Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.,YR HEN DEILIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HEN DEILIWR. LLYTHYR II. At Olygydd "Y Tyst Cymreig." SYR, Gan ddarfocl rhyngu bodd i chwi anrhydeddu fy llythyr cyntaf a lie i ymdclangos yn Y TYST," yr wyi fixiaix yn ymgalonogi i ysgrifenu un arall. Yr oeddwn i yn g-welederablynyddau Hen Ffarmwr, a Hen Ddyrnwr, a Hen Banwr, a Hen Wehydd, a hen bobpetb, yn tori ffigiwr hyd y papnrau yma, minau a dybiais fod Hen Deiliwr mor deilwng a'r un hen o honynt o gael y fraint i draethu ei feddwl, a dyna barodd imi dori trwyddi hi. Mi a ddywedais y tro o'r blaen fy mod wedi "Troi y deiliwraeth, hyny feddai wri,,toth, o'r reilldu," hyny yw, yr hyn a feddai fy nealltwnaeth geJfyddydol. Ond na thybiwch fy mod wedi g-vvneud digon oddiwrth lafur y nodwydd i'm cynnal am yr ycliydig a all fed yn weddill o'm bywyd; na, na, nid oes fawr o obaith i deiliwr yn Nghymru, druan, allu g-wneud dim mwy na chael deupen llinyn bywiel- iaeth dlawd at eu gilydd, ryw fodd. Mi a fum wrflri'n ddiwyd, fel y crybwyllais yn fy llythyr cyn- taf, yn gyru ac yn tynu y nodwydd am dros ddeng mlynedd" a deugain, ac yr wyf yn barnu yn gydwy- bodol fy mod wedi tori digon o frethyn, a ffustion, a gwlanen, a chalico, i wneud cyfar dros wyneb y lleuad, beth bynag; ac imi bwytho cymaint o edef, a thwist, a sidan, ac a wnai bellen gymaint a Moel Siabod. pe cawsai'r cwbl ei ddirwyn -efo'i gilydd. a'r cwbl am dal bychan iawn. Fe drefnodd rhag- luniaeth imi in-raig syber, ofalus, a chynil, Yr oedd hi, ac y mae hi eto, yn cadw tipyn o siop fechan yn y pentref, a thrwy ei llafur hi a minau dygasom deulu o bump o blant i fyiiy, heb erioed geisio elusen plwyf; bu yn ddigon tyn arnom lawer gwaith, ond daethom trwyddi; ac. y mae ein siopan fechan yn cadw yr hen wraig a ininau yn ein henaint yn lied gryno, ac a dweyd y gwir, yr ydym lied glyd a chy- surus ein hamgylchiadau yn bresenol. Ychydig o adgofion fy mywycl oeddwn yn fwriadu ysgrifenu, ac os gwelwch chwi yn ddaadael imi le i fyned yn mlaen yn YTYST, gall yr hyn sydd genyf i'w draetlia fod o ryw addysg a difyrwch i ambell deiliwr ar fy ol. Y mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lie yn y byd teiliwrol, fel y Sylwais o'r blaen, fel pob byd atal1, er pan wyf fi yn cofio. yn enwedig yn Nghymru. Nid. oes fawr o weithio o dy i dy fel fyddai erstalwm. Dygir y gwaith at y teiliwr yn ayr, yn lie y teiliwr at y gwaith, felly nid yw teiliwriaid y dydcliau liyn yn meddu cystal manteision. i adnabod y byd ag oedd gan deiliwriaid y dyddiau gynt. Ond yr oedd i'r manteision hyny eu hanfanteision cyaylltiedig, a'r un modd y mae i'r anfanteision presenol eu manteision. Yr oedd y teiliwr y pryd hyny, mae'n wir, yn eael eyfle-Lisdra i weled ac adnabod dull y byd—nodweddau gwahanol "bersonau a. theuluoedcl, a chlywecl pob newydd a phob cyfrinach, a barnau pobol am en gilydd trwy holl gylchoedd ei syirmdiaclaii teiliwraidd. Ond wedi'r cwbl gwyboclaeth isel iawn oedd y gyfryw wybodaeth, a galIai'pdb.tei'ti'wrystyriobGdyweydam dani, 'Y neb a chwanego" y 'wybodaeth hon, a chwanega ond.' Yr oedd yn fywyd profedigaethus iawn hefyd, canys holid y teiliwr bron yn mhob ty am banes y cymdogion, ac 08 byddai dau gymydog' wedi digwydd syrtbio all an a'u gilydd, tywalltai gwragedd y naill dy a'r .llall y cwbl a fyddai gan- ddynt i'w ddyweyd am eu gilydc1 i glustiau'r teiliwr pan ai i'w tai i weithio. a disgwyliai'r naill a'r Hall iddo redeg yr an ffprdd a hwy i redeg eu gilydd i lawr. Byddai raid heddyw yn y Ty-cerig redeg pobol Tan-y-graig i lawr, a foru hwyrach yn Tan-y- g-ralg byddai raid iddo droi ei don, a lladd ar bobol y Ty-cerig, ac os na chytunai i wneud felly yn y etda-LL dy, lili, chaiond wyneb surllyd a bywioliaeth wael yn y naill a'r Ilall tra fyddai yno. Yn sicr i chwi sefyllfa bwysig a plieryglus iawn oedd sefyllfa y teiliwr yn y dyddiau hyny; sefyllfa oedd yn gofyn llawer iawn o ofal, gochelgarwch, a doethineb, i gaclw ei droed o'r fagl a'i ben o'r cebystr. Efe oedd y dyn pwysicaf yn ei ardal mewn gwirionedd. Byddai heddwch y cymdogaethau yn dibynn mwy arno ef nac ar un dyn arall yn y fro. Yr oedd yn cael mwy o gyfiswsderau i chwythu tan cynenau, os dewisai, nac un dyn arall; neu ynte i daflu dwfr arno i'w ddiffoddi. Caf achlysuron wrth fynecl yn jnlaen i ddangos engreifftiau o byn. Mae teiliwriaid y dyddiau presenol yn Nghymfu, oddifeithrmewn am- bell i ardal fynyddig hwyracli, yn rhyddion oddi- wrth y profedigaethau hyny, a, dylent fod yn ddi- olchgar am hyn ar y cyfan. Ond wed!'r cwbl, y mae'n chwithdod i feddwl fod hen ddefocl ac arfer gwlad er dyddiau Brocliwel Ysgythrog, os nacl er dyddiau Abraham, yn caei ei rlioi heibio ond myn'd heibio ymae dull y byd hwn yn ei agweddau teiliwraidd fel pethau eraill. O'm rhan i, yr wyf yn cyfaddef bod yn well gan i yr hen fyd a'r hen bethau fel yr oeddynt pan oeddwn i'n llanc, cyn y railways a llawer o beth au eraill sy'n cael eu canmol fel di- wygiadau, nt'-r tiyd drwg presenol, canmolwch chwi faint a fynoch arno fo. Os ant ymlaen efo'u diwyg- iadau y deugain mlynedd nesaf fel y deugain di- wedd af, mi fyddant wedi diwygift pob peth i ddis- tryw yr wyf fi 'n ofni. Ond gwell fyddai imi dori fy stori yn y fan hon y tro hwn. Yr eiddoch, &c., Y"E HEN DEILIWR.

,,CYEARFOD YSGOL YN ARFON.

AT OLYGWYii Y TYST CYMREIG.'

PORTHMADOG A'R CYFFINlAU.

AT OLYGWYR Y "TYST CYMREIG."

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…