Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR SIR LLUNDAIN.

DR. GRIFFITH JOHN.

Cymanfa Gwyl Dewi.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymanfa Gwyl Dewi. Da gennym allu dyweyd fod y trefniadau ar gyfer yr wyl bron yn barod, a rhagolygon am gymanfa lwyddianus yn bob peth a allwn ddisgwyl. Hydera a gobeithia y pwyllgor fod yr Eglwysi yn gwneud defnydd ymar- ferol o'r rhaglenau, ac y bydd y canu yn deilwng o Gymry y ddinas eleni eto. Y mae y pwyllgor cerddorol wedi gofalu am donau lied adnabyddus. Cofier, er hynny, mae y Sul nesaf yw yr unig gyfleustra geir ar y Sabboth cyn y gymanfa. A gawn ni erfyn yn daer ar wahanol ganghenau yr Eglwys i erfyn gyda Duw o hyn hyd adeg yr wyl, am i ni gael eneiniad oddi uchod ar y canu, a'r darllen, a'r gweddio, a'r pregethu, fel y gallom ddisgwyl i'n gwasanaeth fod yn foddion i achub lliaws o'n cydgenedl. Gofaled y cantorion fod yn y City Temple mewn pryd, a chymeryd eu lleoedd yn y drefn arferol. Bydd yn dda gennym os bydd i'n stiwardiaid, a rhai fydd yn gwerthu rhaglenu, fod yno mor agos ag y byddo modd i chwech o'r gloch, ychydig o enwau .sydd wedi dyfod i law hyd yn hyn, ond mi hyderaf y daw cyflawndra i mewn o hyn i ddiwedd yr wythnos.

[No title]