Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
(==================]= jf; Reu) Stock of footwear for Summer. ||| Jgr Now Re-opened after Sale of H 11 J Hands' Stock. F FLM, SPECIAL SHOW OF GOODS. F Made on the American Style. S'l mfl AGENT FOR THE BEST MAKERS. jm K Boots, Foot Form for Men. m Jl High Class" Lotus" & "Queen" for ii Ladies. NOTE ADDRESS: ————————————— Vn Rp || AUf% (Late Hands & Co.) w >t. LLUlU, CONWAY ROAD, OOLWYN BAY. ;========== (:=E::===::¿:=:j) MILLINERY DEPARTMENT. i|( WE HAVE NOW ;;j! ■ A SPECIAL SHOW OF iii MILLINERY | FOR THE COMING SEASON. //I1 ^=== INSPECTION RESPECTFULLY INVITED. = F MISSES THOMAS. 7, High Street, CONWAY. III == LLANDUDNO JUNCTION. The Best* and Cheapest House is IIr Y\TOOD'S For HIGH-CLASS CASH GROCERY and PROVISIONS NELSON HOUSE, LLANDUDNO JUNCTION. Always a Continuous and Fresh Supply of Provisions of the Choicest Quality, together with Delicious Wiltshire Smoked and Home-Cured Bacons. FRESH BUTTER and NEW LAID EGGS from our Welsh Farm. Finest Gorgonzola and Cheshire Cheese. Orders by Post receive prompt attention. Distance no object. AST 0 14 S BODY Latest de5i best quality stri coach sp R I. r"5 best quality 5r WIIEEL5- ¿5,n 'n 12i" Rubber-tyred. DOUBLE ;n MA I L or Art HOOD- 551- fi}.ed or de-tachable N ETT Fl. m isti 7 et with or OM" :.pron2"; and wheels. ASTON'S V CARRIAGES IO| USBtSSSh I B5^THE I I rB^85/lrMAl 1 CART^^J I I I HANDSOME PUSH C-APT MM M PUSH CART N0536 M N, +7. UPHOLSTERED SEAT INTED CANE AND BACK Z5 I- NELT 7 NETT _.Ilgltc frff S. ASTON & 5 ON. LT E) -WREXHAM, CHESTER,, 0 S W IESTR iii-I'CHUR'H,SALOP, t#VOL%fERHAMPTON, SHREWSBURY, DENBIGH, NEWTOW.f4Or4T., CARNAR%(ON' WELLI NGTON,SALOP, LLA N I D LO E.S.
INodion Ned Llwyd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodion Ned Llwyd. AR COLL. Peth cas iawn ydyw colli unrhyw beth, a I chlywais am un y dydd o'r blaen wedi colli mochyn, ac mewn trafferth fawr yn chwilio am dano. Mae mochyn y dyddiau hyn mor werth- fawr fel mai nid colled fechan ydyw colli'r cre- ( adur. Bu tipyn o helynt yn yr ardal pan dde- allwyd fod y mochyn wedi myned ar goll, ac yr oedd ei berchennog wedi mynd yn lied ddi- galon. Ond pan ar roddi y gwaith o chwilio am dano i fyny, deuwyd o hyd iddo-yn gorwedd yn dawel yn ei dy ei hun, wedi ymgladdu yn y gwellt! Gan fod ei berchennog mor gynefin a'r gwaith o gladdu, chwilied y cwt yn gyntaf y tro nesaf, cyn cynhyrfu ei gymdogion. RHANNU'R MOCHYN. Mae ysgrifennu yr uchod wedi dwyn i'm cof yn awr ystori a glywais yn y tren y dydd o'r blaen. Mewn rhai ardaloedd, pan fyddai cy- I mydog yn lladd mochyn, yr oedd yn arferiad rhoddi rhan o hono i'r cymydogion, ac yr oedd yno hen gymeriad ag oedd wedi derbyn ei ran gan nifer fawr o'i gymdogion. Yr oedd yntau yn pesgi mochyn, a phan y daeth yr amser i'w ladd, yr oedd yn gweled pe rhoddai ran o hono i bob un ac yr oedd ef wedi derbyn ganddynt, mai ychydig iawn, os dim, fyddai ganddo i'w gadw iddo ei hun. Yn ei gyfyngder meddyliol aeth at weinidog ei gapel i ofyn ei farn. Gwelodd hwnnw yr amgylchiadau, a dywedodd Wel, y peth goreu ellwch wneud ar ol i chwi ladd y mochyn ydyw rhoddi y gair allan fod rhywun wedi ei ddwyn." Daeth ei fwriad o ddweyd hyn i glywedigaeth rhai o'r cymdogion, a'r noson ar ol i'r mochyn gael ei ladd aethant yno, a chymerasant ef i ffwrdd. Boreu tran- noeth aeth yr hen frawd at y pregethwr, a dy- wedodd Wel, mae'r mochyn wedi mynd." Ie, siwr, dywedwch chwi fel yna, a byddwch yn iawn." Ond ie, y mae rhywrai wedi bod acw neithiwr yn ei ddwyn." Dyna fo, da iawn; daliwch chwi i ddweyd y stori yna, a bydd pawb yn siwr o'ch credu." Gwylltiai yr hen frawd, ac yr oedd y pregethwr yn chwerthin yn braf, am y tybiai nad oedd neb wedi ei ddwyn, ond fod yr hen frawd yn cario allan y cyngor oedd wedi ei gael. Gan mai pregethwr oedd yn dweyd y stori, mae yn debyg o fod yn wir. Y BARDD 0 ABERGELE. Gan ei fod mor llawn o'r duedd i farddoni, synn gennyf na fuasai wedi cyfansoddi galareb ar ol lorwerth VII. Dyma gyfle iddo am an. farwoldeb. Yr oeddwn wedi meddwl galw i'w weled yr wythnos ddiweddaf, ond ofnais na fuasai ganddo hamdden i gael sgwrs gan fod yr haf ar wawrio, a gobeithiaf ei fod yntau yn cael digon o waith. Addawaf droi i fewn y tro nesaf. YN Y BETTWS. Yr oedd yn dda iawn gennyf weled fod plant y Bettws wedi llwyddo cystal yn yr arholiadau. Prawf hyn fod y bugail, y Parch. Owen Ffoulkes, yn llafurio gyda hwy. Os yr edrychir hanes yr arholiadau yma, ceir fod y mwyafrif o'r ennillwyr ynddynt yn perthyn i eglwysi bychain mewn lleoedd gwledig. Pan oeddwn yma dechreuais gael ymgom ddyddoral a.ffrynd, ond daeth un arall i'w thorri yii fyrr. Fel yna y mae yn y byd yma yn ami mae rhyw ond yn dod i ddyrysu y cwbl. Ond mi fynnaf gael gorffen yr ymgom eto rhyw ddiwrnod, pe byddai raid i mi gerdded milltiroedd. "Ond yr wyf yn disgwyl na fydd raid i mi ddim cerdded yn hir. Pan bydd marw holl berthyn- asau Catrin yma, disgwyliaf gael rhyw fil o bunnau a motor-car i fyndi ar ymweliad a gwa- hanol leoedd. A dyna groesaw gaf yn Llan- fair Talhaiarn, &c. Ond pa bryd y daw hynny, tybed? Feallai y byddaf wedi cael y ffon ar fy nghefn cyn hynny, neu fy rhoddi mewn dwfr poeth dros fy mhen. Ond dyna ddigon, hyd y cawn gyfarfod. Cadwer y tegell i ferwi, rhag ofn y byddaf yn pasio yn fuan, ac yna cawn yfed yr hen gwpanaid mewn hedd- wch a llawenydd. Y DONIAU MAWR. Cafodd pobl y Bettws yn ddiweddar y fraint o wrandaw ar y ddau bregethwr enwog-y Parchn. S. T. Jones, Conwy, a Wynn Davies, Bangor. Canmol mawr a glywais i'r ddau. Beth arall ellid ddisgwyl? Yr un peth ellir ddweyd am y Parchn. R. W. Jones, Bethesda, a Tecwyn Evans, B.A., ar ol eu gwasanaeth gwerthfawr yn Eglwysbach yr wythnos ddi- weddaf. Gwelais hanes Tecwyn Evans hefyd yn cadw cyfarfod pregethu gyda'r M.C. ym Mlaenau Ffestiniog. Nid wyf yn gwybod am yr un gweinidog o enwad arall ac sydd yn cael ei alw mor ami at y M.C. a Thecwyn. Bu son un adeg ei fod a'i fryd ar fynd atynt yn hollol, ond y mae y stori honno wedi darfod er's talm. Gallu a dawn Tecwyn sydd yn eu swyno i'w gymhell i'w gwasanaethu. YM MON. A mi un dydd yn ymdaith trwy y wlad honno, cyfarfyddais a Perorfryn wedi dychwelyd gar- tref o'r America, ac yn treulio ychydig o ddydd- iau yn ymweled a hen gyfeillion. Efe oedd a llawer i'w wneud gyda threfnu teithiau cor y Moelwyn pan ar daith yn y gorllewin. Dydd- orol oedd gwrandaw aino yn adrodd hanes y croesaw a'r derbyniad calonnog oedd y c6r en- wog yn ei gael yn y wlad fawr honno. Gad- ewais ef yng nghwmni y telynegwr enwog, R. R. Thomas, Amlwch. Gofidus oeddwn na fuasai amser yn caniatau i mi gael mwy o gymdeithas y ddau. YN YR AWYR AGORED. Yr oedd cwmni dramayddol Pwllheli wedi trefnu i fyned i le yn y wlad i roddi perfformiad o'r ddrama, Hirnos a Gwawr," yr elw i fyned at addoldy yn y lie, ac yr oeddynt wedi cael awgrym gan un o'r diaconiaid y cawsent fyned trwyddi yn yr addoldy ond pan aeth y cwmni i'r lie, gwrthodwyd yr addoldy iddynt, ac yr oedd yr ysgoldy yn y lie hefyd yn gloedig. Gan fod y cwmni yn wyr penderfynnol, trefnasant lwyfan yn yr awyr agored, ac aethant trwy y ddrama yn hwyliog iawn. Awdwr y ddrama ydyw y diweddar Barch. R. Parry, B.A., Llan- rug. Nid yn fuan yr anghofia y cwmni na'r ardalwyr y perfformiad dyddorol a gaed dan amgylchiadau anfanteisiol iawn. YSTORM. Pan yn ceisio ysgrifennu y llinellau hyn heno, mae y mellt yn gwibio a'r taranau yn rhuo o'r tu allan. Nid wyf yn cofio i mi glywed cymaint cynhwrf yn y ffurfafen ers llawer o amser. Trwy y cwbl, rhywfodd, yr wyf yn teimlo yn lied ddiogel yn y ty, ond er hynny yn ddigon pryderus. Cysur i ni gyd ydyw cofio fod yr holl ystormydd o bob natur yn cael eu rheoli a'u llywodraethu gan Un sydd yn deall y cwbl. Yr ydym ni yn ami yn methu deall amcanion yr ystormydd o bob rhyw sydd yn ein cyfarfod, a rhaid i ni aros i gael esboniad llawn. Daw hynny yn y man. Hawdd fyddai helaethu yn y cyfeiriad yna. Mae y beirdd wedi canu llawer am ddiogelwch yn yr ystom, &c. Da ydyw cael He i lechu, a theimlo yn hapus fel ac y teimlai Crych Elen ers llawer dydd pan y canai i'r Bwthyn bach to gwellt Pan yn rhuo byddai'r daran Ac yn gwibio byddai'r mellt, 0 'rwy'n cofio fel y llechwn Yn y bwthyn bach to gwellt." Canwyd llawer ar hon flynydd'au yn ol, ac yr wyf yn sicr. y rhoddid derbyniad llawen iddi eto. UN 0 FETTWS-Y-COED. Gan fod adroddiad arall wedi ei anfon gan ohebydd Llanrwst, nis gallaf fanylu yma. Diolch i chwi, er hynny. Drwg gennyf fyddi colli y cyfaill D. G. Hughes, ond gwened llwyddiant arno yn y wlad bell. Ai gwir ydyw fod yna rai yn wylo yn hidl yn y cyngherdd pan oedd y parti yn canu "The Soldier's Farewell"? Ryfeddwn i ddim, gan fod yna rai o deimladau tyner iawn. NED LLWYD. Weekly News Office, Conwy.
Nodion Llywarch Hen
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodion Llywarch Hen I Y mae natur eleni fel yn rhagori arni ei hun. Llechodd blagurion bywyd yn eu cell aeaf yn ystod Ebrill, a rhan o Fai. Rhyw fygwth agor yr oedd dail y coed. Daeth glaw Mai a heulwen I y Sulgwyn, a thonodd bywyd dros bob man. Agorodd y coed eu dail mewn undydd unos bron. Y fath liw gogoneddus sydd ar y foelfre, a phwy fel Creawdwr pob peth fedr gymysgu lliwiau'n briodol? Am gor y wig, y mae pawb yn canu ei gan ei hun, a phawb yn cynghan- eddu'n hyfryd heb un anghydsain rhwng y rhanau. Tawed dyn yn neuadd y gerddorfa hon. Son am gydgan wythlais, ni fedr dynion gynghaneddu fawr fwy o ranau. Yng nghorawd yr adar y mae cant o ranau yn cynghaneddu'n gain. Aeth Mai heibio heb i etholiad ddigwydd. Llawer broffwydodd rhai yn 61 awydd eu calonau am etholiad yng nghanol Mai. Clyw- som rai yn darogan hyn mor gadarn a phe buasent hwy eu hunain wedi ei threfnu. Hen arfer dda ein tadau oedd cymeryd amser yn dafelli amodol fel eu ceid. A rhoddant os byw ac iach" toesgar tel nrwyn ym mhen eu. disgwyliadau. Doeth fuasai i ninau ddysgu eu hen arfer hwy, a chofio fod UN uwchlaw pawb eraill, ac mai yn ei law Ef y mae'r awenau. Pe cofiem hyn, a pheidio proffwydo, fe gadwem ein hunain rhag gwarth cymeriad proffwydi Baal. Caniataodd y Barnwr Jelf, ym Mrawdlys Carnarfon, i'r tystion roddi eu tystiolaeth yn yr iaith wyddent oreu-yn eu hiaith eu hunain. Diolch iddo am ganiatau i Gymro roddi tyst- iolaeth yn ei wlad ei hun yn ei iaith ei hun. Onid yw nefoedd a daear yn ymryson rhoddi gras i ni. Gras barnwr yw cael rhoddi ein tyst- iolaeth yn yr unig iaith fedrwn—lawer tro. A gras yw ein crefydd ofewn ac ofaes. Y mae'r rhedegfa am Eisteddfod 1912 yn dechreu o ddifrif. Gwrecsam, Bangor, a Ffes- tiniog sydd a'u hwynebau ar y gamp. A phwy a'i caiff? Ym Mangor y mae'r ysgolheigion, yn Ffestiniog y mae'r Cymry, a'r Saeson yng Ngwrecsam. Bangor fedr ei hwylio oreu, Ffes- tiniog eu chroesawu oreu, ond dichon mai i Wrecsam y byddai'n fwyaf o foddion gras. Penderfynodd Cyngor Prif-Ysgol Cymru roddi haner can punt yn flynyddol tuag at gyhoeddi ffrwyth ymchwiliadau a wneir am raddau uchaf y Brif-Ysgol. Dyna gam, yn ddiau, yn yr iawn gyfeiriad. Ca rhyw rai M.A." a graddau uwch bob blwyddyn am ymchwiliadau. A pha le y maent? Er rhoddi gradd yn wobr am danynt, cant syrthio i'r tomenau llwch. Os nad ydynt yn werth eu cvhoeddi, nid yw'r graddau geir am danynt yn werth eu gwjsgo. Gweithred gyntaf Llywodraeth newydd De Affrica oedd rhyddhau yr hen Dywysog brod- orol Dinuzulu. Pechodd trwy garu ei genedl. Noddodd ei milwyr, fel y gwnaeth Cymru a Llywelyn ac ag Owen Glyn Dwr. Gwariwyd £ 10,000 o bunoedd a threiliwyd blwyddyn o amser i hela cwynion yn ei erbyn. Er na phrofwyd ef yn euog o un pechod pwysig, car- charwyd ef, ac ataliwyd ei flwydd-dal. Nis gall ei ryddhad lai na bod yn sen i'r bobl fedr foddio eu hunain a damnio'r canlyniadau." Os clwyfa'r weithred galon y balch, y mae cyd- wybod y Prydeiniwr yn ddigon byw a'n hiawnder yn ddigon mawrfrydig i un- iawni'r gwyr. Fel Cymro, ni fedraf feddwl am gondemnio'r hen Dywysog haner gwar, a ninau'n canu clod Llywelyn, ac yn bendithio y rhai a'i noddodd yn ei dywydd blin. Ym mha le y mae'r Fasnach Gaeth a'i hap- ostolion yn awr? A wangalonodd, ynte tawel- wch cyn yr ystorom ydyw? Aethym y dydd. o'r blaen, nid o ddichell, ond wrth angen, i siop masnachwr-arweinydd Ceidwadol-ein pentref i geisio blychiad o fatchis. Estynodd i mi flychiad Made in Russia." Rhoddwch i mi rai y wlad hon," meddwn inau. Nid oedd ganddo un yn ei faelfa. Ond," meddai," gan eich bod mor selog fel Diffyndollwr, mi anfonaf i shop i nol rhai; ond cofiwch, Radical penboeth ydi o." O'r goreu," meddwn inau, dyna reswm da arall dros eu bod yn rhai gwych am danio." Ai Diffyndollwr ydych chwi? meddwn. le, mwyn dyn i," oedd yr ateb. Diffyndollwr selog yn gwerthu matches made in Russia '? O," meddai, mi welaf wrth don eich llais fy mod wedi methu lliw'r deryn. Bore da." "Bore da i chwithau." Dyna ddiffyndollaeth yn yr ym- arferol ohoni. Creaduriad anghyson ydym, a'n gwladgarwch yn awchu mwy am droi pob ffrwd i'w melin ei hun nag am gadw'r ffrydiau sy yn ddilwgr. Sonir yn y dyddiau hyn am urddo Tywysog Cymru." Gan gofio, ni elwir ef yn "Dywysog Cymru," ond Prince of Wales," os gwelwch yn dda. Ar fwnwgl y Tair Pluen y mae'r geir- iau tramor Ich Dien." Xi freuddwyd Sais eu hawlio fel geiriau ei iaith ef. Ond gwelodd rhyw Gymro yr ch," a llefodd Cymraeg," heb betruster. A chwareu teg iddo, chwi dyb- iech ar y Saeson, nad oes ch yn yr un iaith o dan y nef ond yn y Gymraeg. Hen Gymraeg, cyn hyned a dyddiau'r Norman, beth bynag er amser lorwerth y Cyntaf, yw Ich Dien "— eich dyn." Os felly, un cam ar ffordd cysondeb yw galw eich dyn yn Dywysog Cymru." I Dywysog Gwlad y Bryniau y canodd Brinley Richards, ac enw anwyl yw hwn. Druan o Begwn y Gogledd! Yr oedd yn rha- mant swynol i ddynion, tra y medrodd ym- guddio yn ei fwllwch. Chwiliwyd am dano am ganrif a chwaneg. Cafwyd ef, o leiaf meddyliodd rhywrai fod pen echel y gread oddeutu rhyw gymdogaeth oerddu a welsant hwy. Daeth un adref ar garlam, a thaerodd mai efe oedd y cyntaf yno yn ogystal a'r cyntaf adref. Bellach am Bagwn y De y bydd son. Oes fasnachol ei hanian yw hon, yn prisio pob peth yn ol gwerth masnachol. Pa wybodaeth bynag gafwyd am wlad Goleuni'r Gogledd, ni rydd log arian i neb. Er hyn, wele gwmni arall yn ffarwelio a'u gwlad, a throant eu hwynebau i'r De pell i chwilio am y Pegwn hwnw. Gwlad yr awelon balmaidd, yr haf, a'r gwres fu'r De i feirdd Cymru, yn neilltuol ei beirdd crefyddol. Gwa- hoddent y deheuwynt clir," ac o'r De y daw hindda a thes. Gwlad y rhew fydd hithau bellach, a gwna penillion y Gogledd oer YH burion i'r De. Gwr buan yw Mr. Roosevelt, cyn-Lywydd yr Unol Dalaethau. Hawdd canfod ar ei osgo, a diwig ei feddwl, na naddwyd mo hono yn chwarelau gwleidyddol y wlad hon. Y mae ganddo synwyr cyffredin crvf a naturiol, heb ei rwymo yn heualau trefn ac arfer. Ei groesaw ac edrych trwy gil eu Uygaid ar ei foes wleid- yddol wna boneddigion y wlad hon. Tynodd dant blin yng nglyn a'r Aifft. Ymddengys y medr LIywodraeth weriniaidd fel America lyw.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SAVE MONEY by doaling with HUBBARD'S r- si C* 12 h L d Id U) 0 co COMMERCE HOUSE. 53. Wellington Road, RHYL. fc I I y 0 ViftYAM BVTII BY APPOINTMENT. REGISTERED. ELLIS'S Cautton: INSIST ON SEEING THE LABEL. GINGER ALE. R. ELLIS & SON, LTD. Head Office and Manufactory, RUTHIN, N. WALES. Established 1825. Telegrams-" Ellis, Ruthin." Telephone- No. i Ruthin. Liverpool Office and Stores-23 and 25. Baker Street, West Derby Road. Telephone No. 214 Anfield. London Agent—RICHARD DAVIS, 20, Maddox Street, Regent Street. Telephone No. 79s Mayfair. Manchester Agents—Midgely's Ltd., Chemists, St. Anne's Square. Telephone No. 1923 Central. Leeds Agents-Messrs. R. P. Brindley & Co., Wine Merchants. Clay Pit Lane. Telephone No. 616. Bradfor.t Agents—Messrs. W. Whittaker & Co.. Ltd., The Old Brewery. Telephone No. 909. Isle of Man Agents-Bucknall Bros., 8, Upper Church Street, Douglas.
I.....--...----. Cymantaoedd…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymantaoedd Plant Dosbarth Llanrwst. Eleni trefnwyd i gynnal dwy Gymanfa Plant yn y dosbarth, un yn Roewen a'r llall yn Llan- rwst. Cvnhaliwyd Cymanfa Roewen ddydd Sadwrn diweddaf, ac er nad oedd y tywydd yn ffafriol iawn, cafwyd Cymanfa ragorol. Yn y prydnawn, yn absenoldeb Mr. R. Williams, King's Head, llywyddwyd gan y Parch. W. E. Williams, Talybont. Dechreuwyd trwy i blant Ysgol Talybont adrodd Genesis xxii. 1-14, ac i Mr. O. W. Roberts, Llandudno, arwain mewn gweddi. Holwyd y plant yn yr Holwyddoreg" gan Mr. T. W. Jones, Maenan, a chafwyd holi ac ateb gwir ragorol. Arweiniwyd y canu gan Mr. Owen Williams, Eglwysbach, ac yr oedd yn amlwg fod yr oil o'r ysgolion wedi cymeryd trafferth neilltuol i ddysgu y tonau, oblegid yr oedd y canu yn nodedig o effeithiol. Llywydd- wyd cyfarfod yr hwyr gan Mr. W. H. Williams, Station House. Adroddodd plant Ysgol Beth- ania, Eglwysbach, loan ii. 1-11 yn rhagorol. Arholwyd y plant yn y Gwyrthiau gan y Parch. O. Gaianydd Williams, ac yr oedd yr holwr a'r plant yn eu hwyliau goreu. Yr oedd y canu yn y cyfarfod hwn eto yn wir ragorol. Teimlad pawb oedd fod y Gymanfa o'i dechreu i'w di- wedd yn llwyddiant mawr. Rhwng y ddau gy- farfod mwynhaodd y plant wledd o de a bara bnth yn Ysgoldy y Cyngor, ac y mae clod nid bychan yn ddyledus i'r cyfeillion yn y Roewen am y ddarpariaeth ardderchog oeddynt wedi ei gwneud ar gyfer yr wyl. Yr oedd plant o'r Ys- golion canlynol yn bresennol: Ty'nygroes, Bryn- daionyn, Bethania (Eglwysbach), Llanrhych- wyn, Trefriw, Talybont, a Llwynygwaew. Cyn- helir y Gymanfa yn Llanrwst ddydd Sadwrn nesaf, pryd y bydd yr ysgolion canlynol yn bre- sennol Tanycelyn, Salem, Carmel, Bethel, Tanlan, Nant, Tafarnfedw, Seion, Heol Scot- land, a Watling-street.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae Blaenau Ffestiniog, Lerpwl a Gwrecsam, yn bwriadu gwneud cais yn Ngholwyn Bay eleni, ar fod i Eisteddfod Genedlaethol 1912 gael ei chynnal yn eu gwahanol drefi. Un lie, wrth gwrs, fydd yn llwyddiannus, ac ni pherthyn i ni ddangos allan hawliau y naill na'r llall. Diau y caiff y rhai hynny eu gosod o flaen Cym- deithas yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd yn y cyfarfod blynyddol.—" Y Cerddor."
.---.,.._-------Llanfair Talhaiarn.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llanfair Talhaiarn. YMGOM JOHN JONES A'I GYFAILL. JOHN JONES Beth wyt ti yn ei feddwl o'r Weekly News fel newyddiadur? CYFAILL Wei, gan dy fod wedi gofyn cwestiwn fel yna, fy marn i ydyw mai un da iawn yw. J. J. Sylwaist ti ynddo yr wythno's dwytha am Bobl a Phethau Llanfair Talhaiarn ? C. W ei, do, ac yr oeddwn yn eu gweld wedi rhoi hoelion a hyd da ynddynt. J. J.: Beth ydyw dy farn di am Eglwys y M.C. yn bwriadu cael bugail? C.: Da iawn, yn wir; pe buaswn yn gallu rhoi help iddynt, buaswn yn gwneyd. Byddaf yn hoffi cam ymlaen bob amser er daioni. J. J. Wyt ti'n meddwl fod yn iawn cyhoeddi moddion canol yr wythnos, a'r swyddogion yn absennoli eu hunain? C. 0 bobl, na; mae peth felly yn anes- bomadwy i mi. Byddai yr hen swyddogion yn chwilio am y defaid, os byddent ar ol. J. J. Onid ydyw yn beth rhyfedd fod pobl mor fyw ar hyd yr wythnos hefo'r byd, yma, ac mor farwaidd ar ddydd marchnad enaid1 ? C. Wei, nag ydyw, pan gofier am yr oes yr w/t ,t: yn kyw ynddi, o herwydd oes y cystadlu ydi hi, medde nhw. J. J.: Beth ydyw dy farn di, dwad, ydi o yn beth iawn rhoi y seiat a'r cwrdd gweddi o'r neilltu amser y cynhaeaf gwair a'r yd, yn ol dysgeidiaeth y Testament Newydd? C. O, nag ydyw, ar bob cyfrif, o herwydd mae eisiau gwasanaethu mewn prysurdeb cystal ac amser arall. Dylid cofio na choronir neb heb ymdrech gyfreithlawn. J. J. 'Rwyt ti yr un farn yn hollol a min- f ij T yn meddwI y dylai proffes- Tobrwydd? 1 "WybraU gwirio°edd a C. Wei, mae gennyf ofn dy fod wedi gofyn cwestiwn go galed rwan..Byddai yn fwy fflfriol tase ti yn gofyn oni ddylai gwirionedd a sobr- wydd gilio o'r ffordd; ond er hynny, 'rwyt ti Znr y 1 eisiau rhinwedd a sobrwydd— Gwnewch Iwybrau uniawn i'ch traed, fel na throer y cloff o'r ffordd." J. J. Yn dydi pobl yn rhyfedd, dywed Synnais yn arw wrth ddarllen fod Sadrach druan, yn cael y fath fygythiad a'i dynnu trwy afon Elwy. C. Dyna fel y mae hi o hyd, wel di; y gwir sydd yn lladd; ac am arfer y gwir mae eisiau lladd hwnnw, medd un dosbarth, ond gofeuni ° PW>" ydynt' Ni f>'nnant ddyfod i'r J ,J- ^*n wirionedd i, 'roedd yn dda gennyf weld crybwylliad am fod eisiau deddf i atal pysgota ar y Saboth. tal C. Gallaf finnau dystiolaethu yn dy ffafr am yr un peth, o herwydd mae yn wrthun gweld y fath beth yn nyffryn prydferth yr Elwy yma, heb son am Gristionogaeth. 5 J- J VVyt ti ddim yn meddwl mewn difrif, rwan, y buasai modd' gwneud i ffwrdd a'r coaches mawr ar y Saboth o'r lie yma? Mae yn rhyfedd meddwl fod proffeswyr yn rhoi y fath hwylysdod 1 r cyfryw ar y Saboth. L. Yn wir, mae yn rhyfedd meddwl am yT7 °leu hon; ond wyxMost, fe fwyd 61 enedlSaeth ^aint am saig o J. J. Mae yn rhwyr i mi fynd tila Ue^ byddaf1 J Wraig aCW yn methu deaJl cawn min.nau fy°d hefyd; hwyrach y awn ymddiddan eto ryw noson. 4.8.-
Cymanfaoedd Canu 1910.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymanfaoedd Canu 1910. AT OLYGYDD Y Weekly News. Syr,-Gwelaf fod' eich gohebydd Ned • r yn ei '"Nodion yr wythnos ddi- weddaf yn gwneud sylw o'm llythyr, dan y pen- nawd uchod, rhyw wythnos yn ol. Dywed fod rhywrai wedi anfon ato am ei farn ar y mater. Nid ei farn ef sydd arnaf fi ac amryw eraill ei eisiau, ond barn cynrychiolwyr eglwysi y cvlch- Maen Itawn bryd i'r mater h^„ faefeiSd, weinvdd^oi^n'Si°r ED' P°B parch i'n bar- einyddion lleol am eu gwasanaeth da ewerth- tuallan11 1 lv^hnn°r Flynyddau yn ol rhai o'r bob blwvddvn y, yman^a fyddai yn arwain DOD Dlwyddyn, a buont yn hvnod o Iwvdd- pewyno^o chlywais fod yr arweinyddion lleol arwaTn v VWbl fa C]hJaWSant hwy y fraint o arwain y Cymanfaoedd Canu y pryd hynny, r„rnape,hintJ- gwaith ynyewyllySga° a ,nf ■ Pwy sydd' wedi arwain mwyafrif cym- anfaoedd canu yr Anibynnwyr y flwyddyn hon trwy Dde a Gogledd Cymru? Onid Mr Caradog Roberts, Muc Bac., Rhos? Y mae ef rn ddv^ leuanc galluog a cherddor o'r radd flaenaf a dylem fel enwad fod yil faich 0 hono b d^ai hefyd yp anrhydedd i ni i'w gael i'n harwain. GobeUfnaf yn fawr bydd i holl eglwysi y cylch roddi galwad unfrydol iddo ddyfod i arwam V Ydwyf l-c7 Wyddyn neSa/ yn Llandudno.—* Y AELOD O'R CYLCH.
----,Congl yr Awen.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Congl yr Awen. CYFARCHIAD PRIODASOL I Mr. J. R. Williams, mab Mr. Richard Williams, f,orweD,a.. Blodwen Mills, merch Mr, Edward Mills, U.H., Fron Eiran, Llanrwst. J. R. yn awr rhagori-a'r wraig wyr Wir garu'th goroni Eiddunaf fawr ddaioni Ar eich hynt yn wir i chwj. Blodwen a thi oedd bleidiol-i uno Yn anwvl blethiadol; Ond dydych annadodol Mewn hwyl iach a dim yn 61. Y ddau asiwyd yn hedd lesu-yn awr I dinon gyd-dynu Braint yn siwr i'r gwr garu Doniau a gwên Blodwen gu. Nawdd a hedd y nefoedd iddynt.-a haf U hyd a'i wen arnvnt A gras i'w wel d heb groes wynt Ar eu hwyliau'n creu helynt. Llanrwst. R. g COF CARIAD. (EFELYCHIAD). Cofia'r byd am 1870 'Herwydd rhyfel Ffrainc a Germ'ny, Cohat inau r flwyddyn seventy Am mai ynddi cefais Nellie. Cofia'r Lords am flwyddyn Nawfed ■Herwydd George a'i fall Gyllideb. Cofiaf inau byth am dani Am mai ynddi collais Nellie. THE HEARTS CALENDAR. The world remembers in that year A Nation's splendid victory, The year I jiyst beheld your face Is all it means to me. Another year, how could I reck War, famine, earthquake, aught beside ? My heart knows only one event It was the year you died.
Nodion Llywarch Hen
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
odraethu'n fwy haearnaidd na llywodraeth ym- erodrol fel ein gwlad ni. Ein dyledswydd gyntaf yn 61 y gwr fu'n cymodi China a Japan yw rhoddi ein troed ar yr Aifft, yn rhywle rhwng ei hysgwydd a'i gwddf. A thyna'r pap- urau Ceidwadol fu'n wylo dagrau am Edward yr Heddychwr yn curo eu dwylaw i ysbryd rhyfel. A wariodd y giwaid gwaedlyd sy'n y wlad y deucant a haner o filiwnau a gawsant fel cnu rhyfel De Affrica, pan y mae eu cen- hadon yn sychedu am waed eto? Wele heresi goch danlliw. D. P. Williams, Ysw., yw Uchel Sirydd Swydd Garnarfon, a chan ei fod yn Ymneilltuwr, dewisodd ei wein- idog ei hun, y Parch. T, E. Hughes, M.A., yn gaplen. A dywed y doethion na fu'r un gwein- idog Ymneilltuol yn y swydd o'r blaen. Nac anghofier i Gromwel halogi'r holl swyddi trwy osod ynddynt ddynion da yn lie segurwyr-yn ol ei farn ef. Pan aeth y Barnwr Jelf i'r Eg- lwys i wrando gwasanaeth cyn dechreu ei waith o weinyddu cyfiawnder yn y frawdlys, yr oedd y Ficer parchus wedi sori ar arch ei Esgob, safodd draw, ac anfonodd un o'i weision yn ei le. Darllenodd hwnw wasanaeth byr, gadaw- odd y llithau allan i ochel y demtasiwn o ofyn i'r Ymneilltuwr eu darllen. Gan y rhaid i farnwr wrth y ddefosiwn hon cyn y medro gyf- lawni ei ddyledswydd, paham na wna capel YmneiUtuol y tro? Y mae'r Beibl yno, a cheir yno bobl fedr ei egluro cystal ag Esgob, a llawer iawn gwell. Nid ydym yn beio cymaint ar yr Esgob na'r Parch Wynne Jones, M.A., chwaith. Ar y drefn y mae'r bai. Tyf dynion yn 61 maint eu ham- gylchoedd. Os un math o drefn grefyddol a gymeradwyir gan y Llywodraeth, hollol naturiol i addolwyr y drefn hono feddwl yn eu calon fod y nefoedd a'r Llywodraeth o'r un farn. Tyf balchter fel myrtwydd mewn lleoedd llawer mwy anfanteisiol na hyn. « A yw cymdeithas yn rhoddi'r llog priodol am yr arian suddir ynddi? Gwrteithia'r amaethwr ei dir, a cha well cnwd yn wobr am ei dra- ff erth a'i golled. Gwelleir diwig dinas, a cheir llog da yng nghynydd gwerth ardrethol a threthol y fangre. A saif cymdeithas yn ei hunfan? Beth yw'r gwynfan sy'n nychu ei thyfiant. Swynol yw cerddi rhyddid. Ein rhyddid er hynny lawer tro yw ein gelyn penaf. Mag yr aderyn ei nythiad, ehedant dros y nyth a yntau i'r llwyn i dreilio ei haf tan ganu, heb ofalu am ei imp tri mis oed. Y mae cysgod trwm yr un ddeddf yn gorwedd ar gym- deithas. Treulir llawer ar addysg. Mae'r ffrwyth? Ai Ilai'r gost ar heddgeidwaid a charcharau? A yw'r Wyrcws yn wacach, y tlodion yn llai eu rhif, a'r dareth yn ysgafnach? Yn 1870 aeth addysg ar y dreth. Cam hir a phriodol. Y mae'r plant ddysgwyd yn 1870 yn benau teuluoedd heddyw. A ragorant hwy ar eu tadau a'u mamau fel ceidwaid teulu a rhieni plant? A leiha tlodi? Yn Undeb Conwy cyn- hvdda. Dvma'r ffigvrau am ueain mlvnedd:- Mawrth, 1886 ^2,170 Tlodion. 914 1896 ^2,301 816 j. 1906 £ 2,601. 062 Ar bwys y cynal a'r cynorthwyo, oni ddylai'r Undebau ddysgu mwy ar y bobl i ddarbod a chynilo? Mae'r hen riniau oedd yn ein gwlad gynt? Collwyd y Tylwyth Teg, a chollwyd hefyd swyn- ion hwylus. Newidiodd cymdeithas ei meirch. Y tan a'r dwr a'r trydan sy'n agor eu dirgelion, ac yn ymryson i'n gwasanaethu ni. Coelion doniol oedd angylion gwarcheidiol ein tadau. Bendith enfawr i'r oes foduraidd hon fuasai'r arfer y taera Thomas Prys o Bias Iolyn ddarfod iddo ef ei gweled a'i lygaid ei hun. Dyma ei ddarluniad ofergoelus ef o gyneddf v Dulyn yn Eryri:—" Llyn Dulyn in Eryri upon which no fowl alights. Into it runs a Sarn of Stones who- ever goes upon it and throws water upon the furthest stone in it. rain will issue before night. The author saw this experiment often tried in hot weather, and it always succeeded." Ddaed pobl oedd ein tadau. Gwyddent sut i hwylio'r gwynt a'r gwlad i'w gwaith eu hunain. Tyb- iasom mai Ilyn du oedd ystyr y gair Du- lyn," mai ei liw roddodd iddo ei enw, ac mai felly hefyd y galwyd ei frawd yn Melynlyn." Ond awgryma'r gyneddf hon i mi ystyr arall- .1 Duwlyn." Tybed yf erys yma hen adgof am amseroedd eulun addoliaeth ein tadau—i'n tadau gredu y llechai un o'u duwiau yn safn ddofn yr hen losgfynydd?