Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

- JACK Y LLONGWB

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

TON-It'RWY'N MYNU BOD YN AELOD.

Byrhau'r Ffordd o LerpwJ I…

Pwy fyid Athrawon Cymru?

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwy fyid Athrawon Cymru? GAN O. M. EDWARDS, M.A. 0 bob blwyddyn a fu, a hwyrach o bob blwyddyn a ddaw, y flwyauyn 1894 fydd y bwysicaf yn hanes Cymru. Yn y flwyddyn hon yr ydym yn gortten adeiladwaith moddion addysg ein gwlad. Os bydd yr adeiladwaith yn dda, bydd yn fagwrle i genedl wna les anrhaethol yn y byd; os mai wedi ei gam adeiladu y bydd, bydd ei dynuu i lawr yn well gwaith na'i adeiladu, ac yn waith anhawddach. Y mae ysgol elfennol, erbyn hyn, bron ymhob cwm. Y mae'r ysgolion canolradd yn prysur godi yn ein gwahanol siroedd. Y mae llwydd- iant ein colegau cenedlaethol yn rhyfedd- od. Ac y mae Prifysgol Cymru wedi ei sicrhau. Y peth cyntaf a broffwydid y mae'n awr yn faith,—"bydd gan Gymru'n fuan y gyfundrefn addysg oreu yn y byd." Ond yr wyf yn rhagweled peryglon; a gall rhai, a'r rhai hyny mewn awdurdod, fod yn agored iddynt yn ystod y flwyddyn bwysig hon. Un perygl ydyw diffyg mewn Cymry. Un o gwestiynau pwysig dechre'r flwyddyn ydyw,—Pwy a gawn yn athrawon ein hys- golion canolraddol? Y mae pob ateb wel- ais i yn cymeryd dau beth yn ganiataol. Un peth ydyw na fydd digon o Gymry i'r holl leoedd; a pheth arall ydyw mai o drugaredd ag ef, ac nid oherwydd ei gym- hwyster, y bydd raid apwyntio llawer Cymro. Y mae cymeryd y peth cyntaf yna'n ganiataol, yn sicr, yn sen i golegau Cymru nad ydynt wedi haeddu mohoni erioed. Y mae digon o Gymry, o alluoedd diamheuol, ac wedi cael pob cymhwyster fedr colegau Cymru a phrifysgolion Pry- dain roddi iddynt, i lenwi pob lie fydd yn agored. Sen greulonach i Gymro ydyw cymeryd yn ganiataol na fydd yn gystal athraw ag estron. Ni fuasai neb yn tybied hyn am Gymro ond un o'i genedl ei hun. Gwelais bapurau cannoedd o ymgeiswyr am ysgol- oriaethau Rhydychen,-cofier yr ystyrir y papurau hynny'n brawf goreu o allu'r gwr ieuano ao o'r gwaith wna yn y dyfodol,-ao ymysg goreuon y rhai hynny yr oedd bechgyn Cymru'n amlwg. Y mae medru Cymraeg,—iaith ag y mae symledd ac amlder geiriau darluniadol yn ei nodweddu,—yn ^mhorth anrhaethol i ysgrifennu arddull Saesneg dda. j "Rhodder y swydd i Gymro os na fydd eatron yn rhagori rhyw lawer arno." Wfft i'r fath ffolineb! Ai ychydig yw medrtt siarad ac ysgrifennu mewn dwy iaith, a meddwl ynddynt? Pe medrai Sais neu Ysgotyn neu Wyddel ryw iaith megis Francaeg, a hynny mor berffaith ag y medr Cymro Gymraeg, byddai ei gymhwyster i ddysgu yn debyg i gymhwyster Cymro. Ond, wrth gwrs, ni fydd mor ddefnyddiol yng Nghymru. Dechreuais i fy addysg dan athraw na siaradai ond Saesneg, a bu fy ysgol yn drueni ac yn waeth nag anwybodaeth imi. Bum mewn Ysgol Ramadegol dan Saia un- iaith,-n etholwyd gan Tai dybiai'r hen dyb greulon a diraddiol mai Sais fedr ddysgu Cymro orou, yr wyf wedi pen- derfynu, wedi profi chwerwder yr addysg waeth na diddefnydd honno, y gwnaf fy ngoreu i gyhoeddi'r gwirionedd yma, nas gall neb ddysgu bachgen o Gymro'n iawn, ond un yn medru'r iaith Gymraeg. Diffyg arall ydyw ofn ymddangos yn clannish. Y mae ar lawer llywodraethwr ysgol ofn gwneyd ei ddyledswydd rhag cael ei wawdio am ei clannishness. Yr wyf wedi byw yng Nghymru ao yn Lloegr ac yn yr Alban, a'm profiad yw hyn,—nad yw'r Cymro banner mor clannish a'r Sais, ac nad yw chwarter mor clannish a'r Ysgotyn. Ond yng Nghymru, y mae awydd am ymddangos yn deg yn peri i lyw- odraethwyr ysgolion wneyd cam dybryd a bechgyn Cymru. Diffyg clannishness yw ein bai ni. Y mae'n bryd i gyfiawnder gael ei wneyd a'r Cymry sy'n parotoi eu hunain at fod yn athrawon.

YR HEN WR LLON.

[No title]

0 BEN Y TWR.

Arddangosfa Arddwrol Talsarnau

Advertising