Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Bowerham Board School,

No Co. would Insure Her!

LLANDRILLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDRILLO. Cyngor Plwyf.—Cynhaiiwyd cyfarfod o'r Cyngor Piwyi nos Sadwrn, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Phillips (Cadeirydd), John Evans, Lewis Owen, E. H. Ellis, R. W. Davies, Ellis Davies, T. Francis Jones, a Henry Davies. Penodwyd Mr J. Hughes, Post Office i ofalu am y Machine Bwyso. Gofynwyd i Mr John Evans edrych dros lyfrau'r fynwent i weld a ydyw'r cofnodion yn cael eu cadw'n gywir a threfnus. Hysbyswyd fod eglwys y Methodistiaid er's tro wedi gwneud casgliad at dreuliau y fynwent, ond fod eglwysi yr Annibynwyr a'r Wesleyaid heb wneud hyn, a gofynwyd i'r Cadeirydd adgofio y swyddogion am y casgliad. Pasiwyd i ofyn i Mr John Parry, Bala fod mor garedig a dyfod yma i ddarlithio ar noson olaf y flwyddyn hon yn lie nos Calan, gan fod cyfarfod arall i gael ei gynal yn y gym- dogaeth nos Calan. Trefnwyd i aelodau y Cyngor Plwyf werthu y tocynau a gwneyd y darpariadau angenrheidiol eraill.

Cwmni Yswiriol y Pearl,

Advertising