Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr…

Adolygiad y Wasg

Lloffion o'r Meusydd Addfed.

DEONIAETH ARFON.

YSTRAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSTRAD. EIRA.—Gwelais wr o ben Trichrug yma yn Ystrad ddydd Sadwrn, ac meddai wrthyf, 'Wyddoch chi, syr, mi goeliais ei bod ar fwrw eira eto pan gychwynais o dre, 'roedd fel yn dechreu plool yn wyn.' A thua 4 p.m. pan oeddwn yn Rhydy- banau tUJa'r un amser brydnawn Sul yn calel: te. dyma'r pluo yn dod o ddifrif, a pharhaodd felly hyd foreu Llun. Y wlad i gyd yn wyn. Ond dyna un cysur, ni erys eii'a'n hir yn mis Mawrth, yn ol yr hen weddel, ddim hwy na menyn ar dorth dwym—toddi yn fuan yw ei dynged, a gobeithio mai felly y bydd eto. Gwnaeth y tywy^ld garw sydyn walianiaetU mawr mi wranta mewn llawer eglwys a chapel yn nghynulliad y nos, ond pan ddaethum adref nos. Sul yn gynt nag avfer oefais y drws. ynghlo a.'r wraig yn yr Eglwys, ac aetlium i mewn, a da gan y nghalon i oedd gweled yno 20 o'r cor yn canu, dan arweiniad y ffyddlon Tom. Evans, Glan- wern. Haeddant glod a chanmoliaeth am en ffyddlondeb a'n cariad at waith y cysegr. Mae, teyrngarwch yr aelodau yn gvmortli ac yn sirioldeb mawr i galon ac i vspryd y gweinidog bob amser. LLUNGWYN.—Ychydig amser yn ol an- turiais awgrymu i'r Ysgolion Sul y I canlynol ar gyfer Gwyl y Llungwyn yn Ystrad eleni. Cefais ateb oddiwrth un yn datgan boddlonrwydd, ac yr wyf yn cymeryd distawrwydd y gweddill fel cyd- syniad. ISilenoe gives consent.' Yr oedd yn ddrwg genyf gael nodyn oddiwrth, Fioer Silian fod yr Yagol Sul yno yn clofl f rhwng Ystrad a LIanbedr eleni. Go- beithio fod y ddadl wedi ei thori i lynti wrth hen drefn or's blynyddau meithion. l' bellach, ac y gwelwn hwy yma yn llu feJ.. arfer, ac y cana'r cor eu ha nth em yn?; -i ngwasanaeth yr hwyr. Oea neb yn ioid-'• • Ion eu colli o'r cylch. Gan obeithio na. siomant rhoddaf y cwra yn gyfiawn, gaa hyderu y daw Ysgol Sul Llanwnen hefyd. Pwne i'w adrodd a'i holi fel hyn:- Ystrad, St. Matthew viii. 1-17; Cribin, 18-34; Llanwnen, xiii.; Silian, ix.; Ciliau, x.; Trefilan, xi.; Dihewyd, xii. I'r plant Llyfr Ruth, gan y Parch. A. O. Evans; y penodau fel hyn: Plant Ystrad, 1. 2; Cribin, 3. 4; Llanwnen, 13. 14; Silian, 5. 6; Ciliau, 7. 8; Tre- fiian, 9. 10; a Dihewvd. 11. 12. Par- haed brawdarwch a theyrnarwch i'r hem sefydliad. Pwnc Llungwyn Ystrad fyddo ein taer ddymuniad ni oil. STORI.-Dymunal ddweyd an stori fach hollol wreiddiol a newydd spon, am ateb- iad crwt bach diniwed. Mewn plwyf neillduol y mae ci bach del o'r enw 'Vic.' Y Fioerdy yw ei gartref, a ca yno bob chwareu teg hoffir ef yn fawr. Rhyw ddiwrnod nid oedd son am 'Vic' na dim o'i s^n. Yr oedd wedi ei 'chaino' yn y kenel y noeon o'r blaen. Nid oedd son am 'Vic' na'i 'chain' boreu dranoeth 'Vic' ar goll, a bu felly am dridiau. Mawr ofal calon a hiraeth dwfn, a dyfalu a holi, ond dim yn tycio. Yn ystod dranoeth. gofynodd lady y Fioerdy i'r crwt bach, ^Weilsoch chi Vic yn rhywlei?' 'Do, be yntau, gan wenu. 'Lie gweloch chi e?' ebe hithau, yn sirioli. 'Yn yr efail, ma'am,' ebra yntau. 'Oedd chain am ei wddw?' 'Nag oedd!' atebai'r crwt bach, a syndod yn gordoi ei weddL 'Wei, beth oedd e'n wneyd yn yr efail F gofyn- odd hithau. 'Siarad a'r gof,' medde'r orwt bach. Meddyliodd e mai am y-y Ficer yr oedd hi yn holi. Wyddai of ddim am Vic. Ymhen tridiau-canfydd- wyd Vio druan ar ben clawdd ISewn oae cyfagos wedi ei ddala gan y 'chain' mown draenon. A dyna lawenydd pan ryddha wyd ef ori gaethiwed.—R.E.D.

GLANOGWEN, BETHESDA

LLANRUG.