Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
TELE RATI AM HYSBYSIADAU.
TELE RATI AM HYSBYSIADAU. Chwe' llinell a than hyny Is. 6c. y tro. Am bob Uinell ychwanegol 3c. Hysbysiadau am chwarter blwyddyn a throsodd, am brisiau llcmer is.
HELBULON GOLYGWYR.
HELBULON GOLYGWYR. DRUAIN o Olygwyr newyddiaduron, tru- anaf 'o'r holl ddynion ydynt hwy. Dibyna eu bywyd a'u bodoliaeth olygyddol ar y ffafr a gaffont yn ngolwg y werin, ac nid bendith mor hawdd i'w henill ar IFordd wir anrhyd- eddus bob amser yw hono ac nid anhawdd yw ei cholli o'r tu arall ar ol ei chael. Yn o gyffredin yn Nghymru, ac yn Lloegr hefyd, dyrchefir newyddiadur i'r cymylau gan lawer ar ei ymddangosiad cyntaf, tra bydd eraill yn cilwgu ac yn chwyrnu arno: Y mae genym yn Nghymru beth bynag luaws o gyfeilion na thai newyddiadur ddim gan- ddynt, os na wneir pob peth yn ol eu meddwl hwy, mynant fod yn Archolygwyr arno, yn enwedig ar ei golofnau Gohebiaethol os croesir hwy, y papur gwaelaf dan y nef fydd y papur, a gwnant a allant hwy i dori ei nodweddiad, Hadd ei ddylanwad, ac atal ei gylchdaeniad. Er nad yw y TYST ond ieuanc iawn eto, dim rhagor na mis oed, y mae yn ystyried ac yn deall ei fod wedi dyfod i fyd profedig- aethus.-bod llygaid eiddigus yn ei wylio. Profodd eisipes fod gwahanol feddyliau a barnau am dano yn y wlad, oddiwrth a fyn- egwyd yn ei glust gan hwn a'r llall. Cychwyn da ragorol,' medd un, ewch yn mlaen fel yna, a'r TYST a fydd pia hi.' Nid yw eich TYST yn deilwng o'r enw newydd- iadur, hyd yma,' medd yr ail. Y 'mae yn bur dda, ond yn rhy grefyddol,' medd y try- dydd. Gofalweh am gadw digon o yspryd a thon grefyddol ynddo,' medd y pedwerydd. Gadewch i ni gael ambell i novel ddyddorol ynddo,' medd y pumed. Peidiwch byth a dodi un math o novel ynddo,' medd y chweched. I Di-on o hanesion cyffredin, a llai ddengwaith o hanes Eisteddfodau, Cyf- arfodydd Lleoyddol, a chyflwyno Tystebau, &c. medd y seithfed. Gadewch i ni gael adroddiad cyflawn heb dalfyru dim arno o hanes pob Eisteddfod a Chyfarlod Llenydd- ol," medd yr wythfed. 'Rhowch ddigon o snuff ynddo beth bynag,' medd y nawfed. Gofalwch am erthyglau byrion, gwreiddiol, a chryfion,' medd y degfed. Wel, ddarllen- wyr, mewn difrif, beth meddech chwi eich hunain am danoch eich hunain ? Ai dichon- adwy eich boddloni oil, debygech chwi ? Hyd y deallasom ni ysbryd y byd llenyddol, teulu y snuff ydyw y dosbarth lluosocaf ynddo. Ni waeth tewi son, y mae y snuff yn boblogaidd i ryfeddu. Os caiff y dosbarth lluosog hwn ddigon osnutJ mewn newydd- iadur, i beri iddynt disian wrth ei darllen, pob peth yn dda: rhaid iddynt gael snuff yn y bregeth hefyd cyn y bydd hi yn iawn. Y mae Daily Telegraph yn fwy poblogaidd nac un newyddiadur dyddiol arall yn Lloegr, am fod mwy o snuff ynddo. Un elfen yn mawr boblogrwydd Spurgeon ydyw fod snuff yn ei bregethau. Wel, ydyw, y mae ambell i binsied o snuff yn burion yn ei le ac y mae tisian tipyn weithiau yn ysgafnhad ac adnewyddiad i natur ond ni ellir byw ar snuff, cofier a thisian llawer fyddai'n flin- der i'r cnawd. Rhaid meddwl am wneyd rhywbeth heblaw snuffian a thisian. A phe na byddai newyddiadur yn cynwys dim ond snuff, nid hir y byddai y rhai sydd hofFaf o snuff, heb laru arno. Heblaw hyny, cofied y snufftakers, bod dosbarth arall o bobl yn bod, nad oes dim a fynont a snuff fodd yn y byd, yn ystyr lythyrenol na llenyddol y gair, teimlant eich bod yu eu sarhau os cynnyg- iwch ef iddynt a rhaid gofalu am danynt hwythau hefyd. Ymdrechwch gyd-ddwyn eich gilydd. ac a ninau, ddarllenwyr caredig, a gwnawn ninau ein goreu i'ch gwasanaethu chwithau, ac yn mysg pethau eraill, gcfalwn am gymaint o snuff, ac a farnom yn ddoeth ar les y TYST, ac yn fuddiol i chwithau.
METHIANT RHEILFFYRDD.
METHIANT RHEILFFYRDD. MAE yr anturiaethau a wneir gyda'r reil- ffyrdd yn troi mor aflwyddianus yn fynych nes tori y cwmniau cyfoethocaf; ac yn gwneud y dynion y tybid fod eu cyfoeth yn ddiderfyn yn fethdalwyr. Mae yn flin genym fod firm aurhydeddus y Meistri Peto, Betts, a Crampton (y firm o'r hon y mae y gwr haelfrydig Syr S. Morton Peto yn un) drwy fethiant y reilffyrddarfynedos nad wedi myned trwy lys y Methdalwyr. Mae y fath wastraff ar arian yn nglyn a llawer o'r reil- ffyrdd a wneir y fath fel y mae yn anmhosibl iddynt dalu. Mae cynildeb yn fwy ar ol mewn cwmniau cyhoeddus nac yn un man. Mae pob peth a wneir gan gwmni yn myned yn fwy treulfawr a pha fwyaf y ewrnni mwyaf y draul a llywodraeth j ewmni mwyaf bob amser ywydrutaf.
"> • •• C CYKROL 0 BREGKT1IAU.;'
"> • •• C CYKROL 0 BREGKT1IAU. Parch..Ei Pa^§s,;Waterville, -nredi a«fpn i mi gopi o'r gyfrol o bregethau a' gyhoedaodd yn Amer- ica, i'w rhoddi i bob un a roddodd bregeth iddo. Bydd- ant i'w cael ond galw am dajiynt yn Swyddfa y TYST CYMREIG, neu anfonaf hwy trwy y Post ond i mi gael 4 stamp ceiniog i'w gosod ar bob un. J. THOMAS, 11, The Willows, Liverpool.
." CYMANFA BEDAIR-SIROL DEHEUDIR…
CYMANFA BEDAIR-SIROL DEHEUDIR •; n, CYMRU. }A <. CYNALIWYD Cymanfa Siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, a Maesyfeci eleni yn Bethania, Cwmavon, ar y dyddiau Mercher a lau, Gorph. y lOfed a'r lleg. Am 11 o'r gloch dydd Mercher, cynaliwyd cynnadledd, pryd yr oedd nifer luosog o weinidogion, myfyrwyr, pregethwyr cynorthwy- ol, a diaconiaid yn bresenol. Wedi neillduo y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe, yn Gadeirydd, a'r Parch. J. Roberts, Castellnedd, yn Ysgrifenydd, gweddiodd y Parch. H. Evans, Pembre, am wen. au yr Arglwydd ar y gymanfa. Cafwyd ychydig o ymddiddan pwrpasol a theimladwy ar seyllfa. crefydd yn yr eglwysi o fewn cylch y gymanfa ar yr adeg bresenol. Cwynid fod diffyg archwaeth at ranau mwyaf ysprydol gwaith yr Arglwydd i'w weIeel yn bur gyffredin fod y cynntiUiadau yn y cyfarfodydd gweddio a'r cyfeillachau eg- lwysig yn amlyn fychain iawn. Ond ar y llaW arall canmolid gweitligarwch yr Ysgolion Sab- bathol, y rhai ydynt yn lluosog a llafurus iawn mewn amrywiol fanau. Dygwyd hefyd dystiol- aeth galonog am haelioni yr eglwysi at amgylch- iadau arianol yr aclios yn ein plith. Yna penderfynwyd:—■ I.-Ar gais cynes a charedig eglwys Rehoboth, Brynmawr, fod y Gymanfa Bedair-Sirol am 1868 i fod yno. Wedi gwrando ar anercliiad dyddorol, difrifol, gwresog, a llawn o dan, gan y Parch. J. Row- lands, Henley-on-Thames, y dirprwywr droS Gymdeithas Genhadol Llundain; penderfyn- wycl 2.—Fod y gynadledd hon ar ol gwrando anerch- iad grymus ac effeithiol y Parch. J. Rowlands, Hen- ley-on-Thames, o berthynas i hawliau a theilyngdod, yn nghyd a aefy IIfa bresenol Cymdeithas Genhadol Llundain, yn dymuno cyflwyno iddo ein diolchgar- weh gwresocaf am ei ymweliad, ac hefyd gymera- dwyo i sylw caredig a haelionus yr eglwysi y Gym- deithas werthfawr ac anrhydeddus hon, gan ett hanog yn y modd taeraf a difrifolaf i wneyd eu rhan mewn cyfranu ati, er ei chynorthwyo i efengyleiddio y byd. Yn nesaf galwyd ar T. Williams, Ysw., Mer- thyr, i anerch y gynadledd ar ran Tiysorfa ft Hen Weinidogion, yr hyn a wnaeth mewn araetb gynhyrfus a bywiog; a phenderiynwyd:— 0 3.-Fod y gynadledd hon yn teimlo rhwymedid, aeth arbenig i T. Wiliams, Ysw., Gotire; a D. Williams, Ysw., Hirwaun; am eu hymdrech hunaill ymwadol a'u hymweliadau a'n hamrywiol Gymal" faoedd yr haf hwn, o blaid Trysorfa y GweinidogioP, Hen a Methedig ac yn unfrydol yn ymrwymo osod yr achos teilwng hwn o flaen ein heghvysi a'P cynnulleidfaoedd, a gyru y cyfraniadau at y Drf sorfa yn ddioed i law T. Williams, Ysw., Goitre Merthyr Tydvil, fel Trysorydd y Dywysogaeth. Yn nesaf cafwyd anerchiad doddedig gan Parch. L. Evans, Newport, ar ran Trysorfa t Gweddwon; a phenderfynwyd:— 4.-Fod y gynadledd hon yn dymuno yn garedtf ar yr eglwysi yn holl gylch y Gymanfa i wneud e' goreu er cynorthwyo Cymdeithas y Gweddwon, f5. obeithio y bydd i bawb wneud rhywbeth ar unwalØ ac yn ddioed at y Drysorfa ddaionus hon, ac anfof yr arian i'r Agent, y Parch. L.Evans, Newport, MoP Yn nesaf galwodd Mr. Jones, Penybont, syll at afiechyd y Parch. W. Griffiths, Llanharan; i yr hwn sydd wedi dioddef cystudd maith thrwm, ac sydd yn awr yn ol pob tebyg yn a-10: liau i afon angeu. Penderfynwyd:— 5.—Fod y nodyn canlynol i gael ei anfon i Griffiths, wedi ei arwyddo gan y Cadeirydd droS gynadledd :—' Ein bod fel cynadledd yn teimlo dra gofidus wrth glywed am gystudd maith a thf'1' ein hanwyl frawd, y Parch. W. Griffiths, Llanharl: ac yn taer ddymuno ar iddo gael mwynhau eysilf cynhaliol crefydd Crist yn yr helaethrwydd invl hyd y diwedd.' Dybenwyd y gynadledd drwy weddi gan Evans, Maendy. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd y moddion!( hoeddus drwy weddi gan Mr. Job Miles, 1V!J1 iwr o Goleg Aberlionddu; a phregethocW Parclui. W. Morris, Llanelli, Brycheiniog! Davies, Swindon; a H. Evans, Pembre. Am 7, pregethwyd yn holl gapelau y lie o bach i fyny i'r Efail-fach. Yn Bethania ar f amser, dechreuodd y Parch. Jones, Maeste? phregetliodd y Parclm. T. Llewelyn, Moiu1! Ash; E. Jones, Rehoboth; a W. Williams, >' wann. Dydd Iau, am 7 yn y boreu, declu-euodcl W. Price, Milford, a phregetliodd y Parcli Davies, Zoar, Aberdare; a H. Morgans, I Nedd. 0 Am 10, dechreuodd y Parch. E. G. Jones, orltey, a phregetliodd y Parch. J. Step!1 Brychgoed; E. Hughes, Penmain; a D. 1)9-1 n New Inn. Am 2, decln-euodd Mr. E. Jones, o Goleg 1 fyrddin, a phregetliodd y Parchn. R. Htl, Cendl; J. Rowlands, Henley -ou- ThameS. Saesoneg; a Dr. Rees, Abertawe. j Am 6, declireuodd y Parch. J. Jones,! newydd, a pliregethodd y Parchn. J. Jones, giwc; B.Williams, Canaan, yn Saesoneg; Price, Aberdar. Cafwyd cymanfa hynod o lewyrchus o'r del) i'r diwedd. Teimlem lawenydd yn ein j wrth weled y fath sylw a pharch yn eg ddangos i'r eiengyl gan wreng a boneddig-^ oedd y gweithiau mawrion sydd yn y lIe I sefyll yn lioilol ar ddiwrnod olaf y gymanf^h, gailai y gweithwyr gael naantais.'i wra^ 'Newyddion da o lawenydd niawi- Dan% pob enwad garedigrwydcl mawr wrth roes!1^ Ifli dieithriaid, ac 81; fod (ynfer :wediffod Ile liid tiedd yno liaher: 4ig6k'i f^ned i'r oedd wedi eu parotoi. Yr oedd trefiiiadg" Thomas, y gweinidog, mor berlfaitli fel na H lodd neb yr angliyileustra lleiaf, er fod V'l,) nifer wedi dyfod yn nghyd. Bendith yr Aiw a'i dilyno.—J. ROBKKTS, Maesyrhaf.
Advertising
THE WELSH NEWSPAPER COMPANY, LIMITED. (Registered under the Joint Stock Company's Act, 1862.) CAPITAL, £ 1000, IN 200 SHAKES OP £ 5 EACH. £ 2 10s, to be paid on application and allotment; the remainder to be called up when required. PROVISIONAL DIRECTORS: REV. WILLIAM REES. D.D., Liverpool, Chairman. THOMAS WILLIAMtw, ESQ.. Merthyr Tydfil. REV, ROBERT THOMAS, Bangor. REV. JOSHUA LEWIS, Henllan. C. R. JONES, ESQ., Llanfyllin. REV. ELLIS HUGHES, Penmain, Newport. ELLIS PUGH, ESQ., Manchester. REV. W. EVANS, Aberaeron. REV. JOHN DAVIES, Cardiff. SOLICITORS: MESSRS. RICHARDSON, OLIVER JONES, & BILL- SON, 10 Cook Street, Liverpool, HONORARY SECRETARY: REV. J. THOMAS, 11, The Willows, Liverpool. AUDITOR: P. M. WILLIAMS, ESQ., Manchester. TREASURER: EBENEZER REES, ESQ., North and South Wales Bank, 5, Great George Place, Liverpool. Application for Shares should be immediately made to the Secretary.
JTIN TELE RATI A'N DOSBARTHWYR.
JTIN TELE RATI A'N DOSBARTHWYR. Anfomr4,8,12, ynddidraultrwy ypost, gan ycyhoedd- vjyr, i unrhyw le yn ol Oeiniog yr un. Trefnir i gael Goruchwyliwr (Agent) yn mhob tref a phentref o bwys, a gellir cael ganddo ef unrhyw nifer. Anfoni/r sypynau o unrhyw nifer yn um/iongyrchol or Swyddfa i bob lie, a chaniateir yr elw a/rferol am ddosbarthu a gofalu am yr arian. Bydd yr hyn a ganiateir am ddosbarthu yn ymddilnjnu a/t y nifer a werthir; oblegd wrth anfon y sypynau gyda'r Rail- way ni bydd anfon deg dwsin ond ychydig yn fwy o draul nag anfon dau dclwsin.-Cadived ein dosparth- wyr ohog ar hyn. Yr arian %w hanfon i'r Swyddfa yn fisol, a'r cyfrifon i'w gwastadhau yn llwyr ar derfyn pob chwarter. Pob archebion (orders) i'w hanfen, a phob arian i'w gwneyd yn daladwy i REV. H. E. THOMAS, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. E. R.-Pob peth yn dda; gwnawn yn ol eich archiad. I. Hitghes.-Nid yw Y TYST yn gyfrifol am weith- recfiadau unrhyw bwyllgor, ac nid yw am etifeddu cwerylon neb a f u o'i flaen. Rhaid iddo dreio byw heb ruthro ar bersonau na sefydliadau. J. Jogies.-Diolch i chwi am eich llythyr, ond yr oedd tin arall wedi anfon yr hanes, a'r cysodwyr wedi ei gael cyn i'r eiddoch ddyfod i law. Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych yn ami. Brynach.-Gan nad ymddangosodd dim ar len- ladradaeth Eisteddfod Aberystwyth yn ein colofnau, esgusodwch ni am beidio cyhoeddi penderfyniad cyngor yr Eisteddfod. Y Parch. S. Roberts.-Pan oeddym ar fyned i'r wasg daeth llythyr byr oddiwrth y Parch. S. Roberts, gvnt o Lanbrynmair. Ymddengys yn ein nesaf. Disgwylia y bydd yn gadael New York tua'r 17eg o'r mis hwn. {fpjf Dymunir ar ein holl Ohebwyr i fod yn ofalus i beidio cyfeirio eu hysgrifau i'r Argraphydd, Mr. J. Morris; ac y mae genym yr un peth i'w ddymuno ar ein dosbarthwyr. Nid oes a fyno ef a dim" ond yr argraphu.—Cyfeirier yr archebion a'r Goheb- iaethau yn ol y cyfarwyddyd. IW Bydd yn arbediad mawr i'n gohebwyr car- edig i ysgrifenu pob math o hanesion yn fyr a chryno. Arbeda iddynt hwy lawer o waith. arbeda i ninau y gorchwyl poenusjojgwtogi (oblegi d. hyny raid wneyd), ac arbeda lawer o ddrwg dymer yn ol llaw. Nid yw yn dyg-wydd bob amser fod pawb yn barnu mor uchel am alluoedd ysgrifenydd, ag y mae efe yn du- eddol o synio am dano ei hun. Cyfeirier y gohebiaethau oil—To the Editors of the TYST CYMREIG, 19 Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
I. t ythuø . -.J
I. t ythuø -.J >' '•<( SuBihh"lcrr/ I FEIN hymwelwyr anrhydeddus sydd yn tynu i o: sylw cyfFredinol y dyddiau hyn. Dydd Sa- J i dwrna dyddLlull buagos i bobl Llundain angl\ofio masnach, y rejorrn bill, a phob peth arall, yn y cyffro, a'r syhv, a'r siarad a achoswyd gan ymweliad dieithriaid a'r brif- ddinas. Nid ydym mewn un modd yn rhy- feddu at hyn yma, canys y mae yr ymwel- wyr yn rhai annghyffredin, ar ymweliadau yn rhai anarferol. Y mae peth newydd wedi cymeryd lie ar y ddaear-ymherawdwr Twrci yn Llundain, yn aros yn Buckingham Palace, ac wedi bod yn cydfwyta wrth yr un bwrdd a'n hynaws Frenhines yn Windsor Castle. Ni bu y fath beth erioed o'r blaen —yr oedd y fath beth yn annichonadwy yn y dyddiau gynt. Y swyddog ac nid y dyn sydd yn dihuno y fath ddyddordeb, Nid ydym yn gwybod digon am y dyn i roddi barn am dano-o ran dim a wyddom ni gall fod ynddo lawer o ragoriaethau, neu lawer o bethau gwael. Awgrymir gan oraclau y wasg yn Lloegr, nad yw wedi profi, er pan ddaeth i'n gwlad, fod ganddo ddawn neill- duol i ddim, ond dawn i gysgu. Ond pan alwom i gof hanes Mahometaniaeth, pan ys- tyriom y part a actiwyd gan y Gau Bro- ffwyd yn hanes yr hil ddynol, a phan feddyl- iom am draddodiadau rhagfarnllyd pobl y dwyrain, yn nghyda defodau digyfnewid y grefydd Fahometanaidd, y mae ymweliad y 'Twrc iAfawr, Tad y ffyddloniaid,' yn ymddangos i ni fel breuddwyd. Bydded ei ymweliad yn llesiant iddo ef a ninau, a bydded iddo ddychwelyd i'w wlad wedi der- byn yr argraffiadau goreu oddiwrth bob peth y disgynodd ei lygaid arno yn Ngcrllewin Ewrop. Ar yr un pryd a'i Fawrhydi o Gaer- cystenyn, y mae Penaeth hen wlad yr Aipht yn ymweled a ni. Mae yr olaf, mewn enw beth bynag, yn was i'r blaenaf. Dywedir fod y gwas yn llawer callach na'i Arglwydd -y mae pethau felly yn dygwydd yn fynych. Yr Aipht yw yr unig wlad Fa- hometanaidd sydd yn cynyddu mewn mas- nach a gwareiddiad. Edrychir arni.yn graff gan ddynion meddylgar, er gweled a yw yn bosibl i Fahometaniaeth ddal ei thir pan ddaw y wlad dan ddylanwad chwildroadol gwareiddiad yr oes hon. Yr oedd Penaeth yr Aipht wedi dysgu gwersi gwerthfawr oddiwrth Loegr ac Ewrop cyn yr ymweliad presenol, ac y mae y wlad hono eisioes wedi bod yn ffynonell cyfoeth masnachol i'n gwlad ni. Bu ef ei hun yn gymwynasgar i ni drwy gadw ein ffordd i India yn rhydd ar amser o bryder ac ofn mawr. Teimlwyd peth anhawsder i gael llety iddo fel y mae mwyaf y gwarth. Soniwyd unwaith am dalu am ei le mewn gwesty. Yr oedd hyny yn annheilwng o Lundain, ac yn annheilwng o lettygarweh adnabyddus trigolion y Dwy- rain. Ar yr un pryd eto a'r ymwelwyr anrhy- deddus uchod, talodd llu mawr o Wirfodd- olwyr Belgium ymweliad a'u Brodyr-Wir- foddolwyr yn y deyrnas hon. Buont yn cydwledda yn y brif ddinas, ac yn cydym- ryson saethu yn Wimbledon, ac yr ydym yn gobeithio y bydd y cyfan yn tueddu i uno y ddwyblaid mewn heddweh a chariad. Ar ol hir sychder cawsom yr hyn a ddy- munid yn gyffredinol-gwlaw bendithfawr. Pan oedd James Stephenson yn cynyg cyn- llun y gledrffordd gyntaf i sylw, taerai llawer y byddai i wreichion y peirianau roddi yd- lanau y wlad ar dan. Nid oes trychineb felly wedi dygwydd, er fod ein gwlad bellach yn llawn o gledrffyrdd. Er fod ein hyd- lanau yn ddiogel, yr oedd y glaswellt ar ymylau llawer o'r cledrffyrdd wedi deifio, yr hyn a brofai i'r teithwyr anmhrofiadol mewn amaethyddiaeth fod mawr angen am wlaw. Cawsom ef yn ei amser, ac y mae gwyneb y ddaear wedi ei adnewyddu. Dy- oddefydd rhanau o Scotland a Gogledd Lloegr oddiwrth ystormydd, a mellt, a llif- e:riant, a chollwyd amryw fywydau. Bu trei Bolton ac Oldham mewn enbydrwydd mawr, ac ymchwyddodd afonydd Manchester mor uchel fel yr aflonyddwyd ar y meirw yn un o'r claddfeydd cyfagos. Mae y reform bill o'r diwedd wedi pasio Ty y Cylfredin. Dywedir fod Toriaid a Rhyddfrydwyr yn llawenychu yn nghyd pan dynwyd y ddalen olaf o gynffon hir y bill trwy y committee, a diau fod y llawenydd yn fawr nos Lun pan basiwyd y trydydd ddarlleniad. Nis gallwn amgyfired yn hollol ragoriaethau a diffygion y bill, hyd nes y gwelom ef yn ei waith. Nid yw yn bob peth ag y dymunasai Rhyddfrydwyr ei wneyd, ac y mae yn wa- hanol iawn i'r hyn y mynasai y Toriaid iddo fod amser a ddengys pa mor foddhaol y bydd yn ngolwg y wlad. O'n rhan ni, yr ydym yn ddiolchgar am dano fel y mae, er y gallasai fod yn llawer gwell. Bellach, gofynir, Beth a wna Ty yr Ar- glwyddi? Pa bryd y terfyna yr eisteddiad ? A ddaw y bill yn gyfraith yn ystod y flwydd- yn hon? Y mae o fewn gallu aelodau ystyfnig yn y Ty uchaf gynyg cyfuewidiadau, a thra- e-Y ddodi areithiau, 3thanu y Ty, hyd nes y byddo y Senedd -dymor hwn wedi myned .heibio. eto prin yr ydym yn disgwyl peth felly. I^is gall IarH Russell obeithio am nemawr gyfnewidiadau er gwell, nac Iarll Derby obeithio am nemawr gyfnewid- iadau er gwaeth, yn y bill; ac y mae yn sicr fod gan y ddau ddigon o^Jylanwad i'w basio drwy Dy yr Arglwyddi.