Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
48 erthygl ar y dudalen hon
' ROSEBERY YN BRIFWEINIDOG.
ROSEBERY YN BRIFWEINIDOG. CYFNEWIDIADAU YN Y WEINYDD- IAETH. Er pan gyhoeddwyd y diweddaf y mae Mr Gladstone wedi ymddiswyddo. Aeth r hen wron i Gastell Windsor nos Wener, i yn nghwmni ei briod ffyddlon, a bu yn ciniawa gyda'r Frenhines. Dranoeth darfu iddo gyflwyno ei ymddiswyddiad iddi, a darfu iddi hithau yn rasol ei dderbyn." Dyna fsl y dywedir yn y newyddiadur swydd- ogol-nid oes yno air o son ei bod yn teiinlo unrhyw end wrth weled yr hen wr a fu mor ifyddlan iddi hi a'i theulu am gynifer o flyn- yddau yn ymadael o'i gwasanaeth, a hyny oblegid fod ei olwg yn pallu yn ei henaint. Out bynag y mae'r Frenhines yn teimlo tuag ato, sicr yw na fa'r hen wladweinydd enwog erioed yn ddyfnach yn serch y wlad na phan y mae yn gorfod ymneillduo. Apwyntiodd ei Mawrhydi Arglwydd Rosebery yn brifweinidog, a derbyniodd yntau y swydd, a dydd Llun bu'n ctisanu llaw'r Frenhines. Ar y cyntaf grwgnachai'r Radicaliaid yn erbyn ei benodiad, ond erbyn hyn y mae'r blaid yn unol yn ei gefnogi. Credir hefyd fod y wlad yn gyffredinol yn bur ffafriol iddo, a chymeradwyir ei dde- wisiad gan holl newyddiaduron y blaid Ryddfrydig. CYFKEWIDIADATT YN Y WEINYDDIAETH. Parodd ymneillduad Mr Gladstone ych- ydig gyfnewidiadau yn y Cyfinn-gyngor, fel y gwelir yn y rhestr ganlynol :— Prif Weinidog, Prif Arglwydd y Trysor- lys a Llywydd y Cyngor, Arglwydd Rose- bery (yr Ysgri^ydd Tramor cyn hyny). Argl GangheI1ydd, Arglwydd Her- sche4,, <7anghellydd y Trysorlys, Syr W. Har- ourt. Ysgrifenydd Tramor, larll Kimberley 4Ynt Ysgrifenydd India). Ysgrifenydd Cartrefol, Mr Asquith. Ysgrifenydd y Trefedigaethau, Ardalydd Rlpon. Ysgrifenydd Rhyfel, Mr Campbell Ban- nerman. Ysgrifenydd India, Mr Fowler (gynt Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol. Canghellydd Duciaeth Lancaster, Mr J. Bryoe. Prif Arglwydd y Morlys, Iarll Spencer. Llywydd Bwrdd Masnach, Mr Mundella. Is-lywydd y Cyngor, Mr Acland. Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol, Mr Shaw Lefevre (gynt prif ddirprwywr y .gweithfeydd cyhoeddus). Prif Ysgrifenydd y Werddon, Mr John Morley. Ysgrifenydd Ysgotland, Syr George Tre- welyan. Postfeistr Cyftredinol, Mr Arnold Morley. "CHWIP NEWYDD. Tra yr oedd y cyfnewidiadau uchod yn mlaen, bu farw Arglwydd Tweedmouth, tad Mr Marjoribanks, prif chwip y Rbyddfryd- wyr. Oherwydd hyn bydd raid i Mr Mar- joribanks fyned i Dy'r Arglwyddi, ac fe gyll y blaid ei wasanaeth fel chwip. Yn ei le fe benodwyd Mr T. E. Ellis yn Ysgrifenydd Seneddol i'r Trysorlys ac yn brif chwip. Ei gyflog yn awr fydd dwy fil o bunau yn y Swyddyn. CYFARFOD o':a FIHYDDFRYDWIR. Bydd y Senedd yn dechreu'r tymor newydd ddydd Limn nesaf, pryd y dadleuir y rhaglen am y tymor. Teimlir dyddordeb mawr yn y safle a roddir i Fesur Dadgysyllt- iad yn Araeth y Frenhines. Y mae Mr T. E. Ellis wedi galw cyfarfod o'r aelodau Rhyddfrydol, i'w gynal am ddeuddeg o'r gloch ddydd Llun resaf, yn y Swyddfa Dramor. Arglwydd Roeeherya. Syr William Harcourt, mewn cydgordiad a'u gilydd, sydd yn gyfrifol am alw'r eyfarfod hwn, a'r amcan yw sicrhau cydweithrediad yn y dyfodol. OLYNYDD MRT. E. ELLIS. Mr Causton. un o'r aelodau dros Lundain, sydd wedi cael ei benodi yn ail chwip, yn lie Mr T. E. Ellis. Yr oedd ef yn un o'r whips cynorthwyol y Senedd-dymhor di- i weddaf. MR GLADSTONE. — cyfnewidiad yn dechreu effeithio ar Mr Grlaa«tone. Y mae ef a Mrs Gladstone yn bur ddigalon, a dywed Mr r,Gladgone fod y cyfnewidiad bron cymaint a marwolaeth ei hun. Ni bydd ildynt symud o Downing street am ychydig wyth- nosaia eto. Bydd i Mr Gladstone fyned dan operatim, ar ei lygad yn fuan.
ARAETH Y FRENHINES.
ARAETH Y FRENHINES. Wele a ganlyn gyfieithiad o Araeth y Frenhines ar derfyn y Senedd-dymhor di- weddaf. Fe welir nad oes fawr ddim o bwys ynddi. Bydd Ilawer mwy o ddyddordeb yn perthyn i r araeth a ddarllenir ar ei rhan y Llun aesaf. Fr ARGLWYDDI A BONEDDIGION, Ar achlysur yn flaenorol i ba un y mae eich llafur wedi bod yn anghydmarol o hir- faith a blined'g, y mae yn ofidtis genyf na chewch eeibiaut oddiwrthynt ond am enyd fer, oherwydd fod yn angenrheidiol i chwi ail-ymgymeryd a'ch dyledswyddau yn mhen ychydig o ddyddiau, i drafod materion cy- hoeddus, a'r darpariadau angenrheidiol go- gyfer a'r flwyddyn arianol ddyfodol. Y pryd hwnw bydd i mi eich anerch drachefn, yn y dullarferoL FONEDDIOION TY'lt CyrntEDIN, Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am y dar- pariadau helaeth a ganiatawyd genych er eadw i fyny lawn effeithiolrwydd y gwasan- aeth cyhceddus, yn ei wahanol ganghenau. FY AROLWYDDI A BONBDDIGION, Yr wyf yn disgwyl buddiant parhaol oddiwrth brif ddarpariadau y ddeddf bwysig a basiwyd er sefydlu Cynghorau Des- barthol a Phlwyfol yn Nghymru a Lloegr, ac oddiwrth y cymhwysiad helaethach o egwyddor Llywodraeth Leol, yr hou sydd yn dwyn cysylltiad mor agos a'n hanes- laeth genedlaethol. Ac anghofio cyfnewid- iadau eraill yn y gyfraith, mew n canlyniad i'ch cynghorion, yn arbenig y ddeddf sydd yn dwyn cysylltiad a gweision y ffyrdd haiarn. Yr wyf yn erfyn ar fod bendith yr Holl- alluog yn gorphwys ar eich Uafur, yn y gorphenol a'r dyfodol.
GWYL LLAFUR Y CHW AREL-WYR.
GWYL LLAFUR Y CHW AREL- WYR. Deallwn fod trefniadau wedi cael eu gwneyd i gynal Gwyl Llafur flynyddol y chwarelwyr eleni yn Nghaernarfon, ddydd Llun, y 7fed o Fai. Nid yw y trefniadau wedi eu cwblhau eto, ond bydd i ni gy- hoeddi'r manylion yn brydlon. -=.
IYSTORM DDIFRIFOL. !
YSTORM DDIFRIFOL. Am ddyddiau yr wythnos ddiweddaf, bu tymhestl fawr yn ysgubo dros Utah, talaeth I y Mormoniaid. Llewpardiaid, pantheriaid, a bwystfilod rheibus eraill, a yrid i lawr o'r mynyddoedd gan yr eira, a chyniweirient heolydd prif ddinas y rhandir yn hyfion am eu hyaglyfaeth yn niferoedd lluosog. Wyth- nos i heddyw, rhuthrodd dau banther ar farch ° fewn terfynau y ddinas, gan ei ysglyfaethu. heb neb ynmeiddio eu rhwystro. Un diwrnod, llwyddodd dau heliwr i ladd panther ar yr heol, yr hwn a fesurai naw roedfedd o hyd, ac a bwysai wyth can Pwys.
Advertising
DELICIOUS MAZA.WATTEE TEAS DEr ICIOUS MAZAWA1TTEE TEIS DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS* DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS: DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS DELICIOUS MAZAWATTEE T.E&S:
DEDDF Y CYNGHORAU PL WYF.…
DEDDF Y CYNGHORAU PL WYF. 1(4 Cylchlythyr Pwysig. Darfu i Fwrdd Llywodraeth Leol, yn union ar ol i'r Ddeddf uchod basio, yru'r cylchlythyr canlynol i fyrddau iechydol ac awdurdodau iechydol, amgen nachynghorau trefol, yn Lloegr a Chymru:— Bwrdd Llywodraeth Leol, Whitehall, Mawrth 5, 1894. Syr,-Cyfarwyddir fi gan Fwrdd Llyw- odr-aeth Leol i alw eich sylw at eldarpariadau Deddf Llywodraeth Leol 1894, yr hon a dderbyniodd y cydsyniad brenhinol heddyw, gan belled ag y maent yn dwyn cysylltiad ag etholiad gwarcheidwaid ac aelodau awdurdodau iechydol yn y trefi yn ystod y flwyddyn bresenol. 0 dan y ddeddf newydd bydd i gynghorau plwyfcl a dosbwthiadol gymeryd lie yr awdurdodau iechydol gwledig a threfol, a bydd i blwyfi gwledig gael eu cynrychioli ar fyrddau'r gwarcheidwaid gan bersonau a gant eu hethol fel aelodau o'r cynghoran dosbarthiadol, ac ni bydd i warcheidwaid fel y cyfryw gael eu hethol ond dros blwyfi irefol yn unig. Bydd i etholiad cyntaf gwarcheidwaid a chynghorau dosbarthiadol gymeryd lie dan y ddeddf hon ar yr 8fed u Dachwedd nesaf, neu ynte ar ddyddiad neu ddyddiadau di- weddarach yn y flwyddyn 1894 ag a benodir gan y Bwrdd, a bydd i'r personau a etholir ddod i swydd ar yr ail ddydd IAU ar ol eu hetholiad, neu ar unrhyw ddiwrnod arall heb fod fwy na saith niwrnod yn gynarach neu yn hwy fel ag y penodir gan neu yn unol a'r rheolau a wneir gan y Bwrdd o berthynas i'r etholiadau. Ar y diwrnod pan y daw y gwarcheid- waid a'r cynghorwyr a etholir dan y ddeddf hon gyntaf i swydd, bydd. y personau hyny a fyddo ar y pryd yn aelodau o fyrddau gwarcheidwaid neu awdurdodau iechydol yn roymed o swydd; ond hyd y pryd hwnw bydd y gwarcheid- waid ac aelodau yr awdurdodau iechydol yn aros mewn swydd, ond ni chymer yr un etholiad le yn nglyn a'r byrddau hyn eto, dan yr hen ddeddf, oddigerth yn unig i lenwi bylchau achlysurol. Felly, bydd y gwarcheidwaid ac aelodau awdurdodau iechydol a fuasent yn myned ) allan o swydd, oni bai am y ddeddf hon, yn mis Ebrill nesaf, barhau ya eu swydd hyd "I fis Tachwedd nesaf, ac yna y maent i ym- neillduo. Ni bydd i'r etholiadau arferol yn mis Ebrill gymeryd lie yn Ehrill nesaf,— Yr eiddoch, &c., HUGH OWEN, Ysgrifenydd.
LLOSGI CANT 0 LYTHYRAU.
LLOSGI CANT 0 LYTHYRAU. Llosgwyd yr holl lythyrau oedd mewn piler yn un o heolydd Dublin drwy i rywun daflu matsen oleuedig i mewn i'r blwch. Bemir fod dros gant o lythyrau wedi eu dinystrio.
YSMYGU~YN Y GWELY.
YSMYGU~YN Y GWELY. Ar ol myned i'w wely taniodd hen wr o'r enw Laurence Murray, gwehydd yn Lan- caster, ei getyn, er mwyn cael mygyn. Syrthiodd yr hen fachgen i gysgu, aeth y tan i ddillad y gwely, a llosgwyd y smociwr i farwolaeth.
YR IANCI A'I LYNGES.
YR IANCI A'I LYNGES. Nid yw'r Ianci yn gallu osgoi profedig- aethau gyda'i lynges fechan sydd ganddo, ac er ei holl graffder bydd yntau, fel John Bull, yn cael ei wneyd weithiau. Y dydd o'r blaen darganfyddwyd fod cwmni Carnegie, Pittsburg, wedi cyflenwi platiau dur diffvgiol i un o'r llongau rhyfel. Dirwy- wyd y ewmni i 140,000 doler.
LLOSGI 35 0 DREFI.
LLOSGI 35 0 DREFI. Tan mawr oedd yr un a dorodd allan yn Lagos, yn Ngorllewin Affrica. Anrheith- iwyd rhan helaeth o wlad Egbas, a llosgwyd i'r Uawr bymtheg-ar-hugain o dreft, y rhai a,breswylid bron yn gyfangwbl gan y brod- orion. Tai to gwellt oedd yn y trefi hyn, a chollodd y bobl eu hell eiddo. Llosgwyd pymtheg o bersonau—rhai hen a methedig gan mwyaf—i farwolaeth.
YMOSOD AR FILWYR LLOEGR YN…
YMOSOD AR FILWYR LLOEGR YN INDIA. Mewn rhanbarth anghysbell o'r India, ar y dydd cyntaf o'r mis hwn, ymosododd min- tai o'r brodorion ar wersyllo sepwys," neu filwyr Prydeinig brodorol, gan eu lladd bob J un. Yr oedd yno oddeutu deg ar hugain o honynt. Wrth gwrs, bydd yn angenrheid- iol anfon mintai ddialeddol" i'r rhandir yn ddioed.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD. Yr wythnos hon cyhoeddwyd mantolen lawn o gyfrifon Eisteddfod Pontypridd, yr hon a ddengys fod y golled yn 2,519p 7s 3c. Trwy orfodi'r guarantors i dalu 25 y cant o'u hymrwymiadau fe gafwyd y swm o 574p 13s 3c i law'r pwyllgor. yr hyn a leiha'r golled i'r swm o 1,944p 14s. Fe wariwyd 3,619p 17s 7c ar y pavilion haiarn, a chan eu bod wedi methu ei werthu, a bod llog trwm yn cael ei dalu i'r banc, mae y I pwyllgor wedi penderfynu galw ar y guarantors i dalu yn inhellach 20 y cant o'r arian a gytunasant.
HANER BLWYDDYN 0 WYLlAU.
HANER BLWYDDYN 0 WYLlAU. Dylai Alexandria fod yn baradwys i'r dyn diog. Cyhoeddir cylchlythyr gan awdur- dodau'r porthlad(I hwn yn galw sylw at y gwyliau a gedwir yn Alexandria. Y mae'r boblogaeth yn bur gymysglyd, ac nid yw gwyliau'r gwahanol dosbarthiadau yn ateb yn dda i'w gilydd. Y mae yno 50 o snliau Cristionogol, 52 o sabbothau Iuddewig, 52 o ddyddiau o orphwysfa gan y Mahometan- iaid, pedwar dydd Calah, dau Nadolig, ac amryw o ddyddiau ymip-lyd gan Iuddewon a Mahometaniaid. 0 gwbl y mae 173 o ddiwrnodiau'r flwyddyn yn ddyddiau gwyl, a chan fod yn ddealledig nad oes gweithio i fod ar y dyddiau hyn mae y llafurwyr yn cael tua haner cu. blwyddyn ynwyliau
ANUDONIAETH YN NGWRECSAM.
ANUDONIAETH YN NGWRECSAM. Yn Ngwrecsam, ddydd Llun, o flaea yr ynadon sirol, gwysiwyd William Malt, gwas fferm, yn byw yn Shordley, sir Fflint, gan yr heddgeidwad Thomas Jones, Gresford, am yinosod arno yn Rossett. Cododd William Malt hefyd wys yn erbyn yr heddgeidwad Thomas Jones a Samuel Lea am ymosod arno. Ymddango;ai Dr Commins, Lerpwl (yn cael e i gyfarwyddo gan Mr Ll. Roe- Browne) ar ran yr heddgeidwad, a Mr Sauiuel Moss (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr R. J. Kendrick), dros William Malt. Par- haodd gwrandawiad yr achoe am dros saith awr; ac wedi gwrando lluawg o dystion ar bob ochr, dywedodd cadeirydd y fainc fod yn anhawdd iawn penderfynu pa ochr oedd yn dweyd y gwir. Yr oedd y tystiolaethau yn hollol groes i'w gilydd, ac yr oedd yn ddrwg ganddo orfod credu fod rhyw ochr yn tyngu anudon. Penderfynial yr ynadon oedd taflu allan yr holl achosion.
Advertising
Cafodd bwtler yu Glasgow ffortiwn o 32,000p. Ychydig ddyddordeb a gymer y Dduges Fife yn seremoniau'r Llys Brenhinol. Ei 'I daft faban bach sydd yn cael ei sylw mwyaf I o bobpeth. DELICIOUS MAZAWAITEE TEAS. DELICIOUS M <ZAWATTEe; TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZaWATrEE TEAS. I DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. I DELtCIOlJS MAZAWATTEE TEAS. I DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS.
DR TALMAGE.
DR TALMAGE. Ychydig wythnosau'n ol bygythiodd Dr Talmage y byddai iddo ymddiswyddo'r mis hwn fel gweinidog Tabernacl Brooklyn. Erbyn hyn y mae wedi newid ei feddwl, a bydd iddo barhau yn ei gysylltiad gweini- dogaethol. Dywedir fod y diffyg arianol wedi cael ei wneyd i fyny.
OEDRAN PRIF WEINIDOGION.
OEDRAN PRIF WEINIDOGION. Daw Arglwydd Rosebery yn Brif Weinidog yn gynarach ar ei oes na'r oil o Brif Weinidogion ei Mawrhydi, oddigerth un, sef Syr Robert Peel. Dyma oedran y boneddigion pan ymgymerasant a'r swydd o Brif Weinidogion gyntaf :-Arglwydd Melbourne, 56; Syr Robert Peel, 46; Arglwydd John Russell, 54; Arglwydd Derby, 53; Arglwydd Aberdeen, 68; Arglwydd Palmerston, 71; Mr Disraeli, 63 ¥° Gladstone, 59; Arglwydd Salisbury, 55 Arglwydd Rosebery, 46.
MATABELAND.
MATABELAND. Aeth Mr Demson y tu hwnt;'r Shangani yn Matabeland, i geisio hanes tynged yr Uchgadben Wilson a'i barti. Yr wythnos hon fe ddychwelodd i Buluwayo, gan adrodd iddo ddod i'r fan y bu Wilson yn ymladd ddiweddaf ynddo, ac o fewn cylch pymtheg llath daeth ar draws 33 o ben- glogau dynol, y rhai a gladdwyd ganddo mewn un bedd, a chododd groes bren arno. Dywed yn mhellach nad oes yr un amheu- aeth na fu Lobengula farw o'r frech wen ar y 23ain o Iouawr, mewn ysmotyn ddeugain milldir i'r de o'r Zambesi. Yr oedd we-li ei adael bron yn gyfangwbl. Mae y Matabeliaid yn dod i roddi eu hunain i fyny wrth y canoedd, a chredir na cheir vchwaneg o helynt yn y wlad ar ol i'r brenhin farw.
LLADRATA MAIP YN LLANGEINWEN.
LLADRATA MAIP YN LLANGEIN- WEN. Yn Mhortbaethwy, ddydd Llun, cyhudd- wyd Henry Tones, ffermwr, Tyntwr, Llan- geinwen, o ladrata gwerth swllt o faip o ys- gubor fferm gyfagos. Gwelwyd y diffynydd yn cymeryd y maip o'r ysgubor ac yn eu taflu dros y wal i'w dir ei hun. Yr oedd ganddo sach, a gwelwyd ef yn ysgwyd maip ohono. Gwadai yr erlynes, yr hon sydd dros 80 mlwydd oed, iddi roddi caniatad i'r diffynydd fyned i'r ysgubor. Pan gyhudd- wyd ef gan yr heddgeidwad, dywedodd y diffynydd fod yn ddrwg ganddo iddo fyned o gwbl i'r ysgubor. Addefodd y diffynydd ei euogrwydd, a galwodd dystion o ber- thynas i'w gymeriad. Rhwymwyd ef i ddod i dderbyn ei ddedfryd pan elwir arno, ac i dalu'r costau.
ADDYSG GANOLRADD MEIRIONYDD.
ADDYSG GANOLRADD MEIRIONYDD. Cynhaliwyd cyfarfod o bwyllgor sirol addysg ganolradd Meirionyt d yn y Bala, dan lywyddiaeth Dr Edward Jones. Darllen- wyd llythyr oddiwrth Mr Bruce yn hysbysu ei fod ef yn rhoi goreu i'w waith yn Nghymru, gan ei fod wedi ei benodi yn ysgrifenydd dirprwyaeth addysg ganolradd yn Lloegr. Mr W. C. Lefroy a benodwyd yn ei !e. Yr oedd dirprwyaeth o Dowyn yn bresenol, yn erfyn ar i gyfnewidiad gael ei wneyd yn y cynllun i ymwneyd a gwaddol- iadau Llanegryn, y rhai a ddelir yn awr mewn cysylltiad ag ysgol elfenol y plwyf, 0 ac a delir—rhan i'r ysgolfeistr, a rhan i'r periglor fel athraw clasurol. Cynygiasai'r pwyllgor fod tair rhan o saith o'r gwaddol (swm yr hwn yw tua loOp y flwyddyn) yn cael eu rhoddi yn ysgoloriaethau i blant yn ardal Talybont (yr hyn a gynwysa Ddol- gellau yn gystal a Thotwyn), a dwy ran o saith i Dowyn; hawliai'r ddirprwyaeth fod rhan fwy yn cael ei rhoddi i Dowyn. Yn y diwedd penderfynwyd rhoddi 45p i ysgol uwchraddol yn Llanegryn, 34p i ardal Talybout, a 7p mewn ysgoloriaethau i blant Llanegryn, neu yn niffyg rhai oddiyno i blant Towyn, yn un o'r ysgolion sirol.
! LLWGU DEFAID YN MON.
LLWGU DEFAID YN MON. Yn Llys Ynadol Porthaethwy, ddydd Llun, cyhuddwyd John Owen, llythyr- gludydd, Uanfair P.G., gan y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Anifeiliaid, o adael i nifer o ddefaid newynu, Ymddangosai Mr Lloyd Carter, Caernarfon, dios y diffynydd. Bn amryw bersonau yn cwyno wrth yr Arolygydd Hamphire, ac aeth yntau i weled y defaid, 14 mewn nifer, y rhai oeddynt mewn cae tair acer y tu cefn i Bryng#yn Hall. Nid oedd yno borfa ar eu cyfer, ac ymddangosai'r cae fel pe buasai wedi ei lyfnu ag og ddrain. Yr oedd dwy o'r defaid wedi marw, a thair arall arall mewn cyflwr truenus. Pan aeth yno dranoeth, yn nghwmni heddgeidwaid, cafodd fod dafad arall wedi marw. Rhybuddiwyd y diffynydd, yr hwn a yrodd wair a gwreiddiau yno. Bwytawyd yr ymborth hwn yn awchus gan y defaid, amryw o ba rai oedd yn rhy wan i sefyll ar eu traed. Rhoddwyd tystiolaeth o blaid yr eriyniad gan Mr O. Trevor Williams, farrier, Llangefni, yr hwn a sylwodd fod cyflwr un o'r defaid yn ddigon a thynu dagrau i lygaid yr un dyn. Yr amddiffyn- iad oedd mai nid wedi marw o eisieu bwyd yr oedd y defaid, ond o fluke. Rhoddwyd tystiolaeth o blaid y diffynydd gan Mr J. Rumsey Williams, farrier, Caernarfon, a chan dri arall. Daliai'r fainc fod yr achos wedi ei brofi, a dirwywyd y diffynydd i 40s a'r costau-4p 10s rhwng y cwbl.
[No title]
Gan fod y clwyf ar amryw o foch yn y sir rhoddwyd gorchymyn allan nad oes yr un farchnad foch i'w chynal hyn o bryd yn 8iz Gaernarfon, ac ni cheir dwyn moch i'r ffeir- iau. Nid yw y swn gorfoledd a wna rhai dyn, ion mewn cyrddau mawr yn profi beth a wnant wrth ffeirio ceffylau.1 Nid yw byWyd yn werth y drafferth o'i fyw i ni ein hunain yn unig. Cysur yw i ni feddwl pan y mae rhywun arall mewn trwbl y gall jx amgylchiad fod yn wers dda iddo. Nid yw yr hwn sydd yn gyfaill i bawb yn gyfaill i neb. Os bydd prydferthweh yn y galon myna ymddangos yn y wyneb. Os rhoddir yr awenau i drachwant rhed ei hunan i farwolaeth. Gwneir y darluniau goreu, o obaith, at wasanaeth pobl foddlongar. Ni fydd i chwi fod yn un tipyn glanach eich hunain wrth daflu llaid at bobl sraill. 0 bob 100,000 o filwyr yn Awstria, y mae 131 yn cyflawni hunanladdiad yn flyn- yddol; yn Germani, 67; Itali, 40; Ffrainc, "9; Belgium, 24; Prydain, 23; Rwsia, 20; Spaen, 03. Clothes waslled with Hudson's Soap are perfectly white, and sweet as the breath of an early summer morning, and have no other odourou thm.- The Lmcet. Meddyliwch am ddyn yn gadael i'w iechyd dori i lawr, pan y gallasai rwystro hyny trwy gymeryd Scott's Emulsion. Pe byddai i ddynion werthfawrogi bwyd maethlon ni fyddai haner cymaint o gwyno gan anhwylderau yr yggyfaint, darfodedig- aeth, gwaed anmhur, &c. Ond byddai iddynt adeiladu y cyfansoddiad gyda Scott's Emulsion. Y mae meddygon yn mhob man yn ei gymeradwyo. Gwerthir gan fferyllwyr am 2s 6c a 4s 6c.. ASTHMA AND BRONCHITIS. I A Free Sample Package of Dr Schiffman's Asthma Cure proves its efficiency. It relieves j instantly the worst cases, and cures where others fail. Name this paper, and sent for a free sample. Address, R, Schiffuiann, 68, High Holborn, London i
MEFUS AM 2s. 6c. YR WNS.
MEFUS AM 2s. 6c. YR WNS. Gwerthir mefus yn Piccadilly, Llundain, yr wythnes hon. Eu pris yw haner coron yr wns, neu ddwy bunt y pwys.
FFORTIWN Y FRENHINES. -
FFORTIWN Y FRENHINES. Ddeng mlynedd yn ol amcangyfrifid fod eiddo personol y Frenhines yn dair miliwn o bunau. Erbyn hyn y mae yn sicr o fod yn llawer mwy. Mae yr hen wraig yn cael y ngair o fod yn un hynod o glos."
EU CLADDU AM 36 AWR.
EU CLADDU AM 36 AWR. Cymerodd damwain a allasai droi allan yn angeuol le yn nghlofa Ysguborwen, pryd y cafodd dau ddyn eu claddu'n fyw trwy i'r nenfwd syrthio rhyngddynt a'r shafft. Bu- ont am 36 awr cyn cael eu rhyddhau, ac yr oeddynt wedi myned i ystad wanaidd iawn.
Y LONG GYFLYMAF YN Y BYD.
Y LONG GYFLYMAF YN Y BYD. Gan lynges y wlad hon y mae'r agerlong gyflymaf yn y byd. Ei henw yw'r Hornet, a'i hatnean yw dinystrio llongau torpedo. Newydd ei hadeiladu y mae, ac ar ei phrawf, teithiai yn ol y cyflymder o 28 knot yr awr -yr hyn na wnaed erioed gan agerlong o unrhyw fath.
ATHROD MEWN ALMANAC.
ATHROD MEWN ALMANAC. Un o'r cyhoeddiadau diweddaf i ddisgwyl gweled athrod ynddo fuasai Almanac Whit- ) taker; eto dygwyd cynghaws yn ei erbyn gan Fane Australasia." Dywedai Syr Richard Webster fod rhestr o ariandai yn yr almanac. Y flwyddyn ddiweddaf fe fethodd amryw fanciau yn Australasia, a dodwyd seren wrth enw'r banciau hyny oedd wedi atal talu neu ynte yn cael eu haildrefnu. Cariai'r Bank of Australasia eu busnes yn mlaen fel arfer, ond fe ddodwyd seren mewn camgymeriad ar gyfer ei enw yn yr almanac. Galwyd saith mil o gopiau yn ol i'w dis- trywio, a gwnaeth y diffynwyr eu goreu i gywiro'r camgymeriad, ac felly yr oedd yr erlynwyr yn foddlon i gymeryd ugain swllt o iawn, ar ol cael cyfleustra i gyhoeddi eu bod yn cario eu busnes yn mlaen fel cynt. Cydsyniodd y Barwn Pollock a'r cytundeb.
ANARCHIAID PARIS.
ANARCHIAID PARIS. Ni chai yr un o'n darllenwyr fawr o gysur pe'r elent i Paris ar hyn o bryd. Mae'r trigolion, a'r awdurdodau hefyd o ran hyny, wedi colli eu penau'n lan gan ofn yr Anarch- iaid. Mae'r sylw a delir i ddieithriaid yn anghysurns i'r hwn y teimlir dyddordeb ynddo. Y noson o'r blaen gadawodd un dyn ei gob uchaf am dano yn yr Opera. Aeth un o'r gwasanaethyddion ato, gan ofyn a gai ei chymeryd i ystafell y clogau, ond gomeddwyd iddo. Aeth y naill ar ol y llall ato ar yr un neges, gan ddisgwyl derbyn ychydig arian am gyflawni'r gymwynas," ond ffyrnigodd y dyn drwyddo. Sylwodd rhywun fod rhywbeth yu taflu ei boced allan, ac ar unwaith daethpwyd i'r casgliad mai Anarchiad oedd, ac fod ganddo ffrwyd- belen yn ei feddiant. Cyrchwyd meistr y chwareudy ato, a gofynodd hwnw iddo ddod i'w ystafell. Wedi cyrhaedd yno yr oedd amryw o heddgeidwaid yn y He, ac yn bur ofalus fe dynwyd y gob oddiam y dyn. Yna £ i bryderus iawn rhoddodd un swyddog ei w yn y boced, gan ddisgwyl cael ffrwyd- belen beryglus yno, yn lie hyny yr hyn a dynodd allan oedd—tri orange. Cafodd y dyn lonydd wedyn.
AUR PATAGONIA.
AUR PATAGONIA. YMWELIAD MR W. J. PARRY. Dyma fel y dywed y Drafod am Ragfyr 21ain, am ymweliad Mr W. J. Parry a'r Wladfa: -Mae'r Bonwr W. J. Parry (cyn- gadeirydd Cyngor Sirol Arfon) wedi cyr- haedd yma dros Gwmni'r Aur yn Tecá, i ediych a rhoi adroddiad, meddir, am y sefyllfa a'r rhagolygon. Cafodd ei gadw yn hwy na'i fwriad yn Buenos Aires, er mwyn gwefrebu a Llundain, a threfnu cysylltiadau masnachol ac arianol y Cwmni yno. Bwr- iadai unwaith fyned dros y tir, ar hyd y llwybr yr aeth Br. Hoefer drosto; ond bamodd yn well gymeryd eyfle y Hong hon i'r Wladfa. Arfaetha fod yn ol yn Mhryd- ain rywbryd yn mis Mawrth. Dengys hyn, wrth fod y cwmni yn danfon cynrychiolydd mor bwysig yma, eu bod am weithio y peth o ddifrif; a chyda'r chwanegiad o'u cyfalaf i haner can mil o bunau, y mae pob argoel y gwneir ymdrech deg i fynu yr aur o grombil yr Aades. Yn yr un newyddiadur ceir y darn barddonol canlynol o waith y Bonwr W. J. Parry:— CALON DROM. Fel y don ar fron y weilgi Mae fy nghalon fach yn awr; Weithiau'n esmwyth, ac yn dawel,— Weithiau'n wyllt gan gynwrf mawr; Weithiau'n dangos im' ddisgleirdeb, Eel yr haulwen ar y lli; Weithiau'n taflu i fy wyneb Drochion hallt ei digter hi. Cymer ar ei min yn ami Gynes gusan haulwen haf; Ond bydd ami weithiau gymyl Duon, brochus, gwylltion naf; Rhydd awelon wrth fyn'd drosti Weithiau gwsg i'm meddwl gwan Cwyd bryd arall donau mawrion Gan roi dychryn yn y fan. 0 na bai fy mron yn wastad Fyth yn llawen, byth yn Ilon,- Byth yn ddisglaer heb un ewmwl, Byth a Uyfnder ar bob ton; Hyfryd fyddai cael melusder,— Cael tawelwch, — nefol hedd,— Cael haul gwenog i dywynu, Pan yn tynu tua'r bedd. Ar fwrdd R. M. S. Britannia, Bau Biscay, Hydref 15, 1893. WILLIAM JOHN PARRY.
Advertising
THE LITTLE SISTERS OF THE POOR. The Little Sisters of the Poor have much pleasure h. bearing their testimony as to the efficacy of Allcock's Porous Plasters. They have seen great benefit derived from them on account of the relief they so quickly give the sufferer. They find them a very sooth- ing remedy for all sorts of pains.—T.M.T. Home for the Aged Poor, Parkfield-avenue, Birkenhead. The REV. MARK GUY PEARSE says:—"I find them a very breast plate against colds a»d coughs." Mr. HENRY THORNE (evangelist) says:—"I have used them for pains in the back and side arising from rheumatic and other causes, always deriving benefit from their application. They are easily applied and very comforting." Over twenty millions of Allcock's Plasters have already been sold in Great Britain, the most telling testimony to this great external remedy. Allcock's Plasters stop all aches and pains and sprains and strains, Lumbago, Sciatica, Rheumatism, Ruptures, Bronchitis, Asthma, all affections of the Throat and Lungs, acting directly on the tissues, dilating the pores of the skin, giving instant relief. ALLCOCK'S PLASTERS are of great efficacy in INDIGESTION if worn over right side of the Pit of the Stomach. ALLCOCK'S—Of all Chemists, Illi Fe ddywedir fod cacynen y meirch yn meddu 16,000 o lygaid. Fe ddywedir fod yn Mhrydain Fawr gynifer a 100,000 o grwydriaid di gartref." I)AL)BAIRY-a Co(,oA. -Caiil)ur v's Cocoa contains m A COll'ip'.Ic;j and increased form all the nourishing properties of the Cocoa, Bean, the proportion of,the liesh-forming ingredients being 21-as compared with l-in natural Cocoa (Cocoa-nibs) ana too meagre proportion of 16 m the ordinary Cocoas of Commerce prepared with added Starchand Sugar. Cadhury's Cocoa is absolutely P ure and alwap t 'íke iu quality -Tht Awls* t
EISTEDDFOD GWEITHWYR MON.
EISTEDDFOD GWEITHWYR MON. LLANGEFNI, IAU DYRCHAFAEL. Pel yr addawsom yr wythnos ddiweddaf, yr ydym yn cyhoeddi y darnau i'w hadrodd yn yr Eisteddfod uchod. Mae y darn cyn- taf, "Hiraeth Cymro," yn agered i bob oed; gwobrwyon, 5s a 2s 6c. Cyfyngir yr ail, Y Byd," i rai dan 16 oed; gwobr- wyon, 5s a 2s 6c. Y gystadleuaeth yn agored i weision a morwynion ffermydd yn Mon.
HIRAETH CYMRO AM EI WLAD
HIRAETH CYMRO AM EI WLAD [GAN CAWRDAF.] Hiraethais, cwynais acenion-ganwaith 0 gynni bro estron, Yn gaeth, ag alaeth calon, Am ryw le yng Nghymru Ion. Wylo wrth rodio'rydwyf,—poeni, Ie, pan eisteddwyf Llwyr wael yw pob lle'r elwyf; O'm gwlad lan anniddan wyf. 0 fy hen wlad eurwlad i Yr hwyliais dros for heli. Edrychaf fi drwy ochain-ar fwyngu Derfyngylch y dwyrain; Ond p'le mae gwedd Gwyneid gain, Bro odiaeth Ynys Brydain ? Ow, na chawn mewn llonnach hwyl Droedfedd o Wynedd anwyl! # # Os fy Ner, a doethder da, A rydd im' orwedd yma I'm mynwes mor ddymunol, Uwch fy nghlai, fyddai, ar f'ol, Arwyddo'r lie gorweddwn Yn y llawr, a'r pennill hwn:- Awenawg wr o Wynedd—o hiraeth A yrrwyd ir llygredd, Ar arall dir i orwedd; Dymn fan fechan ei fedd. Efallai deuai ar daith Damwain rhyw hen gydymaith I ymdeithio heibio hon, Ag wylo ar ei galon; Darllennai'r pedair llinell Yn iaith fad ei burwlad bell, Gan och'neidio, wylo'n waeth, Oherwydd trymder hiraeth. Tannau euraidd tyoherwch Gyffry wrth fy llety llwch, I eirio prudd arwyrain à thrist wedd wrth fy medd main Minau a'm bron yn llonydd: 0 Dduw fry Ai felly fydd ?
Y BYD.
Y BYD. [GAN W. WILLIAMS.] Mi welais genyf ffrynd a hoffais, Ac mi a'i cerais megis brawd;, Addawodd imi ddillad melfed, A gwisg o 'sgarlad am fy nghnawd; Cawn bob peth wrth fodd fy nghalon, Os bawn iddo'n ffyddlon was, Byw'n ddi-ddiffyg fel bonheddig— Dawns a miwsig yn fy mhlas. Mi 'sgrifenaf enw'r cyfaill— 5 Y BYD—a'i ddichell, llawn o frad, Llawn o dwyll a llawn o wenwyn, 0 gopa'i goryn hyd ei draed; Addawodd imi fil o bethau, Nes fy hudo a chwedel deg;( Er mor llyfned oedd ei 'madrodd, Ni chyflawnodd un o ddeg. Dechreuais goffa'r addewidion A fuasai rhyngom ni cyn hyn,— P'le mae'r byw fel gwr boneddig ? P'le mae'r crys o gamrig gwyn P P'le mae'r dillad hardd o felfed ? P'le mae'r wisg o 'sgarlad main? P'le mae'r plas a'r parlwr gwiwgof ? Ai oil yn angof 'r aeth y rhain ? P'le mae'r hawddfyd a'r pleserau, A'r trysorau hardd eu drych ? P'le mae'r march a gaf farchogaeth ? P'le mae'r etifeddiaeth wych ? Fe'm hatebai 'n ddigon chwerw, A golwg salw, arw ei wedd, Na chawn ganddo ond arch ac amdo, Na thir i'w geibio ond fy medd.
DAMWAIN HYNOD AR Y CAMBRIAN.
DAMWAIN HYNOD AR Y CAMBRIAN. Cymerodd damwain le ar reilffordd y* Cambrian a allasai droi allan yn ddifrifol. Pan oedd y gerbydres o Borthmadog o fewn milldir i'r Abermaw teimlcdd y guard ys- gytiad, ac yna clywedd swn rhywbeth yn malurio. Yn ffodus, teithiai'r gerbydres yn araf ar y pryd, a phan gyrhaeddwyd yr Aber- maW archwiliwyd y cerbydau, a chafwyd fod darn o gareg, yn pwyso tua thri chwarter cant, wedi myned rhwng yr echel a llawr un o'r cerbydau. Bernir fod careg enfawr wedi cwympo i lawr ochr cutting Llanbedr, a'i bod wedi ei thori'n ddwy gan y peiriant. Pe buasai y tren wedi myned oddiar y llinell yn y fan hono, hyrddiasid hi yn bendramwnwgl i'r mor. Nid oedd yr un o'r teithwyr wedi dychmygu am y perygl y buont ynddo.
STREIC YN MOSTYN.I I
STREIC YN MOSTYN. I I Aeth tua dau gant o ddynion ar streic yn I ngwaith haiarn Mostyn ddydd Gwener. Bu'r gwaith hwn yn cael ei gario yn mlaea yn ystod rhyfel y glo, pryd y rhoddwyd I rhybudd gan y meistradoedd i ostwng deg y cant yn y cyflogau-pump y cant y pryd hwnw, a pump y cant ar y cyntaf o Fawrth. Bythefnos, yn ol rhoddodd y dynion rybudd am godiad o bump y cant yn eu cyflogau. Gwrthodai'r meistr gydsynio, a phan ddaeth y rhybudd i ben gwrthododd-y dynion weith- io, a rhoddwyd y ffwrneisiau allan.
FFESTINIOG A'I MEDDYGON. I-
FFESTINIOG A'I MEDDYGON. [AT OLYGYDD Y WERIN."] SYE,—Mae sibrwd ar led fod ein meddyg Dr G. J. Roberts ar ymddiswyddo fel meddyg y chwarelwyr yn rhanbarthau y Llan, Maentwrog, a Trawsfynydd. Gwelais y meddyg ddoe, a gofynais iddo, ai oedd yn wir y sibrwd, ac atebodd yntau mai felly y bydd os na cheir gwell telerau. Nid oes angen i ni feddwl y fath golled i ni a fydd colli y Doctor. Cynghorais ef i beidio bod yn fyrbwyll, ac yn y cyfamser y gallwn ddisgwyl osgoi y golled fawr hon. Os yn I amgen na ffafriol i ni fel gweithwyr y try pethau, ynn. byddwn fel un gwr yn symud i gael ein meddyg galluog i'n gwasanaethu I yn ffyddlon fel arfer. Disgwylaf i gyfiawn- der gael ei wneyd.—Yr eiddoch, &c., GWEITHIWR.
BEILIAID YN NHY MR GEE.
BEILIAID YN NHY MR GEE. Ychydig fisoedd yn ol gwnaeth Mr Gee gais yn llY8 sirol Dinbych am dreial newydd i behderfynu cyfreithlondeb atafaeliad am ddegwm yn fferm Eglwys Wen. Y Parch John Morgan, rbeithor Dinbych, oedd wedi enill yn y cynghaws cyntaf, ond nid oedd Mr Gee yn foddlon ar y dyfarniad. Fodd bynag, ar ol hir ddadleu, gwrthododd Syr ) Horatio Lloyd y cais, a gorchmynodd i Mr Gee dalu'r costau. Nid yw My Gee wedi talu'r costau eto, a phrydnawn Gwener aeth y beiliaid i'w dy yn Mronallt, a chan na chaent yr arian, gafaelasant mewn dau ddarlun mawr oedd yn y parlwr goreu, ac aethant a hwy ymaith, heb i'r un gwrthwyn- ebiad gael eiddangos i'w gwaith. Cedwir hwy am saith niwrnod, ac yna gwerthir hwy ar auction neu fel arall, os na fydd arian y costau, tua dwy bunt, wedi cael eu talu yn y cyfamser.
————""W Y JAPANIAID YN "GWELLA."
———— "W Y JAPANIAID YN "GWELLA." Mae Japan yn dysgu triciau pobl wynira yn gyflym. Mae y bobl mor afreolus a neb pwy bynag yn eu cynulliadau Seneddol; ac y mae y bwmdaflwr .J^Tapanaidd yn Jlladd a dinystrio mor hyrwydd a Ffrancwr.
HIRHOEDLEDD MERCHED.
HIRHOEDLEDD MERCHED. Yn Lloegr a Chymru nid yw merched ond 3! y cant yn Iluosocach na'r dynion, ond o rai wedi cyrhaedd 60 oed mae y cyfartaledd yn llawer mwy. Mae cynifer ddwywaith o ferched ag o ddynion yn cyrhaedd 90 oed. Ar gyfer 854 o wragedd 95 oed, nid oes ond 354 o ddynion, ac ar gyfer 104 o wragedd yn 100 oed nid oes ond 42 o ddynion.
TORIAID MON.
TORIAID MON. Mewn Itipyn o benbleth y mae Toriaid Mon i sicrhau ymgeisydd i ymladd yn erbyn Mr Ellis Griffith yn yr etholiad Seneddol nesaf. Ar ol ceisio yn ofer i berswadio eraill sefyll, bu dirprwyaeth y dydd o'r blaen gyda Mr John Hughes, Frondeg, Amlwch, i ofyn a ddeuai ef allan. Ni chawsant atebiad, ond credir gan lawer y ceir un cadarnhaol cyn pen ychydig ddyddiau.
AMAETHWYR AMERICA YN CWYNO.
AMAETHWYR AMERICA YN CWYNO. Nid gan amaethwyr yr hen wlad" yn unig y mae lie i gwyno. Mae amaethwyr America yn gwneyd hyny hefyd. Er eng- raifft, gweler y dyfyniad canlynol o'r Drych: Un peth sydd yn cyfrif am brig isel y gwenith yw y ffaith y gull Ewrop gael digonedd o wenith o Rwsia a gwledydd eraill yn rhataeh nag o'r wlad hon. Nid o raid y mae Ewrop yn prynu ein gwenith ni mwyach.
GLO YN MEIRIONYDD.
GLO YN MEIRIONYDD. Credir fod gwythien 16 wedi ei darganfod yn Meirionydd a dil am ei gweithio. Flyn- yddau lawer yn ol yr oedd y Parch Edward Williams, Cae Mawn, gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Nghynwyd, yn agor ffynon. Daeth ar draws yr hyn a dybid oedd yn wythien 16 mewn dyfnder o 35 troedfedd, ond am ryw reswm neu gilydd rhoddodd y tirfeddianwr orchymyn i gau'r ffynon i fyny. Ychydig amser yn ol ba peirianydd yn gwneyd archwiliad ar y lie, ac y mae o'r farn fod glo i'w gael yno. Credir y bydd yno weithio yn fuan.
CREULONDEB YN NINBYCH.
CREULONDEB YN NINBYCH. Yn heddlys Dinbych, cyhuddwyd gwraig weddw o'r enw Alice Jones o greulondeb at ei phlentyn anghyfreithlawn, un mis ar ddeg oed. Arferai'r ddiffynyddes enill ei thamaid trwy werthu ysglodlon, a byddai yn gadael y plentyn yn y ty ei hunan, wedi cloi'r drws, heb dan na bwyd am ddiwrnod. Deuwyd ar ei draws mewn cyflwr hollol allan gan un o swyddogion y Gymdeithas er Atal Creu- londeb at Blant. Aed ag ef i'r ysbytty, a chafwyd nad oedd yn pwyso ond 10 pwys, pryd y dylasai fod yn IS pwys. Dirwywyd y ddynes i lp 8s 6c, yn cynwys y costau.
DIM SEIBIANT I OirAINT.
DIM SEIBIANT I OirAINT. Arferiad yr hen ofaint fyddai rhoi yr haiarn yn y tan i'w boethi; a byddent yn cael llawer o amser i fyfyrio pan yn aros wrth y gwres; a hyn, digon tebyg, yw y rheswm fod cynifer o ofaint yn feddylwyr mawr. Ond y mae yr hen ddulliau yn myned heibio, canys y dull newydd o boethi haiarn yw ei roddi mewn dwfr, yr hwn a'i gwna yn wyn fel eirias mewn winciad. Try- dyn sydd yn gyfrifol am hyn, a dylai brawd- oliaeth yr efail godi mewn gwrthryfel yn ei erbyn. Beth ddywed Joe Hammer- smith" pan ddaw'r gyfundrefn hon i weithrediad yn ei efail ef ? Ar ol i'w "Missus" orffen ei hawdl ar Hujaan- aberth," gall gyfansoddi tuchangerdd i'r cynllun newydd.
CYNGHAWS YN NGHYLCH TIR YN…
CYNGHAWS YN NGHYLCH TIR YN MON. Yn Mhorthaethwy, ddydd Mawrth, o flaen y Barnwr Syr Horatio Lloyd, gwranda- wyd ,yn mhellach y cynghaws a ddygai Owen Thomas, Efail Ceirchiog, yn erbyn Hugh Williams, ffermwr a gof, Budedern, er cael meddiant o fferm Coed Cae Bychan, ac am iawn yn lle'r elw oddiwrth y tir o Dach- wedd 13eg i Ragyr 5ed, 1893. Hefyd, yr oedd Dr Rowland Williams, Caergybi, yn un o'r pleidiau, gan yr hawliai y diffynydd 30p o iawn oddiarno. Ymddangosai Mr J. Bryn Roberts, A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr E. G. Roberts) dros yr erlynydd, a Mr E. J. Griffith a Mr Herbert Williams (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr J. Lloyd Griffith) dros y ddau ddiffynydd. Perthynai'r fferm i Dr Rowland Williams, yr hwn, pan brynodd hi yn 1891, a ysgrifenodd at Hugh Williams i ddyweyd nad oedd raid iddo bryderu yn nghylch ei denantiaeth ac y cai ef a'i deulu aros yno tra byddent fyw. Yn ddilynol gwerthodd Dr Williams y fferm i Owen Thomas, yr hwn a roddodd rybudd i'r erlynvdd ymadael o'r lie. Pwysai un ochr ar lythyr y Doctor, tra y dywedai y llall nad oedd ganddo hawl i wneyd cytundeb o'r fath heb gydsyniad y sawl oedd ganddo mortgagt ar y lie. Galwyd nifer fawr o dystion, ond gohiriodd y barnwr ei ddedfryd.
I "DAL LLADRON" YN MHORTHMADOG.
"DAL LLADRON" YN MHORTH- MADOG. Cymerodd digwyddiad digrifol le yn Mhorthmadog ddechreu yr wythnos. Yr oedd gwr adnabyddus yn mynd at ei waith yn y boreu cyn i'r haul godi, ac wrth fynd ar hyd yr heol gwelai oleuni yn un o'r ar- iandai. Heb fawr o ystyriaeth nfonodd am yr heddgeidwaid, a galwodd sylw amryw o weithwyr at y goleu, gan egluro fod dynion yn tori i mewn i'r Banc. Yr oedd yn bosibl gweld y dynion hyn trwy y ffenestr. Daeth yr heddgeidwaid i fyny ar frys, a gorchy- mynwyd i rai o'r gweithwyr fynd i Bank place ac i'r Pare, yn barod i afael yn y dyn- ion os cynygient redeg i ffwrdd. Yr oedd pobpeth yn barod, a phawb yn disgwyl gwneud gorchest wrth ddal y dynion ond er siomedigaeth pawb fe welwyd prif ddrws y Bane yn cael ei agor, a thri o ddynion yn dod allan, gan edrych yn hollol ddieuog, ac yn dymuno Boreu da" i bawb. Ymddeng- ys mai gweithwyr o Leyn oeddynt wedi dod i'r dref y noswaith gynt, ac wrthi yn gwneud rhyw gyfnewidiadau yn y Bane. Mae'r digwyddiad wedi creu cryn ddigrif- wch yn y lie.
GWRTHDARAWIAD AR Y MOR.
GWRTHDARAWIAD AR Y MOR. Yn y Ilys morwrol yn Llundaic, o flaen y Barnwr Barnes a gwyr y Trinity, gwranda- wyd achos ag y teimlid dyddordeb mawr ynddo yn Ngogledd Oymru. Yn mis Rhag- fyr diweddaf, yn agos i Cape Trafalgar, cymerodd gwrthdarawiad le rhwng yr ager- longau "Cornhill" (Cadben John Williams, Abermaw) a'r Douglas Hill" (Cadben E. Williams, Abermaw). Mae cadbeniaid y ddwy long yn frodyr. Cymerodd y gwrth- darawiad le ar y 27ain o Ragfyr, tua harer awr wedi pump yn yr hwyr, tra yr oedd y 4 tywydd yn hynod glir. Y prif-swyddog, Mr W. T. Williams, Bodfean, Pwllheli, oedd yn siars y Cornhill" ar y pry Ura yr oedd cadben a phrif-swyddog y llong arall yn y caban pan gymerodd y gwrthdnrawiad le. Wedi gwrandawiad maith, dyfarniad y Ilys ydoedd mai ar bobl y" Douglas Hill" yr oedd y bai am y gwrthdarawiad.
Advertising
I COCOA CADBURY.-DjWr Cocoa sydd y, eidianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac ya rosglwyddo nertb a giymusder arasol.— Mealth,