Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
YR HEN DEILIWR. LLYTHYR III.
YR HEN DEILIWR. LLYTHYR III. At Olygydd "r Tyst Cynweig." Foneddigion,—Yr oedd Huw Prys yn y bummed flwyddyn ar hugain o'i deilwriaeth pan aethum i ato yn brentis; ac felly yr oedd wedi gweled a dysgu a phrofi cryn lawer o'r pethau a berthynent i ddyled- swyddau swydd a helyntion bywyd teiliwr yn y wlad. Nid oedd Huw yn rhyw lawer o beth fel dyn, nac fel teiliwr; ond yr oedd yn meddu gradd dda o synwyr cyffredin-yn ddyn distaw a thawel, sobr, a gonest, a hynod o ddiwyd yn ei alwedigaeth. Yr oedd hefyd yn adnabod y byd,-sef y byd yr oedd efe yn byw ac yn troi ynddo, yn lied dda. Meddai farn go gywir, debygaf, am bob teulu y byddai yn cynniwair drwy eu plith; ond cadwai ei feddwl a'i farn yo gyfrinach iddo ei hun rhoddai ambell i awgrym yn achlysurol am y naill deulu a'r llall, ond yn bur gynnil a gochelgar a thrwy y gochelgarwch hwn, gwaredodd ei hun fel iwrch o law yr heliwr, rhag bod yn gyfranog mewn llawer cynnen ac ym- ryson a ddigwyddent yn awr a phryd arall rhwng teuluoedd o fewn cylch gweinidogaeth ei nodwydd. 4 Teiliwr yr hit a'r miss y gelwid ef yn gyffredin. Gwnai ambell bar o ddillad i ffitio i'r dim, fel y dy- wedai y bobl, ac ambell i un arall yn bur anghelfydd ac aflunaidd. Y clos pen glin a wisgid gan bawb -yn hen ac ieuaingc, yn gyfoethog a thlawa, yn y dyddiau hyny, a hynod o anffortunus oedd Huw yn saerniaeth clos—teilwriaeth ddylaswn i ddyweyd. Byddai pob un yn mron naill ai yn rhy dyn, neu yn rhy lac yn y glin weithiau yn llawer rhy fyr, ac weithiau yn llawer rhy hir, a bycMai raid iddo, naill ai cyfyngu neu eangu, cwtogi neu estyn, gliniau y rhan fwyaf o glosau ar ol eu gwneyd. Cyfeiliornai i'r naill ochr a'r llall bob yn ail agos yn wastad; wedi gwneyd un yn rhy gyfyng, cymmerai ofal y tro mesaf i wneyd y clos yn ddigon helaeth, a byddai y pryder a'r gofal hwnw yn ei yru ar gyfeiliorn yr ochr hono. Cafodd ei ddwrdio yn chwerw, diuan, lawer gwaith, oblegid ei gyfeiliornadau hyn. Byddai yn ddrwg gan fy nghalon drosto dan y triniaethau hyny teimlai i'r byw oddi wrthynt. Ar ol cael sgwrfa felly, ni ddywedai un gair wrthyf ar y ffordd wrth fyned tuag adref yn yr hwyr. Cerddai a'i wyneb tua'r Uawr, gan ocheneidio yn llwythog; pan ddigwyddai iddo wneyd clos i ffitio, ac i foddio ei berchenog, teimlai yntau yn llon'd ei glos o deiliwr, a byddai gan lawened a'r gog ar y gaingc. Ond ei anffawd, druan, oedd fod y miss yn dygwyddo yn fynychach na'r hit, yn ngwneuthuriad y dilledyn hwnw yn neillduol. Cof genyf yn mhen tua dwy flynedd wedi i mi fyned ato yn brentis, ein bod yn gweithio mewn ty ffarm, lie yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o'r deuddeg i'r deunaw oed. Gwnaed dillad y mab hynaf yn gyntaf-coat o frethyn car- tref, a gwasgod o stwff ty, a chlos worsted cord. Wrth ffitio y dillad, cafwyd fod gliniau y clos yn Ilawer rhy hir a rhy helaeth, fel y bu raid dattod y gwaith, a phario, a chwtogi llawer iawn arno, aC nid oedd fawr o lun arno wedi hyny. Y nesaf ydoedd hoglangc tuag un-ar-bymtheg oed, ac un tafodog trahaus oedd hwnw. Ar ol gorphen ei ddillad, galwyd arno yntau i'w gwisgo ac och yr oedd gliniau ei glos yn rhy gyfyng iddo o lawer. Cafodd Huw drafferth enbyd i gau y botymau; ac ar ol gor- phen y job,—' Mi neith hwn glos da iawn—mi ddaw allan wrth -ei wisgo,' eb efe; ond yr oedd y bachgen yn achwyn yn dost, fod ei liniau a'i goesau yn cyffio. Aeth allan yn y man, a cheisiai redeg a neidio er mwyn stretchio gliniau 'r clos ac yn yr ymdrech, taflodd un o fotymau y glin ymaith oddi ar y soced; rhedodd yn ol i'r ty i adrodd yr helynt :—' Yr oedd- wn ar Gae 'r Sgubor,' meddai, ac wrth i mi geisio rhedeg, mi. daflodd y botwm canol yma, welwch chwi, fel ergyd o wn, a mi hitiodd Robin Goch oedd yn digwydd bod o fewn seith-lath neu wyth i mi yn ei ben, ac mi lladdodd o ar y spot I' Taw a dweyd anwiredd,' meddai ei fam wrtho. Tydio ddim yn anwiredd,' meddai 'r bachgen, canys pytase Robin Goch, ne ryw dderyn arall yn cael ergyd y botwm yn ei ben, mi fuasai 'n ddigon sicr o'i ladd!' Ar hyny, daeth y gwr i'r ty.—' Ni wn i beth a wnawn i'r oen llyweth ene,' eb efe mae o 'n tori i'r ardd o hyd, ac yn difetha pob peth sydd yna.' Mi ddeu- da i chwi be newch iddo fo nhad,' ebe y bachgen, gnewch i Huw neyd clos iddo fo; mi wranta i y gwneiff Huw lindorch iddo fo, nad eiff o ddim yn hawdd dros yr un gwrych wedi hyny.' Yr oedd geiriau sarhaus y bachgen yn brathu Huw fel cledd- yf, ac yn enwedig chwerthin y teulu am ben ffraeth- ineb yr hogyn. Methodd a dal v driniaeth; neidiodd i lawr oddi ar y bwrdd, ac aeth allan, a bu enyd hir heb ddychwelyd. Yr oedd Huw yn feistr ar y rhan fwyaf o deilwriaid y wlad am wneyd coat, ac yr oedd yn cael enw a chlod am hyny trwy y fro. Anaml y methai gyda'r dilledyn hwn fel y llall; ac yr oedd yn falch o hono ei hun ar y cyfrif hwnw. Yr wyf yn cofio un tro go ddigrif a ddigwyddodd yn achos coat a wnaethai Huw i lane yn y gymyd- ogaeth, yr hwn oedd a chrwb yn ei war, ac un pur anhawdd i'r teiliwr ei foddio ydoedd yn enwedig ar goat. Wedi gorphen y goat, tarawodd y llanc hi am dano, ac wedi ymdeimlo ag ef ei hun ynddi am enyd, deehreuodd feirniadu arni; Ni thai hon ddim byd,' eb efe, 'n surllyd. Pa'm na thai hi?' gofynai Huw, yn sychlyd; Tydi hi ddim yn debyg i gwat sut yn y byd,' ebe'r llanc. Tebyg i beth ydi hi ?' meddai Huw; Tebyg i sach am a wn i,' atebai'r llall. Mae hi cystal cwat fu erioed am dy gefn di, ac yn llawer rhy dda i dy fath di,' meddai'r teiliwr; Mi 'naethwn 'i gwell fy hun o'r haner, mae hi'n rhy dyn am y war,' meddai'r llall. Ar dy war di mae'r bai,' ebe Huw,' Mi gneis i hi i ateb i'r hyn a ddyle gwar fod, ac os nad ydi hi'u ffitio dy war di, toes gen i mo'r help.' Tynodd y llanc y goat a thaflodd hi at Huw 'n ddigofus,' Rhaid i chi ei hal- tro hi i mi,' eb efe, onide ro i moni byth am danaf.' Dos di a dy war i'w altro,' ebe Huw. Gwylltiodd y bachgen yn aruthr a heriai Huw i fyned allan i ymladd ag ef. Yr oedd mor annioddefol iddo ef i'r Teiliwr feirniadu ar ei war ef, ac oedd i Huw ei glywed yntau yn beio ar deilwriaeth y goat. Caf- wyd tipin o waith i berswadio'r ddau i beidio ym- ladd, a digon tebyg ped aethai yn frwydr rhyng- ddynt mai y llanc a gawsai y gwaethaf, canys buasai Huw yn gryn ymladdwr yn nyddiau ei ieuenctyd. Pan aethum ato yn brentis, traddododd siars ddif- rifol i mi ar fy nyledswyddau. Cofia di nad wyt ti ddim i siarad yn y tai, ond ateb yr hyn a ofynir i ti. Paid byth a gwthio dy big i fewn i un stori; a phaid a chymeryd arnat dy fod yn gwrando ar ddim fydd yn cael ei siarad gan y teulu. Paid byth a chario cleps o'r naill dy i'r llall; gollwng bob peth felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall. Paid byth ac edrych yn sur ar y bwyd roir o dy naen di, a llawer o gynghorion buddiol eyffelyb a gefais gan- ddo. Cofia di'r pethau yna,' meddai, (er dy fwyn dy hun.' Mae Teiliwr yn gwneyd ei garitor yn y wlad yn nyddiau ei brentisiaeth os ymddyga'r bachgen yn gall a distaw, mi gaiff barch ac ymddir- ied pobl pan ddelo'n ddyn.' Gallaswn adrodd cryn lawer am Huw, y mae yntau wedi myned i ffordd yr holl Deilwriaid er's llawer blwyddyn bellach. Hedd- wch i'w Iwch. Dylaswn grybwyll fod Huw yn pro- ffesu crefydd amryw flynyddoedd cyn marw, a phob arwyddion ei fod yn ddyn da. Yr Eiddoch, &c., Yn HEN DEILIWR.
LLYTHYR Y PARCH. S. ROBERTS.
LLYTHYR Y PARCH. S. ROBERTS. Rev. H. E. Thomas, Liverpool, ANWYL SYR,-Y, r wyf yn gweled oddiwrth Hys- pysiad ar Amlen y Dysgedydd, eich bod yn amcanu sefydlu Newyddiadur. Yr wyf yn hyderus y gell- wch chwi a'ch cydweithwyr wneuthur gwasanaeth drwyddo o radd uchel a phwysfawr i egwyddorion rhyddid gwladol a chrefyddol. Y mae fy nghalon yn dymuno eich llwyddiant. Yr wyf yn awr yn annedd ein hen gyfaill hy- barch Dr. Everett. Cefais gytle neithiwr i adrodd i gynulleidfa liosog fy adgofion am rai o hen weini- dogion Cymru, o wahanol Enwadau. Yr oedd yn yr odfa, heblaw Dr. Everett, y Parch. Sem Phillips, J. Cadwaladr, W. B. Williams a Daniel E. Evans o Goleg Yale; a'r hen bregethwr cynes Thomas Jones, o Arfon; a'r Parch. T. Thomas (T.W.), gynt o'r Bala a mab y Parch. R. Thomas o Bangor, a nifer mawr o'm cydnabod hen ac ieuanc. Bum y Sabboth diweddaf yn nghylch Utica lie y cefais gyfle i bregethu i gynnulleidfaoedd y Parchn. W. D. Williams, James Griffiths, a Gwesyn Jones. Yr wyf yn bwriadu bod y Sabbath nesaf yn Fair- haven a Middle Granville, a'r Sabbath dilynol, Gorph. 14, yn New York, a byddaf, os caf fyw, yn cymeryd llong, a'm gwyneb tua Liverpool, y cyfle cyntaf ar ol byny-dichon oddeutu yr ailarbymtheg o'r mis yma. Gwelais yn ystod teithiau y chwech wythnos diweddaf, nifer mawr o'm cyfeillion ac y mae genyf oddiwrthynt gofion cynes at eu ceraint yn yr hen wlad. Yr oedd teithiau ac odfeuon y mis diweddaf braidd yn ormod i'm natur, ac yr wyf yn awr yn dioddef dan effeithiau anwyd trwm. Buasai ychydig ddyddiau o orphwys yn gymorth yn yr adeg bresenol. Yr jwyf yn edrych am ddeuddydd o or- phwys ar ol odfeuon heno yn Trenton, a nos y foru yn addoldy y Parch. Gwesyn Jones. Carwn gael fy nghofio yn gynes at bawb o'm cyfeillion a welwch. Cefais y mis diweddaf lawer o gyfeillach fy hen gydymaith caruaidd a ffyddlawn y Parch. D. Price o Newark, gynt o Ddinbych a byddaf yn debyg o'i gyfarfod eto yn Fairhaven a New York. Dywedodd y mynai fy hebrwng i'r llong.' Y mae mor ddydd- anol ei gyfeillach, ac mor effeithiol ei bregeth ag y bu erioed.-S. R. yn Steuben, Gorph. 2, 1807. Yr oedd yn naturiol i'r hen gyfeillion a welais ar y daith bresenol son am yr hen wlad,' drwy fy mod i a'm gwyneb tuag yno; a'm bod yn gobeithio cael gweled yno nifer mawr o hoif gyfeillion dyddiau eu mebyd. Yr oedd yn cynhesu fy nghalon eu clywed yn amlygu y fath anwyldeb tuagat hen wlad ein Tadau; yn enwedig yn eu gweddiau am lwyddiant eu hegn. iadau cyson ac enwog o blaid achos y Gwaredwr. Nid oes yr un dystiolaeth anrhydeddusach i'w chael am nerth y Drefn Wirfoddol, na'r hanes am ei llwydd- iant drwy yr Haner Can' mlynedd ddiweddaf drwy bob parth o Gymru. S. R. Yn Utica, New York, Gorph. 3,1867.
LIVERPOOL A'I HELYNTION.
LIVERPOOL A'I HELYNTION. Barchus Olygwyr,—Y mae Liverpool a'i digwydd- iadau yn haeddu mwy o le yn eich newyddiadur nag y mae wedi gael hyd yma. Y mae yr elfen Gymreig yn gref iawn yn Liverpool. Hwyrach na chamsyn- iwn pe dywedwn nad oes yr un darn o'r ddaear, o'r un maintioli, a chynnifer o Gymry yn byw arno. Dywed rhai fod y Cymry yn un rhan o bump o boblogaeth y dref; os felly, y mae yma yn agos i gan mil o honynt; ond gellir heb betrusder ddyweyd fod yma drigain a deg ofiloedd o Gymry. Mae hyny yn fwy o ugain mil na holl boblogaeth Ynys Mon, ac yn agos gynnifer a holl breswylwyr bwrdeisdref Merthyr Tydfil, a chyfrif y Cymry, y Saeson, a'r Gwyddelod, a phob cenedl arall sydd wedi ymlusgo yno. Ac y mae poblogaeth Gymreig Liverpool yn gasgliad o Gymry pob cwr o'r Dywysogaeth. Y mae yn anmheus genyf a oes na phlwyf na phentref trwy Gymru benbaladr nad oesrhyw un a chyssyllt- iadau ganddo yma, Mae llinynau tyneraf serch ac anwyldeb yn rhedeg i Liverpool oddi ar filoedd o hen aelwydydd ar waelod cymoedd ac ochrau myn- yddoedd Cymru. Oes, y mae yna lawer mam dlawd yn ei bwthyn llwyd, unig, mewn congl anghysbell yn meddwl y dydd, ac yn breuddwydio y nos am Liverpool, o blegid fod ganddi ei Robert a'i Mary, neu ei John a Margaret yma, ac y mae gwir ofal calon ganddi am danynt, a'u hachos yn wastad yn cael eu lledu ganddi ger bron Duw,—ar iddo eu gwared rhag y drwg. Bydd yn dda gan yr hen wraig estyn tyniad o laeth enwyn a thamaid o fara haidd o'i phrinder i ddyn dyeithr ar ei daith, os dy- wed ei fod yn dyfod o Liverpool; ac y mae pregethwr o Liverpool yn oracl ganddi, am mai dyna weinidog Dafydd ei mab, neu Ann ei merch. Gellwch fod yn sicr nad oes yr un parth o'r byd ag y bydd pob new- yddion am dano yn fwy derbyniol yn gyflredinol trwy Gymru. Am sir Fon, y mae hi wedi danfon ei phlant yma wrth y cannoedd. Nid oes nemawr deulu o Beaumaris i AberfEraw, o Gaergybi i Borth- aethwy, nac o Amlwch i Niwbwrch nad oes rhai o'u plant yma. Y Monwysiaid a welir yma amlaf. Y mae yma lawer o langciau Eryri' a gwyryfon Arfon, er nad mor lluosog, ac o ranau eraill o'r sir, o blegid fod ganddynt eu cloddfeydd llechi i roddi gwaith i'w meibion, ac y mae y merched yn rhai mor lan a medrus fel y maent gan mwyaf yn cael gwyr yn ieuanc. Os cerddwch Eifionydd o Lanaelhaiarn i i Borthmadog, a holi hanes y teuluoedd, cewch fod eu cangau yn ymestyn hyd Liverpool. Am Leyn o Bwllheli i Aberdaron, ac o Nefyn i Lanengan, oddi ar ochrau Mynydd y Rhiw, Mynydd Mynytho, a Charnfadryn, deuant yma wrth y canoedd. Mae Morwynion Glan Meirionydd' yn medru y ffordd yma o gonglau peIIafplwyfi Trawsfynydd, Llanfach- reth, a Llanuwchllyn, ac nid yw swynion dyffryn- oedd Ardudwy a Mawddach yn ddigon i'w hattal yma. Ac wedi iddynt hwy gyehwyn, ni bydd y meibion yn hir cyn eu dilyn. Enfyn sir Ddinbych ei phlant yma o Gwytherin, a Llansannan, a Phen. tre-llyn-cymmer, a chuddfeydd eraill Mynydd Hir- aethog; a dyrchafa preswylwyr ieuaingc Dyffryn Clwyd eu llygaid i Liverpool fel lie i wneyd bywiol- iaeth well. Ac nid ychydig ydyw y rhai a ddeuant yma o gylchoedd y Rhos, a'r Mwnglawdd, a Brymbo, er fod gan yr ardaloedd hyn ddigon o fodd i gynnal eu plant. Rhaid i Liverpool sefyll cydymgais a'r brif-ddinas am bobl hawddgar sir Drefaldwyn, ond nid ychydig o honynt hwythau hefyd sydd yn gallu gweithio eu ffordd yma. Maent yma o ucheldir Llanwddyn, ac o wastadedd Meifod. Mae llygad holl siroedd Gogledd Cymru ar Liverpool, fel y lie i'w gor-boblogaeth ymfudo yno. Mae eu seiri, eu gofaint, eu cryddion, eu teilwriaid, a llu mawr o feibion eu llafur wedi cael cartref, bywioliaeth, eysur, a bendith yn Liverpool pan y gorfodid hwy gan amgylchiadau i adael aelwyd eu rhieni, a chefriu ar eu bro enedigol. Am Ddeheudir Cymru, nid yw y dylifiad oddi yno yma mor fawr. Yr oedd lleoedd eraill yn agored iddynt hwy. Bu, ac y mae tynfa llawer iawn o sir Aberteifi i Lundain. Ar un adeg, yr oedd pobl un parth o sir Aberteifi wedi gorfaelu elw masnach y llaeth yn y brif-ddinas. Dynion cryfion, esgyrniog, a merched bochgoch iachus o Landdewibrefi, Tre- garon, Pontrhydfendigaid, a'r wlad oddi amgylch a welid yn benaf gyda hyny o orchwyl. Erbyn hyn, y mae pethau wedi newid yn fawr. Yr oedd llinell y gweithfeydd o Lanelli yn sir Gaerfyrddin hyd Lanelli yn Mrycheiniog yn agor i ranau gorllewinol y De (' Gwvr y West,' iel y geiwid hwy). Ac yr oedd gan Forganwg a Myuwy ddigon o waith i'w pobl oil, a digon dros ben i eraill. Ond y mae y blynydd- oedd diweddaf wedi agor cyssylltiad neillduol rhwng Liverpool a'r De. Daeth T. Morris, Ysw. (mab y diweddar Barch. Ebenezer Morris) yma, a gwnaeth yn dda yn ei fasnach a daeth tren o siopwyr yma ar ei ol, naill ai trwy gyssylltiad ag ef, neu trwy glywed am ei lwyddiant ef. Siopwyr a seiri coed ydyw y rhan fwyaf o'r dynion ieuaingc sydi yma o sir Aberteifi. Mae gan bob cymmydogaeth yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin ei chynnrychiolwyr yn ein tref. Bachgen ieuango o ymyl Trevine yn Mhenfro oedd y diweddaf a welais neithiwr. Gwr o ymyl Cilcwm yn sir Gaerfyrddin oedd y cyntaf a gyfarfum boreu heddyw; ac yr wyf wedi addaw myned y prydnawn hwn gyda chyfaill o gymmydogaeth Castellnewydd i gael cwpanaid o de gyda theulu caredigy mae y wraig o ymyl tref Caerfyrddin. Liverpool ydyw cynnullfan Cymru y Dywysogaeth. Deuant yma o'r gorllewin, y gogledd, y dwyrain, a'r de. Bydd pob peth am Liverpool, gan hyny, yn ddyddorol, nid gan bobl Liverpool yn unig, ond gan filoedd yn Nghymru hefyd. Os ydych am wneyd eich papyr yn ddefnyddiol, rhoddwch golofn ynddo bob wythnos o ddigwyddiadau Liverpool,—masnach, cyllogau, Ilongau, damweiniau, genedigaethau, priod- asau, marwolaethau, y capeli, y gweinidogion, y cyfarfodydd,—pob peth ag y mae yn weddus ei gyhoeddi am bawb o bob enwad. Yr wyf yn hen drigiauydd yn Liverpool, ac yn ymwelydd blynyddol rheolaidd a Chymru, ac weithiau yn amlach, a gwn oddi wrth yr holi mawr wnant arnaf am bob peth o yma pa faint b ddydclordeb y maent yn ei deimlo ynom. Buaswn yn cynnyg fy ngwasanaeth i chwi i hyn, oni buasai fy mod yn gwybod fod digon o lionocli ynglyn a'r TYST, ac yn llawer mwy galluog na mi i wneyd ond bydd yn bleser genyf estyn i chwi bob help yn fy ngallu. Gan ddymuno llwydd- iant a hir oes i'ch newyddiadur teilwng. Yr eiddoch, &c., LtiADMERYDD. —
j AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG."
AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG." Foneddigion,-A fyddwch chwi mor hynaws a gadael yr hanes byr canlynol i ymddangos yn eich Newyddiadur. Y mae yn arferiad yn yr ardal hon er ys blynyddoedd i gymydogion helpu eu gilydd i gael y gwair i mewn. Ac o gylch amser swper ceir gweled dauneu dri o'r teulu perthynol i'r gwair yn rhanu y bobl yn ddau ddosparth, y dosparth mwyaf anrhydeddus yw dospartb y te, a chaiff ei alw i'r ystafell oreu yn y ty i gyfranogi o hono. Y dos- parth arall yw dosparth y bara a'r llaeth, neu gawl 1 llaeth, neu gaws a maidd fel y gelwir ef genym ni, a chaiff ei alw i ystafell arall dipyn mwy cyferedin, ond eithaf da, ar ymborth mor dda a hyny; ond di- wedd y stori y mae dosparh y llaeth yn dal gwg at bobl y te yn debyg fel yr oedd meibion Jacob at eu brawd Joseph yn herwydd y siaced fraith, y maent mor boeth fel yr ofnwn yn wir y gwnant roi pen coch i rai personau cyn gorphwys. Y maent yn fwy ffyrnig i benau teuluoedd na phobl y te. Ac mewn gwirionedd os oes bai, wrthlddrws y pen teulu yr erys, ouide nid pen mo hono, oblegid pa drosedd ydyw yfed te os ceir cynyg arno. Ond eu dadl hwy ydyw gan eu bod yn gweithio yr un gwaith y dylcnt gael cyfranogi o'r un danteithion. Ac yn wir, o'm rhan i, yr wyf yn gweled cryn gysondeb yn yr hyn a ddywedant, ac yn eithaf boddlawn i'r rheol. Bydded hysbys i'r ddau ddosparth yn gystal a holl ddarllenwyr y TYST ein bod ni yn yr ardal hon wedi penderfynu yn hollol i ddatod y mur hwn, ac y caiff pawb o hyn allan gyfranogi o'r un ymborth, bydded wych neu wael, oblegyd yr ydym wedi cael digon ar y fath ffrwgwd. Gan hyny, anwyl Olygwyr, gadaw- er i'r hysbysiad hwn i ymddangos gan hyderu y bydd yn fendithiol i rwymo y ddaw ddosparth, a phob teulu trwy yr ardal yn rhwymyn cariad. Gil)-hedyn. TANGNEFEDDWR.
AT OLYGWYR Y " TYST CYMREIG."
AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG." Foneddigion,—Un o bobl y snisin ydw' i, ym mhob ystyr o'r gair ac yr wyf yn sicr fy mod yn y dosbarth lliosocaf o ddigon, a'r lliaws a fedr ddal papur newydd i fynu. Pengamiaid rhith-grefyddol, ae anwybodus i raddau pell o wir natur papur a ne- wydd. sy'n llefain arnoch am gadw digon o yspryd a thon grefyddol ynddo. Llyfr Gurnal sy'n gweddu i'r cyfryw frodyr gweiniaid,' ac nid Papur Nevnjdd. Ton wladol sydd i fod yn hwn, a gadael y don gre- fyddol' i'r Dysgedydd, y Drysorfa, a thaclau diflas cyffelyb. Os bydd arnaf fi eisiau ton grefyddol,' i'r Beibl, neu Fuller, neu Howe, neu'r Dr. Williams, neu'r Dr. Owen, neuJHall, neu Jonathan Edwards, a byddaf fi'n troi, ac nid i Bapur Newydd, yn eno synwyr cyffredin beth bynag ydi hwnw. Na, na1! erthyclau'r snisin sy raid eu cael i bapur newydd sy'n meddwl byiv-y Deial, a chant o'r fath, yn dystion. Ac nid oes dim possibl rhoi snisin mewn pytiau diffrwyth, cyd a bys; ac am htny, rhaid cael mwy o lythyrenfan yn y TYST. Am y rhai sydd yn erbyn Nofelau, y mae'n debyg na wyddant hwy, druain gwerin, fod gryn un ran o dair o'r Beibl p natur nofelaidd. Byddai'n werth i'r cyfryw phari- seaid ddarllen Reed's Defence to his No-Fiction. Hefyd, os ydych am i rywun heblaw sentar sych dderbyn eich papur, rhaid i chwi ollwng dadleuon ar wahanol bynciau i mewn. Ni leiciwn i ddim i chwi oddef taclau difoes ddywedyd wrth eu gilydd, fel y dywedwyd mewn seiatis cyn hyn,' Celwydd yn dy ddanedd cau dy geg, yr hen ysglyfaeth budyr 1' Ond dadl deg; ac wrth ddadleu'n ddoniol, rhaid i ddyn gael cynhesu tipyn, wyddoch. Ni dda gen i ddim dadl, mwy nag ysgrif, lugoer, fel diod mochyn. Wel, wel, fel y mynoch y gwnewch, mi wn, bobol bach ac fe fydd hyny cystal. am wn i, Am danaf fy hun, ymddengys na bydd genyf fi amser i ddarllen ond ychydig arno, chwaethach ysgrifenu fawr iddo, tae fater am hyny, wel tase;' ond mi dreiaf gael ceiniog i'w brynu. Bich gwasr-G.
AT Y PARCH. H. GRIFFITHS,…
AT Y PARCH. H. GRIFFITHS, YSGRTFENYDD COLEG ABERHONDDU. Syr,—Yn y TYST CYMEEIG am Gorph. 13, o dan y penawd Coleg Aberhonddu, ac yn yr O.Y. mae y 3aulynol:-i Dichon y dylid dyweyd hefyd fod clall o aelodau y Pwyllgor, sef Mr. Evans, Aberaeron, a Mr. JoneSj Soar, Merthyr, wedi myned allan o r ystafell pan y daeth cwestiwn derbyniad yr ymgeis- wyr yn mlaen, o blegid fod ymgeiswyr o'u heglwysi hwy. Pasiwyd yn y cyfarfod blynyddol nad oes gan na diacon nac aelod ychwaith hawl i fod ar y pwyll- gor, os byddun o'u heglwysi yn ymgeisydd. Gwneir pob peth i roddi derbyniud yr ymgeiswyr i ddynion hollol anmhleidiol.' Yr wyf yn gweled enwau Thomas Williams, Yaw, a David Davies, Ysw., Merthyr, fel dau o aelodau y Pwyllgor oeddynt yn bresennol ar ddydd yr arholiad, ac yr wyf yn gweled ar y report fod y ddau fonedd- wr uchod yn aelodau o'r executive committee—Thos. Williams, Ysw., yn un Q'r auditors, a D. Davies, Yaw., ar y pwyllgor dros Morganwg. Y mae y ddau foneddwr uchod yn aelodau yn Soar, Merthyr, ac yr oedd aelod arall o Soar, Merthyr, yn ymgeisydd am dderbyniad i'r coleg. A oedd Mr. Davies a Mr. Williams i mewn y pryd hwnw, a Mr. Jones, y gweinidog allan? Attebiad buan trwy y TYST a rydd foddlonrwydd i laweroedd, heb law myfi- W. THOMAS. ,n
LLUNDAIN.—NOSON YN Y TY.
LLUNDAIN.—NOSON YN Y TY. Y BIL WEDI PASIO :-PWY BIA 'R CLOD ? Dyna oedd y ddadl y noson olaf yn Nhy y Cyffred. in.—Pwy sydd i gael y clod ?—Enw pwy sydd i fod wrtho ? I Enw Mr. Gladstone,' flbe Arglwydd Cran- bourne. Nage, fy enw i,' ebe Disraeli. Wrth ad. olygu y frwydr o'r dechreu, yr wyf fi yn teimlo fel Arglwydd Plankett unwaith pan ddygwyd case ger ei fron y gellid dweyd llawer ar bob ochr. Gofyn- wyd iddo, Beth yw eich barn fy Axglwydd ?' Mi fyddai 'n dda genyf gael lOOp. am ei ddadleu bob ffordd.' Mae 'n bossibl gwneyd dadi gref dros Dis. raeli; y mae yn ddiammheu fod ei gyfrwysdra cad- noaidd, ei fedrusrwydd Ilysywenaidd i ddianc rhag bachau ei wrthwj nebwyr, a'i ddygneiddwch Indd. ewig i ddyoddef gwawd a chabledd,pob peth, er cyrhaedd ei amcan, cael ei enw ynglyn a'r bil, wedi bod y prif foddion i'w anfon trwy Dy y Cyffredin, ac i Dy yr Arglwyddi mewn un tymmor a chan fod pawb yn gwybod mai nid lies v wlad, ond ei anrhydedd ei hun; mai yr enw a'r clod oedd mewn golwg ganddo y mae yn drueni ei amddifadu o'r unig goron a geisiai. Mae yn wir fod Arglwydd Cranbourne wedi gwneud y case cryfaf dros i Mr. Gladstone gael y prif anrhydedd. Yr oedd ei araeth yn fedrus ac yn alluog, yn ddigon i brofi ei fod yn un o brif ddadleu- wyr y senedd. Yr oedd y Ty yn orlawn pan gyfod- odd; ni chafodd fawr o gymhorth gan ei blaid ei hun-y Toryaid; ond derbynid pob brawddeg gyda chymmeradwyaeth cyffredinol gan y blaid wrthwyn- ebol. Gwelais gyfarfod pregethu weithiau mewn capel perthynol i enwad arall, a phawb o'r cartref- wyr o gylch y pulpud yn oer ac yn ddistaw yn nghanol y tan, tra yr oedd yr estroniaid draw yn mwynhau ac yn cymmeradwyo; felly, mudanrwydd hollol oedd o gylch Arglwydd Cranbourne, ond yr oedd yn hwyl fawr tu hwnt i'r bwrdd a below the gangway draw. Dangosodd ar ddechreu ei araeth fod Mr. Gladstone wedi gofyn am 10 o gyfnewidiad- au yn y Bil pan ddygwyd ef ger bron gyntaf, ac fod Disraeli wedi caniatau naw o'r cyfnewidiadau hyny ac felly mai ynfydrwydd oedd dweyd mai Canghell- ydd y Trysorlys oedd ei dad nad oedd yr erthyl a ddygodd ef i'r ty yn dwyn yr un tebygolrwydd i'r plentyn oedd ger bron y noson hono ac yna, wedi tynu'r bluen o gap yr Iuddew, a'i gosod yn nghap ei wrthwynebydd, deehreuodd alarnadu yn brudd- glwyfus iawn uwch ben gogoniant Toryaeth wedi cilio; ac yr oedd yn canfod Ichabod wedi ei ysgrif- enu ar yr orsedd, ar y cyfringynghor, ar y senedd, ac ar bawb a phob peth, yn enwedig ar arweinydd y Ty, a gorphenodd trwy ei anrhydeddu a'r teitl Adventurer Yr oeddwn yn teimlo ar ol ei araeth fod llawer o arwyddion surni dyn siomedig arni. Gwyddom ei fod wedi gadael y cabinet, am nad oedd yn foddlawn i'r mesur diwygiadol, a gwyddom hefyd, mai y teimlad diflasaf yw troi draw oddi wrth unrhyw symudiad cyhoeddus er mwyn ei rwystro, a'i gan- fod yn myned yn mlaen yh fuddugoliaethus wedi hyny heb ein cymhorth. Y mae hyn yn ddigon i yru sant i dymmer ddrwg. Gweled y dynion y gwrthodasoch gydweithio â hwy yn cael eu hanrhyd- eddu,—y mae yn ddigon i yru y gwrthgiliwr i waeddi—' Nid efe bia y clod ond rhywun arall Ar ei ol ef cododd yr archregwr Robert Lowe. Yr oedd pawb yn disgwyl iddo ef fod mewn drwghwyl y noson hon, oblegid yr oedd y mesur mor ddiwyg- iadol nes ei droi ef o'r senedd fel aelod dros Calne. Dywedodd rhywun ei fod yn credu fod Mr. Lowe wedi bod dan addysg y Pab fel prif felldithiwr dyn- oliae;h, ac nad oedd ond newydd ddychwelyd pan draddododd yr araeth hon. Dechreuodd fel y Scotchman hwnw trwy felldithio pawb a phob peth yn gyffredinol; ac yna melldithiodd Disraeli, yr hwn wrth gwrs sydd wedi gwerthu ei hun i'r diafol am swydd seneddol; melldithiodd Bright am ei fod wedi cychwyn chwyldroad yr hoffai ef ei hun ei rwystro yn awr pe medrai; melldithiodd y gweithwyr fel ar- ferol am eu hanwybodaeth o'r classics, ac yn y diwedd melldithiodd eu hun am na fuasai wedi cymeryd ei eni i'r byd pan oedd callach pobl yn ei lywodraethu. Ni chafodd yr un o'i areithiau gwrth-ddiwygiadol lai o ddylanwad ar y ty. Er iddo grogi'r cymylau ty- wyllaf uwch awyrgylch y dyfodol, er iddo ei llenwi a'r melldithion gwaethaf, a bygwth y torai y cyfan ar ein penau os pasid y bil, pasio a wnaeth heb neb yn dychrynu. Y mae'r dyn sydd bob amser yn trin ac yn dwrdio, yn rhegu ae yn melldithio ya rhwym