERMWR PUW A'I WAS