Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 SIR ABERTEIFI.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AGORIR y Senedd gan y Brenin dydd Mawrth nesaf. GWNEIR ymgais arbenig gan Eglwyswyr Cymru i gipio'r Cynghorau Sirol ar adeg yr etholiad dyfodoL CREU anghydfod yw polisi anibynwyr Cymru y dyddiau hyn yn hytrach na threfnu tystiolaethau i ddod ger bron y Ddirprwy- aeth Eglwysig. NID yw Sir Frycheiniog wedi anghofio ei bywyd Cymreig, ac mae am i'r iaith Gym- raeg gael ei dysgu yn yr ysgolion yn y rhannau hynny o'r wlad lie y mae hi yn iaith y werin. Mewn cyfarfod o Gymdeithas Genedl- aethol Cymru Manceinion, nos Wener, caf- wyd darlith ar Daniel Owen gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Llywydd- wyd gan y Parch. T. 0. Jones (Tryfan). Mae'r mudiad sydd ar droed i goffhau Ceiriog yn myned rhagddo. Bwriedir codi neuadd yn ei ardal enedigol, ac at y pwrpas hwn cafwyd 140p trwy fasar a gynhaliwyd yn ddiweddar. Hefyd, mae edmygydd o waith y bardd wedi addaw 50p. Rhoddwyd y tir i adeiladu arno gan Mr. A. T. Davies. MAE Bwrdd Addysg wedi gwrthod caniatau zn gwneud Cymraeg yn bwnc gorfodol yn Ysgol Ganolradd Gaerdydd.

Advertising