Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

- AT AWDTJRDO'R I TYST.)

--_---!LLYTHYR Y MEUDWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Mae gwellten, er ysgafned ydyw, yn ddigon i ddynodi y cyfeiryd yn mha un y rhed y dwfr; a'r un modd bwt o lythyr a ymddangosodd yn y Welsh- man, bythefnos yn ol, ac wrth ei gynffon yr enw I Cai-di,' ac yn cyfeirio at y mudiad ar droed er cy- northwyo yr erlidiedigion yn Nehau a Gogledd Cymru oblegid beiddiaw pleidleisio yn yr etholiad diweddaf yn groes i ewyllys eu meistri tiroedd. Os Cardi a ysgrifenodd y llythyryn dan sylw, yr ydym yn tosturio dros y tad a'i cenhedlodd a'r fam a gaf- odd y boen a'r drafferth o esgor ar ei fath. Buasai yn ddigon o gosb i fleiddast i fwrw ei fath, wedi ei genedlu gan hyena. Nid vmysiaroecicl, ond yr hyn sydd o'r tu fewn i fochyn sydd gan ysgrifenwr y pwt llythyr yma. Fe osodwyd ymysgaroedd tosturi o'r tu mewn i greadur rhesymol ar y oyntaf, ond y maent wedi dirywio i—(fe wyr y darllenydd yr enw roddir ar y dirywiad)—yn mherson y Cardi cry- bwylledig. Dechreua ei lythyr trwy gyhoeddi yr hyn, ysywaeth, nid yw wir, sef fod 60,000 o bunau i gael eu casglu yn mhlith ffarmwyr tlodion Cymru er mwyn cynorthwyo y cyfryw o ddeiliaid y meistri tiroedd a ddygwyddasant bleidleisio yn erbyn eu dewis ddynion hwy yr hydref blwyddyn i'r diwedd- af. Gwyn fyd na fuasai yr anwiredd hwn yn wir- ionedd: a gwyn fyd na chawsai Cardi a'i fath y fraint o gyfranu yn helaeth tuag at wneud i fyny y symyn haelionus yma. A chwedi hyn awgryma Cardi fod y Farth. Henry Richard A.S. wedi gwneud oymwynaa fawr a'r tirfeistri trwy gymhell eu deil- iaid i wneud casgliad mor ogoneddus, gan y oyf- iawnheir hwynt i godi rhenti pobl sydd yn medru cyfranu cymaint o arian at angenrheidiau eu brodyr gorthrymedig. Os nad cythreul-waith digymhar ydyw cyhoeddi awgrym o'r fath, mae yn aros i Cardi i roddi i ni esponiad mwy eglur ar y pwnc cythreul- ig. Ai un o olynwyr yr apostolion ydyw Cardi? A ydyw efe yn un G baderwyr huriedig yr eglwys sefydledig yn Ngheredigion P Duw helpo yr ychydig (ac nid oes yn bosibl eu bod yn :rhy ychydig) sydd yn gorfod neu yn dewis gwrando ar y blaidd-gi hyenaidd hwn yn darllen y gorchymyn—' Car dy gymydog fel ti dy hun.' Fel y canlyn yr ysgrifena cyfaill amryw-ddawn o Aberystwyth attom yr wythnos bresenol mewn per- thynas i sefyllfa erlidiedigion Sir Aberteifl, Mae achos yr erledigion yn wir druenus, gan fod cynifer o honynt am ddim ond atteb cydwybod trwy voto yn groes i'r meistri tiroedd, yn gorfod gadael eu fferm- ydd cysurus, ac yn awr wedi myned i fyw i dy bach." Mae rhai o'r dynion hyn ar ddechreu, ac eraill ar hanner magu eu plant: ond ar law eu gorthrymwyr yr oedd gallu—a hwythau heb neb i'w cysuro," a gallaf ddywedyd fel y gwr doeth,' ac mi a welais ddagrau y rhai gorthrymedig. Yn awr os oes gan arian rywbeth i'w wneud, yn awr am dani hi. Mae llawer iawn yn dweud eu bod yn cydym- deimlo-ond os gellir casglu—a chael casgliad da, byddai yn grand o beth helpu tipyn arnynt. A chalon y weddw fydd Ion ac a gan." Mae ofn y gynadledd sydd i gael ei chynnal yn Aberystwyth dydd Mawrth nesaf o flaen llygaid holl dirfeddianwyr ao offeiriaid Toryaidd y Dywysog- aeth, a mwy o ofn easgliad haelionus ar ran y gorth- rymedigion na hyny. 4 Arian da wrandewir.' Nid yw gweinidogion yr Ymneillduwyr yn arfer preg- ethu politics ar y Sabboth, ond bydd yn eithaf apos- tolaidd i bob genau eyhoeddus y Sul nesaf i bregethu un bregeth o leiaf oddiar eiriau a geir wedi eu hys- grifenu amryw ganrifoedd yn ol gan lago yn yr ail benod o'i lythyr at y I deuddeg llwyth oedd ar was- gar,' ao yn y bymtheg adnod a'r un ganlynol iddi yn y benod hono. Beverendiaid anwyl o bob enw yn Nghymru, maddeuwch i ni am ddewis testyn i chwi am unwaith. Dyn ardderchog ydoedd yr apostol Iago, a dywedai ei feddwl yn ddidderbyn-wyneb iawn. Nid ofnai neb dynion. Un peth ar y tro, ddarllenwyr anwyl. Cyfarfod Aberystwyth ydyw i fod brif bwnc 0 y diwraodau nesaf. Yr un peth hwn a wnawn ni yr wythnos hon a'r nesaf, sef pleidio achos gwroniaid a mer- thyron etholiad 1868. Gobeithio, yn mysg amryw bethau eraill, y cydunir yn eu cylch yn Aberyst- wyth-y penderfynir gwneud casgliad ar ran y gorthrymedigion ar un Sul trwy hyd a lied y Dy- wysogaeth. Bydd hyn yn offerynol i yru current o electricity dros yr holl wlad. Mae yn rhaid i bob casgliad tuag at bob achos arall roddille i'r casgliad cenedlaethol hwn ar y diwrnod y penodir i'w wneud. Yr ydym yn sicr na fydd un casgliad arall mewn perigl o fod un hatling yn llai oherwydd gwneud hwn. Tlodion ydym ni, yr hen Gymry, o ran meddianau bydol, mae'n wir, ond nid oes dim angen i ni fod yn dlodion mewn edmygedd o wraniaid a merthyron, a diolchgarwch iddynt am ddyoddef yn ein lie ao am- ddiffyn ein hetifeddiaeth. Yr ydym, fel cenedl, wedi arfer edmygu pregeth- wyr, siaradwyr, ysgrifenwyr, beirdd ao hyd yn od rygymwyr, ond nid ydym mewn un modd wedi bod yn rhy hael ar ein h edmygedd o wroniaid a merthyr- on. Y nhwy sydd wedi gadael i ni etifeddiaeth deg,' ac o'u plegyd hwy y mae' ein llinynau ni wedi syrthio mewn llefydd hyfryd.' Nid oes obaith am genedl 800 a esgeulusa ddysgu i'w phlant wron-add- oliaeth. Yr ydym ni, y Oymry, yn euog o ddiystyru gorchestion, a gadael yn ddigolofn feddau ein gwr- oniaid. Rhyw ffrit o I gi byw' a ddyrchafwn ni cyn claddu a ohwedi claddu ein 'llewod meirwon.' Rhad yw siarad, a digost y geiriau mwyaf detholedig, ond drudion ebyrth arwyr pob gwlad. Mae un aberth yn werth llwyth pedwar ceffyl o eiriau. Yn wnt yn ami, ao yn aithaf priodol hefyd, yr ant heibie eiriau, end gweithredoedd o aberth-onid ydynt hwy yn barhaol fel bryniau a mynyddoedd hen Walia ? Yn awr am dani hi, chwi' areithwyr hyawdl' ae yr adroddai y papyrau yn hydref 1868 bod eich geiriau a myn'd ynddynt, a'ch bod yn medru gwe/r- eiddio yr etholwyr yn ngwahanol ranau y wlad, yr ydym yn atolygu amoch i wneud defnydd yr un mor hyawdl, yr un mor nerthol, a'r un mor wefreiddiol o'ch offer llafar ar y Sul appwyntiedig i wneud casgliad ar gyfer y gorthrymedigion sydd wedi cael eu troi allan o'u ffermau am wneud eich cais chwi, 800 ufuddhau i Dduw a chydwybod yn hytrach nag i'w meistri tiroedd. Cofied pawb ofyniad yr hen Grynwr gynt-pa faint wyt ti yn deimlo-yn dy boced, pan ddel dydd y casgliad. Bibl i bawb o bobl y byd' medd y Bardd o Nantglyn, a beef i bawb o bobl y byd' medd John Bull—gwr caredig iawn, fel y gwyr pawb, os nad yw yn enwog am ei farddoniaeth. Calenig dda i'r political martyrs meddwn ni, o waelod ein calon, a dyweded pawb o bobl Cymru a'r byd, os clyw, Amen.

[No title]