Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

SYMUD ^TN MLAEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SYMUD ^TN MLAEN. Cymerwyd cam arall, a hwnw yn un pwysig, i symud yn mlaen i wneyd Cymru yn Gymru gyfan. Y tro yma mewn cysylltiad ag Addysg Ganolradd y bu hyn. 0 dan Ddeddf Addysg Ganolradd y mae yr un-ar-bymtheg o siroedd a bwrdeis- drefi sirol Cymru wedi eu ffurfio yn gymaint a hyny o ddosbarthiadau mewn cysylltiad ag addysg. Yr oedd yn rhaid i bob dosbarth dynu allan ei I gynllun ei hun, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Dirprwywyr Elus- enau a chadarnhad y Senedd. Mae lluaws or cynlluniau hyn wcdi eu rhoddi mewn gweithrediad ond hyd yn hyn ni wnaed dim i gyfuno y gwahanol ddosbarthiadau mewn un rhwymyn, mewn materion sydd yn gyffredin iddynt oil. Yr, awr, y mae y diffyg hwnw ar fin cael ei wella, ac, 0 dan awdurdud y Senedd Ymher- odrol, fe sefydlir ar fyrdcr Fwrdd Canolog Addysg Ganolradd i Gymru. Yn fyr, fe ellir desgrifio natur gwaith y bwrdd hwn fel arol- ygiaeth gyffredinol ar y gyfundrefn addysg ganolradd trwy'r wlad. Er engraifft, ni cheir arian gan y Llyw. odraeth tuagat yr ysgolion ond yn unig ar yr amod fod yr addysg a weinyddir yn un briodol trwy ar- holiad y profir hyny, ac wrth gwrs y mae arholiadau yn tybio arholwyr. Ar hyn o bryd nid oes neb i benodi arholwyr, nac i benderfynu nodwedd yr arholiad, ac eto y mae'n rhaid i'r adroddiadau am sefyllfa yr ysgolion fod yn foddhaol i'r Trysorlys cyn y bydd i'r Llywodraeth ganiatau yr arian. Yn unol a'r cynllun sydd yn awr ar .fwrdd datu dy y Senedd, bydd 1 i'r Bwrdd Canolog gael awdurdod i wneyd yr holl drefniadau i ddwyn yr arholiadau hyn yn mlaen, ac edrychir ar yr arholwyr a benodir garid lo fel rhai cymkwys i wneyd adroddiadau i'r Trysorlys. Owestiwn arall o gryn bwysigrwydd yw addysg a hyfforddiad y'sgolfeistri Tuedd yr oes yw cael experts yn mhob lwedigaeth. Gofyna ysgol feistr am training p-iodol mor v ir- ioneddol ag y gwna meddyg reu beirianydd. Gall dyn feddu dawn naturiol at unrhyw un o'r gal- wedigaethau hyn, ond y mae n rhaid i'r rhai hyny hefyd wrth hyfiorddiant priodol. Bu adeg pan yr ystyria hen filwr, neu fasnachwr wedi methu yn eiamgylch- ladau, neu unrhyw un arall nad allai I enill ei fywoliacth mewn ffordd arall, yn ddigon da i fod yn ysgolfeistr. Ond y mae y syniad hwnw wedi ei chwalu er's llawer dydd, ac yn awr y mae athrawon yr ysgolion elfenol yn derbyn yr addysg oreu ellir roddi iddynt. E'thr, fel y mae 'yn rhyfedd dweyd, gydag ysgolion uwchlaw yr ysgolion elfenol.fe lyniryn dynn wrth yr hen syniad. Gallai meddyg da wneyd cyfreithiwr gwael, ond fe gym- erir yn ganiataol y bydd i glerigwr da o angenrheidrwydd wneyd ysgolfeistr rhagoralheb unrhyw barotoad arbenig ar gyfer gwaith hollol wahanpl i'r hyn y mae wedi arfer ei gvflawni. Gydag ysgolion canol- raddol Cymru fe wneir i ffwrdd a'r hen syniad cyfeiliornus, gan mai rhan o waith y Bwrdd newydd fydd dar- paru cyfleusderau i hyfforddi ath- rawon. a gofalu na bo ond rhai wedi eu hyfforddi yn briodol. Tuag at diaul y Bwrdd fe geir rhoddion gan y Llywodraeth, arian elusenau addysgol, a chyfraniadau gan y Byrddau Llywodraethol Sirol. Gwelir felly fod y Bwrdd hwn yn nodi cam pwysig yn mlaen i roddi arbenig- rwydd ar genedlaetholdeb Cymru ac unoliaeth ei thair sir ar ddeg. I Mewn gair, yr hyn a wnaeth Cynadl- edd Aberystwyth mewn gwleidydd- iaeth a wna y cynllun hwn i gyfun- drefn addysg ganolradd ein gwlad.

----.---.---.-----...--*0--"'_.--liWTH…

FFORTIWN HE B BERCHENOG.

[No title]

__.--.---.---.___-.""..__-*--_.__c¥_…

[No title]

DAMWAIN ANGEUOL I FEDDYG CYMREIG.

Advertising