Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DECHREU'R FLWYDDYN.—Dyma gyfle eto i wneud penderfyniadau newydd-penderfynu i fod yn well Cymry, i gadw'r iaith yn fyw, ac i noddi ein llenyddiaeth gyfoethog. GWLEDDOEDD A CHAN.-Dyna fu mwyniant y Nadolig eleni, a daw'r hanes o bob eglwys fod cyfarfodydd hapus wedi eu cynnal, a chynulliadau mawr yn yr oil. CARTREF JEWIN.—Caed hwyl anarferol yma nos Nadolig, ac roedd y bobl ieuainc mor ddiddan a phe ar aelwyd gartref. Profai'r cynulliad mawr ddaeth ynghyd fod y "cartref yn un gwir angenrheidiol. Y TABERNAOL.—Bu aelwyd ddiddan yn y lie hwn hefyd, ac roedd hwyl y Nadolig ar yr holl weithrediadau. Arweinid gan Mr. Thomas Davies, a chadwyd y cyfarfod i fynd am oriau lawer. NEWID Y CYNLLUN.—" Arfer yr Eisteddfod Genedlaethol yw talu i'r arweinydd a gadael y beirniaid llenyddol yn ddi-dal," meddai Mr. D. R. Hughes, yn Eisteddfod Boxing night, "ond yma yr ydym yn talu i'r beirn- iaid llenyddol, a does dim sylw yn cael ei wneud o'r arweinydd." Mr. Hughes oedd yr arweinydd, a gobeithio fod y pwyllgor wedi cymeryd yr awgrym doniol. CANTOR AO OFFEIRIAD.—Nid yn ami y gwelir offeiriad yn cystadlu ar Iwyfan eis- teddfod, ond cipiodd y Parch. J. Ishmael Thomas, B.A., ddwy wobr yn Eisteddfod Boxing Night. Mae Mr. Thomas yn denor- ydd gwych, ac am dymor bu'n precentor and minor canon" yn eglwys gadeiriol Norwich cyn ei ddyrchafu i fywioliaeth ger- llaw Romford. Mab i'r bardd swynol Dewi Hefin," o ardal Llanbedr Ceredigion yw Mr. Thomas. EAST END MISSION.—Ply gain.—Daliwyd i fynu yr hen arferiad o gynnal plygain yn yr eglwys uchod eleni eto. Daeth nifer lied dda ynghyd erbyn pump o'r gloch y boreu, a chafwyd gwasanaeth gwresog. X mas Tree, —Cawsom wledd ragorol Boxing night, rhoddedig gan Mr. Tom Lloyd, Roman Road, warden y bobl, ynghyda chyngerdd a'r Goeden Nadolig a'i anrhegion i'r plant. Nid oes ball ar haelioni y gwr hoffus hwn yn y lie. Mac ein diolchgarwch gwresoeaf yn ddyledus iddo. Nid rhyfedd fod awenau'r beirdd wedi eu tanio i ganu ei glodydd yn ystod y cyfarfod. Llywyddwyd gan v Parch. H. Watkins, B.A. Yr oedd gofal trefniadau'r Xmas Tree yn nwylaw medrus Mr. W. A. Jones, East Ham. Cafwyd cyfar-