Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

mtnniott.

[No title]

' - : f ■" i 'PENILLION

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

f ■" i PENILLION A gyfansoddwyd ar briodas Mr. D. J. Lewis, mab hynaf F. Lewis, Ysw., Llwycelyn, a Miss E. M. Davies, unig ferch y Parch. H. Jones Davies, Ficer Cayo, a Llansawel. i i ji v/ E DEIMLA yr aderyn bach, I Ar ben y mynydd uchel, Ddylanwad rhyw unigedd blin— Ei hun yn swn yr awel! E saif yn llonydd ar y twyn, Fel pe bron gwangaloni, A'i delyn anwyl yn ddihwyl- Yn methu'n lan a chanu. Pa beth sydd yn ei wneuthur ef, Yn brudd, aderyn bychan ? Y mae ef megis brenin bach Ar ryw gyfandir llydan Nid oes yr un creadur ddaw Yn agos i'w niweidio,— Ond Ah nid oes yr un ychwaith Ag ef yn cydymdeimlo. Pe byddai un cydymaith mad Yn foddlon cyd-drigianu Ag ef, ei fynwes ddeuai'n iach, A beunydd byddai'n canu; Ehedai'r ddau o dwyn i dwyn, Yn ol a (ten yn ebrwydd; A chysgu'r no's y byddent fel Rhyw deulu bychan dedwydd. Ah Lewis oedd ar gopa bryn, Enwogrwydd ac anrhydedd; Ond er yn nghanol urddas byd, 'Roedd ef mewn rhyw unigedd E fyddai'n teimlo awydd mawr, Yn fynych i ddatguddio Teimladau cudd ei dyner fron, Ond Ow heb neb i wrando. Ond pan oedd rhyw gymylau blin, Fel hyn yn ymledaenu, Yn ra.1dol dros ei gysur ef, Haul gobaith wnaeth dywynu; Hi aeth yn ddydd-yn berffaith ddydd, Ryw dro yn ardal Cayo- Ha yno gwelodd hawddgar fun, Wnaeth i'r anghysur gilio. E welai yn ei gwyneb cu Ryw ddarlun o dlysineb, Darllenai'n amlwg yn ei gwedd, Gyfrolau o ddoethineb; Ac wrth fyfyrio, teimlai'i fron, Yn fyw gan drydaa cariad, A hithau yr angyles fad, Oedd orlawn o'r un teimlad. j Ond weithian gwnaed y ddau yn un Yn nghwlwm glan briodas; 0 boed i angeu oedi'n hir Cyn dattod y gymdeithas; A charu fyddont naill y Hall, Fel cynt heb un croesineb, A'r ddau fo'n un hyd lan y bedd, Yn rhwymyn pur anwyldeb. Castellnewydd Emlyn. BRITHYLL MARLAiS.

FFARWEL I'M GWLAD.

TRI PHENILL I'R GOEDWIG.

HIR A THODDAID

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

[No title]

MAECHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

Family Notices

CYMANFA MYNWY.