Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

EFfiNGYLWYlt TEITHIOL CYMRU.…

TAITH Y PERERIN.

LLANBRYNMAIR AC AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANBRYNMAIR AC AMERICA. Mae yn debyg nad oes yr un ardal amaeth- yddol yn Nghymru a chymaint o ymfudo wedi bod o honi i America, yn ystod yr ugain mlyn- edd diweddaf, ag ardal Llanbrynmair. Mae yr Hen Gapel trwy hyn wedi cael colledion dirfawr o bryd i bryd; ac y mae yn syndod, yn ngwyneb hyn, fod yr achos yma wedi dal ei dir gystal ag y mae. Cychwynodd tua deg ar hugain o'r gymmydogaeth hon i fyd y Gorllewin bore ddyddpLlun, Mai lleg; ac yn eu plith Mr Ed- ward 'Peat, Braichodnant, a'i deulu; a Mr Hugh Hughes, Pencaedu, a'i deulu. Yr oedd y brodyranwylhyn ynrhai yteimla yr eglwys hir- aeth acholled fawr ar eu holau. Buont ynnoded- ig o ffyddlawn a defnyddiol yn eu gwahanol gylchoedd crefyddol, am lawer blwyddyn.; ac y mae genymbobhyder y byddant felly eto yr ochr draw i'r Werydd. Yr oedd y naill mor ffydd- lawn yn ol ei allu a'r llall; ond yr oedd gan Edward Peat fwy o gyfleusderau i fod yn ddef- nyddiol, a gwnaeth yntau y defnydd goreu o'r cyfleusderau hyny, fel y mae yma fwlch mawr yn yr eglwys ar ei ol. Efe oedd ein cyhoeddwr, ac ni chlywsom neb erioed, yn un man, yn medru gwneud y gorchwyl hwnw yn well nag ef. Y nos Sabbath cyn iddynt ymadael, pre- gethodd yr ysgrifenydd yn fyr ar yr Arglwydd fel Arweinydd ei bobl; ac yna gwnaed sylwad- au priodol i'r achlysur gan amryw o'r brodyr. Anrhegwyd pob un o'r ddau frawd a Beibl Teu- luaidd hardd, fel arwydd o barch yr eglwys iddynt, oherwydd eu ffyddlondeb, ac o'i dymun- iadau da iddynt hwy a'u teuluoedd yn ngwlad y Gorllewin. Diolchodd y brodyr am yr an- rheg, a chanasant yn iach i'w hen gyfeillion mewn teimladau drylliog iawn. Yr oedd y cyf- arfod yn un nad anghofir yn fuan; nid oedd braidd yr un llygad sych yn yr holl gynnull- eidfa. Wylo yn dost a wnaeth pawb wrth feddwl na chaent weled wynebau y brodyr anwyl hyn mwy. Yn ngwyneb fod cynnifer o hen aelodau yr eglwys hon yn awr mewn gwahanol fanau yn yr America, pasiwyd y penderfyniad canlynol, yn y cyfarfod nos Sabbath:— I 'Fod -eglwys yr Hen Gapel, Llanbrynmair, yn anfon ei chofion caredicaf gyda'r brodyr Edward Peat, a Hugh Hughes, at ei hen gyf- eillion yn America, gan hyderu fod pawb o hon- ynt yn ymddwyn yn addas i efengyl Crist;" a'i bod yn dymuno eu llwyddiant a'u cysur yn dymhorol ac yn ysprydol.' Cyfansoddwyd y pennillion canlynol, gan ein cyfaill awenyddol Mynyddog, i Edward Peat, ar ei ymadawiad:— HWDE law fy nghyfaill hawddgar, Cyfaill cywir fel y dur, Hwde law ffarwel mewn galar, 'Rwyt ti 'rioed yn gyfaill pur; Mae cyfeillion pur mor biinion, A rhai gau mor ami eu rhi, Fel nad allwyf fi yr awrhon Feddwl am dy hebgor cli. Hwde law fy nghyfaill tirion, > Llwyddiant iti yn y byd, Na ddoed ton o for trallodion Draws dy lwybr di'r un pryd; Ti-a disgyna dagrau 'm galar Fy nymuniad hed i'r nen, Am fendithion nef a daear Yn gawodyd ar dy ben. Hwde law a chalon hefyd— Saif dy barch o'th ol yn hir, Fel pelydroii haul 'rol maclilud, r;, Yn yr haf ar awyr glir: Hwde law ffarwel-rhaid cefnu, Ac yn swn y pruddaidd air, Mae ochenaid yn ymgasglu Yn hen fynwes Llanbrynmair. Hwde law—paid tori'th galon, Gwyddost ti y ffordd at Dduw, Gelli godi dy olygon A dy lef at un a glyw Cwyd dy feddwl-—bydd galonog; Medi'n llawen eto gair O gynhauaf mawr toreitdiog Hen weddiau Llanbry-iimair. Dymuniadau dy gyfeillion, Tra bo'ch di ar gefnfor llaitd, Fydd fel nefol bur awelon I dy gefn ar hyd y daith Ac yn arwydd o'th'foddloudeb, Boed pelydron gwenau'r lor, Yn disgleirio yn -dy wyneb, Ar y tir ac ar y mor. Dwyfron lydan mor y Werydd Fyddo'n llonydd fel y llyn; Ac ymwisged yr wybrenydd Yn eu dillad glas a gwyn Mynwes dyner eich cyfeillion, Fo'n eich derbyn ar y lan, A phan ddarfo eich trallodion Mynwes nefoedd fyddo'ch rhan.' Daeth ugeiniau o'r hen ii-tinydogioll i heb- ,y rwng ein cyfeillion i orsaf y Reilffordd, bore ddydd Llun, Mai lleg; ac i ddymuno yn dda iddynt ar eu hymadawiad. Bydded i ddaioni a thrugaredd eu canlyn hwynt holl ddyddiau eu bywyd; a bydded i wyneb yr Arglwydd fyned gyda hwynt pa le bynag yr elont, yw gwir ddy- muniad a gweddi eu diweddar weinidog, tn OWEX EVANS. O.Y.-Dyiiiuiiir ar y Cenhadwr a'r Drych gyhoeddi hwn.

BRYN, LLANELLI.

ARFON OGLEDDOL.

BRYNGWENITH, CEREDIGION.

SALEM, MEIDRYN.

BETHEL, VICTORIA.

CYFARFODYDD MAWRION MAI.

iNODION A NIDIAU.