Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
COFADAIL JAMES HUGHES.
COFADAIL JAMES HUGHES. Fel y gwelir isod mae'r gronfa bellach yn agos i Y,80, ac o hyn mae Llundain wedi cyfrannu tair rhan o bedair. Bwriada'r pwyllgor, os yn bosibl, roddi Bronze Medallion Portrait o'r hen Esboniwr ar y gofgolofn, a bydd yn dda ganddynt os anfonir unrhyw gyfraniadau ychwanegol yn ddioed i'r ysgrifennydd neu'r trysorydd. Wrth anfon ei danysgrifiad awgryma Mr. David Samuel, M.A., y priodoldeb o gy- hoeddi cyfrol yn cynnwys gweithiau pryd- yddol James Hughes. Da gennym hysbysu Mr. Samuel, ac edmygwyr Iago Trichrug, Iod y Parch. J. E. Davies, M.A., er's misoedd wedi bod yn casglu y farddoniaeth, ac fel canlyniad ei apel yn CELT Llundain, a phapurau ereill, mae ganddo wmbredd o ddefnyddiau fwriedir eu cyhoeddi yn fuan, ynghyda hanes bywyd y gwrthddrych yn seiliedig ar ei hunangofiant dyddorol. Byddai'n ddymunol iawn pe gellid cyfuno y ddau fudiad a chyhoeddi y gyfrol ynglyn a chronfa'r gofadail, ond ar hyn o bryd nid yw'r casgliad yn ddigon ond i gario allan yr hyn fwriedid ar y cyntaf. AIL RESTR. -Cydnabyddwyd o'r blaen £ 65 18 6 Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Calfinaidd Llundain 3 3 0 Eglwys Shirland Road— Casgliad. 3 0 0 Dr. Thomas Phillips, Harrow 110 .Eglwys Clapham Junction— Casgliad yr Ysgol Sabbothol 1 0 0 3Eglwys Walham Green- Mr. John Thomas, Warwick Road 0 3 0 JMr. Isaac T. Lloyd, Chelsea 0 2 6 Mr. Henry Williams, Broadway 0 10 3 0 16 9 Eglwys Stratford — Parch. J. Wilson Roberts 0 2 6 Mr. Owen Thomas 0 2 6 Alr. Abel Vaughan 0 2 6 Mr. Owen Parry 010 Mr. D. Stephens 0 1 0 Mr. D. R. Evans 0 1 0 Mr. W. Morgans 0 1 0 Mr. T. P. Broadbent 0 1 0 Mr. D. Davies (Barking). 0 1 6 Mrs. Willis 006 Miss A. Jones (Ilford) 0 0 6 0 14 6 Eglwys Walthamstow- Mr. D. A. Davies, Wood Street .026 Mr. Ebenezer Evans 0 2 6 Mr. E. Matthias, Erskine Road 0 2 6 Mr. E. Evans, St. Mary's Road 0 1 0 Mr. O. Thomas, Albert Road 0 1 0 Mr. J. O. Davies 0 1 0 0 10 6 Eglwys Tottenham- Parch. W. H. Davies 0 2 6 Mr. E. O. Williams 0 2 6 Mr. John Davies 0 2 6 Mr. Thomas Davies 0 2 6 0 10 0 Mr. E. W. Evans, Frondirion, Dolgelly (er cof am D. a J. Evans, Cae Einion).. 0 5 0 Mr. David Samuel, M.A., Ysgol Sir, Aberystwyth 0 5 0 Mr. Dewi Thomas, Euston 0 5 0 Blaenor," Liverpool. 0 5 0 Mr. Abel Williams, Abersoch 0 5 0 Mr. David Foulkes, Penmaenmawr 0 1 0 Cyfanswm 78 0 3 O. Morgan Owen, 76, Palace Court, W., Trysorydd. D. R. Hughes, 11 Cartref," 122, Oglander Road, East Dulwich, S.E., Ysgrifennydd.
[No title]
Sonir am gyflwyno rhyddfreintiau dinas Llundain ar George Meredith, yr awdwr enwog. Yn 1851 y cyhoeddodd Mr. Meredith ei gyfrol gyntaf. Gan fod y Llywodraeth wedi gosod telerau newydd ynglyn a chadwraeth y llyfrgell a'r amgueddfa genedlaethol y mae pryder ym jnysg rhai o gefnogwyr y llyfrgell a eill Aberystwyth ddod i fynu a'r gofynion.
GWRON Y CONEMAUGH.
GWRON Y CONEMAUGH. (Gan Cynonfardd.) Mewn hwyl a hedd mae Johnstown a'r cyffiniau, Ni thawodd adsain gwyl addurno'r beddau. Dydd Gwener-ganol dydd—mae'r nen yn duo, A chwmwl ar draws cwmwl yn ymrolio Arllwysant eu cynwysiad ar y dyffryn, Fel gwnaethant ganwaith gynt, ac nid oes dychryn, Nac arswyd, nac amheuaeth, yn meddiannu Neb o'r trigolion. Ant yn mlaen dan ganu. Mae'n wir fod llyn yn nghesail ban y mynydd, A bod pob cawod at ei gorff yn gynydd, A'i ddyfroedd yn gynhyrfus eisieu tori Dros ben neu trwy y mur, fel wedi sori Wrth fywyd tawel a llwyddianus dynion, Ac yn ei nwyd cythrybla i'w waelodion. Mae'n bump o'r gloch-cysgodau hwyrol Sydd yn daenedig, ond yn rhy gynarol; Ymchwydda'r afon dros ei cheulanau, A llifa dros y ffyrdd mewn amryw fanau. Ond nid oes ofn, bu felly lawer gwaith, Ust! ust! Run to the hills "-estronol iaith Adseinia'n groew rhwng y bryniau ban, Mae'r swn fel trydan-treiddia i bob man. Ah dacw ddyn ar farch, carlama, bloeddia'n groch, Y marchog sydd yn foddfa o chwýs, a baner goch Chwyfiedig yn ei law, a gwaedda, Ffowch I'r bryniau am eich bywyd-nac ymdrowch! Carlama 'mlaen, a'r bobl dyrant Yn dorfau hyd y 'strydoedd, ymofynant Mewn pryder, Beth yw hyn ? a gwawdiant: Gwallgofddyn yw. Ha I ha!" tra'r marchog gwrol A rhagddo hyd y dyffryn yn herfeiddiol- A chlywir draw o bell ei swn adseiniol, I'r bryniau rhedwch-rhedwch yn egniol! Ah gwelwch acw Beth ganlyna Y gwron dewr ? Ei weled a ddychryna Y dewraf wýr-parlysir nerth y cryfaf! Rhaiadrol dwrf frawycha'r beiddgar, hyfaf, Erch golofn lydan, uchel, gymysgedig 0 dan a dwfr, yn ffromus ewynedig Yn rholio mewn awdurdod marwol- Yn treiglo pobpeth draphlith yn ddireol- Talp-greigiau erch ar draws preswyldai'r dyffryn, Chwilfriwio pob cadernid-taro dychryn I galon pawb.—Ah I mur symudol! Ac angeu yn ei rwysg andwyol Yn IIyncu bywyd. Beth yw dyn yr awrhon ? Beth yw cedyrn furiau ar seiliau creigiau cryfion? Beth yw peirianau cledrffyrdd a cherbydau ? Beth yw olwynion mawrion y melinau ? Mae'r llif yn frenin-creulawn yw ei ddifrod- Trwsgl ddawnsia yntau ar y dyfrllyd feddrod. Ond gyru 'mlaen yn feiddgar mae y marchog— Cyflawni ei genadaeth yn ardderchog Fel udgorn treiddgar clywch ei nerthol seiniau,— 0 rhedwch am eich einioes ffowch i'r bryniau 0 wron enwog cymer wers dy hunan, Mae'r perygl bron dy ddal; rhag erch gyflafan Tro ben dy farch i'r bryn- twrf y llifeiriant A wna dy ymdrech enwog mwy yn fethiant. Ha dacw'r bont! Mae yntau'n troi i'w chroesi, Llwydd iddo fyn'd yn ddyogel a goroesi Y dinystr blin.—Ond, na, mae'r bont yn symud, A'r dylif yn ei ddal; 0 leddfol fynud Mae'r cwbl drosodd nid oes march na marchog, Na phont, na phentref, na dinas fywiog, Ond trwy yr awyr las adleisia'r seiniau- I'r bryniau am eich einioes; ffowch i'r bryniau (Mae'r darn uchod yn gystadleuol i adroddwyr yn Eisteddfod Ysgol Dulwich, gynhelir Ebrill ioed. Arn fanylion ymofyner a'r Ysgrif- enydd, Mr. T. J. Thomas, 3, Rye Lane, S,E.]
Advertising
WILLIAM DAVIES, Dairy & Life Insurance Hgent, 160, HIGH HOLBORN. Oxford St., excellent Freehold Shop and Prem- ises, main road, 17 barns at 4d. Shop q65, pram, illness, will be sold cheap, the bus- iness and freehold, half can remain. Sole Agent. City—Indoor takings £18; Sunday closing 2150 N.—18 gls. 4d.; shop j617 low rent; pram 9200 S.W.—19 gls. 4d.; shop £16 pram inst. sale £ 200 N.—Main road. 28 gls. all 4d.; good shop; pramP,300 Oxford St.—20 gls. 4d.; shop 217; pram good 9250 S.E.-40 gls. all 4d.; shop £ 12 cart round WestZ400 E.C.-40 gls. all 4d.; shop £ 15; low rent; speciaIE440 N.—48 gls. 4d.; shop 216; 2 prams illness causeE550 S.E.-36 gls. all 4d.; shop 270; 2 prams splendidjg550 "W.T-61 gls. 4d.; shop 220; 3 rounds; low rent 2700 N. 66 gls. 4d.; shop 216; 3 prams; good spot.. 2750 Others in abundance. Come to DAVIES and be suited. DELICIOUS COFFEE. Erw RED — WHITE lam & BLUE For Breakfast & after Dinner. BIRGEBS STJPERFIIsm k EDWARDSRINGEB &C9LJ MANUFACTURERS, Am. 60. To be obtained at the Shops of MR. J. NETTEN, Cigar Importer, KING'S CROSS. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE. W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets, Upper and Lower from X4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol. FREEHOLD HOUSES, HARROW MARLBOROUGH HILL, 3 minutes from L. & N.W. Ry. Station. TO BE LET OR SOLD, well-built semi-detached Villas, FREEHOLD, comprising 3 Reception Rooms, 5 Bedrooms, Conservatory, Porch and Verandah, large Garden, with use of Private Tennis Courts. Rent zC50 to 256. Apply Davies and Son, Builders, Brynhyfryd, Marlborough Hill, Harrow. [B33-100 WELSH PRINTING NEW TYPES. LATEST METHODS Send for estimates for all kinds of Printing and Stationery to the OFFICES, 211, GRftYS INN ROftD, W.e. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig.