Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

YMDDISWYDDIAD MR. STANTON.

^ AMERICA.

! MI WELAIS, MI GLYWAIg.I

CYF ARFODYDD MAWRION MAI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYF ARFODYDD MAWRION MAI. (Parhad o tudalen. 3.) Am y flwyddyn llesaf ymae Y PARCH R. W. DALE wedi ei ddeyvis yn Gadeirydd yr Undeb Cynnulleid- faol. Dyn ieuanc talentog yw Mr Dale, mor dalent- og ag un a fedd yr enwad- Y mae wedi cyrhaedd yr anrhydedd'yn ieuanc iaA\Ti. Mae llawer rhesWm am hyny. Mae, fel y dywedais, yn ddyn gwir alluog. Mae yii weinidog ar eg-lwys ddylanwadol Carr s Lane, Birmingham, ac yn olynydd i'r anfarwol John Angell James. Mae yn ddyn hynaws a charedig, a phawb yn hoff iawn o hono. Nid yw byth yn ym- wthio os na elwir amo, ac y mae pobl yn bur barod i anrhydeddu y rhai nad ydynt yn oraAVyddus am aurhydedd. Mae cryn SOli wedi bod eleni am gael Cyniro yn Gadeirydd yr Undeb. Mae pob Cymro C roddwyd i wneud unrhyw wasanaeth yn y cyfarfod- ydd cyhoeddus y blynyddoedd diweddaf yma wedi dyrchafu y genedl yn fawr yn ngolwg y Saeson. Ni lanwodd neb Gadair yr Undeb Cynnulleidfaol yn yn fwy anrhydeddus na'r Cymro talentog, David Thomas, Bristol. Mae Thomas Jones yu gwneud enw ei genedl yn barchus yn mha le bynag yr a, nid trwy ei chanmol yn fostgar, ond trwy ddangos beth fedr Cymro wneud. Cymro oedd yi- areithiwr mwyaf galluog o ddigon yn nghyfarfodydd y Gymdeithas Genhadol eleni. Ond y mae eisiau Cymro Cymreig, Cymro yn Weiniclo- ar eglwys o Gymry, i fod yn Gadeirydd yr Undeb Cynnulleidfaol, fel y byddo yn ol ei enw yn Undeb Cynnulleidfaol Lloegr a Chymru.' Mae y Pwyllgor a'u llygaid ar ddyn, na waeth i mi heb ei enwi yma, a dyn y bydd corph gweinidogion ac eglwysi yr enwad yn ei gymmeradwyo, er y gall ambell un cenifgenus wingo a gwenwyno yn ei er- byn. Ond o ran hyny, pwy a all wneud dim daioni, naehael unrhyw anrhydedd, heb. fod yn agored i wenwyn dynion bychain culion eu heneidiau. Yr oedd genyf ddau neu dri o bethau eraill yr oeddwn wedi meddwl eu crybwyll, ond gwelaf fod yn rhaid i ni eu gadael oil y tro hwn. Dichon y daw cyfle rywbryd etc.

FFRWYDRIAD ,DYCHRYNLLYD.

FFRWYDRIAD ARALL DYCHRYNLLYD…

ETHOLWYR BRADFORD.

CYMANFA MORGANWG.

LLOFRUDDIAETH BABAN YN LIVERPOOL.

RHYL.

CONWY.

RUTHYN. ::;

DINBYCPI.

[No title]

TRELECH.

PONTYPOOL.

[No title]

BEDDARGEAFP ' ' U .J,

(GydtCr Cable.'')

- MORWYR PRYDEINIG WEDI EU…

Y SENEDD NOS FA WRTH.