Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWYNXAD TYSTEB Y PARCH.…

dntMghut y ntig. ■i

[No title]

[No title]

CYMANFA MYNWY.

NODI ON CREFYDDOL HWNT AC…

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Sefyllfa y trigolion. Yr oedd yr esgyrn yn sychion iawn. Am drigolion India, yn mha oleuni bynag yr ystyrir hwy, gellir dywedyd eu bod yn sychion iawn. Mewn gwedd ddeailawl, y maent yn druenus o anwybodus. Cyn i lyw- odraeth Prydain ddechreu eu haddysgu yr oedd pob math o wybodaeth yn cael ei chyfyngu i'r Brahminiaid yn unig. Yr oedd yn bechod i neb arall gael dysgeidiaeth yn neillduol mewn pethau crefyddol. Ac hyd heddyw, er fod miloeddlawer "wedi derbyn dysgcidiaeth yn ysgolion y llywod- raeth, ac mewn cysylltiad a'r gwahanol Gym- Idelthasau Oenbadol, eto, y mae y lluaws hyd yn nod yn y trefydd yn hollol anwybodus o elfenau isclaf gwybodaeth. Ac am y pentrefydd a'r ar- daloedd amaethyddol y mae tywyllwch dudew yn eu gordoi hwy. Eilwaith, os edrychir ar eu hofergoelion, y maent yn sychion iawn. Cysylltant holl am- gylchiadau eu bywyd, nid ag ewyllys Llywodr- aethwr y byd, ond a gau-dduwiau ac ysprydion llygredig a chenfigenus. Os bydd y frech wen yn eu plith, ystyrir mai duwies ydyw, a rhaid ei haddoli, ac aberthu iddi hyd nes gwel yn dda ymadael o'r ardal. Os daw y colera atynt rbaid addoli ac aberthu er cael gwared o hono. Os bydd diffyg ar yr haul, rhyw yspryd drwg sydd yn treio ei lyncu am ei fod mewn dyled iddo, a rbaid iddynt hwy aberthu hyd nes talu y ddyled. Y mae eu bofergoelion yn ddirif a hollol cldireswm. C) Drachefn y mae eu heilunaddoliaeth yn eu gwneud yn sychion iawn. Y mae'r wlad yn llawn pau-dduwiau a delwau, Oredant mewn ta,ir miliwn ar ddeg ar hugain o wahanol dduw- iau, ac y mae delwau y rhai hyn yn ddirifedi. ife I. Y mae yn Bedaref bum' can mil o bobl, ond y ihae yno ddigon o ddelwau fel y gallai pob dyn dynes, a pblentyn, gael tair iddynt eu bunain. Y mae y gwelydd yn rhai o'r heolydd yn or- chuddiedig gan ddelwau o bob lliw a llun. Yna, meddylir am yr anfoesoldeb sydd yn canlyn yr anwybodaeth, yr ofergoeledd, a'r eil- unaddoliaeth byn. Y mae syniadau a tbeimladau moesol yr boll genedl wedi eu llygru i'r graddau eithaf. Cyfaddefasant yn ddigwylydd mae eithnad ydyw iddynt siarad y gwir yn hytrach na chelwydd. Os.delir lleidr, mor gynted ag y daw 0 garchar, y mae yn cael ei dderbyn yn eu plIth. Ac am onestrwydd, prin y gwelir golwg arno yn eu plith. Yn mhob ystyr y mae yr yn sycbion iawn. Gofynir gan lawer, a ydd byw esgyrn byn? Yr ydym yn credu mai owriad Duw ydyw iddynt gaol eu bywhau. A gorchymyn Duw ydyw i ni brophwydo iddynt, fi PjlroPhyydo i'r gwynt, am iddo anadlu ar v liaddedigion. Y mae prophwydo wedi bod am haner cau' mlynedd, ac y mae cyffroad wedi dechreu yn eu plith. Gwelir rhai wedi codi ar eu traed, y mae yno amryw eglwysi wedi eu casglu o blith y brodorion, ac amrai weinidog- ion o'u plith eu liunain yn fugeiliaid arnynt. Trwy ddylanwad yr ysgolion a'r pregethu, a'r llyfrau a wasgerir yn eu plith. Y mae miloedd ohonynt wedi colli pob parch ac ymddired yn eu heulunod, rhai o lionynt ynanffyddwyr, era-ill yn Gristionogion o ran barn, ond heb wroldeb i 0 t wneud proffes o Grist. Ond y mae yno swn yn mhlith yr esgyrn. Gweddier am i'r anadl ddy- fod, fel y byddont byw.