Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
.YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDLAETHOL.
YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDL- AETHOL. PAN afaelodd Napoleon yn awenau llywodraeth Ffrainc, meddylid a siaredid yn dra dirmygus am dano. Yr oedd wedi gwneuthur cais un- waith neu ddwywaith o'r blaen am y goron, ac wedi methu. Peth methedig iawn ydyw meth- iant, a pheth llwyddiannus iawn ydyw llwydd- iant. Haerid nad oedd dim rhagoriaethaxx yn- ddo, ond yn unig ei fod yn 'nai i'w ewytlir.' Ond erbyn heddyw y mae barn y byd am dano wedi newid yn fawr iawn. Yn y blynyddoedd diweddaf dadlenodd ansoddau yn ei gymmeriad na feddyliodd neb ei fod yn eu perehen. Diau ei fod yn un o'r personan galluocaf a fu erioed yn llywio gwlad. Arweiniwyd ein meddwl at hyn'gan gynllun o'r Arddangosfa gyd-genedlaethol yn Paris, yr hwn sydd yn awr ar y bwrdd ger ein bron. Meddylddrych ysplenydd oedd yr un a da- rawocld fynwes y Tywysog Albert—ALBERT DDA --meddyldffitcli a emiillodd ei lioll galon, ac a ddygwyd i gyflawniad yn 1851 yn Llundain. Bu Arddangosfeydd yn Llundain ac yn Dublin wedi llyny, ond tybiwn mae yr un bresenol yn Paris ydyw yr un ardderchocaf o honynt oil. Yno y mae cyrchfa Amherawdwyr, Breninoedd, a Thywysogion o bellafoedd y byd; a dynion o bob gradd o blith gwahanol genedloedd y ddaiar. Ni all neb meddylgar, yn yr olygfa, lai na go- fyn, Beth fydd diwedd y pethau hyn? Beth yw cyfeiriad y peth newydd hwn ar y ddaear? Nid ydym ni ar y pryd hwn am draethu ein barn gyda golwg ar gyfreithlondeb neu anghyf- reithlondeb rhyfel, ac nid ydym yn barnu bod rhyfeloedd ar ben. Nid yw y Milflwyddiant Wedi dyfod; gall y bydd cryn amser cyn y daw. Nid yw teyrnasiad heddwch wedi dechreu. Y mae cenedl yn parhau i ymladd yn erbyn cen- ed!. Ni ddilewyd soriant pobloedd. Nid yw cleddyfau wedi cael eu troi yn gwlltyr erydr, na gwaywffyn wedi cael eu troi yn bladuriau. Trwst tabyrddau sydd eto yn byddaru y byd. Nid yw sain melusber heddwch wedi distewi ndgom rhyfel. Ond er y ffeithiau hyn gallwn gredu yn ddyogel fod yma gychwyniad yn yr iawn .,gyfeiriad. 01 troed yn y tywod ydyw, sydd yn arwyddofod dyno liaeth yn camru at nod mwy rliagorol. Y mae dynoliant yn myned rhagddi. Er nad yw yr awr wedi dyfod (ie, er ei bod yn bell allan o'r golwg,) pan y teflir ymaith y cleddyf a'r waywffon, eto yr ydym yn gweled cwmwl bach fel clodr llaw gwr, yn ar- wyddo amseroedd gwelL Canfyddwn doriad gwawr sydd yn creu gobaith am ddiwrnod braf. Y mae cydymdrechion cenedloedd y ddaear mewn celfyddyd a diwydrwydd yn foddion i ladd ysbryd dinystr, ac i fagti ysbryd tangnef- edd. Dylai geiriau Napoleon gael eu hargraffu iiaew-n Ilythyrenau aux-geiriau a lefarodd o flaen Araherawdwr Twrci, Tywysog Cymru, Ty-' wysog Prwssia, a Thywysog Japan—' Boed i'r rhai sydd wedi byw yn ein plith am ych- ydig amser ffurfio -barn gywir am ein gwlad, a bod yn hollol [ddarbwylledig o'n parch tuag at, a'n cydymdeimlad a chenedloedd eraill, gyda y rhai, ein dymuniad diffuant ydyw byw mewn heddwch.' Ni allwn fod yn anhyddysg o'r cyfnewidiad mawr .sydd yn y perthynasau rhwng Lloegr a Ffrainc. Ni buasai ein tadau yn coelio—yr oeddynt liwy yn treulio haner eu hamser mewn rhyfeloedd o oes i oes—ni bu- asent hwy yn coelio y dygwyddasai y fath beth byth a bod Prydain yn treulio haner canrif mewn heddwch a'i 'gelynion naturiol'! Boed i'r heddwch hwn barhau, ac na foed i ddim ddygwydd i ddadfachu undeb y ddwy wlad. a- casglodd yr hen Napoleon ex fyddm o haner CM* O filoedd, yn 1815, i wynebu ar Waterloo, ar y maeg hwnw, y mae adeilad ardderchog yr Arddangosfa wedi cael ei adeiladu. Y mae'r' olyofa, yn aruthrol. Pan yn amrodio oddifewn teimlir dyddordeb mawreddus! Dylai pawb fyned yno a all fyned. Os nad ydym yn camgymeryd, gwnaed darpariaeth ar gyfer cludiad gweithwyr Deheubarth Cymru i Paris, ond nid ydym yn gwybod fod dim dar- pariaeth o'r fath wedi cael ei wneyd ar gyfer gweithwyr y G-ogledd. Mor werthfawr faasai i lafurvvyr y cloddfeydd yn Arfon a Meirion, ac i lafurwyr y gweithfeydd glo yn Dinbych a flint, gael gwibdaith i dremio ychydig ar y tIlYfeddodau! Buasent yn cael tipyn o olwg ar y byd, yn dychwelyd adref a'u meddyliau wedi ymelxangu, ac. yn argyhoeddedig nad yw pob gwaith celfydd yn gyfyngedig i Brydain.— Nid yn Lloegr a Chymru yn unig y mae pob cywreinwaith. r" ,J! '20.¡¡': Rhaid ini ochel bod yn rhy hyderus yn ein rhag-olygfeydd, oblegid ein bod yn byw mewn 0 byd lie y mae Satan yn trigo, ai chanddo lid mawr at y saint sydd ar y ddaear. Y iiiae ni) ganddo bob amser ddosbarth o ddynion sydd am ddwyn y Bibl oddiar yr Arglwydd a'i roddi i bleidio amcanion diafol. Ymdrech Satan bob amser ydyw gwrthweithio daioni. Pan yr enfyn Duw Moses, enfyix diafol swynwyr. Hyderwn y gwel cenedloedd y byd fwyfwy o ddrygedd rhyfel ac o werth tangnefedd. Grail fod rhyfel mewn rhai amgylchiadau yn angelirliei(h-ivydd poeixxxs; gall rhyw fanteision ei ddilyn ambell dro. Gall fod yn achlysur i ddangos gofal a gwroldeb; gall ty ar dan fod yn achlysur cy- ffelyb. Ond credwix na chwenyclxai nob osod tai ar dan i'r dyben o fod yn aohlysuron i amlygu gofal a gwrolder. ,,4 •} f 1 :j ¡; li.
¡v :~""...irv/•[:"., MASNACH…
¡ v irv/• [ MASNACH CYMRU. 7; k; -;r: r, j S if ■■; A OES dim modd eangu a cKrnliyddu1 rnasn ach ein gwlad P Y mae hyny wedi cael ei wneyd yn Lloegr, a phaham nad ellir gwneyd gyda ninau 1 Bu yn ddihareb yn y drydydd a'r bed- warydd ganrif ar ddeg, am y Sais sydd erbyn heddyw yn dywysog masnachwyr y byd, 4 Y mae y tramorwyr yn prynu gan y Sais groen y Llwynog am rot, ac yn gwerthu ei gynffon yn ol iddo am swllt.' Yr oedd y crai ddefnyddiau (raw materials) yn cael eu hanfon allan o'r deyrnas hon y pryd hyny, tra y maent yn dod i mewn gan mwyaf yn awr. Bheolid gwaith a gwerthiant gan y Senedd. Teilwriaid fyddent yn gwneyd dillad merched, a thelid iddynt mewn pinau, nodwyddau, a gwregysau a cheid y merched wrthi yn malu, bragu, a phobi. Ond y mae yr hen gyfreithiau caeth ar fasnach wedi eu diddymu, a'r hen arferion anweddus wedi eu difodi, a'r hen gulni yn erbyn peirianau at wneyd gwahanol nwyddau wedi llwyr ddarfod, fel y mae masnach Lloegr erbyn heddyw yn syndod i'r byd. Nid ydym yn awgrymu nad oea eynhydd mawr wedi cymeryd lie yn Nghymru-gw_vddom yn amgen. Bu amSEIr pan yr oedd llond cawell ar gefn dyn neu ddynes, neu ddau ar gefnasyn, yn ddigon o gyflenwad i siop bwysig am wytb- nos gwnai wagen lwythog ddigoni angen chwech neu saith 0 drefydd am saith niwrnod. Ond erbyn heddyw chwi glywch y gerbydres yn chwibanu trwyddynt amryw weithiau yo, y dydd. Y mae glo a llechi, haiarn a phlwm, pres a hyd yn nod aur, yn gystal a gwlan ac anifeiliaid Cymru yn cael eu hanfon i wahanol barthauo Loegr, ac i wahanol wledydd y byd. Er hyny y mae genym le i wella. Dylem gael mwy 0 nwyddweithfaoedd yn Nghymru. Y mae genym ddigonedd o afonydd a llynoedd braf yn barod at ein gwasanaeth, a bydd yn fuan y rheilffyrdd yn myned agos trwy bob cymydog- aeth yn ein gwlad. Nid oes eisiau yn awr ond medr ac anturiaeth. Pwy a gychwyna y cyfnod newydd ? .¡:
;F- v Y ONYDAU. :
;F v Y ONYDAU. MAE lliaws tref a gwlad yn y, dyddiau hyn yn edrych ar y cymmylau, ac yn ceisio gwneyd eu goreu i ddarllen arwyddion yr wybrenau. Dengys yr adroddiadau o bob cyfeiriad fod pob argoelion eleni am gnydau toreithiog, Nid oes dim yn fwy pwysig i'r wlad hon na chnwd hel- aeth a chynhauaf da. Nid ydyw masnach eto wedi adnewyddu ei nerth ar ol y flwyddyn ddi- weddaf. Yr oedd honoyn flwyddyn i'w chofio gan bob dosbarth a gradd, a bydd miloedd o deuluoedd yn Mhrydain yri cofio y flwyddyn gyda thristwch am eu hoes. Mae iechydwriaeth masnach ein gwlad yn dibynu ar gynhauaf y flwyddyn hon. Digon gwir ein bod yn lied ddiogel rhag newyn. Yn nyddiau Deddfau yr Yd, dilynid cynhauaf gwlyb ganangen a newyn; ond yr ydym yn lied ddiogel rhag y drygfyd hwnw, dan oruchwyliaeth masnach rydd; canys y mae digon o arian yn Lloegr, a digon o ddefn- y^d bara yn yr Aipht, a Bwssia, ac TJnol Dal- eithiau America. Ond os bydd cyfartaledd mawr 0 arian y deyrnas yn myned i wledydd eraill am yd, y canlyniad anocheladwy yw, mas- nach farwaidd, a phrinder gwaith. 0 w Yr ydym yn deall fod cnydau helaeth o wair agos yn mhob ardal, ac y mae llawer o hono wedi ei gywain mewn cyflwr rhagorol o dda. Bydd pris y cig am y flwyddyn nesaf yn dibynu yn fawr ar gynhauaf gwair y flwyddyn hon. Os na cheir tywydd teg yn fuan, bydd colled am y gweddill. Gwnaeth y gwlaw diweddar ddaioni nid ychydig i'r cnydau gleision, a'r ydau diw- eddar, canys yr oedd wedi myned yn sych ar diroedd cleuog a thywodog. Gwelsom gnydau trymion o wenith a haidd wedi eu euro i'r llawr gan y gwlaw a'r ystormydd. Dengys ystadegau ar y rhai y gellir rhoddi cael, fod yr holl ddefnydd bara sydd yn ystor genym yn ddigon prih i gyflenwi yr angen dan y eynhauaf. Mae yn wir y gwna y busych a'r cloron, y rhai ydynt doreithiog eleni, lawer iawn i lenwi y diffyg. Etto, nid oes un sail i ddis- gwyl am ostyngiad yn mhris y bara tan y cyn- hauaf. Os oes gwahanol farnau am y Reform Bill, yr Eglwys Wyddelig, a chwestiynau cy- hoeddus eraill, y mae pob gradd a sefyllfa yn un a chyttun yn eu dymuniadau am awyr glir, a chynhauaf da i lenwi ein hysguboriau a digon- oldeb, ac i feddyginiaethu masnach archolledig ein teyrnas.
LLONGAU.
LLONGAU. YN ystod y flwyddyn ddiweddaf, adeiladwyd 631 o longau newyddion yn Lloegr a Chymru; 270 yn Yscotland; ac 16 yn yr Iwerddon. O'r Uongau hwylio a adeiladwyd. yn Lloegr a Chymru, yr oedd 51 o haiarn, 364 o goed, a 23 yn gymmysg o goed a haiarn. O'r rhai a adeil- eiladwyd yn Scotland, yr oedd 30 0 haiarn, 102 o goed, a 17 yn gymmysg. O'r rhai a adeilad- wyd yn yr Iwerddon, yr oedd 4 0 haiarn, ac 1 0 goed. Yr oedd yr agerlongau a adeiladwyd yn Lloegr a Chymru yn gynwysedig o 38 0 longau coed, a 155 0 rai haiarn; yn Scotland, 2 o goed, 117 o rai haiarn, a 2 0 gymmysg; yn yr Iwerdd- on, 11 o haiarn. Yn ystod y flwyddyn, adeil- adwyd 17 yn Dartmouth, 23 yn Grimsby, 39 yn Hull, 38 yn Liverpool, 32 yn Llundain, 11 yn Middlesborough, 44 yn Newcastle, 22 yn Rye, 38 yn North Shields, a 149 yn Sunderland. Ad- eiladwyd y niferi a ganlyn yn mhorthladdoedd Scotland:—16 yn Aberdeen, 21 yn Banff, 121 yn Glasgow, 14 yn Perth, a 24 yn Port Glasgow. Bu Liverpool yr adeiladwyd y nifer fwyaf o longau haiarn hwylio, ac yn Glasgow yr adeil- adwyd y nifer mwyaf 0 agerlongau haiarn. Yn Sunderland yr adeiladwyd y nifer mwyaf 0 longau hwylio coed, ac yn yn North Shields yr adeiladwyd y nifer mwyaf o agerlongau coed. Y mae y dosbarth olaf o longau yn lleihau yn flynyddol-, 40 a adeiladwyd yn ystod y flwyddyn, yn gyferbyniol i 283 0 agerlongau haiarn. if f) I IV
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. Mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneyd yn Nghaerfyrddin ar gyfer yr Eiseddfod ddis- gwyliedig. Bwriedir codi pabell yn rhagori ar ddim a fu o'i blaen i gynwys 7000 o bobl. Mae Mr. Collard, yr archadeiladydd, yn arolygu yr holl waith ei hunan; a gwneir hi fel na byddo perygl iddi ymollwng. Yr Eisteddfod ydyw Cymanfa fawr y geixedl-Uchel wyl gyfarfod y Beirdd, y Llenorion, a'r cerddorion cenhedlaeth- ol. Disgwylir i bawb sydd yn caru eu hiaith a'u gwlad ar achlysnr fel hyn ddangos eu hochr. Mae yn yr Eisteddfod eleni destynau pwysig, a chynygir gwobrau uchel am danynt, a disgwyl- iwu arnynt gynyrchion a fydd yn anrhydedd i'r Eisteddfod. Da genym weled Traethodyddiaeth yn cael mwy o le yn yr Eisteddfodau yn awrnag a roddid gynt, a hyny heb roddi llai o bwysig- rwydc ar Farddoniaath.
LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU.
LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU. Gan y Parch. JOHN JONES, Brymbo. Llangollen, argraphwyd gan W. WILLIAMS. Deallais wrth ddarllen y TYST diweddaf nad oes genych un gwrthwynebiad i adolygiad ar lyfr gan ohebydd heb un cyssylltiad golygyddol gael ymddangos ar ddalenau y TYST. Digwydd- ais daraw wrth y llyfrhwn,-hoffais y wyneb- ddalen; prynais ef, a darllenais ef gyda budd. Yr wyf yn meddwl y gallwn ystyried ym- ddangosiad llyfr o natur y llyfr hwn yn Gymraeg yn mhlith digwyddiadau rhyfedd yr oes. Nid ydyw y rhan hon o lenyddiaeth wedi cael sylw teilwng gan y genedl hyd yn hyn. Ychydig 0 gyfansoddiadau Cymreig o natur y Ilyfr hwn a ymddangosodd yn yr iaith o gwbl., Y mae yn dda genym allu dywedvd wrth ddarllenwyr y TYST fod hwn yn ymddangos i ni yn gyfansodd- iad Cymraeg, a delw yr hen iaith yn argraffedig ar ei ddalenau. Nid rhyw lawer y bu yr hen iaith Gymraeg yn ceisio ar barablu syniadau politicaidd. Nid ydwyf wrth ddywedyd hyny yn golygu nad ydyw yn eithaf cymmhwys agalluog i wneuthur hyny yn effeithiol, ond gwyddom i'r gwrthwyneb; oud rhywfodd, ymddiriedodd y gorchwyl hwnw i'n cymmydogion yr ochr draw i Glawdd Offa, gyda'u iaith fain, lefn, ystwyth hono a leferir ganddynt hwy; tra yr oedd hi yn ymhyfrydu o fod yn iaith y pulpud-iaith y pregethu. Nid ydyw y wasg Gymreig wedi bod yn hepian, nac fel seguryn, heb wneuthur dim yn yr haner can mlynedd diweddaf. Addefwn yn rhwydd mai ychydig yn nghyssylltiad a gwleidyddiaeth; ond bu wrthi yn ddyfal yn bwrw allan drysorau i ddiwallu y byd crefyddol. Gallwn, fel cenedl, ymffrostio yn amlder cynnyrchion ein llenydd- iaeth dduwinyddol. Ond yn y blynyddoedd a basiodd yr ydym wedi cael y fraint o ddarllen rhyw gymmaint o gynnyrchion politicaidd yn yr hen iaith ami i draethawd da wedi ymddangos o'r naill bryd i'r llall yn y gwahanol gylchgronau, heb law erth- yglau yn llawnion o'r elfenau gwleidyddol sydd yn ymddangos yn y newyddiaduron Cymreig. Ond pan dderbyniasom y llyfr hwn in Haw yr wythnos o'r blaen; ac ar ol taflu golwg drosto, nis gallem lai na theimlo er hyny ei fod yn dwyn rhyw agwedd ddieithr llyfr cyflawn o'i dde- chreu i'w ddiwedd ar etholiadau seneddol! Ni buasai yn cynnyrchu syndod ynom pe buasai jn llyfr ar Etholedigaeth, neu'r lawn, neu ar Fedydd, gan ein bod yn ddigon cynnefin a chyn- nyrchion o'r natur hyny. Pan y byddwn yn gweled llyfr newydd, bydd ynom awydd am wybod enw yr awdwr a chym- maint a allwn o'i hanes; ac felly gyda'r llyfr hwn. Oddiwrth enw y llyfr, disgwyliasem mai un 0 gynnrychiolwyr galluog ein gwlad a fuasai yr awdwr,—naill ai Syr Watkyn neu Syr Richard, neu un o'r A.S. hyny a welsom ar esgynloriau yr Eisteddfodau, yn cael eu moli a'u dyrchafu o herwydd y gwaed Cymreig hwnw a ergydia yn barhaus trwy wythienau eu cyrph, er iddynt golli yr hen iaith oddi ar eu tafodau Ond yn hyn, fe'n siomwyd, gan yn ol fel y deallwn, mai gweinidog llafurus gyda'r Bedyddwyr ydyw yr awdwr; a chredwn fod y ffaith yna yn well recommendation i'r llyfr gan filoedd darllenwyr y TYST CYMREIG na phe buasai enw un o'r gwyr mawr hyn wrtho. Mae genym awydd i ganmawl y IIyfr uchod; nid am fod un cydnabyddiaeth na chyfeillgar- weh rhyngom a'r awdwr; ni buom yn ym- ddyddan gair ag ef gwelsom ef a gwrandawsom arno yn pregethu unwaith neu ddwy, a byny yn wresog-fel un yn teimloyr athrawiaethau hyny a gymhellai i eraill; a dyna yr oil a welsom o'r awdwr. Canmolwn y llyfr am ei fod yn un cymwys ar gyfer helyntion yr amseroedd hyn. Mae'r gwr doeth yn dywedyd,—' Ac 0 mor dda yw gair yn ei amser.' Dyma sydd yn rhoddi gwerth ar bob peth ydyw eu cael yn eu hamser; ac y mae i bobpeth ei amser priodol ei hunan. Nid ydyw yr aur a'r arian a'r perlau teg o un gwerth i'r marw, ond y maent yn werthfawr i'r byw. Felly yn union y dywedwn am y llyfr uchod y mae yn un yn ei amser—yn cyfateb i angen yp amser; canys y mae'r wlad fel yn dyrchafu ar flaenau ei thraed gan ddisgwyl yr etholiad cyff- redinol sydd yn ol pob arwyddion yn ymyl. Wrth daflu golwg dros ddalenau y llyfr hwn, yr ydym yn cael meddylddrych lied gywir am natur ac ansawdd ein cynrhychiolaeth; ac yn wir y mae yn rhaid (er trwy anfodd) addef fod ein cynrhychiolaeth yn un o'r fath fwyaf llesg a diffygiol a fedd un wlad wareiddiedig o dan haul y nen. Nid oes un wlad a all ymffrostio yn ei hymneillduaeth fel ac y gall Cymru ym- ffrostio; ond nid oes un wlad mor anymneillduol yn ei chynrhychiolaeth; ac yn j ol pob arwydd- ion ymddengys i ni ei bod yn dewis bod yn y sefyllfa hono; canys anfynych mewn cymhar- iaeth y gwelir ymdrechfa rhwng gwahanol bleidiau am anrhydedd i eistedd yn senedd ein gwlad; a mwy anfynych na hyny y gwelir ym- neillduwr yn ceisio am yr anrhydedd; nid ydyax yn cofio ond am ddau a anturiodd erioed. Ym- ddengys i ni fod cynrhychiolaeth Cymru fel math o aeriaeth yn fwy na dim arall. Dyma Aberteifi i ddechreu; ni bu yno o'r flwyddyn 1832, un ymrysonfa (contest) am y gynrhychiol- aeth hyd y flwyddyn 1859 a dau Dori ydoedd yr ymgeiswyr y pryd hyny; ac yn yr etholiad diweddaf dau ryddfrydwr ydoedd yr ymgeiswyr; a dyna holl helynt sir Aberteifi yn nghorff y 35 mlynedd diweddaf! Mae helyntion etholiadol sir Frycheiniog yn gynwysedig mewn un gwrth- ymgais; a sir Fon, er mor ymneillduol ystyrir hi, dim ond un ymgyrch etholiadol 0 gwbl. Ond am sir Gaernarfon, gwlad y llechau, ni wvddant hwy beth ydyw lecsiwn dros y sir o gwbl; ni chyffrowyd eu meddyliau puraidd hwy gan y miri etholiadol er's mwy na 35 0 flynyddau; ac yn ol pob arwyddion mai megis yr oedd yn y dechreu &c., fydd ei thynged os na fydd i'r reform newydd hwn luchio elfenau newyddion i syniadau y trigolion yn gyffredinol. Credwn os caiff y llyfr hwn ei ddarllen gan y miloedd fel ac y dylai ei gael, gallwn ddisgwyl ffrwyth dymunol mewn canlyniad, canys nid ydym yn credu fod yr agwedd sydd ar gyn- rhychiolaeth ein gwlad i'w briodoli i ddiffyg gallu i'w gwellhau, er mai dyna ydyw y syniad cyffredin, Hyderwn y bydd i'r gwahanol ym- drechion a wneir yn y cyfeiriad hwnw i symbylu y wlad fel y bydd iddi fel un gwr yn cyfodi at ei gwaith, ac actio yn deilwng o'r hen wroniaid hyny a fuont er 0 dan anfanteision dirfawr yn ymladd yn ddewr 0 dan faner rhyddid; yn erbyn estroniaid a gormeswyr galluog eu gwlad. Gwelwn fod ein hysgrif yn faith cyn ini allu dangos i ddarllenwyr y TYST ond ychydig o natur y llyfr. Disgwyliwn bydd gwerthiant y llyfr yn gyfryw ac a ddigolleda yr awdwr yn ei anturiaeth, onite byddwn yn dibrisio ac yu di- ystyru llafur mwyaf teilwng.