Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NADOLIG LLAWEN

Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. RHYDDFRYDIAETH.-Cyhoeddwyd cyfarfod o etholwyr Rhyddfrydol y Bala i'w gynhal yn Ysgol y Bwrdd ddydd Gwener, ond ni ddaeth yn nghyd ond nifer bychan iawn. Efallai fod y rhjbudd byr roddwyd am y cyfarfod, yn nghyda phrysurdeb y flair, yn cyfrif am hyny ond, fel rheol, ychydig fyddyn dod i'r cyfarfodydd hyn os na bydd etholiad i gym- eryd lie. Mae'n bryd i Ryddfrydwyr y Bala a'r cylch ddeffro i'w hamgylchiadau, ac ystyr- ied fod pethau llawn mor bwysig ag etholiad- au i'w trafod pan gyferfydd y Gymdeithas. Penderfynwyd ddydd Gwener i wahodd Mr Osmond Williams, Marchog y Sir, a Mr Lloyd George i anerch yr etholwyr ddechreu y flwy- ddyn. Y FFORESTWYR.—Nos Iau ymgynullodd nifer o aelodau cyfrinfa y Fforestwyr a gwah- oddedigion eraill i Ddirwesty y Llew Glas i giniawa. Yr oedd yr ystafell yn mha un y cynhaliwyd y wledd wedi ei haddurno yn brydferth, a gwledd flasus ac ardderchog wedi ei pharatoi gan Mrs a Miss Owen. Wedi'r wledd cynhaliwyd cyfarfod amrywiaeth 01 a difyr o dan lywyddiaeth Mr Parry, Glan Tegid, clodwiw feistr cyfrinfa y Bala. Can- wyd unawdau, areithiwyd, ac yfwyd amryw lwngcdestynau. Y mae i'r Fforestwyr amcan gwir dda, sef cynorthwyo brodyr mewn angen, a gwneyd yr hyn allant er eu cysuro a'u cyn- orthwyo mewn cystudd ac amgylchiadau cyf- yng. Y mae gwedd lewyrchus ar gyfrinfa y Bala, ac amryw aelodau newyddion wedi ym- uno a hi. Cymhellwn bawb o'n darllenwyr ieuainc i ymuno a'r gyfrinfa. Bydd yn sicr o fod yn fanteisiol iddynt. YMNEILLDUAD NURSE JONES-Bydd yn ddrwg gan lawer ddeall fod Nurse Jones yn bwriadu ymddiswyddo o fod yn Nurse Dos- parth Penllyn. Daeth i'r Bala oddeutu saith mlynedd yn ol, ac o hyny hyd yn awr y mae ei charedigrwydd at y cleifion, ei gwen siriol i'r cystuddiedig, a'i gofal medrus am danynt wedi enill iddi barch ac ymddiried pawb yn y dosparth. Dyledswydd ei charedigion felly ydyw chwyddo cymaint allant ar y drysorfa sydd wedi ei hagor er anrhegu Nurse Jones ar ei neillduad yn Ionawr. Bydd yn dda gan Mr Jones, N. & S. Wales Bank, dderbyn un- rhyw danysgrifiad at y mudiad. CYNGERDD.-Fel y gwyddis penderfynodd nifer o wyr ieuainc y Bala gynhal cyngherdd er sirioli ychydig trwy gymhorth arianol ar eu cyfaill cystuddiedig, Mr George Lloyd Humpherys-un o hen fechgyn y Bala, Ni bu neb erioed yn fwy diwyd a gweithgar gydag achos mor deilwng a Christionogol na'r pwyllgor hwn o gyfoedion George Lloyd. Ymgymerodd y pwyllgor a thalu yr holl gost- au yn nglyn a'r mudiad. Er mwyn cael elw sylweddol, rhoddodd gwasg, argraphwyr, a bill-poster y Bala eu cymorth a'u gwaith yn ddidraul; talwyd am fenthyg y Neuadd gan y pwyllgor, fel nad oes y ddimai leiaf wedi ei gwario o'r drysorfa. Derbyniwyd y gwerthwyr tocynau gyda'r sirioldeb a'r cariad brawdol mwyaf gan drigolion y Bala, ac er fod y gal- wadau ar eu llogellau wedi bod yn ami yn ystod y misoedd diweddaf, eto, ni rwgnach- asant, a chyda'u parodrwydd a'u haelfrydedd nodweddiadol prynasant docynau gyda gwen ar eu gwynebau a gair o gydymdeimlad ar eu gwefusau. Pa dystiolaelh rhagor na hyn sydd angenrheidiol i brofi fod calon pawb yn curo o gydymdeimlad dwfn a George Lloyd Humphreys a'i fam weddw, dyner a chatedig yn ngwyneb yr amgylchiadau pruddaidd. A phan y dywedwn fod y swm anrhydeddus o 42P wedi ei drosglwyddo i'n cyfaill ieuanc rhaid cydnabod gweithgarwch a charedig- rwydd pawb yn ddiwahaniaeth. Gweithredwyd fel cadeirydd y mudiad gan Gwrtheyrn trys- orydd Mr Moses Roberts; ysgrifenydd Mr J. T. Jones, Tegid St. Diameu genym y bydd- wn yn mynegu teimlad pawb o'r pwyllgor trwy ddiolch yn y modd mwyaf diffuant i'r tri cyfaill hyn, i eraill a enwyd, ac i drigolion y Bala yn gyffredinol am eu caredigrwydd a'u I parodrwydd. Cynhaliwyd y cyngherdd yn y Victoria Hall neithiwr (nos Lun) o dan lywyddiaeth Mr J. C. Evans, M.A., County School (o dan ofal addysgol pa un y bu ein cyfaill cystudd- iol). Yn sicr ni buom mewn cyngherdd mwy teimladwy, ac y mae geiriau priodol i fynegi ein teimladau allan o'n cyrhaedd. Bwthyn yr amddifad." Dyna drigle man ein cyfaill Y fam a'i baban," dyna George Lloyd Humphreys a'i fam; "Y wlad well," ein cyfaill ar ei ffordd yno; "Yr Arglwydd yw fy Mugall," tad nefol ein cyfaill; Ffarwel iti, Gymru fad," ie, canu ffarwel i'r hen ddaear yma, hefyd, y fydd George Lloyd cyn hir. Dyna rhai o'r testynau a ganwyd yn y gyngherdd, a chredwn na bu testynau mor ddwys yn cael eu canu o'r blaen ar amgylchiad mor ddwys. Gallasid tyhied oddiwrth hyn fod ein cyfaill- nis gallwn ei alw oddiwrth un enw arall-1 wedi ffarwelio a ni am byth ond nid ydyw ei anadl olaf hyd yr adeg yr ysgrifenwn wedi ei thynu, ond Mae ein dyddiau'n myned beibio, Ar y byw mae delw'r bedd, Buan byddwn yn gorphwvso Yn y glyn mewn tawel hedd."—E.W.E.

LLANUWCHLLYN.

Advertising