Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y SEFYLLFA YN MESOPOTAMIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SEFYLLFA YN MESOPOTAMIA. Dilynwyd y Tyrciaid ffoedig gan ein milwyr yn egniol ddydd Mawrth, ac ym- osodvq* arnynt nifer o weithiau o dri ilchyfodriad ddeng milldir ar hugain tu- hwnt i Kut. Tra yn ffoi, gadawodd y Tyrciaid ar eu holau gyflenwadau o ddrylliau, cyfarpar, etc., a thaflasant rai magnelau i'r afon. Cymerwyd tri chant o garcharorion ddydd Sul, a llawer yn ychwaneg ddydd Llun. PRISIAU UCHEL YMBORTH. Er gwaetthaf cyfarwyddiadau a gor- ohymynion swyddogion y Llywodraeth, mae gor-brisoedd yn cael eu gofyn am • nwyddau, ond rhoddir terfyn buan ar hyn, ac y mae gwerthwyr pytatws wodi eu dir- wyo yn drwm mewn rhai lleoodd am hawlio mwy na cheiniog a dimai y pwys am bytatws. Ceir rhai pobl yn prynu stociau helaeth o nwyddau, yr flyn a wasga. yn drwm ar y rhai llai ffodus, ond mae y Llywodraeth yn bwriadu rhoddi fcerfyn ar hyn, ac i rwystro unrhyw ym- gais i wasgu y tlawd. Gwneir pob ym- dfltiech i gynorthwyo amaethwyr i drinl eu tiroedd, a bwriedir gosod rhai miloedd o garcharorion GermaiLaidd i gynorthwyo gyda'r gwaith hwn. DYDD GWENER. COLLEDION Y TYRCIAID. AnfonoPd y Cadfridog Syr Stanley Maude adroddiad i'r Swyddfa Rhyfel i'r perwyl fod y Tyrciaid wedi eu handwyo, ac nae gallent gyraedd Bagdad ond fel gallu afreolaidd. Oddiar Chwefror 24ain, yr oedd 2300 o garcharorion Tyrcaidd wedi au cymeryd, ac yr oeddynt wedi eu oolledu yn ddirfawr mewn rhanau eareill o'r wlad. Er's pan ddechreuwyd yr ym- oeodiadau ar y Tyrciaid, sef Rhagfyr 13eg, amcangyfrifid fod eu collodion yn ugain mil. LLWYDDIANT Y PRYDEINIAID YN FFRAINC. Yn ol adroddiad Syr Douglas Haig nos Iau, mae y Prydeimaid yn parhau yn llwyddianus yn Ffrainc. Yn ystod mis Chwefror, cymerasant 2133 o garcharor- ion, a meddianasant un ar ddeg o ben- trefi. Yn y Sonedd, noa Iau, mynegid y byddai ifr Germaniaid wneyd ymdrech neillduol i derfynu y rhyfel y flwyddyn hon. t GERMANI A'R AMERICA. Mynegir fod Germani yn ceisio cyn- llunio i gael gan Mexico a Japan i uno glu gilydd yn erbyn yr Unol Daleithiau. Y cynllun ey-;giedilt yw ceisio darbwyllo Japan i derfynu ei chyfeillgarwch a'r Cynghreiriaid, ao addewir cynortEwy arianol gan Germani i Mexico, er fod Germani bron yn fethdalwr ei hunan. Yr oedd oopi o'r cynllun hwn yn meddiant yr Arlywydd Wilson pan gynygiodd y Oanghellydd Germanaidd deljerau hedd- woh! DYDD SADWRN. ENCILIAD Y GERMANIAID YN FFRAINC. Oddiwrth adroddiad Syr Douglas Haig, yxnddengys fod enciliad y Germaniaid yn Ffrainc yn arafu. Gwesgir arnynt yn ddyfal gan ein milwyr. ac yn Bapaume gwrthwynebwyd ni ganddynt. Enill- asom dir yn y rhanbarth hwnw ac yn Puisieux, a chyraetrwyd 128 o garchar- orion ar yr Ancre ddydd Gwener. Y BRWYDRO YN MESOPOTAMIA. Uwyddo ymhob oyfeiriad y mae y milwyr Psydeanig yn Mesopotamia, ac M" Ohw^frnr 23airr J11q 4 300 o'r Tyrc- iaid wedi eu cymeryd yn garcharorion, yr hyn wna gyfanrif o 7000 oddiar pan ymosodwyd arnynt yr--ail dro. Cymerwyd 28 o fagnelau hefyd. AMERICA A GERMANI. Mae cynllun y Germaniaid i ddenttl, Japan a Mexico i ymladd yn erbyn yr Unol Daleithiau wedi enyn digofaint yr Americaniaid, y rhai ydynt, yn awr yn cefnogi yr Arlywydd â'u holl nerth, ac yn Nhy y Cynrychiolwyr pasiwyd fod i bob llong Amerioanaidd gario arfau i wynebu ymosodiadau llechwraidd yr ymsudd- longau 'Germanaidd. Disgwylir y oeir dadleniadau cyffrous ereill o gynllwynion y Germaniaid yn fuan. DYDD LLUN. Y BRWYDRO YN FFRAINC. Yn adroddiad Syr Douglas Haig nos Sul, mynegid fod y milwyr Prydeinig wedi meddianu llinellau cynorthwyol y Germaniaid i'r dwyrain o Bouchavesnes ar ffrynt o 1200 o latheni, gan gymeryd 173 o garcharorion. Credir y llwyddir drwy hyn i feddiana Peronne ar fyrder. Er fod enciliad y Germaniaid o gyffiniau yr Ancre wedi lliniaru, nid yw eto wedi diweddu, ond y maent yn gorfod rhoddi i fyny eu safleoead y naill ar ol y llall. Yn ystod nos Sadwm a nos Sul, cymdbodd y milwyr Prydeinig 190 o garcharorion. Y RWSIAID A PERSIA. Mae y Rwsiaid yn brysur yn Persia, ac wedi meddianu Hamadan, yr hwn fu yn eu meddiant o'r blaen, ond oollasant ef pan ddaeth adgyfnerthion mawrion o Dyrciaid yn eu herbyn. DADLENIAD Y TWYLL GERMAN- AIDD. Fel y mae yn rhyfedd adrodd, cyfaddefa Herr Zimmermann, Gweinido Tramor Germani, fod y cynllun i ddarbwyllo Mexico i ymosod ar yr Unol Daleithiau yn wir. Dywed Gweinidog Tramor Mexico, pa, fodd bynag, na dderbyniodd unrhyw genadwri i'r perwyl hwnw. Bwriada yr Americaniaid arfogi eu holl longau nias- nachol. SUDDIAD LLONG DDINYSTRIOL. Suddwyd un o longau dinystriol Pry- dain drwy fyned i wrthdarawiad a. mwnfa yn y mor, 0 ahollodd pob pob un oedd ar ei bwrdd eu bywydau. DYDD MAWRTH. YMOSODIAD Y GERMANIAID. Fel y gallesid disgwyl, ymosododd y Germaniaid ar ein safle yn Bouchavesnes, ond dioddefasant golledion trymion yn eu hymdrech ofer. Nid oes ychwaneg o fan- ylion wedi eu derbyn ynghylch enciliad y Germaniaid o gyffiniau yr Ancro. Ad- gyfnerthwyd ein safle i'r dwyrain o Gom- meoourt ddydd SuL VERDUN. Ymosododd y Germaniaid ar Verdun unwaith-eto, a llwyddasant i raddau ger- llaw coedwig Curieres, lie, medd y Ger- maniaid, y cymerwyd 578 o garcharorion. AMERICA A GERMANI. Gyda. golwg ar y gwrthwynobiad a ddangoswyd yn Senedd yr Unol. Daleith- iau i arfogi llongau masnachol, bwriada yr Arlywydd Wilson gynal cyfarfyddiad neillduol o'r Senedd er adgyweirio rhai o'r rheolau, ac i'w wneyd yn anmhosibl i leiafrif bychan wrthwynebu dymuniadau mwyafrif. Dywed Mr. Wilson fod yr America wedi ei thynu yn nee at ryfel nag y bu, ao y gall amgylchiadau ddigwydd i'w gorfodi i hawlio ei hiawnderau. DYDD MEBCBER, Y FFRYNT ORLLEWINOL. Adroddiad a dderbyniwyd neithiwr a. fynega fod y Germaniaid yn parhau i encilio o dueddLu yr Ancre. Ymosododd y Germaniaid draohefn ar ein safleoedd newyddion yn Bouchavesnes, er mwyn oeisio adenill yr hyn gollasant, ond ofer fu eu hymdrech, gan i'n magnelwyr eu chwalu cyn iddynt ymddadblygu. Y TYRCIAID YN PERSIA. Dywedir fod yTyrciaid yn ffoi o'u safle- oedd i'r gogledd a'r de o Hamadan, ac yn myned i gyfeiriad Mesopotamia. Bydd i ymdaith y milwyr Prydeinig yn sior o'u rhwystro yn fuan, ac y mae y Rwsiaid ar eu gwarthaf. AMERICA, AWSTRIA, A BWLGARIA. Oddiwrtli Nodyn a dderbyniwyd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau oddiwrth Awstria a Bwlgaria, ymddengys fod y gwledydd hyny yn herio yr Unol Dal- eithia.u, gan eu bod yn gwrthwynebu i deithwyr giael eu cludo ar longau mas- nachol arfog. Pleidiant lofruddiaethau ar y mor. Ceir clywed ychwaneg am hyn eto.

Yr Eglwysi Cymreig yn Lerpwl.

Y Gymdeithas Genhadol Eglwytig…

Marwolaeth Arglwyddes Llewelyn,…

DEWI SANT, PADDINGTON.

LLANDDEINIOLEN.

IDOLWYDDFLFN.

Y Rhyfel

ST. HELEN'S, PENISA'RWAEN.

LLANGEINWEN A LLANGAFFO.

CWRS Y RHYFEL. i