Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. EISTEDDFOD BOXING DAY.—Wrth hon y .golygir yr un a gynhelir yn Shoreditch Town Hall, yn flynyddol, gan Undeb YsgoL- ion Sabbothol M.C. Llundain. Fel y dywed- ai Mr. Edward Jones, y cadeirydd hybarch, dal ymlaen y mae yr Eisteddfod hon o hyd, tra mae rhai ereill, mwy rhwysgfawr, fe ddichon, yn marw y naill ar ol y llall. Fel y dywedais cyn hyn, nid yw yr Eisteddfod hon wedi bod yn neillduol ffodus o ran ei thestynau cerddorol yn y gorffenol; ond dengys y rhestr y tro hwn welliant sicr, a gobeithiaf y gofelir yn y dyfodol am destyn- au na fyddant islaw cyrraeddiadau presennol y cantorion. = £ Peth diflas ydyw gweled bai ar drefniadau ,pobl ereill, ond credaf y byddaf yn gwneud gwasanaeth i'r Undeb uchod drwy awgrymu y cyfnewidiad canlynol i'w sylw a'i ystyr- iaeth Yn lie cynnal prelim am bump o'r gloch ddydd yr Eisteddfod-pryd nas gellir gobeithio gwrandaw ar yr oil o'r cystadleu- wyr-da fyddai tref a-a i gynnal prelim ar nos lau, wythnos cyn yr wyl, a llogi cerddor lleol cymwys i "chwynnu." Gellid cyhoeddi ei enw yn y Rhestr Testynau, fel y byddo pob ymgeisydd yn gwybod wrth gynnyg, ei fod i gydymffurfio a'r trefniant hwn. Os na wneir rhywbeth fel hyn, Eisteddfod bum1 awr a geir yn y dyfodol fel yn y gorffenol, ac y mae hynny yn ychydig ormod o dreth ar bobl. Meddylier am yr awgrym. Am chwareu darn ar y berdoneg, gwob- rwywyd Annie Evans, Falmouth Road. Tair yn ymgeisio. Yn y gystadleuaeth i gontralto, yr oreu allan o dair am ganu There is a Green Hill," ydoedd Miss Enid Edwards, Clapham Junction. Yr oedd yn ei datganiad hi fwy o amrywiaeth mynegiant nag a gafwyd gan y lleill. Da iawn gennyf gael adgof am fy hen gyfaill y diweddar Annie Williams, a chael prawf diamheuol ei bod yn byw yng ngallu lleisiol ac ysbrydiaeth ei merch! Boed i Enid lwyddiant mawr yn y dyfodol. Rhanwyd y wobr am ganu Yn iach i ti, Gymru," cydrhwng Mary Morgan, Jewin, a Lizzie Davies, Jewin. Bu tri pharti yn ymgeisio ar y bedwarawd, Tell me, Flora (Pinsuti). Wele'r feirn- iadaeth— Party 1. Soprano good, brilliant voice. Contralto rich voice. Bass rather peculiar (tone. Top notes not good. Not much attempt at expression by this party. Sang mezzo jorte throughout. Party 2. A party of good voices. A very ,good blend. Enunciation and expression good throughout. Party 3. Prominent soprano. Alto a good voice. Tenor wanting in resonance. Bass rich, with just a little tremolo. Not so good .as a quartette. Goreu rhif 2, sef parti Seisnig perthynol i Gapel Pembury Grove, Clapton. Yn yr Ear Test, goreu Parch. Ishmael Thomas, Stanford Rivers, Essex. Am ganu Tad yr Amddifad," goreu Miss Annie Thomas, Morley Hall. Wele'r feirniadaeth— No. 1. A good voice. Top notes a little pinched." Enunciation and intonation good. Performance as a whole rather cold. No. 2. A bright, fresh voice. Attack and release of various notes good, but a tendency to exaggerate. Expression good. No. 3. A good voice. Sang quite correctly. Intonation and style good, but there was not enough of the prayerful spirit in the rendering. No. 4. A bright, brilliant soprano voice. Sang quite correctly. Good intonation throughout. She made one slip in phrasing, viz., at the start, disconnecting Tad and "amddifad." The right spirit was in this rendering. It was pregnant with feeling. No. 5. A good voice, but production defective. Style immature. Goreu rhif 4—Miss Thomas. Am gyfansoddi ton Goreu, gwr o'r wlad, allan o gystadleuaeth. Y goreu, yn ei le, ydoedd Spontini," ond ni ymddangosodd. Am ganu'r unawd tenor prydferth Nir- vana," goreu allan o dri ydoedd Parch. Ishmael Thomas. Y feirniadaeth- No. 1. There is a richness in his voice: you felt the thought in the singing of this singer. Voice weak at times, but there was a meaning in all he sang there was that true tenor" ring." No. 2. A better voice; a bigger voice. Top notes invariably forced. Gormod o guro ami." No. 3. Voice fairly good wanting rather in resonance. Sang every note correctly except last two notes. Many tones a shade out of tune. A good performance, but nothing exceptional. Goreu rhif 1—Parch. I. Thomas. Y Brif Gystadleuaeth Blodeuyn bach," Buddugoliaeth Calfari." Daeth dau gor ymlaen, sef cor bach Clapham Junction a chor mawr Falmouth Road. Wele'r feirn- iadaeth— No. 1 (Clapham Junction). Sopranos brilliant but not always in unison. Altos rich but rather too prominent. Tenors weak for the other voices. Sang the part- song correctly as regards notes and time. The blending of the voices was not quite satisfactory. Style fairly good, but not enough blending and beauty—not dainty enough; not delicate enough. Intonation fairly good. The harmony not always quite clear. Second piece Good time at start, but first portion rather slow. Solo good: much feeling. Choir came in with good feeling, but phrasing not good. The last part, much spirit and yet not much feeling: a good deal of fire but it was not warming No. 2 (Falmouth Road): Soprano and alto fairly good-altos produe!ng their notes very often too "open." Tenors fairly good. Basses excellent. In the part song the singing was correct. The conductor should not sing with the sopranos. Bass solo- sung by the Basses-a good tone, and the accompaniment by the other three voices very nicely rendered. There was here a good rendering, clean and clear. Second piece (" Buddugoliaeth Calfari "): Time excellent. Emphasis good in the various parts. This rendering gave us the right "atmosphere." A better rendering in the last part than that given by the first choir, and not failing at all in warmth. Falmouth Road gipiodd y wobr, o dan arweiniad organydd y lie, a chyfeilydd yr Eisteddfod, Mr. Evan Jones. Nis gallwn aros i wrandaw ar y gystad- leuaeth i Baritones a'r Partion. Hwyrach y gallaf aros hyd y diwedd y tro nesaf. Gofaler am drefnu fel y gellir darfod yn brydlon-tua deg o'r gloch. Dylaswn fod wedi dweyd ddarfod i Mr. David Evans, y beirniad, wasanaethu fel beirniad, a thybiaf iddo foddhau pawbond rhai o'r cystadleuwyr aflwyddianus. EISTEDDFOD Y WESLEYAID, CITY ROAD.—Y mae rhestr testynau hon ger bron. Beirniad y canu fydd Mr. Hugh Hughes, Treherberfc. Y prif ddernyn corawl ydyw Ein Hior. Ben-llywydd "—darn sydd yn gystadleuol hefyd yn Eisteddfod Battersea ar y 23ain cyfisol. Gwobr £ 15. I gorau plant ceir Yr Udgorn a Gan"; ac i barti, y darn Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." Oddigerth y bedwarawd, "Regular Royal Queen (Sullivan), y mae yr oil o'r darnau yn rhai Cymraeg. Y man cyfarfod fydd Shoreditch Town Hall, lau, Mawrth y pumed. Gobeithiaf y ceir Eisteddfod dda, boblogaidd. EISTEDDFOD Y QUEEN'S HALL.-Dywedodcl un o'r ysgrifenyddion wrthyf fod rhagolygon rhagorol i hon. Disgwylir o leiaf chwech o gorau meibion o'r wlad-rhai fuont eisoes yn cystadlu ar yr un darnau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd gennyf fanylion pellach yn y rhifyn nesaf. Cofier y dyddiad- Ionawr y 30ain.

Am Gymry Llundain.